top of page
ADNODDAU
DYSGU
Alphabet
Pencil

Dyma gasgliad o adnoddau am ddim

i chi ddefnyddio adref neu yn yr ysgol.

​

Os ydych yn 'sgwennu adolygiad - cofiwch ei rannu gyda ni!

Creu Adolygiadau

Cymraeg
Saesneg
Canllaw

Tips Adolygu 

Ar ôl darllen llyfr ysgrifennwch adolygiad byr i ddweud wrth bobl eraill ei ddarllen - neu beidio!

​

Dylai'ch adolygiad fod yn gryno- tua 500 gair. Dim mwy na 1000.

​

Cewch fod yn hollol onest yn yr adolygiad - does dim cywir nac anghywir - eich barn chi ydi o.

​

Lawrlwythwch y canllawiau 'Sut i ysgrifennu adolygiad' drwy glicio ar yr eicon i'r chwith.

Templed Adolygiad

Cynradd

Ddim yn siŵr ble i gychwyn?

​

Dim problem, dyma ddogfen sy'n gallu eich helpu i drefnu'ch meddyliau wrth ysgrifennu.

​

Mae o wedi cael ei osod mewn bocsys sy'n ei gwneud hi'n haws cofio am y pethau pwysig, fel plot, lleoliad, cymeriadau a.y.y.b.

​

Cofiwch roi sgôr i'r llyfr ar y diwedd - efallai sêr allan o 5.

​

Cliciwch  ar yr eicon i'r dde i lawrlwytho.

Cymraeg
Saesneg
Templed
DOGFEN

Mwy o gymorth

o wefan 'MENSA'

mensa-for-kids.png

Dyma ddogfen sy'n cynnig mwy o fanylder ar sut i fynd ati i ysgrifennu adolygiadau effeithiol.

​

Gan ei fod o wefan mensafoundation.org, ac nid yn eiddo i Sôn am Lyfra, mae o ar gael yn Saesneg yn unig.

Cynllunio Clawr

Beth am greu clawr newydd ar gyfer eich hoff lyfr?

​

Neu ceisiwch gopio clawr sy'n bodoli'n barod.

​

Cliciwch ar yr eicon i lawrlwytho.

Cymraeg
Saesneg

Creu Stori

Cymraeg
Saesneg

​Cymeriadu

Dyma daflen waith hawdd ar gyfer proffilio cymeriad sy''n bodoli'n barod e.e. Miss Trunchbull o 'Matilda'

neu - gallwch ei ddefnyddio i gynllunio cymeriad eich hun.

 

Gwnewch un ar gyfer eich prif gymeriadau.

​

Agoriadau

RHAID cael dechrau da i'r stori er mwyn 'bachu'r' darllenydd. Mae 'na sawl ffordd o gychwyn stori. Mae'r daflen yma'n trafod 4 dull gwahanol.​

Beth am i chi fynd ati i feddwl am baragraff agoriadol dda?

Darllenwch o i ffrind neu riant a gofyn eu barn.

Cymraeg
Saesneg
Cymraeg
Saesneg

Plot

Mae'n bwysig meddwl am eich PLOT - sef beth sy'n digwydd. Lle a be, i bwy, pryd a pham?

Mae gan bob stori dda ddechrau, canol a diwedd.

​

Defnyddiwch y mynydd stori i gynllunio.

Hwyl

Cymraeg
Saesneg

Sialens Ddarllen

30 her i chi eu cyflawni sy'n ymwneud â darllen!

​

Tybed fyddwch chi'n gallu eu cyflawni i gyd?

​

Rhowch gynnig arni! (mi fasen ni wrth ein bodd gweld eich fideos o'r sialens Bonws!)

Mwy o adnoddau ar y ffordd.

Telerau ac Amodau

Plîs darllennwch y rheolau ar gyfer anfon adolygiadau atom. 

Mae 'na 'bolisi preifatrwydd' ar waelod y dudlen hefyd.

bottom of page