Y Gweisg
Dyma restr o'r gweisg yng Nghymru sy'n darparu
llyfrau Cymraeg, a mwy i blant yng Nghymru.
Yn un o brif gyhoeddwyr addysgol Cymru, mae Atebol yn gwmni sy’n arbenigo mewn cyhoeddi llyfrau ac adnoddau amlgyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, y Cyfnod Sylfaen, addysg Gynradd, Uwchradd ac addysg bellach.
Mae Atebol hefyd yn cynnig gwasanaethau proffesiynol i ystod o gleientiaid sy'n dymuno datblygu cyhoeddiadau dwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ein tîm creadigol yn cynnwys cyfieithwyr, golygyddion, prawf-ddarllenwyr, dylunwyr graffig a datblygwyr apiau a gwefannau.











Cyhoeddwyr llyfrau plant preifat, teuluol o Gaerffili yw Cyhoeddiadau Rily.
Cafodd ei sefydlu pan benderfynodd Richard a Lynda Tunnicliffe, sy'n wr a gwraig, ddechrau cyhoeddi fersiynau Cymraeg o lyfrau poblogaidd o ran diddordeb yn 2001.
Ers hynny maen nhw wedi graddol gynyddu eu catalog o lyfrau plant Cymraeg a llyfrau dwyieithog.
Mae'r Lolfa yn un o brif weisg Cymru sy'n cynhyrchu llyfrau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.
Sefydlwyd y cwmni yn y 60au gyda'r bwriad o greu llyfrau lliwgar, bywiog a phoblogaidd.
Mae'n gwmni sydd mewn perchnogaeth deuluol sydd bellach yn cyflogi 22 o weithwyr llawn amser yn y
brif swyddfa yn Nhalybont ger Aberystwyth.
Rhai o lyfrau poblogaidd Y Lolfa:
.jpg)





Cwmni cyhoeddi ac argraffu yw Gwasg Gomer, wedi'i leoli yn Llandysul, Ceredigion. Sefydlwyd y cwmni yn 1892 ac mae'n dal i fod yn eiddo i'r un teulu hyd heddiw. Jonathan Lewis, gor-ŵyr y sylfaenydd, yw'r rheolwr gyfarwyddwr erbyn hyn. Mae argraffdy Gomer llewyrchus a phrysur a Gomer yw'r cwmni argraffu a chyhoeddi hynaf yng Nghymru.
Rydym yn cyhoeddi dros 36 o deitlau newydd bob blwyddyn gyda chysylltiad Cymreig arbennig.
Mae pedair rhestr gyhoeddi benodol:
-
Llyfrau Cymraeg i blant
-
Llyfrau Cymraeg i oedolion
-
Llyfrau Saesneg i oedolion
-
Llyfrau Saesneg i blant


.jpg)