top of page

Chwilio

297 items found for ""

  • Y Llew Frenin [addas.Mared Llwyd]

    (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 5-11 Thema: #Disney #anifeiliaid #ffuglen Mae’r pwnc llyfrau gwreiddiol vs addasiadau’n codi o dro i dro, gyda rhai yn feirniadol iawn o addasiadau am eu bod y teimlo fod nhw'n cael eu cyhoeddi ar draul llyfrau gwreiddiol. Dydi’r iaith mewn addasiadau ddim bob amser yn llifo’n naturiol chwaith. Y gwir ydi, fel popeth mewn bywyd mae angen cydbwysedd, a tydi rhaglen gyhoeddi ddim gwahanol. Mae  angen y ddau fath o lyfrau arnon ni, ac mae addasiadau yn chwarae rhan bwysig mewn iaith leiafrifol, lle mae cynnal digon o amrywiaeth yn gallu bod yn her. Y gobaith yw, wrth gwrs, fod pobl sy’n anghyfarwydd â llyfrau gwreiddiol yn cychwyn drwy ddarllen addasiadau cyfarwydd, a bod hynny’n agor y drws iddynt ar gyfer darllen llyfrau gwreiddiol Cymraeg. Does dim brand yn fwy cyfarwydd ar draws y byd na Disney, ac mae’n bwysig fod ein  plant yn gallu darllen am eu hoff gymeriadau adnabyddus drwy’r Gymraeg. Dod ar draws y gyfres yma wnes i ar hap a damwain wrth sortio llyfrau yn stafell gefn y llyfrgell, a meddwl fod hi’n werth rhoi mensh iddyn nhw. Bydd y llyfrau yma’n addas iawn i blant ifanc sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Mae tipyn o waith darllen, ond mae’r testun wedi ei osod mewn ffont glir ar gefndir gwyn gan amlaf. Dwi’n dipyn o nerd am ffontiau, ac mae rhai annoying  yn mynd dan fy nghroen ( comic sans anyone?).  ‘Sgen i ddim syniad beth yw enw’r ffont yma, ond dwi’n meddwl fod hwn ymysg y goreuon ar gyfer darllenwyr ifanc, gan ei fod o mor glir. Mae addaswr y gyfres, Mared Llwyd, yn athrawes profiadol sy’n gweithio ym maes cefnogi’r Gymraeg. Mae’r iaith yn addas ar gyfer y gynulleidfa darged ac yn cyd-fynd â’r fframwaith llythrennedd genedlaethol. Os ddilynwch chi’r QR code  ar gefn y llyfr, mi gewch chi sawl taflen waith am ddim, sy’n handi iawn ar gyfer pasio’r amser ar bnawniau Sul glawog. Un peth dwi ddim yn licio am y llyfr yw’r ffaith eu bod nhw wedi cyfieithu enw’r llew drwg o’r ffilm, Scar, i Craith. Doedd hynny ddim yn gweithio i mi, ac mi fysa dweud ‘Scar’ (efo acen Gymraeg lol) wedi bod yn ddigon hawdd! Mae ‘na sawl teitl arall yn rhan o gyfres Disney: Agor y Drws, ac mae’r holl stampiau dyddiad ar flaen y copi llyfrgell yma’n dangos i mi ei fod o’n boblogaidd ymysg benthycwyr. Ar ôl darllen am hanes  Y Llew Frenin, bydd rhaid i mi ail-wylio’r ffilm rŵan. Roedd y caneuon mor catchy doedden! Hakuna Matata! MWY YN Y GYFRES Mae mor cŵl gallu darllen am yr holl gymeriadau enwog/adnabyddus yma drwy'r Gymraeg! Cyhoeddwyd: Ionawr 2023 Cyhoeddwr: Rily Pris: £4.99 Cyfres: Disney: Agor y Drws Fformat: Clawr Caled

  • Y Gragen - Casia Wiliam

    ♥︎Rhestr Fer Tir na n-Og 2024 Shortlisted♥︎ (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 5+ Themau : #lluniau #môr #natur #cerdd #odl Lluniau: Naomi Bennet https://www.instagram.com/naomibennetillustration/?ref=srmma1jpt_miv Ar ddiwedd cyfnod o dair blynedd ar banel y Beirniaid Tir na n-Og, mae ‘leni yn flwyddyn ddiddorol, achos dwi wedi cael eistedd yn ôl fatha civvie , a mwynhau trio dyfalu pwy oedd am wneud hi i’r rhestr fer, a pwy fyddai’n cipio’r brif wobr (wnes i ddim dyfalu’n dda iawn o gwbl, gyda llaw!) Doedd hi ddim yn syndod o gwbl i mi pan glywais fod Y Gragen  wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer. Does ond rhaid edrych arno i sylwi fod hwn yn llyfr hynod o brydferth. Ac er fy mod i’n siomedig na ddaeth i’r brig, mae’n dal yn llyfr sy’n werth ei phrynu neu ei fenthyg. Cerdd gan Casia Wiliam yw sylfaen y llyfr, ac fel dwi i’n dallt, roedd yn rhan o gystadleuaeth ardderchog yn Eisteddfod yr Urdd, lle mae gofyn i ymgeiswyr ifanc greu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â geiriau. Enillydd y gystadleuaeth oedd Naomi Bennet, sydd wedi gwneud dipyn o argraff gyda’i chyfrol gyntaf -nid pawb sy’n cyrraedd rhestr fer TNNO, wedi’r cwbl. Dwi wir yn gobeithio gweld mwy o’i gwaith mewn llyfrau gwreiddiol i blant. Dyma press release  ar gyfer y gystadluaeth:   https://llyfrau.cymru/lansio-cyfrol-y-gragen-yn-eisteddfod-yr-urdd-sir-gaerfyrddin/ Nod y gystadleuaeth yw darganfod talent newydd ym myd darlunio llyfrau, ac mae’r end result yn  enghraifft dda o lun a thestun yn dod at ei gilydd i greu cyfanwaith hyfryd. Does dim o’i le â gwaith darlunio modern computer animated , ond i mi, does dim all guro gwaith celf draddodiadol yn defnyddio paent dyfrlliw go iawn. Dwi wrth fy modd hefo sut mae’r lliwiau yn blend io mewn i’w gilydd. Dwi wedi gwirioni hefo’r sbred yma- mae hyd yn oed y gwylanod felltith yn edrych yn fawreddog. Sawl tro ar hyd y blynyddoedd, mae ymwelwyr wedi dweud wrtha i, “oh you’re so lucky to live where you do” neu “it’s so beautfiul here, wish we lived here.” Ac er fod y geiriau dipyn yn cliché , weithiau, ‘da ni’n dueddol o gymryd hynny’n ganiataol. Mae’n hawdd cwyno ac anghofio pa mor lwcus ydan ni yma yng Nghymru. Yn fras iawn, mae’r stori’n dilyn teulu sy’n dod o’r ddinas i ymweld â thraeth glan y môr, felly dim yn annhebyg i ni yma yn Llandudno, sy’n croesawu nifer o dwristiaid o dros y ffin a thu hwnt. Teimlwn y rhyfeddod a’r cyffro wrth i’r bachgen gael profiadau newydd am y tro cyntaf, fel teimlo’r tywod dan ei fodiau traed, a chlywed y tonnau’n rhuo. Bydd yr atgofion ganddo am byth, yn bell ar ôl dychwelyd i’w fflat high rise  yng nghanol y ddinas fawr. Dwi newydd fod yn Llundain yn gweld fy chwaer, ac er bod cerdded drwy ganol bwrlwm Camden yn brofiad yn ei hun, doedd dim gwell teimlad na chamu oddi ar y trên yn ôl yng Nghonwy, a gweld y môr a’r mynyddoedd unwaith eto. Os dim byd arall, mae Y Gragen  yn gwneud i rywun sylweddoli cymaint yw ein braint o gael byw mewn lle mor braf, a dwi’n ddiolchgar iawn am hynny. Mi fyddai’n debygol iawn o ddefnyddio’r llyfr yma fel adnodd yn yr ysgol, (cyfnod sylfaen a CC2 yn enwedig) ac mae’r cod QR gyda linc i’r adnoddau yn handi iawn. Cyhoeddwr: Barddas Cyhoeddwyd: Mai 2023 Pris: £7.99 Fformat: Clawr Caled

  • Sara Mai ac Antur y Fferm (3) - Casia Wiliam

    (awgrym) oed diddordeb: 7-11 (awgrym) oed darllen: 7+ *gyda chymorth Lluniau: Gwen Millward Dim yn aml mae llyfrau neu gyfresi Cymraeg i blant yn gwneud cymaint o argraff a chyfres Sw Sara Mai. Daeth y llyfr cyntaf allan mewn cyfnod lle'r oedd bwlch mawr ar gyfer llyfrau i blant 7-11 oed (sa ni’n dal i allu gwneud hefo mwy!) a dwi’n cofio bod ar banel beirniaid  Tir na n-Og ar y pryd, a phawb yn cytuno pa mor dda oedd y gyntaf. Erbyn hyn, mae nifer o ysgolion yn defnyddio’r gyfres fel nofel ddosbarth, gan ei fod yn addas ar gyfer blynyddoedd 3-4, a 5-6 hefyd, gyda llwyth o gyfleoedd gwaith traswgwricwlaidd yn deillio ohono. Yn y bôn, fodd bynnag, llyfr i gael ei fwynhau ydi hwn, nid i’w astudio’n dwll. Ym myd y ffilmiau, mae sequels yn gallu bod yn fflop o gymharu â’r gwreiddiol, ond yn achos Sara Mai, codi mae’r safon gyda phob cyhoeddiad. Pan lansiwyd yr ail nofel, Sara Mai: Lleidr y Neidr, hwn oedd un o fy hoff lyfrau'r flwyddyn honno, gan daflu elfen o nofel dditectif i mewn i’r pair. Gyda Sara’n ôl am ei thrydedd antur, sy’n troi’r gyfres yn drioleg, cawn leoliad gwahanol i'r sw - antur i fyd cefn gwlad y tro hwn  - rhywbeth fydd yn gyfarwydd i nifer o blant Cymru. Ac i'r darllenwyr trefol/dinesig, bydd cyfle i ddysgu mwy am fywyd y fferm. Ar ôl clywed fod rhai o’r plant hŷn yn cael mynd i Disneyland Paris ar drip ddiwedd tymor, siom yw ymateb rhai o’r plant wrth glywed fod blwyddyn 5 yn mynd i fferm leol, Tyddyn Gwyn, yn lle. Fel un sy’n caru anifeiliaid o bob math, edrych ymlaen yn arw mae Sara Mai, gan weld ei chyfle i ddysgu am anifeiliaid gwahanol i rai egsotig y sw.  Ella fod pob twll a chornel o’r sw yn gyfarwydd iddi, ond tydi hi erioed wedi bod ar fferm o’r blaen. Fel ‘da ni’n gwybod, mae’n llawer gwell gan Sara anifeiliaid na phobl, ac mae digonedd o rheiny ar y fferm- swnio fel trip perffaith! Un o’r rhesymau mae’r gyfres wedi bod mor boblogaidd yw oherwydd bod yr awdur, Casia Wiliam, wedi tiwnio mewn i fyd plant o’r oedran yma i'r dim. Fel rhiant, a thrwy ei gwaith fel Bardd Plant Cymru, dwi’n siŵr ei bod hi wedi sgwrsio hefo digon o blant ledled y wlad i gael syniad go lew o beth sy’n apelio’r dyddiau yma. Mae’r cyfan yn darllen mor naturiol, (tafodiaith Ogleddol ar y cyfan) a tydi o byth yn swnio fel oedolyn yn trio bod yn ‘cŵl’ wrth sgwennu ar gyfer plant (fel sy’n gallu digwydd weithiau). Mae hi’n dallt be di’r materion sy’n bwysig i blant felly maen nhw’n gallu uniaethu hefo’r sefyllfaoedd a’r profiadau. Fel darllenwr hŷn, ro’n i hefyd yn cael fy nghludo nôl i fy nghyfnod yn yr ysgol, gan gofio mynd ar dripiau tebyg i Lan Llyn, yn aros i fyny drwy’r nos yn gloddesta ar Haribos ac yn adrodd ghost stories am y black nun! Mae tripiau ysgol residential (sydd fel rite of passage i blant ysgol) ar un llaw yn llawn hwyl, rhyddid, cyffro, bunk beds a midnight feasts, ond ar y llaw arall, mae ‘na hiraeth am adra, nerfusrwydd wrth gwrdd â phobl newydd, a’r teimlad annifyr o gael eich rhoi mewn grwpiau gyda phobl ‘da chi’m yn nabod gystal! Efallai fod y pethau yma yn ‘ddim byd’ i oedolion, ond mae'r rhain yn bethau serious pan ‘da chi’n blentyn. Sgwn i sut fydd Sara Mai’n ymdopi hefo aros dros nos heb mam a dad am y tro cyntaf? Dwi’n licio cymeriad Sara Mai am sawl rheswm. Mae hi’n wahanol iawn i'r gweddill, gyda phen go aeddfed ar ei hysgwyddau. Llawer gwell ganddi hi fod yn clirio lloc yr eliffantod (ia, hyd yn oed y pŵ) na threulio oriau o flaen sgrin. A hithau eisiau bod yn geidwad sw yn y dyfodol, mae hi’n llawn ffeithiau o bob math am greaduriaid di-ri. O ia, ac mae hi’n hoffi darllen hefyd sydd wastad yn beth da! Ond un rheswm arall dwi’n hoff ohoni fel cymeriad, yw achos ei bod mi mor gredadwy. Tydi hi ddim yn berffaith o bell ffordd ei hun (pwy sydd de?).Weithiau, gall fod braidd yn ddi- amynedd a ffwrdd-â-hi, a tydi hi ddim bob tro yn gwrando ar gyngor (os wna i jest deud ‘y goeden’ - fe fyddwch chi’n siŵr o ddeall ar ôl darllen. Dim ei phenderfyniad ddoethaf!). Mae’n ddiddorol gweld hi’n dysgu ac yn datblygu dros gwrs y nofelau, ac yn dysgu ambell wers ei hun, fel dod i ddeall pwy ‘di’ch ffrindiau go iawn. Mae gan y nofel dipyn o bopeth, cymeriadau difyr, hiwmor, a darnau fydd yn dod a deigryn i'ch llygaid, ac wrth gwrs... cyflenwad da o anifeiliaid! Dwi’n edrych ymlaen at y nesa’n barod, wrth i Sara Mai symud i fyny i flwyddyn 6! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2023 Cyfres: Sw Sara Mai Pris: £5.99

  • Chwedlau Cymru a'i straeon hud a lledrith - Claire Fayers [addas. Siân Lewis]

    ♥ Llyfr y Mis i Blant: Mai 2022 ♥ (awgrym) oed darllen: (awgrym) oed diddordeb: Genre: #chwedlau #ffuglen #Cymru #straeonbyrion Disgrifiad Gwales: Mwynhewch dreftadaeth gyfoethog Cymru o chwedlau a straeon tylwyth teg, wedi'u hail-adrodd ar gyfer darllenwyr ifanc. O ddreigiau hudolus Cymru sy'n dinistrio castell nos ar ôl nos, i dywysoges wedi'i gwneud allan o flodau a thrafferthion plentyn cyfnewid; o ffyddlondeb y ci hela Gelert, i fachgen sy'n holi cwestiynau ac yn tyfu i fod y bardd Cymreig mwyaf adnabyddus erioed.. Adolygiad Gwales gan Sioned Lleinau Mae pawb yn gyfarwydd â’r syniad o Gymru fel gwlad y gân, ond dyma gyfrol hyfryd a hylaw sy’n dangos hefyd, fel y dywed yr awdur ei hun, mai Cymru yw gwlad y chwedlau a bod rheini i’w gweld a’u teimlo o’n cwmpas ym mhob man. Er bod diwyg ac edrychiad nofel i Chwedlau Cymru a’i Straeon Hud a Lledrith, addasiad y ddewines geiriau, Siân Lewis, o waith Claire Fayers sydd yma. Mae'r gyfrol yn gasgliad cynhwysfawr o bedair chwedl ar bymtheg o straeon o bob cwr o chornel o Gymru a’r Byd Arall. O’r cyfarwydd, megis chwedlau Blodeuwedd, Pwyll a Rhiannon a Gelert i’r mwy anghyfarwydd, yn cynnwys straeon 'Y Bachgen a Ofynnai Gwestiynau', 'Pwca yn y Pwll Copr' a 'Fy Mrawd, y Tylwythyn Teg', mae yna wir gyfoeth o fewn cloriau’r gyfrol hon. Cawn ein hatgoffa o helyntion Gwrtheyrn a pham mai draig sydd ar faner Cymru, hanes Cantre’r Gwaelod, ymweliad y diafol ag ardal Pontarfynach a’n cyflwyno i’r dewin Myrddin a’r bardd enwog Taliesin, heb sôn am anturiaethau’r o fyd y Mabinogi a’r tylwyth teg drygionus a digon creulon ar adegau. Oes, mae yna rywbeth i bawb. Ond yr hyn sy’n dod â hud a lledrith ychwanegol i’r gyfrol hon yw’r modd dychmygus y mae’r straeon yn cael eu hadrodd. Mae’r dawn dweud a’r diniweidrwydd yn amlwg. Dyna i chi’r cyfeiriad at Morgan Methu-canu yn y stori 'Telyn y Tywyth Teg' oedd yn ysu am gyrraedd y brig mewn ym mhopeth, yn cynnwys canu, er mor anobeithiol yr oedd e am wneud hynny: ‘Fel y gwyddom ni, Cymru yw Gwlad y Gân. Mae’n enwog am ei miwsig ac mae Cymro sy’n methu canu fe morfil sy’n methu nofio.’ Mae’r ysgrifennu’n agos atoch iawn ac yn llifo’n rhwydd ac yn naturiol, gan eich tynnu i mewn i fyd bob stori a’ch gafael yn dynn. Cewch eich arwain i mewn i bob stori gan gyflwyniad bach i’r hyn sydd i ddilyn, gan ei gwneud hi’n hawdd i ddewis a dethol pa stori i’w darllen nesaf. Cyfrol i blant yw hon, wrth gwrs, ond does dim amheuaeth y bydd bob un o’r straeon o fewn ei chloriau’n apelio at ddarllenwyr o bob oed ac yn cynnig ysgogiad pellach i ddychwelyd at rai o’r testunau gwreiddiol. Mae’n siŵr hefyd fod yna straeon hud a lledrith tebyg i’w cael yn eich ardal chi, a dyma un o’r cyfrolau hynny a allai fod yn allwedd i gynnau eich awydd i chwilio am rai o’r rheini unwaith eto. Heb os, dyma gyfrol sy’n werth bob ceiniog ac yn anodd iawn ei rhoi i lawr. Mynnwch eich copi chi nawr. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Adolygiad Sôn am Lyfra Dwi wrth fy modd gyda'r gyfrol yma. Roedd ambell un o'r straeon yn gyfarwydd, ond roedd eraill yn gwbl newydd i mi. Dwi'n edrych ymlaen i rannu'r drysorfa yma o straeon gyda plant Cymru yn y dyfodol. Mi fydd copi yn fy mag ar gyfer gwaith llanw. Mae'r straeon byrion yn berffaith ar gyfer amser pen i lawr a stori ar ddiwedd y dydd! Mae'r cyflwyniad byr o flaen pob stori yn hynod o ddifyr - pwy fasa'n meddwl fod yr awdur (wel, gŵr yr awdur) wedi dod o hyd iddi ar wal gwesty! Cyhoeddwr: Rily Cyhoeddwyd: Ebrill 2022 Pris: £5.99

  • Mae gan Mam Lwmp: Llyfr lluniau sy’n helpu i esbonio - Simone Baldwin [addas. Rhys Iorwerth]

    (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 3+ (awgrym) oed y cyhoeddwr: 4-8 Genre: #odl #iechyd #salwch #cancr Lluniau: Caroline Eames-Hughes https://www.simonebaldwin.co.uk/illustrations.html Nodyn gan yr awdur: Chwech oed oedd fy mab pan sylwodd doctoriaid fod gen i ‘lwmp’. Fe chwiliais am gymorth i geisio esbonio pethau wrtho, ond fedrwn i ddim dod o hyd i ddim byd oedd yn helpu. Rydw i wedi creu’r llyfr yma i lenwi’r bwlch hwnnw, ac i helpu rhieni eraill sy’n wynebu sefyllfaoedd yr un mor anodd. Mae’r gerdd, sydd â darluniau’n cyd-fynd â hi, yn anelu at blant rhwng 4 ac 8 oed, ac i’w darllen gyda’ch gilydd fel ffordd gefnogol o ddechrau trafod pethau. Mae yma bwt hefyd am fy mhrofiadau fy hun. Os oes angen y llyfr hwn arnoch chi neu ar anwylyd, o waelod calon, dyma ddymuno’r gorau i chi. Maen nhw’n deud fod 1 allan o bob 2 person yn mynd i gael cancr. Siawns felly, fod chi’n nabod rhywun, neu wedi clywed am rywun sydd wedi cael eu heffeithio gan yr afiechyd. Tydw i ddim yn siarad o brofiad, ond mi alla i gredu fod derbyn y newyddion fod nhw ‘wedi ffeindio lwmp,' boed hynny yn gancr neu beidio, yn un o’r pethau ‘na sy’n troi bywyd rhywun wyneb i waered - lle mae amser yn mynd mewn i slow motion. Anodd dychmygu sut mae’n teimlo heb fynd drwy’r profiad. Mae gen i ddau ffrind agos sydd wedi profi sefyllfa tebyg, ac mae o'n swnio fatha hunllef os dwi'n bod yn onest. Mae'r pwnc newydd fod yn y newyddion yn ddiweddar, gyda merch fach tair oed yn dysgu byw gyda thiwmor: https://www.bbc.co.uk/news/articles/cxrz113k3yro Tydi hwn ddim yn bwnc hawdd o gwbl. Yn wir, mae oedolion yn cael digon o drafferth siarad yn agored am bethau mor sensitif a phreifat a hyn, felly sut yn y byd mae cychwyn sgwrs o’r fath gyda phlentyn bach? Dwi’n credu fod llyfr yn fan cychwyn da. Mae llyfrau’n gallu bod yn bwerus iawn, ac yn ffordd dda o ffeindio’r geiriau pan dydyn nhw ddim yn llifo. Dwi ddim am eiliad yn dweud fod rhoi llyfr i blentyn a deud ‘off you go’ yn ddigonol. Dim o gwbl. Ond maen nhw’n adnodda' arbennig o dda am sbarduno sgwrs, yn enwedig pan mae’r sgwrs yn gorfod bod yn un anodd. Yn ôl yr awdur o Gyffordd Llanduno, a gafodd diagnosis o diwmor ar yr ymennydd, nid oes llawer o adnoddau yn bodoli i helpu i geisio esbonio pethau fel hyn wrth blentyn ifanc. Darllenwch ei stori yma ar wefan The Brain Tumour Charity: https://www.thebraintumourcharity.org/news/charity-news/mummy-has-a-lump-book/ Y diffyg adnoddau (neu gwybod lle i'w ffeindio) oedd un o’r prif resymau dros greu’r llyfr. Swni’n tybio fod ‘na lai fyth o bethau ar gael yn y Gymraeg, felly dwi’n falch o weld y llyfr ar gael yn y Gymraeg yn llenwi’r bwlch. https://www.simonebaldwin.co.uk/ Ar ffurf cerdd mae’r stori, wedi ei addurno gyda lluniau cain, minimalist gan Caroline Eames-Hughes. Mae gwedd y llyfr yn syml iawn – ychydig bach o destun, a hynny yn erbyn cefndir gwyn. I mi, mae hyn yn llawer mwy addas ‘na chael gormodedd o liw a lluniau, o ystyried y pwnc dan sylw. Cymharol fyr yw’r llyfr a does dim information overload chwaith, felly gall hwn fod yn llyfr addas i’w rannu â phlant ifanc iawn heb eu digalonni na’u dychryn. Mae sgôp i unrhyw oedolyn sy’n cyd-ddarllen y llyfr ymhelaethu ar y cynnwys ac ateb cwestiynau sy’n siŵr o godi. Mae’r llyfr yn reit amhenodol o ran ‘y lwmp’, felly gall hwn fod yn addas ar gyfer trafod sawl math gwahanol o gancr. Mewn ffordd, os bydd  ‘na gwestiynau ychwanegol yn codi, yna mae hynny’n beth da. Sbardun sgwrs yw’r stori, felly os yw’n gychwyn ar drafodaeth, yna mae wedi cyflawni ei bwrpas. Dyma’r math o sgwrs does neb eisiau gorfod cael gyda’u plant, ond os ddaw'r dydd, mae’n braf gwybod fod ‘na adnoddau syml ac annwyl fel hyn i gefnogi. Diolch o waelod calon Simone am ddod a’r llyfr yma i fodolaeth. Bydd yn help i nifer dwi’n siŵr. Cyhoeddwr: Three Bs Publishing Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99 Fformat: clawr meddal Dyma erthygl am gyoeddi'r llyfr: https://newyddion.s4c.cymru/article/14805 FERSIWN SAESNEG AR GAEL HEFYD: LLYFR AR GYFER TADAU AR GAEL HEFYD (YN SAESNEG YN UNIG AR HYN O BRYD): STORI'R AWDUR: https://www.thebraintumourcharity.org/news/charity-news/mummy-has-a-lump-book/

  • Betty - Bywyd Penderfynol Betty Campbell - Nia Morais

    ♥ Llyfr y Mis i Blant: Tachwedd 2023♥ (awgrym) oed diddordeb: 7-11 (awgrym) oed darllen: 7+ Disgrifiad Gwales: Cyfrol yng nghyfres 'Enwogion o Fri' am gyfraniad pwysig Betty Campbell - prifathrawes groenddu gyntaf Cymru - i'n hanes fel cenedl. Pwrpas y gyfres yw goleuo plant Cymru am gyfraniad unigolion o Gymru i'n diwylliant, a hynny mewn nifer o feysydd amrywiol. Adolygiad Gwales - gan Delyth Roberts Cyfrol newydd yn y gyfres boblogaidd Enwogion o Fri ydi Betty: Bywyd Penderfynol Betty Campbell gan Nia Morais, Bardd Plant Cymru, a'r lluniau gan Anastasia Magloire. Yr hyn a gawn ydi hanes bywyd prifathrawes ddu gyntaf Cymru, a’i huchelgais a’i brwydr i oresgyn rhagfarn a gwrthwynebiad oherwydd lliw ei chroen. Tyfodd Betty Campbell i fod yn symbol cryf o unigolyn ysbrydoledig a di-ildio wrth ymgyrraedd at ei nod. Arlunydd sy’n byw ac yn gweithio yn Florida ydi Anastasia Magloire. Ceir yma briodas dda rhwng gair a delwedd, a nodir enwau arwyr eraill yn eu dewis feysydd ar y tudalennau sy’n dathlu sefydlu mis Hydref fel mis Hanes Pobl Dduon. Mae’n debyg mai’n fwriadol yr hepgorir enwi’r Brenin Siarl a Nelson Mandela ar y tudalennau blaenorol. Mae’r ysgrifennu’n syml ac effeithiol, ac fel Bardd Plant Cymru mae Nia Morais ei hun am annog plant i feithrin eu hannibyniaeth a’u hunaniaeth unigryw gan ddatblygu eu lleisiau personol a phwerus eu hunain fel y gwnaeth Betty Campbell o’u blaenau. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Adolygiad sydyn Sôn am Lyfra Fel 'da chi'n gwybod, 'da ni'n ffans mawr o'r gyfres yma yn Sôn am Lyfra, a dwi'n meddwl fod y llyfrau yn boblogaidd iawn ar hyd a lled Cymru, boed hynny’n fersiwn Gymraeg neu Saesneg. Dwi wedi eu gweld mewn cartrefi ac mewn ysgolion. Mae nhw'n adnoddau addysgol ardderchog a defnyddiol, yn enwedig yng nghyd-destun Cwricwlwm Newydd i Gymru. Mae bywyd ‘Betty’ yn un rhyfeddol. Dwi mor falch fod 'na gydnabyddiaeth iddi yma yng Nghymru - ar ffurf cerflun – ac yn y llyfr yma erbyn hyn! Yn ôl sôn, y cerflun newydd ohoni  yng Nghaerdydd yw'r un cyntaf o ferch go-iawn mewn man cyhoeddus yng Nghymru. Arbennig. (Ond hefyd gwarthus i ryw raddau fod ‘na ddim mwy ohonyn nhw!) Mae steil cartŵn/comic y llyfr yn fodern, yn lliwgar ac yn drawiadol iawn. Mae’n sefyll allan ac yn creu argraff, efallai yn fwy nac unrhyw un o’r llyfrau eraill yn y gyfres. Roedd Betty yn unigolyn hynod iawn, ac felly mae’n addas iawn fod gwedd y llyfr yn adlewyrchu hynny. Dwi’n cofio clywed hanes Rosa Parks pan oeddwn yn yr ysgol gynradd, ond dwi’n meddwl fod angen i ni sôn wrth ein plant am Betty Campbell, oedd yn benderfynol o beidio gadael i ddim byd ei rhwystro rhag llwyddo. Dim hyd yn oed athrawon cas! Mae ei stori yn rhoi neges bwerus iawn dwi’n meddwl. Bydd y llyfr yma’n addas iawn ar gyfer gwasanaeth boreol yn yr ysgol, fel rhan o waith sy’n edrych ar hanes pobl Dduon yng Nghymru. Yndi, mae’n adnodd defnyddiol iawn, ond mae hefyd yn gwneud anrheg neis i blentyn rhwng 7-9+ oed. Mae’r gyfres yma’n mynd o nerth i nerth. Edrych ymlaen i weld pwy fydd o dan y sbotolau nesaf. Cyhoeddwr: Broga Cyhoeddwyd: 2023 Cyfres: Enwogion o Fri Fformat: clawr meddal Pris: £5.99 MWY AM BETTY: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-58721710

  • Diwrnod Prysur! - Huw Aaron

    (awgrym) oed darllen: 5+ (awgrym) oed diddordeb: 0-5 ADOLYGIAD SYDYN GAN LLIO MAI Mae ‘Diwrnod Prysur!’ yn lyfr llun a gair syml sy’n adlewyrchu diwrnod prysur plentyn. Cawn ein cyflwyno i 21 o wahanol ferfenwau fel bwyta, dringo, dawnsio a chwerthin. Ynghyd â’r geiriau ceir un o ddarluniau bywiog a lliwgar Huw Aaron o blentyn bach yn gwneud y weithred. Dyma lyfr gwych i’w ddarllen gyda phlentyn sy’n dechrau dysgu geirfa ehangach a dw i’n credu y gall fod yn lyfr defnyddiol ar gyfer dangos ac ymarfer strwythur diwrnod i blentyn hefyd. Fel mae Huw Aaron yn ddweud mae ‘gair a gwneud yn dod gyda’i gilydd i blant’ a dw i’n siŵr y byddai’r rhai bach yn cael hwyl yn gwneud rhai o’r gweithredoedd sy’n cael eu darlunio yn y llyfr hwn wrth ei ddarllen. Beth am chwarae gêm bach i ddysgu’r berfenwau/gweithrediadau? Simon Says efallai... Yng nghefn y llyfr mae cyfieithiad o’r geirau a brawddegau ffonetig sy’n cynnig help llaw i unrhyw blentyn, rhiant neu oedolyn arall sy’n dysgu Cymraeg ac eisiau ymarfer rhai o’r geiriau.  Mae hyn yn syniad gwych a dylai hyn gael ei gynnwys mewn mwy o lyfrau. Mae ‘Diwrnod Prysur!’ yn lyfr grêt i’w ddarllen cyn amser gwely, i ddysgu geirfa newydd, ac i’w ddefnyddio yn ystod y dydd i helpu plentyn bach gyda threfnu y diwrnod. Does dim ‘stori’ ar ffurf naratif draddodiadol yma fel y cyfryw, ond nid dyna ei bwrpas. Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Dyddiad Cyhoeddi: Medi 2023 Fformat: Clawr meddal Pris: £6.95

  • Aduniad - Elidir Jones

    (awgrym) oed diddordeb: 14+ (awgrym) oed darllen: 13+ Genre: #ffuglen #nofelfer #arswyd Mae ffeindio amser i ddarllen wedi bod yn heriol yn ddiweddar. Hefo babi 8 mis oed yn tŷ, mae cwsg ac amser sbâr yn pethau prin iawn. Lle roedden ni’n arfer binge wylio cyfresi mewn dyddiau, mi gymerodd hi dros fis i ni orffen gwylio cyfres 3 o Happy Valley yn ddiweddar! How life has changed! Ond na fo, dwi’m yn cwyno. Ond y realiti ydi, mae darllen nofelau mawr yn amhosib bellach. Sgen i ddim y stamina. Diolch byth felly am y gyfres Stori Sydyn. Dwi wedi darllen teitlau o’r gyfres o’r blaen, fel Herio i’r Eithaf gan Huw Jack Brassington, ac Un Noson gan Llio Maddocks, ond dwi’n meddwl mod i wedi anghofio am y gyfres rhywle ar hyd y ffordd. Rŵan mod i’n gweithio rhan amser mewn llyfrgell, mae’n le perffaith i ddarganfod llyfrau newydd. Dyna lle welais i’r llyfr yma’n syllu arnaf o’r display unit wrth ymyl y ddesg. Pan welais i’r clawr – ‘my kinda book’ ddaeth i fy meddwl yn syth. Doeddwn i ddim yn anghywir chwaith. Mae Bethan Briggs-Miller wedi creu clawr ardderchog, a taswn i byth yn sgwennu stori arswyd, mi faswn i’n cael hi i wneud y gwaith celf. Dwi wedi mwynhau straeon arswyd diweddar Elidir Jones, felly keep them coming dduda i - rhai mwy tywyll a sinistr os rhywbeth... Mae'n dda iawn fod o'n taflu goleuni ar rai o straeon llen gwerin coll Cymru. Dwi wedi cael ffrae am roi gormod o spoilers, so fydd ‘na ddim byd felly yma heddiw. Be alla i ddweud ydi, fod 4 ffrind coleg, Dan, Emyr, Alun a Celt, yn cael dipyn bach o reunion, ond yn lle hitio’r dafarn neu’r strip club, mae nhw’n penderfynu mynd i gampio yng nghanol nunlle – Cwm Darran. Y nod go debyg ydi gosod y tent reit handi, cynna tân, wedyn ista’n yfad, siarad a hel atgofion nes bod nhw’n meddwi eu hunain i gysgu! Sounds like a plan. Wrth gwrs, fasa hynny rhy’n llawer rhy syml! Fel mae’r broliant yn awgrymu, mae rhywun – neu rhywbeth – wedi eu dilyn i’r mynyddoedd. Ella bod y pedwar yn mynd i fyny yn ffrindiau, ond fydda nhw’n sicr ddim yn dychwelyd fel rhai... Mae un o’u plith yn fradwr. LLYGAD AM LYGAD. DANT AM DDANT. BYWYD AM FYWYD. Mae cyfres stori sydyn yn aidial- jest y peth i’r rheiny sydd, fel fi, rhy flinedig a diog i ddarllen, neu’n brin o amser. ‘Da chi’n syth i fewn i’r stori, a does na ddim gormod o fflwff disgrifiadol ac emosiynol. ‘Da chi hefyd yn cael y buzz smug ‘na o allu gorffen nofel am unwaith ac yna ‘sgwennu blogiad bach amdano. LOL. O ia, a mae’r llyfrau’n costio £1. What’s not to like? Dwi wedi gwylio tipyn o ffilmiau arswyd yn fy nydd, ac yn mwynhau darllen straeon arswyd byrion. Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai’r llyfr yn codi ofn arna i mewn gwirionedd. Ond mi benderfynais ychwanegu at y vibes, a darllen y nofel mewn golau gwan gyda’r hwyr (yr unig amser o’r dydd ga i lonydd!) Roedd ‘na ddarnau digon creepy chwarae teg, a mwyaf sydyn roedd pob sŵn bach yn y tŷ yn swnio’n llawer uwch... Mae’n ryw ddeg mlynedd ers i mi adael y coleg, a gan fod pawb ar wasgar dydan ni ddim yn cael y cyfle i gwrdd ryw lawer. Ond os fydd ‘na neges whatsapp yn dod drwodd yn cynnig bod ni’n cael aduniad, dwi’n meddwl y bydd rhaid i mi ail feddwl... dwi’n erm..... brysur y diwrnod yna sori.... Cyhoeddwr: Y Lolfa Cyfres: Stori Sydyn Fformat: Clawr Meddal Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £1 (bargen btw)

  • Y Bysgodes - Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Casia Wiliam

    (awgrym) oed darllen: 7+ (awgrym) oed diddordeb: 5-11 Genre: #hud #lledrith #ffuglen #chwedl #Affrica #Cymru Lluniau: Jac Jones ‘Da ni gyd yn gwybod beth sy’n digwydd yn stori’r tri mochyn bach, ac mae Jac a’r Goeden Ffa yn hen gyfarwydd i ni. Straeon adnabyddus ydi'r rhain sydd wedi dod drosodd o Loegr, ond sydd bellach wedi cael eu mabwysiadu gennym. Wrth gwrs, mae gennym ni yng Nghymru ddigonedd o straeon a chwedlau ein hunain - Cantre'r Gwaelod, Stori Gelert, Dreigiau Dinas Emrys, Stori Branwen i enwi ond rhai! I mi, mae Cymru wastad wedi cael ei chysylltu hefo gwlad y gân, chwedlau a hud a lledrith. Ond mi fedra i feddwl am un chwedl fyddwch chi 'rioed wedi ei chlywed o’r blaen – Y Bysgodes. Mae hon yn wahanol iawn i unrhyw stori tylwyth teg neu chwedl fyddwch chi wedi ei glywed o’r blaen -stori am  bysgotwr barus, tywysoges dlos, hen wrach a neidr slei. Ffrwyth llafur prosiect arloesol yw’r stori, a hwnnw rhwng Cymru â Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru, fel rhan o Gynllun BLAS, Pontio Bangor.  Nod y prosiect yw cryfhau cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica, yn ogystal â helpu i ddod a chymunedau at ei gilydd. Dwi wrth fy modd gweld llyfrau sydd â blas rhyngwladol fel hyn, achos mae’r cyfuniad o ddawn dweud stori o Gymru ac Affrica yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth sbeshal. Mae’r stori sy’n deillio yn rhyw fusion o draddodiadau Cymraeg ac Affricanaidd, yn asio’n berffaith i greu chwedl sydd ag elfennau cyfarwydd - ond gwahanol -iawn i'r arfer. Pwy yw awdur y llyfr? Wel, yn ôl Casia Wiliam, nid hi yw’r awdur, ond yr holl deuluoedd ddaeth at ei gilydd i siarad am straeon a chwedlau sy'n gyfrifol. Dim ond gwehyddu’r cwbl at ei gilydd wnaeth hi. (modest iawn, Casia!) Mae’r cyfan yn deillio o syniadau’r bobl ifanc. Cafodd y llyfr ei arlunio gan Dduw ymysg arlunio llyfrau plant, Jac Jones, ac mae ei luniau wedi dod a hud a lledrith y stori yn fyw, yn ei ffordd unigryw a hollol adnabyddus ef! Cofiwch edrych ar y tapestri lliwgar ar hyd y cloriau sy’n arddangos gwaith celf pawb fu’n rhan o’r prosiect. Ffuglen ddadlennol yw’r stori yn ôl y clawr (dwi dal ddim cweit yn siŵr be di hynny), ac mae’n defnyddio ysbrydoliaeth o hen straeon Ghanaidd, Nigeraidd a Chymreig i greu rhywbeth hollol newydd. Chwa o awyr iach i ddweud y gwir. Mae tipyn o destun yn y stori, felly mae’n debyg y byddai tu hwnt i ddarllenwyr cynnar/ifanc iawn, ond gall fod yn stori i'w fwynhau â rhiant amser gwely. Gorau oll os yw’r llyfr yn gweithio fel sbardun i fynd i greu mwy o straeon newydd a difyr. Mae’n hen bryd i ni gael rhai newydd i'w hadrodd, i ychwanegu at y clasuron, sy’n adlewyrchu’r Gymru fodern sydd ohoni. Weithiau, mae’r stori yn gwibio o un lle i'r llall yn chwit chwat, yn botas o syniadau ac elfennau gwahanol. Oherwydd yr holl syniadau, ar brydiau, mae’r llyfr yn teimlo fel un sydd wedi cael ei gyd-sgwennu gan bwyllgor - ac mae hynny’n wir! Mi gafodd ei gyd-sgwennu gan lot o bobl yn cyfrannu eu syniadau, felly dim rhyfedd ei fod o’n teimlo’n brysur. Fy nghyngor i yw just go with it - ddewch chi ddim ar draws chwedl tebyg i hon. Gobeithio bydd mwy o brosiectau rhyngwladol ar y gweill i bontio cymunedau o bedwar ban byd, ond yn bwysicach na hynny - i adrodd stori dda. Dyma’r press statement ar gyfer y prosiect o wefan y Cyngor Llyfrau os ‘da chi eisiau dysgu mwy. https://llyfrau.cymru/llwyddiant-wrth-gyhoeddi-llyfr-o-straeon-teuluol/ Dyma wybodaeth am Ganolfan Celfyddydau Pontio, Bangor: https://pontio.co.uk/Online/default.asp Tudalen Facebook BLAS: https://www.facebook.com/PontioBLAS MAE'R LLYFR HEFYD AR GAEL YN SAESNEG: Cyhoeddwr: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £5.99

  • Fi ydy fi - Sian Eirian Lewis

    (awgrym) oed darllen: 8+ (awgrym) oed diddordeb: 8-15 Pwnc: #tyfu #corff #merched #ffeithiol Lluniau: Celyn Hunt https://uk.linkedin.com/in/celynhunt Disgrifiad Gwales: Llyfr gwybodaeth i ferched 8+ oed am dyfu i fyny. Bydd pob pennod yn trafod agwedd benodol o’r profiad o dyfu i fyny, yn cynnwys: Pam mae fy nghorff yn aeddfedu?, Hormonau, Bronnau, Blew, Chwysu, Croen, Mislif, Deall fy emosiynau, Fy Nghorff, Ffrindiau. Mae'r testun wedi'i gymeradwyo gan arbenigwyr. Elin Fflur yn cyfweld â'r awdur. Pnawn Da, S4C Dwi wedi adolygu ambell lyfr am dyfu i fyny / corff dynol yn ddiweddar, gan gynnwys Secs ac ati, Dysgu am Dyfu a Ti a dy gorff. Roedd pob un o’r rhain yn llyfrau ardderchog, ond un peth sy’n gyffredin rhyngddynt yw mai addasiadau o lyfrau Saesneg ydyn nhw. Am y tro cyntaf, dyma lyfr gwreiddiol Cymraeg i ferched yn sôn am dyfu i fyny.  Dwi ddim yn dweud bod unrhyw beth o’i le ag addasiadau, ond mae’n hen bryd i ni ddechrau buddsoddi mwy mewn llyfrau ffeithiol gwreiddiol. Ond pam fod ‘na cyn lleied ohonyn nhw sgwn i? Wel dywedodd rhywun (yn y diwydiant) wrtha i fod hyn i wneud hefo’r ffaith fod ‘na gymaint o waith ymchwil/darlunio angen ei wneud, a bod hyn yn gwneud y gost o’u cynhyrchu yn uchel. Wel, mae’r Lolfa wedi penderfynu buddsoddi a dwi’n meddwl fod yr end result yn llwyddiannus iawn. Reit. Dwi’n gwneud disclaimer rŵan. Roedd Llio (y wraig) i fod i adolygu’r llyfr yma, ond mae hi’n rhy brysur fis yma i wneud. Felly fi, dyn 33 oed, sy’n adolygu’r llyfr  - dim cweit y target audience dwi’n cydnabod, ond mi oedd yn interesting read beth bynnag. O bosib, mae hynny’n profi nid dim ond llyfr i ferched ydi hwn - byddai bechgyn yn elwa o’i ddarllen a thrio deall yr hyn mae merched yn mynd drwyddo yn ystod y glasoed. Pan ‘da chi’n meddwl am y pwnc o dyfu fyny, yn aml iawn rydych chi’n cael atgofion o sgyrsiau awkward hefo rhieni neu wersi sex ed diflas yn yr ysgol. Mae’n gallu bod yn bwnc sensitif a dwi’n cydnabod fod o’n gallu bod yn anodd i drafod hefo oedolion. Mae gwersi ysgol yn gallu rhoi dipyn o drosolwg, ond dydyn nhw jest ddim yn debygol o allu ateb yr holl gwestiynau. Dyna pam dwi’n meddwl fod llyfrau fel hyn MOR bwysig. Bydd rhai yn teimlo’n llawer mwy cyfforddus darllen llyfr fel hyn ‘na gofyn cwestiynau o flaen grŵp o bobl. Yn sicr tydw i ddim yn cytuno efo’r syniad o weld y pwnc fel un embarassing ac un i’w osgoi, ac felly dwi’n annog sgyrsiau agored am y pwnc, a dechrau rheiny mor fuan ag sy’n bosib (gan sicrhau fod hyn yn briodol, wrth gwrs). Mae genethod yn gallu dechrau profi newidiadau yn ystod y glasoed yn gynt na bechgyn, a phan mae rhywbeth fel y mislif yn dod yn annisgwyl, mae'n gallu achosi dryswch a phryder. Dwi’n falch felly fod y llyfr yn cael ei argymell i blant 8+ - mae’n bwysig fod pobl ifanc yn aros yn informed am bethau ac yn gwybod pa newidiadau sydd ar y gweill. Os ‘da chi efo ryw syniad o beth i ddisgwyl, mae hyn yn gallu helpu i leihau unrhyw stress sy’n gysylltiedig. (btw - mae tyfu fyny dal am fod yn stressful, ond mae gwybod be ‘di be yn siŵr o fod yn help!) Yn aml iawn mae plant yn clywed pethau ar yr iard sy’n hollol anghywir, felly un rôl bwysig sydd gan lyfrau fel hyn yw cael gwared â’r misconceptions a’r myths sy’n codi o amgylch y pwnc. Os oeddech chi yn yr ysgol ers talwm, roedd gwersi ‘addysg rhyw’ fel y galwyd bryd hynny yn cynnwys gwylio videos cringey a hen ffasiwn (chi’n cofio’r wheelie tv trolleys?) ac ella os oeddech chi’n lwcus, ryw 10 munud o Q&A efo athro di-glem oedd yn breuddwydio am fod unrhyw le arall. Diolch byth fod y dyddiau yna wedi mynd. Erbyn hyn, mae addysg rhyw yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth am bynciau cyfoes megis perthnasau iach, rhywioldeb a sut i gadw’n saff ar-lein. Mae’r llyfr yma yn cynnwys llwyth o bynciau defnyddiol megis aros yn saff ar-lein, ffrindiau a dathlu eich corff. Mae’n amlwg iawn fod yr awdur wedi gwneud llawer o waith ymchwil, er mwyn sicrhau fod y ffeithiau’n gywir. Mae hi hefyd wedi cymryd yr holl wybodaeth ac wedi ei osod mewn ffordd sy’n hawdd -ac yn hwyl – i’w ddarllen. Yn weledol, dwi’n meddwl fod y dylunwyr wedi gwneud joban ardderchog o sicrhau nad oes gormod o wybodaeth ar y tudalennau, ac felly ‘da ni’n osgoi information overload. Mae steil cartŵn y llyfr yn lliwgar ac yn fodern, ond nid yw’n teimlo’n fabïaidd o gwbl. Os oes gen i gwyn, y diffyg ffotograffau (lluniau go iawn) fydda hynny. Yn bersonol dwi’n licio lluniau go iawn yn ogystal â cartŵns, ond rywbeth bach iawn ydi hynny. Dwi ddim yn mynd i’ch diflasu hefo breakdown o beth sydd yn y llyfr – dwi jest am gynnwys llun o ambell dudalen, yn ogystal â’r dudalen gynnwys. Cewch weld â’ch llygaid eich hun pa mor ddiddorol yw’r llyfr fel adnodd (neu anrheg i ferch). Dwi’n meddwl basa rhoi copi o’r llyfr yma i bob merch yn wych, ond dwi’n gweld hynny’n annhebygol o ddigwydd. Os ydych chi’n rhiant sy’n teimlo’n rhy chwithig i drafod y pwnc gyda’ch plentyn, mae’r llyfr yma’n fan cychwyn da. Wrth gwrs fod y llyfr yn gweddu darllen annibynnol, ond weithiau mae’n dda i drafod pethau gyda phobl eraill- yn sicr mae’r llyfr yn gweithio fel sbardun trafodaeth rhwng plentyn a rhiant. Doedd ‘na ddim llyfrau fel hyn ers talwm. Oedd, roedd llyfrau am y corff yn bodoli, ond doedden nhw definitely ddim mor apelgar ac accessible â hwn. Mae safon llyfrau wedi gwella cymaint! Efallai fod hwn yn swnio fel anrheg od i brynu i rywun, ond wir yr, dwi’n meddwl y byddai llyfr fel hyn yn cael ei werthfawrogi yn y pen draw (hyd yn oed os fasa nhw byth yn cyfaddef!) Merched ifanc Cymru, mae’r llyfr yma’n werth ei ddarllen, credwch fi. Gobeithio fod y wasg yn gweithio ar fersiwn i Fechgyn hefyd! Gwasg: Lolfa Cyhoeddwyd: Hydref 2023 Pris: £7.99

  • Wyneb yn Wyneb - Sioned Wyn Roberts

    ♥Llyfr y Mis i Blant: Awst 2023♥ (awgrym) oed darllen: 9-13 (awgrym) oed diddordeb: 8+ Tags: #ffuglen #antur #OesFictoria #môr Disgrifiad Gwales: Dwi'n casau Robat Wyllt. Bron iawn gymaint ag ydw i'n casau fy hun. Mwrddrwg ydy Twm. Dwyn. Twyllo. Bwlio. Mae o’n giamstar ar y cyfan. Ond mae rhywbeth ar goll, mae gwacter yn ei fywyd a does ganddo ddim syniad pam. Un noson dywyll, pan mae Twm y Lleidr wrth ei waith, daw wyneb yn wyneb â’i ffawd, a darganfod gwirionedd sydd mor ysgytwol, mae’n newid cwrs ei fywyd am byth. Dwi’n gyfarwydd â gwaith blaenorol yr awdur o fy nghyfnod ar y panel Tir na n-Og, lle ddaeth Sioned Wyn Roberts i’r brig hefo chwip o nofel gyntaf, Gwag y Nos. Roedd y llyfr yna mor dda, roedd ei hail nofel yn haeddu darlleniad yn awtomatig! Dwi’n cynnwys screenshot o dudalen gyntaf o Gwag y Nos er mwyn dangos pa mor effeithiol oedd y dudalen gyntaf. Mae’r awdur yn cychwyn yr ail nofel gyda rhywbeth tebyg hefyd. I wneud yn glir, nid dilyniant ydi Wyneb yn Wyneb, ond mae o’n bodoli yn yr un universe â nofel Gwag y Nos, fel petai, ac fe fydd ambell i gymeriad neu leoliad yn gyfarwydd. Mae Wyneb yn Wyneb yn cychwyn yn yr un lle, yn wyrcws Gwag y Nos. Uffern ar y ddaear os gofiwch chi, lle mae Nyrs Jenat ffiaidd a Robat Wyllt greulon yn teyrnasu dros y plant anffodus. Cawn glywed mwy am Robat Wyllt y tro hwn, a’r ffordd y mae’n rheoli drwy ofn a thrais. Mae’r nofel yn dechrau gyda’r prif gymeriad, Twm, yn esbonio sut mae o wedi bod yn gi bach i Robat Wyllt ofnadwy. Mae hwnnw wedi bod yn ei ben o, a dros amser, wedi ei droi’n was bach ffyddlon ac yn hen fwli mawr. Drwy fod yn right hand man i’r hen sglyfath, Robat Wyllt, mae Twm y lleidr wedi mwynhau tipyn o statws, ond mae’r gost wedi bod yn uchel i’w hunan-barch. Gyda phawb yn ei ofni, does ganddo’r un ffrind yn y byd, ac mae’n casáu ei hun am hynny. Er y down i wybod fod y wyrcws wedi troi Twm yn fachgen digon annymunol, fy nheimlad yw fod y backstory o sut y trodd yn fwli ei hun wedi cael ei frysio braidd. Faswn i wedi gweld hyn yn fwy credadwy petawn ni wedi gweld sut roedd Twm yn trin rhai o’r plant eraill. Ar ôl cael ei hel gan ei fos i Blas Bodfel i ladrata, caiff bywyd Twm ei newid am byth wrth iddo ddod wyneb yn wyneb â rhywun cyfarwydd, ond anghyfarwydd iawn ar yr un pryd. Ddweda i ddim mwy. Wedi dod i ddeall fod mwy i’r stori, a bod ei fywyd wedi bod yn gelwydd i gyd, mae Twm & co yn penderfynu dianc a mynd on the run. Efallai fod hyn fymryn yn anghredadwy o ystyried pa mor sydyn ddigwyddodd hyn? Ta waeth, roll with it, achos hyn sy’n gosod sail ar gyfer antur beryglus fydd yn mynd a nhw’n bell iawn – holl ffordd o Bwllheli draw i ddociau Lerpwl. Sôn am neidio o’r badell i’r tân! Cofiwch, does dim rhaid bod wedi darllen y llyfr arall er mwyn mwynhau Wyneb yn Wyneb, gan ei bod i bob pwrpas yn gweithio fel nofel ar ei phen ei hun. Wnes i ddim mwynhau’r nofel yma cweit gystal â’r llall os dwi’n bod yn onest; chafodd o jest ddim yr un fath o impact, ond roedd yn ddifyr cael dychwelyd i fyd y wyrcws unwaith eto. Eto, cefais fy atgoffa’n gryf o’r clasur, Street Child gan Berlie Doherty, wrth ddarllen y llyfr. Dwi’ siŵr ddaru’r prif gymeriad redeg i ffwrdd yn fanna hefyd. Mae steil ysgrifennu Sioned yn unigryw – yn hawdd i’w ddarllen, yn llafar ac yn naturiol, gan wneud defnydd o frawddegau byr, effeithiol. (does neb isio brawddegau hir a chymhleth o hyd nagoes? Get to the point ynde!) Gall yr iaith fod yn ddi-flewyn ar dafod ar adegau, sy’n gweithio’n dda. Gydag un Wobr Tir na n-Og dan ei belt, mae Sioned Roberts wedi profi ei bod hi’n un da am ‘sgwennu stori antur. Oes ‘na fwy i’w ddweud yn y byd yma tybed? Ai trioleg fydd hon?  Synnwn i ddim y bydd Robat Wyllt yn gandryll ar ôl digwyddiadau’r nofel, a bydd yn siŵr o fod yn ysu am gael dial... Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £7.99 Fformat: Clawr meddal

  • Pawb a Phopeth: Byd y Gymraeg / World of Welsh - Elin Meek

    ♥Llyfr y Mis: Medi 2023♥ (awgrym) oed diddordeb: 2+ (awgrym) oed darllen: 4+ DISGRIFIAD GWALES Croeso i fyd y Gymraeg – byd sy’n llawn geiriau, lliw, bywyd a chalon. Dewch ar daith i ganfod trysorau’r Gymraeg, o ystyr enwau lleoedd, i idiomau a diarhebion. Cewch grwydro maes yr Eisteddfod a dysgu am draddodiadau, taclo treigladau a phobi bara brith! Dyma lyfr godidog i blant ac oedolion i gael dysgu am Gymru a’r Gymraeg, a’i chyfraniad pwysig i’n byd. ADOLYGIAD GAN DIANE EVANS, ATHRAWES YMGHYNGHOROL Y GYMRAEG Mae Byd y Gymraeg yn daith i Gymru o fewn tudalennau llyfr Elin Meek gyda gwaith dylunio hyfryd Valeriane Leblond. O fewn y llyfr ceir gwybodaeth am y Gymraeg, rhai o’r pethau sy’n gwneud Cymru yn unigryw a geirfa Cymraeg am wyliau, baneri a chyfandiroedd y byd. Mae nifer helaeth o’r tudalennau yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gwaith Cwricwlwm i Gymru yn enwedig yn yr ysgolion mewn ardaloedd Seisnigaidd sy’n addysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Fe geir banc o eirfa ar gyfer Yr Urdd a’r Eisteddfod, geirfa storïau Cymru, bwyd traddodiadol ac ati. Rhywbeth gwahanol, ond defnyddiol yw’r cod QR ar gyfer y tudalennau Diarhebion, Cymariaethau ac Idiomau sydd yn ardderchog ar gyfer dysgwyr a’u rhieni, yn enwedig wrth roi cymorth i ynganu. I ddweud y gwir byddai hyn wedi bod yn handi ar gyfer mwy o’r tudalennau. Ar ddechrau’r llyfr, fel y disgwyl, mae’r dudalen gynnwys yn dangos  pump ar ugain o benawdau e.e. Does Neb fel fi! Dyma ddwy dudalen wych sy’n cyflwyno geirfa rhannau’r corff, y synhwyrau a berfau ac ansoddeiriau gyda nodyn i atgoffa bod ansoddeiriau’n treiglo’n feddal ar ôl yn. Defnyddiol dros ben ydy’r rhan Gwyliau a Dathliadau lle ceir chwe tudalen yn llawn o ddathliadau sy’n arbennig i ni yng Nghymru e.e. Diwrnod Owain Glyndŵr ond sydd hefyd yn cynnwys rhai cenedlaethol fel Diwrnod y Ddaear, Diwrnod Siocled y Byd, Mis Hanes Pobl Ddu. Gellir defnyddio tudalennau’r llyfr yn y cartref wrth gwrs ond maen nhw hefyd yn addas ar gyfer gemau cyflwyno a drilio geirfa yn y dosbarth e.e. dwy dudalen Y Nadolig. Beth am chwarae gêm Sblat*? *Oedolyn/athro i roi gair Saesneg a’r plentyn i bwyntio at y llun cywir gan weiddi “Sblat!” *Oedolyn/athro i roi gair yn Saesneg a’r plentyn i bwyntio at y llun cywir ac enwi yn Gymraeg mor gyflym a phosib gan weiddi “Sblat!” Rhai syniadau eraill posib: * Dewis tudalen e.e.Yn y Ddinas. Plentyn i gael amser i edrych ar y geiriau/lluniau am 30 eiliad ac yna gweld faint ohonyn nhw maen gallu cofio. *Dewis un o’r lluniau fel pwll nofio ond peidio dweud p’run. Plentyn arall i geisio dyfalu gan ofyn “Wyt ti yn y theatr?” Ydw / Nac ydw. Mae hyn yn dysgu patrymau iaith holi ac ateb. Dyma lyfr lliwgar a defnyddiol gan Rily sy’n wych ar gyfer y cartref a’r ysgol. Mae'n llawn lluniau a geirfa handi ar gyfer gwaith cartref neu ar gyfer ehangu geirfa personol. Mae cymaint o waith wedi mynd i mewn i greu a dylunio'r llyfr hardd yma. Yn bennaf wedi ei anelu at siaradwyr newydd/dysgwyr ond mae ganddo ddefnydd ar gyfer siaradwyr cynhenid ifanc hefyd, megis plant ifanc. Mae’r tudalennau prysur a lliwgar yn siŵr o annog trafodaeth. Mi fydda i yn argymell y llyfr yma i athrawon sydd â sgiliau Cymraeg cyfyngedig ond sy’n gorfod addysgu’r Gymraeg fel pwnc. Dwi wedi rhoi ‘chydig o syniadau o dasgau posib, ond wir yr, mae’r posibiliadau’n ddi-ben draw hefo adnodd mor hyblyg. Cyhoeddwr: Rily Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £12.99 Fformat: Clawr Caled AM YR AWDUR: ELIN MEEK https://llyfrgelloedd.cymru/wp-content/uploads/2023/12/Elin-Meek-Ion_C1-scaled.jpg

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page