top of page

Hedyn - Caryl Lewis [addas. Meinir Wyn Edwards]

*For English review, see language toggle switch on top of webpage*


(awgrym) oed darllen: 9+

(awgrym) oed diddordeb: 9+

Lluniau: George Ermos

Themâu sy’n cael eu trafod:

· Bwlio

· Teuluoedd/perthnasau

· Byddardod/ anabledd

· Iechyd meddwl – celcio /OCPD

· Tlodi

 

Nofel gyntaf Caryl Lewis ar gyfer yr oedran yma:

Diolch byth mod i wedi cofio pacio Hedyn yn fy hand luggage achos mi oeddwn i’n hynod falch ohono i basio’r amser ar y flight pymtheg awr yn ôl o Japan!


Hedyn (o obaith)

Un dipyn bach yn eccentric yw Tad-cu Marty, dyfeisiwr sy’n hoff iawn o dreulio’i amser yn yr allotment. Dim rhyfedd felly, ei fod yn dewis rhoi hedyn i Marty ar ei ben-blwydd, er mawr siom i’r bachgen ifanc! ‘Da chi’n gwybod y gwyneb ‘na ‘da chi’n gorfod ei wneud wrth i chi smalio bod yn ddiolchgar ar ôl derbyn anrheg sâl, fel pâr o sanau diflas? Wel dyna’n union sy’n mynd drwy feddwl Marty ar ôl derbyn yr hedyn di-nod.


Er yn ymddangos fel unrhyw hedyn arferol, mae hwn ymhell o fod yn arferol. Os rhywbeth, mae hwn yn hedyn anarferol iawn. Buan iawn daw’r ddau i sylweddoli fod hwn yn blanhigyn arbennig iawn, ac mae hyn yn rhoi syniad i Tad-cu am antur ryfeddol. Mae ganddo gynlluniau mawr, ond cyn hynny, bydd rhaid bwydo’r egin blanhigyn gyda chymysgedd ffiaidd ac afiach (ond gwbl effeithiol) Taid er mwyn ei dyfu’n fawr ac yn gryf. Dyna pryd mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd...


mae'n nofel digon swmpus!

Teulu ydi teulu

I mi, prif gryfder y nofel yw’r gwaith cymeriadu gan yr awdur. Ydyn, maen nhw’n mynd ar antur gyffrous, ond yn fwy pwysig ‘na hynny, mae’r awdur yn llwyddo i greu cymeriadau rydych chi wir yn malio amdanynt, ac isio pethau fod yn ok!


Mae Tad Marty wedi hen ddiflannu, ac mae yntau’n byw gyda’i Fam wrth iddyn nhw grafu byw. Caiff y pwnc iechyd meddwl ei drin yn ofalus yn y nofel, wrth i ni sylweddoli’n gynnar fod mam Marty’n casglu llawer llawer iawn gormod o eitemau, nes bod y tŷ yn orlawn - rhywbeth sy’n rhoi eu perthynas dan straen.


Dim rhyfedd bod treulio amser yn y rhandir gyda’i Dad-cu yn ddihangfa iddo. Bachgen tawel yw Marty, sy’n awyddus i gadw’i hun i’w hun, ond mae’r bwlis yn gallu synhwyro hyn yn syth ac yn gwneud ei fywyd yn anoddach. Y mae ei weld yn tyfu mewn hyder dros gwrs y nofel yn wych i’w weld. Mae llawer o hyn diolch i Gracie, ei ffrind newydd, sy’n berson cryf a phenderfynol, sy’n gweld y ffaith ei bod hi’n fyddar ac yn gwisgo cochlear implant fel pŵer arallfydol, unigryw yn hytrach na rhywbeth i’w bitio.


Mae hi’n gallu edrych ar ôl ei hun yn siŵr, ond er ei bod hi’n ymddangos yn tough ar yr wyneb, mae ‘na ochr arall iddi hefyd. Mae ganddi freuddwyd i fod yn ddawnsiwr, nid bod ei thad wedi trafferthu i sylwi.

Mae gan y cymeriadau i gyd eu trafferthion personol, ond mae’n hyfryd eu gweld yn goresgyn y rhain, yn datblygu ac yn dod at ei gilydd.



10/10 am y clawr!

Mae’r clawr yn cael sgôr uchel gen i; go debyg ei fod yn un o’r cloriau gorau ‘lenni. Yn sicr mae ‘na high production value iddo ac mae’n gosod y bar yn uchel ar gyfer llyfrau Cymraeg. Rhaid buddsoddi mewn cloriau deniadol does, os ‘da ni am fachu darllenwyr!


Cariad, gobaith a breuddwydion

Dyma nofel hyfryd a chofiadwy sydd yn ein hannog i fod yn ddewr ac i ddilyn ein breuddwydion, no matter what! Os oes rhaid i mi gymharu, roedd o’n gymysgedd hudolus rhwng James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Cinderella, Jac a’r goeden ffa a’r ffilm Pixar, Up!

Os mai stori ffantasi/antur real sy’n apelio atoch, ond fod y cymeriadau'r un mor bwysig - Hedyn (neu’r fersiwn Saesneg, Seed) yw’r llyfr i chi. Bydd hwn yn cael ei gysidro’n glasur modern yn siŵr i chi. Bechod wir na chafodd ei ysgrifennu yn Gymraeg yn wreiddiol, achos mi faswn i wedi rhoi pres arno’n gwneud yn dda yng Ngwobrau Tir na n-Og Cymraeg!



 

Dyna ddigon gen i - barn y plant sy'n bwysig 'de:


ADOLYGIAD GWALES (ENID EVANS, 12 oed)


Neidia'r clawr o'r silff gan fynnu fy sylw o'r cychwyn cyntaf. Holais i mi fi hun yn syth beth fyddai cynnwys y llyfr, cyn darllen y broliant, hyd yn oed! Mae'r broliant yn dweud llawer am Marty, ei dad-cu a'i fam, ond heb ddatgelu gormod. Mae'r nofel yn dechrau'n dda ac yn mynd o nerth i nerth wrth fynd yn ei blaen, yn enwedig o ganol y llyfr. Yn fy marn i, mae'r stori'n un dda ac yn addas i blant 9 oed ac yn hŷn. Mae'n addas iawn i blant sy'n hoffi antur ac sydd â dychymyg mawr, byw.

Mae sawl neges bwysig yn y stori. Un neges yw y gall eich breuddwydion ddod yn wir, ond rhaid i chi weithio'n galed i'w gwireddu. Er gwaetha'r gwaith caled, peidiwch â rhoi fyny! Rydw i'n rhoi 5 seren i'r stori hon gan ei bod hi'n ardderchog. Dylech chi brynu copi a dechrau ei ddarllen yn syth bin, a chael antur, hwyl a sbri wrth ei ddarllen. Ewch i ddarganfod beth gall un hedyn bach ei wneud i wireddu eich breuddwydion. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: Mai 2022

Pris: £7.99

 

ADOLYGIAD JON GOWER O NATION.CYMRU:



bottom of page