top of page

Y Bachgen â Blodau yn ei Wallt/The boy with flowers in his hair - Jarvis [addas. Awen Schiavone]

*For English review, see language toggle button*


(awgrym) oed diddordeb: 3-7

(awgrym) oed darllen: 4/5+

Addasiad Cymraeg o 'The Boy with Flowers in His Hair'

 
Stori annwyl am gyfeillgarwch rhwng dau fachgen drwy gyfnod anodd.

Mae pawb yn y dosbarth wrth eu bodd gyda Deio, y bachgen gyda blodau yn ei wallt. Mae adroddwr y stori, sy’n aros yn ddienw, yn mwynhau treulio amser yn ei gwmni, ac mae’r ddau yn cael llawer o hwyl yng nghwmni ei gilydd.


Un diwrnod, mae petal yn dod yn rhydd. Arwydd o bethau i ddod...


Dydi’r llyfr ddim yn rhoi manylion am beth achosodd i’r holl betalau ddisgyn o wallt Deio, ond mae’r ffaith ei fod yn dewis gwisgo het o hyn allan a’r newid amlwg yn ei bersonoliaeth yn arwydd fod rhywbeth o’i le. Rŵan, cawn fachgen tawelog, distaw a thrist - yn wahanol iawn i’r bachgen bywiog ar ddechrau’r stori. Wyddwn ni ddim pan, ond mae o fel petai ei ‘sbarc’ wedi diflannu.


Digon posib fod y petalau’n disgyn oherwydd rhyw ddigwyddiad tu allan i’r ysgol, efallai mater teuluol neu rywbeth arall sy’n ei ddigalonni. Dwi’n cytuno efo dewis yr awdur i beidio â dweud wrthym, achos mae’n gadael lle i gael trafodaeth am y math o bethau fyddai’n gallu achosi loes iddo. Dwi’n gwybod o brofiad bod stress neu drawma yn gallu cael effaith corfforol, gweledol arnom. Os dwi dan bwysau mawr, dwi’n dueddol o gael itchy scalp. I ryw raddau felly, mae’n gwneud synnwyr fod Deio’n colli ei betalau wrth iddo fynd drwy gyfnod anodd.


Gan ei fod bellach yn edrych yn wahanol heb ei gnwd o wallt amryliw, a’i ben yn frigau pigog i gyd, tydi rhai o’r plant ddim eisiau dim i’w wneud ag ef, ond mae ei ffrind ffyddlon a thriw yn mynd ati i ddyfeisio ffyrdd o wneud iddo deimlo’n well. “I’ve got you, buddy” yw’r neges, ac mae’n hynod o annwyl. Meddwl oeddwn i ella fod y llyfr yn lled-awgrymu sgil-effaith triniaeth cancr fel y rheswm dros golli ei ‘wallt’ ond gall fod yn unrhyw beth mewn gwirionedd.



Trwy’r da a’r drwg

Neges syml y stori yw bod cyfeillgarwch go iawn, yn golygu gofalu am eich gilydd beth bynnag ddaw -nid jest yn ystod yr amseroedd da, ond pan mae’r cymylau duon uwchben hefyd.


Ai jest fi ydi o, neu ydi pobl eraill yn gwirioni hefo llyfrau clawr caled? Mae’r lluniau lliwgar syml yn erbyn y cefndir plaen, gwyn yn gweithio’n dda. Yn y dyddiau lle mae llyfrau’n fwyfwy dros-ben-llestri, roedd hi’n neis bod steil y llyfr yn fwy toned-down (ac yn fy atgoffa o lyfrau clasurol fel Y Teigr a Ddaeth i De). Chewch chi ddim problem darllen y testun, gan ei fod o mor glir. Biti fasa mwy o lyfrau i blant mor hawdd i’w ddarllen.

Un o’r pethau gorau am y stori yw ei fod wedi cael ei adael yn fwriadol amwys, ac o ganlyniad, gall y stori weithio fel cerbyd i drafod nifer fawr o bethau. Mae’r syniad o dderbyn pobl, fel ac y maen nhw, sut bynnag maen nhw’n edrych, yn eithaf amlwg.



Dw i heb ddarllen y stori gyda phlentyn ifanc, ond sgwn i oes angen help oedolyn i esbonio ystyr dyfnach y petalau’n disgyn? Byddai’n ddiddorol clywed gan unrhyw un sydd wedi rhoi cynnig arno. Wnaeth y plentyn ddeall y syniad y tro cyntaf neu oedd angen eglurhad?


Prif themâu/negeseuon:

· Salwch/trawma/iselder

· Cyfeillgarwch / ffrindiau da

· Helpu eich gilydd/ dangos empathi

· Derbyn pobl sy’n wahanol / cynhwysiad / dathlu amrywiaeth



 

Gwasg: Rily

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £7.99

Fformat: Clawr Caled

 

bottom of page