top of page

Chwilio

294 items found for ""

  • Pêl-droed Penigamp -Robin Bennett [addas. Elinor Wyn Reynolds]

    *For English review, use language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 8+ (awgrym) oed diddordeb: 7-13 Genre: #ffeithiol #chwaraeon Lluniau: Matt Cherry https://fireflypress.co.uk/authors/matt-cherry/ Gwybodaeth oddi ar Gwales: Pêl-droed Penigamp yw'r ail lyfr yn y gyfres Campau Campus. Efallai mai'r disgrifiad gorau o'r gyfres yw math o 'Horrible Histories' neu 'Hanesion Hyll' ar gyfer campau gwahanol. Y tro hwn, pêl-droed gaiff y sylw. Addasiad Cymraeg o Stupendous Sports: Fantastic Football. 'Da chi'n nabod rhywun sy'n caru pêl-droed? Fedra i ddim meddwl am anrheg gwell i rhywun felly! Fel rhywun sy'n gwybod nesa peth i ddim am bêl-droed, mi wnes i ddysgu dipyn wrth ddarllen y llyfr yma. Mi gewch chi amrywiaeth o bethau ynddo, ond dyma syniad i chi o'r math o bethau mae'r llyfr yn ei drafod: 📕 Hanes y bêl gron ⚽️ Chwaraewyr hanesyddol 📕 Tips, rheolau a thactegau ⚽️ Ystadegau anhygoel 📕 Straeon difyr … a lot mwy. ➡️Basically- popeth ‘da chi eisiau gwybod am bêl droed! Dyma chi snîc pîc tu fewn: Gwasg: Firefly Cyhoeddwyd: Hydref 2022 Cyfres: Campau Campus Fformat: Clawr meddal Pris: £6.99 COFIWCH!! Os oes well ganddoch chi'r bêl hirgron - mae llyfr arall tebyg yn y gyfres am rygbi!

  • Ti a Dy Gorff - Adam Kay [addas. Eiry Miles]

    *For English review, see language toggle button* (awgrym) oed darllen: 9+ *mae adran ar atghenhedlu (awgrym) oed diddordeb: 9-14 Genre: #ffeithiol #corff #doniol #gwyddoniaeth Lluniau: Henry Paker Anghofia’r gwersi bioleg diflas ‘na – dyma’r unig lyfr wyt ti ei angen am y corff. Mae ei berfeddion yn byrstio efo ffeithiau difyr a dwdls doniol. Hefyd, mi fyddi di’n gwybod llwyth o bethau doeddet ti ddim o’r blaen, a wnei di ddim hyd yn oed sylweddoli dy fod ti’n dysgu! Y peiriant gora’ fu erioed Ydach chi erioed wedi meddwl pa mor anhygoel yw’r corff dynol? Mae o fel gorsaf bŵer, cyfrifiadur, peiriant a ffactori mewn un, yn gweithio’n hynod o effeithiol y rhan fwyaf o’r amser. A phan mae pethau’n mynd o’i le, mae ganddo hyd yn oed y gallu i drwsio ei hun! Waw. Cyn i’r rhieni neu athrawon gwyddoniaeth ddechrau cwyno nad yw’r cynnwys yn ddigon ‘gwyddonol’ gan mai comedïwr yw’r awdur, efallai bydd yn syndod i chi wybod ei fod wedi bod yn ddoctor go iawn. Mi allwch chi ymddiried felly, ei fod o’n gwybod am be mae o’n sôn. Tydi hwn ddim fatha darllen yr hen werslyfrau llychlyd yn yr ysgol, achos mae steil y llyfr yn ysgafn a doniol. Er y dôn hwyliog, mae’n adnodd hynod o gynhwysfawr ac addysgiadol. Ar yr olwg gyntaf, edrycha fel llyfr swmpus dros ben, ond mae’r cynnwys yn hawdd i’w ddarllen. Mae lluniau cartŵn Henry Paker yn ychwanegu at yr hwyl ac yn torri’r testun yn ddarnau byrrach sy’n haws eu darllen. Canllaw cyflawn (a ffiaidd!) Wrth ein tywys o amgylch y corff dynol yn ei holl ogoniant, mae’r awdur yn drylwyr tu hwnt, gan holi nifer o arbenigwyr ar hyd y ffordd. Cawn ymweld â nifer o wahanol rannau o’r corff, gan gynnwys y prif organau, yr esgyrn, y cyhyrau a’r croen i enwi dim ond rhai. Fel un sy’n hoffi bwyd, mi wnes i wir fwynhau’r darnau sy’n trafod y system dreulio a thaith y bwyd holl ffordd o’r geg, nes iddo ddod allan o’r pen arall yn y rectwm (ia, dwi’n dilyn esiampl y llyfr ac yn defnyddio’r termau gwyddonol cywir). Nid pob llyfr sy’n gallu brolio’r ffaith fod ganddo ddarn cyfan i drafod pwps! (neu ysgarthion i fod yn hollol gywir) Dwi’n siŵr bydd sawl un yn mwynhau’r darn yma. Mae’n werth nodi, fel unrhyw lyfr gwerth ei halen sy’n trafod y corff, fod y llyfr yn ymweld â’r system atgenhedlu. Wrth reswm felly, mae diagramau yn trafod rhannau fel y fwlfa, y pidyn a’r ceilliau, ynghyd a’r broses cenhedlu. Dwi’n credu’n gryf ei bod hi’n bwysig i blant gael y wybodaeth wyddonol, gywir, er mwyn osgoi camddealltwriaeth neu gamsyniadau. Wedi dweud hyn, mater i rieni fydd penderfynu os ydynt yn teimlo fod y cynnwys yn addas. (Yn fy marn i fel athro, mae o.) Ydi snot yn iawn i’w fwyta? Os wyt ti erioed wedi gorwedd yn dy wely yn meddwl am gwestiynau mawr y bydysawd, mae’n eithaf posib wnei di ffeindio’r atebion yn y llyfr yma. Cwestiynau fel ydi snot yn saff i’w bwyta? Neu faint o dy fywyd wyt ti wedi ei dreulio’n eistedd ar y toiled? Gydag isadrannau difyr fel ‘cwestiynau Kay’ a ‘Gwir neu Gaca,’ rydach chi’n siŵr o ddarganfod ateb i gwestiynau na wnaethoch chi erioed feddwl eu gofyn! Ar ôl llowcio Ti a Dy Gorff o glawr i glawr, dwi wedi dod i’r canlyniad fod y corff dynol y beth rhyfedd ar y diawl. Ond dwi hefyd wedi sylweddoli ei fod o’n hollol wyrthiol a rhyfeddol hefyd, felly cofiwch ofalu am eich corff chi – dim ond un gewch chi! Mae digon o dips ar sut i edrych ar ôl eich corff yn y llyfr, gyda llaw! Os ydw i wedi llwyddo i’ch perswadio fod y llyfr yma’n osym, gwnewch ffafr i chi’ch hunain – bwydwch eich ymennydd drwy gael eich bachau ar gopi o’r llyfr bendigedig yma a byddwch yn barod i fynd o dan groen y corff dynol – y peiriant mwyaf rhyfeddol fuodd ‘na erioed! Dwi’n falch iawn fod llyfrau fel hyn yn cael eu haddasu i’r Gymraeg. Yr union math o lyfr faswn i wedi bod isio ei ddarllen fel bachgen ifanc deg oed. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Rily Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £8.99 Fformat: Clawr Meddal BYWGRAFFIAD AWDUR: (gwybodaeth o Gwales) Adam Kay is an award-winning writer and former non-award-winning junior doctor. His first book, This is Going to Hurt: Secret Diaries of a Junior Doctor, was a Sunday Times number-one bestseller for over a year and has sold over 2.5 million copies. It has been translated into 37 languages, was the winner of four National Book Awards, including Book of the Year, and has been adapted into a major comedy drama for BBC/AMC starring Ben Whishaw. His second book, Twas the Nightshift Before Christmas, was an instant Sunday Times number-one bestseller and sold over 500k copies in its first few weeks. His compilation, Dear NHS, raised over £400k for charity. His memoir Undoctored: The Story of a Medic Who Ran Out of Patients was published in September 2022. His first children's book, Kay's Anatomy, was published in October 2020 and became the fastest-selling children's general non-fiction hardback of the decade and rights across Kay's Anatomy and Kay's Marvellous Medicine have now been sold in 28 languages. 'The sort of book I would have loved as a child' - Malorie Blackman 'Like listening to a teacher who makes pupils fall about' - The Times 'Absolutely packed with facts... Entertaining and highly informative' - Daily Mail 'As brilliant, and revolting, as the human body it celebrates' - The i newspaper 'Totally brilliant!' - Jacqueline Wilson 'If only this funny and informative book had been around when I was too embarrassed to teach my kids about bodily functions' - David Baddiel

  • Y Bachgen â Blodau yn ei Wallt/The boy with flowers in his hair - Jarvis [addas. Awen Schiavone]

    *For English review, see language toggle button* (awgrym) oed diddordeb: 3-7 (awgrym) oed darllen: 4/5+ Addasiad Cymraeg o 'The Boy with Flowers in His Hair' Genre: #iechydalles #cyfeillgarwch #dwyieithog #ffuglen #empathi Stori annwyl am gyfeillgarwch rhwng dau fachgen drwy gyfnod anodd. Mae pawb yn y dosbarth wrth eu bodd gyda Deio, y bachgen gyda blodau yn ei wallt. Mae adroddwr y stori, sy’n aros yn ddienw, yn mwynhau treulio amser yn ei gwmni, ac mae’r ddau yn cael llawer o hwyl yng nghwmni ei gilydd. Un diwrnod, mae petal yn dod yn rhydd. Arwydd o bethau i ddod... Dydi’r llyfr ddim yn rhoi manylion am beth achosodd i’r holl betalau ddisgyn o wallt Deio, ond mae’r ffaith ei fod yn dewis gwisgo het o hyn allan a’r newid amlwg yn ei bersonoliaeth yn arwydd fod rhywbeth o’i le. Rŵan, cawn fachgen tawelog, distaw a thrist - yn wahanol iawn i’r bachgen bywiog ar ddechrau’r stori. Wyddwn ni ddim pan, ond mae o fel petai ei ‘sbarc’ wedi diflannu. Digon posib fod y petalau’n disgyn oherwydd rhyw ddigwyddiad tu allan i’r ysgol, efallai mater teuluol neu rywbeth arall sy’n ei ddigalonni. Dwi’n cytuno efo dewis yr awdur i beidio â dweud wrthym, achos mae’n gadael lle i gael trafodaeth am y math o bethau fyddai’n gallu achosi loes iddo. Dwi’n gwybod o brofiad bod stress neu drawma yn gallu cael effaith corfforol, gweledol arnom. Os dwi dan bwysau mawr, dwi’n dueddol o gael itchy scalp. I ryw raddau felly, mae’n gwneud synnwyr fod Deio’n colli ei betalau wrth iddo fynd drwy gyfnod anodd. Gan ei fod bellach yn edrych yn wahanol heb ei gnwd o wallt amryliw, a’i ben yn frigau pigog i gyd, tydi rhai o’r plant ddim eisiau dim i’w wneud ag ef, ond mae ei ffrind ffyddlon a thriw yn mynd ati i ddyfeisio ffyrdd o wneud iddo deimlo’n well. “I’ve got you, buddy” yw’r neges, ac mae’n hynod o annwyl. Meddwl oeddwn i ella fod y llyfr yn lled-awgrymu sgil-effaith triniaeth cancr fel y rheswm dros golli ei ‘wallt’ ond gall fod yn unrhyw beth mewn gwirionedd. Trwy’r da a’r drwg Neges syml y stori yw bod cyfeillgarwch go iawn, yn golygu gofalu am eich gilydd beth bynnag ddaw -nid jest yn ystod yr amseroedd da, ond pan mae’r cymylau duon uwchben hefyd. Ai jest fi ydi o, neu ydi pobl eraill yn gwirioni hefo llyfrau clawr caled? Mae’r lluniau lliwgar syml yn erbyn y cefndir plaen, gwyn yn gweithio’n dda. Yn y dyddiau lle mae llyfrau’n fwyfwy dros-ben-llestri, roedd hi’n neis bod steil y llyfr yn fwy toned-down (ac yn fy atgoffa o lyfrau clasurol fel Y Teigr a Ddaeth i De). Chewch chi ddim problem darllen y testun, gan ei fod o mor glir. Biti fasa mwy o lyfrau i blant mor hawdd i’w ddarllen. Un o’r pethau gorau am y stori yw ei fod wedi cael ei adael yn fwriadol amwys, ac o ganlyniad, gall y stori weithio fel cerbyd i drafod nifer fawr o bethau. Mae’r syniad o dderbyn pobl, fel ac y maen nhw, sut bynnag maen nhw’n edrych, yn eithaf amlwg. Dw i heb ddarllen y stori gyda phlentyn ifanc, ond sgwn i oes angen help oedolyn i esbonio ystyr dyfnach y petalau’n disgyn? Byddai’n ddiddorol clywed gan unrhyw un sydd wedi rhoi cynnig arno. Wnaeth y plentyn ddeall y syniad y tro cyntaf neu oedd angen eglurhad? Prif themâu/negeseuon: · Salwch/trawma/iselder · Cyfeillgarwch / ffrindiau da · Helpu eich gilydd/ dangos empathi · Derbyn pobl sy’n wahanol / cynhwysiad / dathlu amrywiaeth Gwasg: Rily Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.99 Fformat: Clawr Caled

  • Elon - Laura Murphy a Nia Parry

    *For English review, see language toggle switch* ♥Llyfr y mis i blant: Ionawr 2023♥ (awgrym) oed darllen: 5+ (awgrym) oed diddordeb: 3-7 Genre: #ffuglen #anifeiliaid #cadwraeth #natur #empathi Lluniau: Elin Vaughan Crowley https://www.instagram.com/elincrowleyprint/?hl=en Allan o’r holl anifeiliaid gwyllt, dwi’n meddwl mai eliffantod yw’r rhai mwyaf rhyfeddol ohonyn nhw i gyd. ‘Dach chi’n cytuno? Iawn, mi wna i gyfaddef fod jiráffs yn reit cŵl hefyd, ond i mi, eliffantod sy’n mynd â hi. Gyda’u clustiau anferthol a’u trynciau hirion, maen nhw’n greaduriaid rhyfedd, fel ‘sa nhw’n perthyn i ryw oes wahanol. Anifeiliaid sy’n gryf, yn urddasol, yn fawreddog ac yn annwyl ‘run pryd. Ac o’r holl eliffantod i gyd, mae un direidus sy’n arbennig iawn – Elon. Fel unrhyw eliffant ifanc, mae Elon yn llawn brwdfrydedd ac egni, ac wedi hen laru ar orfod gwrando ar ei mam a’i thad. Am ddiflas meddylia Elon, a hithau’n dyheu am antur. Ar ôl anwybyddu ei rhieni a dianc (dwi ddim yn argymell hyn o gwbl!) daw dymuniad Elon am antur yn wir, ond mae’r byd tu hwnt i ddiogelwch y llwyth yn le mawr, a buan iawn daw’r eliffant ifanc ar draws y creadur perygla un– dyn. I feddwl pa mor hardd yw’r creaduriaid yma, mae’n fy nhristau i feddwl eu bod nhw mewn perygl enbyd o ddiflannu yn gyfan gwbl, a hynny o’n herwydd ni. Petai eu hela am ifori dros y canrifoedd ddim yn ddigon drwg, mae eu cartref nawr o dan fygythiad wrth i ni ddinistrio’r coedwigoedd sy’n eu cynnal gyda’n peiriannau felltith. Ond mae Elon yn ddewr. Hyd yn oed wrth ddod wyneb yn wyneb gyda’r peiriannau ffyrnig, sy’n bygwth ei chynefin, mae Elon yn penderfynu na allai eistedd yn ôl a gadael i hyn ddigwydd. Rhaid gweithredu. Tybed a fedr un eliffant pitw roi stop ar y dinistr? Mae arlunwaith Elin Vaughan Crowley yn eich denu’n syth, ac mae holl liwiau a rhyfeddodau’r goedwig yn dod yn fyw drwy’r lluniau. Llyfr dwyieithog yw hwn ar ffurf mydr ac odl, felly nid yw’n gyfieithiad uniongyrchol, ond yn hytrach, yn addasiad o’r testun. Tra dwi’n hoff iawn o lyfrau dwyieithog, fy unig gŵyn efallai yw bod gosodiad y testun mymryn yn ddryslyd ar adegau gan fod y testun ‘run maint. Dyma lyfr defnyddiol ar gyfer cyflwyno uned o waith ar anifeiliaid, cadwraeth, yr amgylchedd ac i dynnu sylw - heb greu panig - am yr argyfwng sy’n wynebu byd natur. Rhaid ceisio trosglwyddo’r neges i’r genhedlaeth nesaf os ydyn nhw am gael y cyfle i weld eliffantod go iawn yn y gwyllt rhyw ddiwrnod. Gobeithio bydd y darllenydd ifanc yn dilyn esiampl Elon ddewr, ac yn credu y gallan nhw hefyd wneud gwahaniaeth drwy weithredu. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.99 COD QR - cofiwch sganio'r cod er mwyn gweld mwy o wybodaeth am waith 'Size of Wales' BETH AM WYLIO'R ACTOR, IWAN RHEON, YN DARLLEN Y STORI?

  • Sblash! - Branwen Davies

    *For English review, see language toggle switch* ♥Llyfr y Mis i Blant: Tachwedd 2022♥ (awgrym) oed darllen: 11+ (awgrym) oed diddordeb: 10-14 Genre: #ffuglen #arddegau #bwlio #iechydalles Dwi'n llwyr gydnabod, nid fi yw cynulleidfa darged y llyfr yma. Yn ôl Gwales, llyfr ar gyfer darllenwyr rhwng 10 ac 13 oed ydi o, ond dwi’n deud 11-14+ Ella mod i ddim yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd erbyn hyn, ond dwi wedi bod yno (amser maith yn ôl!) ac i unrhyw un sydd wedi bod yn fwli, neu wedi cael eu bwlio, mi fydd y llyfr yn canu cloch. Fel rhywun oedd yn ‘fwy’ na’i ffrindiau, yn anffodus mae gen i brofiad o'r ddwy sefyllfa- dwi wedi cael fy mwlio, a dwi wedi bod yn fwli. Petai gen i ond beiriant i fynd yn ôl mewn amser, mi fasa pethau’n wahanol iawn. Tydi’r profiad o gael eich bwlio byth yn eich gadael chi mewn gwirionedd, ac mae jest darllen stori Beca yn dod a hen deimladau poenus yn ôl i’r wyneb, hyd yn oed os yw’r cyd-destun yn wahanol. Ar y tir, mae Beca’n lletchwith, a hithau’n destun hwyl i’r plant eraill. Mae hi’n darged amlwg i'r bwlis gan fod ei chorff yn wahanol i bawb arall, ac fe ddechreua’r nofel gyda’r plant yn tynnu ei choes am fod ganddi stretch marks. Ond unwaith mae hi yn y dŵr, trawsnewidia yn llwyr. Yma, yn y pwll sy’n lloches iddi, teimla Beca’n saff ac yn gyffyrddus. Mewn dŵr, mae hi’n nofiwr gosgeiddig a medrus iawn - does neb yn ei blwyddyn gystal â hi. Pam felly mae hi wedi cadw ei champau a’i gorchestion yn gyfrinach rhag pawb? Un o’r ringleaders sy’n gwneud bywyd Beca’n hunllef yw Siwan, y ferch ddelaf yn y flwyddyn. Mae hi'n mynd allan o’i ffordd i wneud bywyd yn ddiflas i Beca heb fod angen. O leiaf mae Beca’n saff yn niogelwch y pwll nofio... wel, dyna oedd hi’n feddwl... Tydi Beca ddim ar ben ei hun yn llwyr, dwi’n falch o ddweud. Mae ganddi gnewyllyn bach o ffrindiau ffyddlon. Ond pan mae Jacob, ei ffrind, yn cychwyn mynd allan hefo Siwan, y gelyn, mae hyn yn creu dipyn o gur pen i Beca. Ar ôl digwyddiad hynod o gas, daw bywydau’r ddwy ferch at ei gilydd mewn ffordd annisgwyl. Heb ddweud gormod, roedd hi’n ddiddorol gweld cip o fywyd Siwan, ac er mai hi yw’r ferch fwyaf poblogaidd, dydi bywyd ddim yn fêl i gyd iddi. Maen nhw’n dweud, dydyn, fod bwlis yn bobl anhapus go iawn. Dros gwrs y nofel, gwelwn Beca druan ar ei hisaf, ond hefyd yn tyfu fel person ac yn dod drwyddi’r ochr arall yn gryfach person. Wrth iddi fagu hyder a dechrau derbyn ei chorff, fe ddaw yn hapusach yn ei chroen ei hun. Nid fairytale yw hwn chwaith, ac er na fedra Beca newid siâp ei chorff, mi all ddysgu i ddal ei phen yn uchel ac ymfalchïo yn yr hyn gall ei chorff gyflawni. Mewn ffordd, mae’r ‘bwlis’ yn dal o gwmpas yn y cefndir – mi fydd ‘na wastad haters, bydd, ond tydi Beca ddim yn gadael iddyn nhw effeithio arni yn yr un ffordd erbyn y diwedd. Mae hyn yn neges bwysig iawn i unrhyw un sy’n cael amser gwael ar hyn o bryd. Carwch eich hunain a charwch eich gilydd, bobl. Er mod i’n meddwl y bydd y nofel yn apelio fwy at ferched, dwi yn meddwl fod hwn yn llyfr y byddai pawb yn buddio o’i ddarllen, yn enwedig os ydach chi’n strydglo efo’ch hunanddelwedd, neu wedi cael eich bwlio (neu wedi bod yn fwli hefyd). Gobeithio iddo roi nerth i’r rheiny sy’n isel eu hysbryd ar hyn o bryd, ac os wneith o wneud i ni stopio, a meddwl, cyn dweud neu gwneud rhywbeth cas wrth berson arall, yna mi fydd y nofel wedi llwyddo yn fy marn i. Sylweddolais ar ôl darllen, cymaint o bwysau a disgwyliadau unattainable sydd ar bobl ifanc heddiw – merched yn enwedig – i edrych ac i ymddwyn mewn ffordd benodol, ac mae celeb culture ac apiau fel Instagram a TikTok wedi chware rhan fawr yn hyn. Dwi’n teimlo reit falch mod i wedi gorffen fy nghyfnod ysgol cyn i oes y mobile phones, Love Island a social media gyrraedd ei anterth. Er bod y plot braidd yn syml ac yn cliché ar brydiau, mae’n sicr yn easy read – sy’n gwneud i chi feddwl ‘run pryd. Yn debyg o ran maint i’r llyfrau ‘stori sydyn,’ mae angen mwy o nofelau byrion fel hyn. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £5.99 DARLLENWCH ADOLYGIAD ALICE JEWELL, AR BLOG Y LOLFA: https://ylolfa.wordpress.com/2023/01/11/adolygiad-ar-sblash-branwen-davies/

  • Sgrech y Creigiau - Elidir Jones

    *For English, see language toggle switch on top of webpage* (awgrym) oed diddordeb: 10+ *dibynnu ar y plant- nid pawb sy'n licio straeon arswyd! (awgrym) oed darllen: 12+ Genre: #straeonbyrion #arswyd #Cymru Lluniau: Nest Llwyd Owen https://www.facebook.com/celfnestllwydowenart/ Byddwch yn ofalus wrth fynd heibio’r siop lyfrau, bydd y dwylo gwyrdd esgyrnog a’r llygaid duon yn syllu’n ddyfyn i mewn i’ch enaid ac yn eich gorchymyn i bigo’r llyfr i fyny a’i brynu... Pam oni’n gweithio fel athro, roedd gneud amser am stori diwedd y dydd yn hollbwysig. Does ‘na ddim digon o hynny’n digwydd yn ein dosbarthiadau, yn fy marn i. Dwi ddim yn sôn am ddarllen a deall ac ateb cwestiynau diflas. Na. Jest pen i lawr i wrando ar stori’n dod yn fyw. Be o’n i’n licio oedd adrodd straeon arswyd i blant bl.5 a 6 ar ddiwedd pnawn. Yn y portakabins, roedd y bleinds yn cau nes bod y stafell yn ddu fel bol buwch - grêt er mwyn creu dipyn o atmosffer i wrando ar straeon sbwci! Y broblem oedd, mi oedd ‘na brinder o lyfrau ‘off the shelf’ Cymraeg yn cynnwys straeon arswyd byrion, a does ‘na ond hyn a hyn o weithiau allwch chi ddibynnu ar Lleuad yn Olau gan T Llew neu Straeon i Godi Gwallt gan Irma Chilton! Y ffaith amdani oedd, angen llyfr arswyd newydd arnom yn y Gymraeg. Pan welais i ar Twitter fod y llyfr yma ar ei ffordd, roeddwn i’n hapus iawn. Fydd dim rhaid i mi orfod cyfieithu straeon Saesneg ar y pryd rŵan! Cysgu gyda’r golau ‘mlaen Er nad oes tudalen gynnwys ar y cychwyn i awgrymu hyn, llyfr o straeon byrion yw Sgrech y Creigiau, ac yn dilyn llawer o waith ymchwil, mae Elidir Jones wedi ail ddychmygu rhai o hen chwedlau Cymru sydd wedi mynd yn angof. Caiff y straeon hyn, sy’n ddigon i rewi’r gwaed, eu hatgyfnerthu gan luniau hunllefus Nest Llwyd Owen. Mi fyddai’n gweld yr ofn ar wyneb yr hen ddynes a’i llygad wen hyll yn fy nghwsg! Go debyg fyddwch chi angen nightlight ar ôl ei ddarllen. (na, mond yn jocian – ond mi oedd yn ddigon i roi croen gwŷdd i mi!) Peidiwch â mynd i’r dŵr... Yn bersonol, dwi’n meddwl fod stori arswyd yn gweithio’n well ar ffurf straeon byrion, sy’n adlewyrchu sut fyddai rhywun yn adrodd ghost stories yn y tywyllwch mewn sleeepover neu pan yn campio. Dwi wedi clywed sawl stori ysbryd fy hun ar lafar dros y blynyddoedd sydd wedi gadael rhyw deimlad annifyr ar ôl, ac mae ambell un o’r straeon yma’n sefyll allan fel rhai arbennig am roi ias oer lawr eich cefn. Allan o’r straeon i gyd, dwi’n meddwl mai’r cyntaf, “Y Naid Olaf” oedd yr un a roddodd y creeps fwyaf i mi. Dwi’n meddwl iddo fy atgoffa o’r darn yn y llyn ar ddiwedd y ffilm What Lies Beneath. Yikes! Dwi’n edrych ymlaen at y cyfle i adrodd y stori yma wrth gynulleidfa druan tro nesa fydd ‘na amser am stori. Byddai rhoi ryw sgrech iasol yn y lle iawn (ar ôl y llinell “gafaelodd rhywbeth yn ei goes”) yn siŵr o wneud y tric! Darllen o dan y cynfasau Dwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o bobl (y enwedig plant) yn hoff o gael eu dychryn o dro i dro, neu fasa horror films a phethau felly ddim mor boblogaidd. Dwi’n dal i gofio mam yn adrodd stori am ysbryd Plas Mawr, Conwy, wrthyf pan oni’n iau, a hyd heddiw, dwi’n dal i gerdded heibio’r adeilad reit handi, yn enwedig gyda’r nos. Yndi, mae stori arswyd da yn gallu aros gyda chi am hir iawn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ffeindio pethau arallfydol, goruwchnaturiol a thywyll yn hynod o ddifyr, ac er mod i’n hoff iawn o’r llyfr yma, dwi’n cydnabod na fydd hwn at ddant bawb. Tybed fyddwch chi ddigon dewr i roi cynnig ar y saith stori hunllefus yma? Os ydach chi’n bwriadu sleifio i ddarllen y llyfr o dan y cynfasau – cofiwch eich tortsh ‘da chi! Gwasg: Broga Cyhoeddwyd: Tachwedd 2022 Pris: £8.99 Fel 'da chi'n gweld, dwi'n hoff o'r genre arswyd! Neis cael cyfrol arall yn y Gymraeg i ychwanegu at y casgliad!

  • Y Llew Tu Mewn / The Lion Inside - Rachel Bright [addas. Eurig Salisbury]

    *For English review, see language toggle switch on top of web page* (awgrym) oed diddordeb: 2-7 (awgrym) oed darllen: 5+ Lluniau: Jim Field https://www.jimfield.me/ Twist modern ar un o chwedlau Aesop. Un o picturebooks gorau'r ddegawd ddiwethaf, mae hwn yn edrych fel rhywbeth yn syth allan o fyd Disney. Bydd plant yn gofyn am gael ei ddarllen fwy nac unwaith! Does dim rhaid i chi gymryd fy ngair i, mae’r llyfr wedi gwerthu mwy na 200,000 o gopïau ym Mhrydain a’i gyfieithu i dros 30 o ieithoedd! Tipyn o gamp i unrhyw lyfr. “Dydi bod yn fach ddim yn hawdd bob amser.” Mae’r llygoden fach wedi laru ar gael ei hanwybyddu a’i hanghofio, yn aml yn cael ei gwasgu dan droed gan ei bod mor fach. Ar y llaw arall, mae’r llew yn dipyn o geiliog dandi - yn llawn hyder ac yn gallu mynnu sylw holl anifeiliaid y Safana. Does ond rhaid iddo ruo’n uchel ac mae pawb yn ufuddhau. Dipyn o show-off ydi o mewn gwirionedd. Un noson, caiff y lygoden fach syniad. Dymuna fod yn ddewr fel y llew, ac er ei bod yn gwybod yn iawn y gallai’r llew ei llyncu mewn ennyd, penderfyna fod yn ddewr a mynd i chwilio am y llew i ofyn am gymorth... Oh-oh! “Mae’r lleiaf ohonom yn medru rhuo a bod yn ddewr.” Ond, yn wahanol i’r disgwyl, mae’r llew yn ymddwyn mewn ffordd gwbl annisgwyl - mae’n ofn llygod bach am ei fywyd! Llwydda’r llygoden i berswadio’r llew nad oes dim i’w ofni ac nad oes raid iddo glochdar/wneud twrw er mwyn cael ei barchu. Dyma yw dechrau cyfeillgarwch go wahanol! “Does dim rhaid i chi fod yn fawr ac yn ddewr i wneud gwahaniaeth...” Mae’r llyfr yma jest yn HYFRYD – pleser pur i’w ddarllen. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â gwaith Jim Field, ewch i chwilio ar y we – mae ei steil mor unigryw- lluniau sy’n hynod o filmic ac yn gyfoes iawn. Hwn yw fy ffefryn! Weithiau, dwi’n poeni bod addasiadau, yn enwedig rhai sy’n odli, yn gallu bod braidd yn awkward, ond mae Eurig Salisbury wedi gwneud job dda yma, gyda chyfieithiad sy’n llifo gystal â’r gwreiddiol. “Clasur modern” I unrhyw blentyn sy’n nerfus neu sy’n teimlo’n ddihyder, mi faswn i’n argymell y llyfr yma. Ond i fod yn onest, mae o mor dda, dylai pawb ei ddarllen. Mae’r negeseuon yn bwysig ac yn glir, ac mae stori’r llew a’r llygoden yn cyfleu hyn mewn ffordd ddealladwy i blant ifanc. Dangosa’r stori fod gan hyd yn oed yr unigolion mwyaf hyderus ac uchel-eu-cloch ofnau cudd weithiau. Hefyd, dyma ddangos nad oes rhaid bod yn fawr ac yn swnllyd i gael eich clywed, ac mae ‘na ddewrder yn llechu ym mhob un ohonom, beth bynnag ein maint! Mae gan bawb ran bwysig i’w chwarae yn y byd, cofiwch hynny. Dim yn aml fyddai’n rhoi sgôr i lyfrau, ond mae hwn yn cael 10/10 gen i, heb os. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2015, 2020 Pris: £6.99 Fformat: Clawr meddal

  • Y Parsel Coch - Linda Wolfsgruber, Gino Alberti [addas. Llio Elenid]

    *For English review, see language toggle switch on top of webpage* (awgrym) oed diddordeb: 6-11 (awgrym) oed darllen: 7+ Genre: #ffuglen #Nadolog #caredigrwydd Lluniau: Gino Alberti Llyfr hyfryd, annisgwyl sy’n gofyn am gael ei rannu adeg y Nadolig. Perl rhyngwladol sydd â neges syml am garedigrwydd. Dwi isio sôn am y trysor bach yma, sy’n esiampl gwych o gydweithio rhyngwladol. Dyma addasiad Cymraeg Llio Elenid o stori wreiddiol Almaeneg Linda Wolfsgruber o 1988. Arluniwyd y llyfr gan Eidalwr, Gino Alberti ac fe argraffwyd y gyfrol yn Slofacia a’i gyhoeddi’n wreiddiol gan wasg o Swistir. Mae gwreiddiau Ewropeaidd y llyfr yn amlwg felly. Gyda’i glawr caled, o liain (linen), mae’n edrych, ac yn teimlo, yn wahanol i nifer o’r llyfrau ar y farchnad, ac mae’n braf iawn cael y cyfle i ddarllen addasiad o wlad arall heblaw Lloegr am unwaith. Mi faswn i’n hoffi gweld mwy a dweud y gwir. Mewn oes lle mae popeth yn llachar, yn brysur ac yn swnllyd, neis yw cael eistedd a mwynhau stori mwy traddodiadol, tawel. Mae ‘na rywbeth bonheddig am y llyfr, sy’n llawn lluniau mewn steil clasurol, hen ffasiwn (mewn ffordd dda). Am eich £7.95, fe ddaw y llyfr hefo wrap-around, sy’n caniatáu i chi dorri anrheg eich hun allan, er mwyn dod a neges y stori’n fyw, ond dwi’n meddwl fasa hi’n anodd iawn i mi roi siswrn at hwn! (photocopy amdani ‘llu!) “Chei di ddim agor y parsel coch, ond mi gei di ei roi i rywun arall,” Ar y wyneb, stori dyner yw hon am ferch fach sy’n mynd i aros at ei Nain dros yr Wŷl, gan ddod a llawenydd mawr i’r hen wraig. Ond mae ‘na fwy iddi na hyn. Mewn cymdeithas lle mae pawb yn brysur yn mynd o gwmpas eu pethau, yn aml heb amser i siarad a’u gilydd, mae nain yn penderfynu gwneud gwahaniaeth mawr gyda gweithred fach. Rhoi anrheg. Mae Anna wedi drysu wrth i nain roi pecyn bach coch di-nod yn anrheg i’r dyn torri coed. Yr unig amod – ni chaiff unrhyw un agor y parsel bach coch. Beth yw cyfrinach y blwch bach? Ai aur yw e? Neu gemau drudfawr? Na. Does dim byd tu fewn ond hapusrwydd a lwc dda. “Na, Anna. Mae un yn ddigon.” Er syndod i’r ferch, mae Nain yn ffyddiog mai dim ond rhoi un anrheg oedd ei angen, er mwyn cynnau’r fflam o garedigrwydd sy’n prysur ledaenu ar draws y pentref. Ac er mai stori syml iawn sydd yma, mae’r neges yn un bwysig. Yn enwedig mewn byd modern lle mae gwir ystyr y Nadolig yn mynd ar goll yng nghanol prysurdeb yr wyl. Nid y gwledda, y partïon, y gwario a'r presantau sy’n bwysig go iawn, ac mae’n hawdd iawn anghofio hynny yn y byd sydd ohoni. I mi, mae’r llyfr yn dathliad o ‘gymuned’ – lle mae pawb yn sylwi ac yn gofalu am ei gilydd. Dros y Nadolig, cymerwch funud i stopio a siarad, i roi help llaw, neu dymuno’n dda i rhywun. Cymydog efallai, neu aelod o’r teulu ‘da chi heb weld ers dalwm. Er fod modd gwneud, dwi ddim yn meddwl y baswn i’n darllen y stori gyda plant llai na 5 oed, achos dwi’n meddwl bod peryg i’r neges fynd dros eu pennau a’u diflasu. Ond i blant rhwng 6-9, dwi’n meddwl fod y stori’n berffaith i’w rannu o flaen y tân ar noswyl Nadolig. Yn sicr byddwn i’n defnyddio hwn mewn gwasanaeth ysgol. Y neges i drafod gyda phlant yw fod beth sydd tu fewn y parsel yn amherthnasol mewn gwirionedd, ac mai’r weithred o garedigrwydd wrth roi’r parsel yn anrheg sy’n bwysig. Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Medi 2021 Pris: £7.95 Fformat: Clawr Caled

  • Cymry o Fri! - Jon Gower

    ♥Llyfr Cymraeg Y Mis i Blant: Mawrth 2022♥ (awgrym) oed darllen: 9+ , (awgrym) oed diddordeb: 11+ Lluniau: Efa Lois https://efalois.cymru/en/ Genre: #ffeithiol #Cymru #enwogion Gwlad Beirdd a Chantorion... Mae’n bwysig ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, a pha ffordd well o wneud hyn na chyfrol fel hyn, sy’n edrych yn ôl ac yn dathlu rhai o’r merched a’r dynion hynod o Gymru sydd wedi gwneud eu marc ar y byd? Yn Cymry o Fri fe gawn ni hanes 50 o Gymry anhygoel sydd wedi gwneud gwahaniaeth mewn amryw o ffyrdd ac wedi dangos i’r byd fod Cymru’n llawn talent! Dwi’m yn gwybod sut mae mynd ati i ddewis y fath restr, (tipyn o job i’r awdur dwi’n siŵr) ond fe welwch yn syth cymaint o amrywiaeth sydd rhwng y cloriau, o orchestion Colin Jackson ar y cae ras hyd at ddylanwad Betty Campbell yn yr ystafell ddosbarth. Rhai yn hanesyddol ac eraill yn fwy diweddar. A dwi’n gwybod yn iawn fod ‘na ddigon o enwau ar ôl i lenwi sawl cyfrol arall hefyd! Mae’r clawr yn apelgar ac mae’r llyfr wedi ei osod yn synhwyrol a thaclus, er ei fod yn gallu edrych braidd yn blaen weithiau o’i gymharu â bwrlwm rhai llyfrau diweddar fel Genod Gwych a Merched Medrus. Wedi dweud hyn, mae’r cyfresi hynny fel ‘Enwogion o Fri’ gan wasg Broga ar gyfer plant iau, a dwi’n meddwl fod y llyfr yma’n un sy’n gweddu’n well i gynulleidfa hŷn. Mae’n well gen i’r tudalennau lle mae ffotograff go iawn yn cyd-fynd â lluniau Efa Lois. Dwi’n licio gweld y person go iawn hefyd ond fi ‘di hynna. Wyddoch chi...? Oeddech chi’n gwybod mai Doctor oedd wedi annog Kyffin Williams i ddechrau peintio? Neu beth am y ffaith fod gan Barti Ddu gysylltiad â baner enwog y môr-ladron? Fe gewch chi’ch synnu be wnewch chi ddysgu drwy fflicio trwy’r tudalennau. Dwi’n ffeindio dysgu am fywydau pobl eraill mor ddifyr (ella am fy mod i’n fusneslyd!) ond cofiwch, does dim rhaid darllen y llyfr o glawr i glawr ar unwaith, gallwch fynd a dod fel y mynnoch – beth am ddarllen am un Cymro neu Gymraes anhygoel bob diwrnod fel advent calendar? O ddarllen am orchestion y Cymry rhyfeddol yma, a chan gofio mai gwlad fechan ydan ni, ‘da ni wedi cael cryn dipyn o ddylanwad ar y byd yn do? Mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol dydi! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99 DYMA BETH OEDD GAN BETHAN GWANAS I'W DDWEUD HEFYD!

  • Mi wnes i weld mamoth / I did see a mammoth! - Alex Willmore [addas. Casia Wiliam]

    *For English review, see language toggle switch on top of web page* (agwrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 3-6 Genre: #ffuglen #doniol #dwyieithog Presanta ‘Dolig! Adeg yma o’r flwyddyn, dwi fel arfer mewn mad dash yn chwilio am lyfrau i roi’n anrhegion i’r plantos bach yn y teulu. Tydi ‘lenni ddim gwahanol. Dwi ddim yn cael trafferth ffeindio rhywbeth i’r ferch, ond mae’r hogia yn anoddach i’w plesio rhywsut lle mae darllen yn y cwestiwn. Llyfr i neud i ni chwerthin oedd y nod. Llynedd, Disco Dolig Dwl aeth a hi, ond ‘lenni, Mi wnes i weld Mamoth sy’n tynnu fy sylw. Llyfr perffaith fel stocking filler. Fel arfer dwi’m yn rhy keen ar lyfrau Nadolig-benodol, ond dim llyfr am y Nadolig ydi hwn per se, (ond mae ‘na eira ynddyfo) felly mi wneith y tro os ‘na dyna ‘da chi isio! Peidiwch â meddwl mai llyfr dwys, difrifol gewch chi fan hyn; yr unig beth sydd yma ydi dipyn bach o hwyl wirion a diniwed... a lot fawr o bengwiniaid! Croeso i’r Antarctig! Ar expedition (alldaith yw’r gair Cymraeg apparently!) i’r Antarctig, mae criw dewr yno’n brwydro’r oerni er mwyn astudio pengwiniaid. Lot fawr o bengwiniaid. Pengwiniaid o bob math. Ond does gan un anturiaethwr ifanc ddim mynadd efo rheiny – tydi o ddim wedi dod yno i weld adar, o na, achos mae o yn benderfynol ei fod am weld rhywbeth arall! Oh no he isn’t... oh yes he is! A dyna’r plot mewn gwirionedd. (oni’n deud fod ‘na ddim byd dwys yma doeddwn!) Mae’n stori ddoniol, ac yn un sy’n siŵr o apelio at y plant, wrth i’r creadur ymddangos o dro i dro mewn sefyllfaoedd gwallgo. Er i’r bachgen daeru’n daer, does dim o’r oedolion yn barod i’w gredu (siŵr fydd plant yn uniaethu â hyn). Mae’r syniad yn un hen ac yn un syml -ond effeithiol - sy’n chwarae ar y ffaith nad ydi oedolion yn gwrando ar blant. Jest fatha mewn panto! Wrth gwrs, mae popeth yn newid pan mae pawb yn gweld... M..m..m MAMOTH!!! Ddudish i do! Mae’r llyfr yn lliwgar, ac mae’r steil yn gyfoes ac yn egnïol, bron fel darllen comic. Dydi’r stori ddim yn un hir ac mae’n gwneud i’r dim fel stori sydyn cyn mynd i’r gwely. Bydd digon o hwyl i’w gael yn edrych ar y pengwiniaid a’u hystumiau digri, a hwythau ddim rhy hapus fod ‘na eliffant blewog yn hawlio’r sylw i gyd! Mae ‘na ddigon o sgôp i ‘neud dipyn bach o leisiau a dramatics wrth ddarllen, sy’n siŵr o’i neud yn fwy o hwyl. Roedd y twist mawr ar y diwedd yn ddisgwyliedig, ond roedd rhywbeth ar goll yn y diweddglo i mi. Mi fydd ‘na rai oedolion fydd yn meddwl bod y stori’n un twp, a bod ail adrodd diddiwedd y gair ‘mamoth’ yn mynd yn annoying, ond dwi’n meddwl fydd plant ifanc iawn yn gweld yr ail adrodd yn help i gyd-ddarllen. Y ffaith ydi, mae plant yn hoff o ail adrodd. Dwi’n licio’r dudalen olaf sy’n rhoi ‘chydig o ffeithiau am y creaduriaid go iawn – doeddwn i ddim yn gwybod nad oedden nhw’n byw yn yr Antarctig. Wel, does ‘na ddim tystiolaeth beth bynnag. Mi oni’n darllen yn ddiweddar bod 'na wyddonwyr yn trio gneud clones o famothiaid (gair da, = mwy nac un mamoth) Pwy a ŵyr? Os fydd y gwyddonwyr yn llwyddiannus, ella gawn ni weld mamoth eto rhyw ddiwrnod... Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99

  • Hedyn - Caryl Lewis [addas. Meinir Wyn Edwards]

    *For English review, see language toggle switch on top of webpage* (awgrym) oed darllen: 9+ (awgrym) oed diddordeb: 9+ Genre: #ffuglen #antur #ffantasi #magicalrealism Lluniau: George Ermos https://thebrightagency.com/uk/childrens-illustration/artists/george-ermos Themâu sy’n cael eu trafod: · Bwlio · Teuluoedd/perthnasau · Byddardod/ anabledd · Iechyd meddwl – celcio /OCPD · Tlodi Nofel gyntaf Caryl Lewis ar gyfer yr oedran yma: Diolch byth mod i wedi cofio pacio Hedyn yn fy hand luggage achos mi oeddwn i’n hynod falch ohono i basio’r amser ar y flight pymtheg awr yn ôl o Japan! Hedyn (o obaith) Un dipyn bach yn eccentric yw Tad-cu Marty, dyfeisiwr sy’n hoff iawn o dreulio’i amser yn yr allotment. Dim rhyfedd felly, ei fod yn dewis rhoi hedyn i Marty ar ei ben-blwydd, er mawr siom i’r bachgen ifanc! ‘Da chi’n gwybod y gwyneb ‘na ‘da chi’n gorfod ei wneud wrth i chi smalio bod yn ddiolchgar ar ôl derbyn anrheg sâl, fel pâr o sanau diflas? Wel dyna’n union sy’n mynd drwy feddwl Marty ar ôl derbyn yr hedyn di-nod. Er yn ymddangos fel unrhyw hedyn arferol, mae hwn ymhell o fod yn arferol. Os rhywbeth, mae hwn yn hedyn anarferol iawn. Buan iawn daw’r ddau i sylweddoli fod hwn yn blanhigyn arbennig iawn, ac mae hyn yn rhoi syniad i Tad-cu am antur ryfeddol. Mae ganddo gynlluniau mawr, ond cyn hynny, bydd rhaid bwydo’r egin blanhigyn gyda chymysgedd ffiaidd ac afiach (ond gwbl effeithiol) Taid er mwyn ei dyfu’n fawr ac yn gryf. Dyna pryd mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd... Teulu ydi teulu I mi, prif gryfder y nofel yw’r gwaith cymeriadu gan yr awdur. Ydyn, maen nhw’n mynd ar antur gyffrous, ond yn fwy pwysig ‘na hynny, mae’r awdur yn llwyddo i greu cymeriadau rydych chi wir yn malio amdanynt, ac isio pethau fod yn ok! Mae Tad Marty wedi hen ddiflannu, ac mae yntau’n byw gyda’i Fam wrth iddyn nhw grafu byw. Caiff y pwnc iechyd meddwl ei drin yn ofalus yn y nofel, wrth i ni sylweddoli’n gynnar fod mam Marty’n casglu llawer llawer iawn gormod o eitemau, nes bod y tŷ yn orlawn - rhywbeth sy’n rhoi eu perthynas dan straen. Dim rhyfedd bod treulio amser yn y rhandir gyda’i Dad-cu yn ddihangfa iddo. Bachgen tawel yw Marty, sy’n awyddus i gadw’i hun i’w hun, ond mae’r bwlis yn gallu synhwyro hyn yn syth ac yn gwneud ei fywyd yn anoddach. Y mae ei weld yn tyfu mewn hyder dros gwrs y nofel yn wych i’w weld. Mae llawer o hyn diolch i Gracie, ei ffrind newydd, sy’n berson cryf a phenderfynol, sy’n gweld y ffaith ei bod hi’n fyddar ac yn gwisgo cochlear implant fel pŵer arallfydol, unigryw yn hytrach na rhywbeth i’w bitio. Mae hi’n gallu edrych ar ôl ei hun yn siŵr, ond er ei bod hi’n ymddangos yn tough ar yr wyneb, mae ‘na ochr arall iddi hefyd. Mae ganddi freuddwyd i fod yn ddawnsiwr, nid bod ei thad wedi trafferthu i sylwi. Mae gan y cymeriadau i gyd eu trafferthion personol, ond mae’n hyfryd eu gweld yn goresgyn y rhain, yn datblygu ac yn dod at ei gilydd. 10/10 am y clawr! Mae’r clawr yn cael sgôr uchel gen i; go debyg ei fod yn un o’r cloriau gorau ‘lenni. Yn sicr mae ‘na high production value iddo ac mae’n gosod y bar yn uchel ar gyfer llyfrau Cymraeg. Rhaid buddsoddi mewn cloriau deniadol does, os ‘da ni am fachu darllenwyr! Cariad, gobaith a breuddwydion Dyma nofel hyfryd a chofiadwy sydd yn ein hannog i fod yn ddewr ac i ddilyn ein breuddwydion, no matter what! Os oes rhaid i mi gymharu, roedd o’n gymysgedd hudolus rhwng James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Cinderella, Jac a’r goeden ffa a’r ffilm Pixar, Up! Os mai stori ffantasi/antur real sy’n apelio atoch, ond fod y cymeriadau'r un mor bwysig - Hedyn (neu’r fersiwn Saesneg, Seed) yw’r llyfr i chi. Bydd hwn yn cael ei gysidro’n glasur modern yn siŵr i chi. Bechod wir na chafodd ei ysgrifennu yn Gymraeg yn wreiddiol, achos mi faswn i wedi rhoi pres arno’n gwneud yn dda yng Ngwobrau Tir na n-Og Cymraeg! Dyna ddigon gen i - barn y plant sy'n bwysig 'de: ADOLYGIAD GWALES (ENID EVANS, 12 oed) Neidia'r clawr o'r silff gan fynnu fy sylw o'r cychwyn cyntaf. Holais i mi fi hun yn syth beth fyddai cynnwys y llyfr, cyn darllen y broliant, hyd yn oed! Mae'r broliant yn dweud llawer am Marty, ei dad-cu a'i fam, ond heb ddatgelu gormod. Mae'r nofel yn dechrau'n dda ac yn mynd o nerth i nerth wrth fynd yn ei blaen, yn enwedig o ganol y llyfr. Yn fy marn i, mae'r stori'n un dda ac yn addas i blant 9 oed ac yn hŷn. Mae'n addas iawn i blant sy'n hoffi antur ac sydd â dychymyg mawr, byw. Mae sawl neges bwysig yn y stori. Un neges yw y gall eich breuddwydion ddod yn wir, ond rhaid i chi weithio'n galed i'w gwireddu. Er gwaetha'r gwaith caled, peidiwch â rhoi fyny! Rydw i'n rhoi 5 seren i'r stori hon gan ei bod hi'n ardderchog. Dylech chi brynu copi a dechrau ei ddarllen yn syth bin, a chael antur, hwyl a sbri wrth ei ddarllen. Ewch i ddarganfod beth gall un hedyn bach ei wneud i wireddu eich breuddwydion. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: Mai 2022 Pris: £7.99 ADOLYGIAD JON GOWER O NATION.CYMRU: https://nation.cymru/culture/review-seed-by-caryl-lewis/

  • Y Poenisawrws / The Worrysaurus - Rachel Bright [addas. Endaf Griffiths]

    *For English review, see language toggle switch on top of webpage* Lluniau: Chris Chatterton (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 2+ Genre: #poeni #pryder #iechydalles #ffuglen #empathi #dwyieithog Cymylau Duon Mae Rachel Bright, awdur y llyfr hynod o lwyddiannus, Y Llew Tu Mewn, yn ei hôl gyda llyfr arall sydd yr un mor annwyl. Oes gennych chi boenwr bach yn eich tŷ chi? Os felly, dyma lyfr delfrydol i gynnal sgwrs am yr hen deimladau annifyr ‘na sy’n gallu codi i’r wyneb o dro i dro. Dyma stori fach charming am ddinosor bach sy’n edrych ymlaen at antur gyffrous a phicnic blasus. Ond yn fuan iawn, daw’r cymylau duon i dywyllu ei ddiwrnod a rhoi stop ar ei hwyl. Oes ganddo ddigon o fwyd? Fydd o’n cael niwed yn y goedwig fawr? Mae pob math o bryderon yn chwyrlio yn ei ben. Caiff y teimladau anxious yma eu mynegi fel ‘pili-palod’ yn y bol -cysyniad digon syml y bydd plant yn gallu ei ddeall. Dwi’n licio fod y llyfr yn defnyddio’r syniad yma fel trosiad i helpu i esbonio a thrafod pwnc sy’n gallu bod yn anodd ei ddisgrifio. Wedi dweud hynny, efallai bydd rhaid esbonio i’r plant lleiaf na fydd pili pala go iawn yn hedfan allan o’u bol! (dwi’n cofio darllen cerdd ‘sdalwm am hogyn o’r enw Bili Bolyn oedd yn bwyta lot o afalau - mi oni’n convinced wedyn fod 'na goeden fala am dyfu drwy fy mol os faswn i’n llyncu un o'r hadau!) Mam y dinosor bach sy’n achub y dydd, ac mae ganddi gyngor doeth i’r poenwr bach. Dwi wedi colli cownt ar y nifer o weithiau mae mam a dad wedi dweud geiriau o gysur wrthyf pan roedd y felan arnaf. Weithiau, mae jest lleisio’ch pryderon a chael rhywun yno’n gwrando’n gwneud byd o wahaniaeth. Pili-palod ‘Da ni gyd wedi eu profi nhw yn do? Teimladau rhyfedd neu anghyfforddus. Boed hynny ar ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol neu ar ôl symud tŷ - mae unrhyw sefyllfa newydd, annisgwyl neu’r unknown yn gallu deffro’r pili-palod yn y stumog. A wyddoch chi be? Mae bod yn nerfus neu boeni am bethau weithiau yn gwbl naturiol, ond wrth gwrs mae rhai unigolion yn poeni’n fwy nac eraill. Yn ôl rhai ffigyrau, mae gor-bryder yn cynyddu ymysg plant a phobl ifanc, ac roedd hynny cyn y pandemig! Yn sicr bydd y llyfr yma’n hanfodol i unrhyw un sydd â phlentyn ifanc sy’n poeni dipyn am wahanol bethau, ond i fod yn onest, ‘da ni gyd yn poeni o dro i dro, felly mae’r llyfr yn addas i’w ddarllen gydag unrhyw blentyn. Mae’n cynnig y sbardun i gael sgwrs am y teimladau hyn; sut i’w hadnabod a sut i geisio delio â hwy. O ran y lluniau, maen nhw’n ddigon del. Wyddwn I ddim llawer am gelf i fod yn onest, a dwi un ai yn hoffi lluniau mewn llyfr, neu ddim. Mae’r rhain yn ciwt ac mae’r defnydd o liw yn effeithiol, gyda lliwiau tywyll yn disgrifio’r pryderon, tra bod lliwiau’n llenwi’r tudalennau wrth i’r poenau ddiflannu. I mi, mae rhai o’r tudalennau’n teimlo reit ‘brysur’ oherwydd y ddwy iaith, ond dwi’n meddwl fod hynny’n bris bychan i’w dalu am gael llyfr dwyieithog. Mae’r galw am lyfrau fel hyn yn cynyddu, yn enwedig gan rieni di-Gymraeg neu rhai sydd â sgiliau Cymraeg cyfyngedig ond sy’n awyddus i helpu eu plant and I’m all for it! Drwy gynnig y stori yn y ddwy iaith, ochr yn ochr, gall hyn agor y drws i fwy o bobl at fwy o lyfrau Cymraeg. Ideal. Mae sefyllfaoedd stressful yn anochel mewn bywyd, ac mi fydd pawb yn poeni am rywbeth rhywdro neu'i gilydd. Mae’n rhaid i blant wybod fod hi’n ok i deimlo fel hyn weithiau, ond iddyn nhw beidio gadael i’r teimladau yma fod yn drech na nhw. I ddefnyddio syniad Rachel Bright -weithiau, rhaid i ni beidio dal ein gafael ar ein pili palas poeni, a rhaid eu gollwng yn rhydd! Pen ar y bloc, roedd yn well gen i Y Llew Tu Fewn, ond mae Y Poenisawrws yn llyfr da, defnyddiol gyda neges bwysig i’r oes sydd ohoni ac mae’r lluniau’n neis! Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris:£6.99

bottom of page