*For English, see language toggle switch on top of webpage*
(awgrym) oed diddordeb: 10+
*dibynnu ar y plant- nid pawb sy'n licio straeon arswyd!
(awgrym) oed darllen: 12+
Genre: #straeonbyrion #arswyd #Cymru
Lluniau: Nest Llwyd Owen
Byddwch yn ofalus wrth fynd heibio’r siop lyfrau, bydd y dwylo gwyrdd esgyrnog a’r llygaid duon yn syllu’n ddyfyn i mewn i’ch enaid ac yn eich gorchymyn i bigo’r llyfr i fyny a’i brynu...
Pam oni’n gweithio fel athro, roedd gneud amser am stori diwedd y dydd yn hollbwysig. Does ‘na ddim digon o hynny’n digwydd yn ein dosbarthiadau, yn fy marn i. Dwi ddim yn sôn am ddarllen a deall ac ateb cwestiynau diflas. Na. Jest pen i lawr i wrando ar stori’n dod yn fyw.
Be o’n i’n licio oedd adrodd straeon arswyd i blant bl.5 a 6 ar ddiwedd pnawn. Yn y portakabins, roedd y bleinds yn cau nes bod y stafell yn ddu fel bol buwch - grêt er mwyn creu dipyn o atmosffer i wrando ar straeon sbwci!
Y broblem oedd, mi oedd ‘na brinder o lyfrau ‘off the shelf’ Cymraeg yn cynnwys straeon arswyd byrion, a does ‘na ond hyn a hyn o weithiau allwch chi ddibynnu ar Lleuad yn Olau gan T Llew neu Straeon i Godi Gwallt gan Irma Chilton! Y ffaith amdani oedd, angen llyfr arswyd newydd arnom yn y Gymraeg. Pan welais i ar Twitter fod y llyfr yma ar ei ffordd, roeddwn i’n hapus iawn. Fydd dim rhaid i mi orfod cyfieithu straeon Saesneg ar y pryd rŵan!
Cysgu gyda’r golau ‘mlaen
Er nad oes tudalen gynnwys ar y cychwyn i awgrymu hyn, llyfr o straeon byrion yw Sgrech y Creigiau, ac yn dilyn llawer o waith ymchwil, mae Elidir Jones wedi ail ddychmygu rhai o hen chwedlau Cymru sydd wedi mynd yn angof. Caiff y straeon hyn, sy’n ddigon i rewi’r gwaed, eu hatgyfnerthu gan luniau hunllefus Nest Llwyd Owen. Mi fyddai’n gweld yr ofn ar wyneb yr hen ddynes a’i llygad wen hyll yn fy nghwsg! Go debyg fyddwch chi angen nightlight ar ôl ei ddarllen. (na, mond yn jocian – ond mi oedd yn ddigon i roi croen gwŷdd i mi!)
Peidiwch â mynd i’r dŵr...
Yn bersonol, dwi’n meddwl fod stori arswyd yn gweithio’n well ar ffurf straeon byrion, sy’n adlewyrchu sut fyddai rhywun yn adrodd ghost stories yn y tywyllwch mewn sleeepover neu pan yn campio. Dwi wedi clywed sawl stori ysbryd fy hun ar lafar dros y blynyddoedd sydd wedi gadael rhyw deimlad annifyr ar ôl, ac mae ambell un o’r straeon yma’n sefyll allan fel rhai arbennig am roi ias oer lawr eich cefn. Allan o’r straeon i gyd, dwi’n meddwl mai’r cyntaf, “Y Naid Olaf” oedd yr un a roddodd y creeps fwyaf i mi. Dwi’n meddwl iddo fy atgoffa o’r darn yn y llyn ar ddiwedd y ffilm What Lies Beneath. Yikes!
Dwi’n edrych ymlaen at y cyfle i adrodd y stori yma wrth gynulleidfa druan tro nesa fydd ‘na amser am stori. Byddai rhoi ryw sgrech iasol yn y lle iawn (ar ôl y llinell “gafaelodd rhywbeth yn ei goes”) yn siŵr o wneud y tric!
Darllen o dan y cynfasau
Dwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o bobl (y enwedig plant) yn hoff o gael eu dychryn o dro i dro, neu fasa horror films a phethau felly ddim mor boblogaidd. Dwi’n dal i gofio mam yn adrodd stori am ysbryd Plas Mawr, Conwy, wrthyf pan oni’n iau, a hyd heddiw, dwi’n dal i gerdded heibio’r adeilad reit handi, yn enwedig gyda’r nos. Yndi, mae stori arswyd da yn gallu aros gyda chi am hir iawn.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ffeindio pethau arallfydol, goruwchnaturiol a thywyll yn hynod o ddifyr, ac er mod i’n hoff iawn o’r llyfr yma, dwi’n cydnabod na fydd hwn at ddant bawb.
Tybed fyddwch chi ddigon dewr i roi cynnig ar y saith stori hunllefus yma? Os ydach chi’n bwriadu sleifio i ddarllen y llyfr o dan y cynfasau – cofiwch eich tortsh ‘da chi!
Comentarios