Y Tîm
Morgan Dafydd
Graddiodd Morgan o Brifysgol Bangor mewn Daearyddiaeth BSc cyn mynd ymlaen i wneud cwrs TAR Cynradd 3-7 oed yno.
Ar ôl hyfforddi fel athro cyfnod sylfaen, mi aeth ymlaen i ddysgu Blynyddoedd 3-6 (CA2) yn Nolgarrog. Yn ystod ei gyfnod fel athro, ymgymrodd Morgan â gradd meistr gyda Phrifysgol Caerdydd yn edrych yn bennaf ar sgiliau darllen a deall dysgwyr cynradd yn defnyddio'r dull darllen cilyddol.
Erbyn mis Medi 2019 mae Morgan wedi gadael llawr y dosbarth a bellach wedi cychwyn ar PhD llawn amser, wedi ei gyllido gan y Cyngor Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor, sy'n edrych ar ddatblygu adnoddau darllen dwyieithog. Yn ogystal â hyn, mae Morgan yn aelod o griw gwirfoddol bad achub Conwy.
Dr Llio Mai Hughes
Graddiodd Llio o Brifysgol Bangor gyda gradd yn y Gymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yn 2013. Aeth yn ei blaen i gwblhau MA Ysgrifennu Creadigol ac yna PhD ar agweddau o'r Theatr Gymraeg, 1945-79 (a ariannwyd gan yr AHRC). Cyhoeddwyd ei stori fer 'Beth Os?' yn y gyfrol Cariad Pur (2015) ac mae'r stori bellach yn rhan o'r maes llafur Lefel A Cymraeg: Ail Iaith (CBAC.)
Enillodd y gystadleuaeth Llên Meicro yn Eisteddfod yr Urdd 2015 a 2016 ynghyd â thlws coffa Jennie Eirian Davies. Hefyd, enillodd y wobr gyntaf am gyfansoddi drama dan 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015. Mae hi bellach yn gweithio i Gyngor Gwynedd fel Swyddog Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg ac yn mwynhau bod yn aelod o bwyllgor Theatr Fach Llangefni, yn ogystal â chyfarwyddo.
Y Tîm
Dewch i weld pwy sy'n rhan o
Sôn am Lyfra