RHEOLAU A THELERAU
Diolch am ysgrifennu neu ffilmio adolygiad ar gyfer Sôn am Lyfra. Cyn i'r adolygiadau ymddangos ar ein gwefan, gwnewch yn siwr eich bod wedi darllen y wybodaeth yma.
​7. Mae gennym hawl i dynnu’r adolygiad oddi ar y wefan ar unrhyw adeg.
8. Bwriad ein gwefan yw hyrwyddo llyfrau Cymraeg i blant, ac felly, wrth reswm, dylid ceisio cadw adolygiadau’n bositif, ond rydym hefyd eisiau i chi fod yn onest. Trïwch gadw cydbwysedd yn yr adolygiad.
​
9. Byddwch yn barchus bob amser wrth greu adolygiadau.
10. Drwy ei yrru i ni, rydych yn rhoi caniatâd i ni ei ddefnyddio mewn unrhyw fodd. Os oes problem, cysylltwch â ni.
11. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, y ffordd orau i gysylltu yw trwy e-bost, ar: sonamlyfra@aol.com
1. Rhaid cael caniatâd rhiant er mwyn cyfrannu adolygiad os ydych o dan 16 oed. Gellir gwneud hyn drwy lenwi'r ffurflen yma.
2. Rydych yn derbyn eich bod yn hapus i’ch adolygiad a rhai manylion gael eu cynnwys ar y wefan gyhoeddus.
3. Byddwn ni’n sicrhau ein bod yn diogelu’ch data personol.
4. Nid ydym yn gaddo cynnwys yr adolygiad ar y wefan, na phryd, ond fe wnawn ein gorau glas i sicrhau fod hyn yn digwydd.
5. Yn anffodus, ni fydd unrhyw dâl yn cael ei wneud i gyfranwyr am yr adolygiad.
6. Mae gennym yr hawl i newid ac addasu'r adolygiad i sicrhau ei fod yn addas/weddus i’r wefan.
​