top of page

Mi wnes i weld mamoth / I did see a mammoth! - Alex Willmore [addas. Casia Wiliam]

*For English review, see language toggle switch on top of web page*



(agwrym) oed darllen: 6+

(awgrym) oed diddordeb: 3-6

 

Presanta ‘Dolig!


Adeg yma o’r flwyddyn, dwi fel arfer mewn mad dash yn chwilio am lyfrau i roi’n anrhegion i’r plantos bach yn y teulu. Tydi ‘lenni ddim gwahanol. Dwi ddim yn cael trafferth ffeindio rhywbeth i’r ferch, ond mae’r hogia yn anoddach i’w plesio rhywsut lle mae darllen yn y cwestiwn. Llyfr i neud i ni chwerthin oedd y nod. Llynedd, Disco Dolig Dwl aeth a hi, ond ‘lenni, Mi wnes i weld Mamoth sy’n tynnu fy sylw. Llyfr perffaith fel stocking filler.


Fel arfer dwi’m yn rhy keen ar lyfrau Nadolig-benodol, ond dim llyfr am y Nadolig ydi hwn per se, (ond mae ‘na eira ynddyfo) felly mi wneith y tro os ‘na dyna ‘da chi isio!


Peidiwch â meddwl mai llyfr dwys, difrifol gewch chi fan hyn; yr unig beth sydd yma ydi dipyn bach o hwyl wirion a diniwed... a lot fawr o bengwiniaid!

Croeso i’r Antarctig!


Ar expedition (alldaith yw’r gair Cymraeg apparently!) i’r Antarctig, mae criw dewr yno’n brwydro’r oerni er mwyn astudio pengwiniaid. Lot fawr o bengwiniaid. Pengwiniaid o bob math. Ond does gan un anturiaethwr ifanc ddim mynadd efo rheiny – tydi o ddim wedi dod yno i weld adar, o na, achos mae o yn benderfynol ei fod am weld rhywbeth arall!


Oh no he isn’t... oh yes he is!


A dyna’r plot mewn gwirionedd. (oni’n deud fod ‘na ddim byd dwys yma doeddwn!) Mae’n stori ddoniol, ac yn un sy’n siŵr o apelio at y plant, wrth i’r creadur ymddangos o dro i dro mewn sefyllfaoedd gwallgo. Er i’r bachgen daeru’n daer, does dim o’r oedolion yn barod i’w gredu (siŵr fydd plant yn uniaethu â hyn). Mae’r syniad yn un hen ac yn un syml -ond effeithiol - sy’n chwarae ar y ffaith nad ydi oedolion yn gwrando ar blant. Jest fatha mewn panto!


Wrth gwrs, mae popeth yn newid pan mae pawb yn gweld... M..m..m MAMOTH!!!



Ddudish i do!


Mae’r llyfr yn lliwgar, ac mae’r steil yn gyfoes ac yn egnïol, bron fel darllen comic. Dydi’r stori ddim yn un hir ac mae’n gwneud i’r dim fel stori sydyn cyn mynd i’r gwely. Bydd digon o hwyl i’w gael yn edrych ar y pengwiniaid a’u hystumiau digri, a hwythau ddim rhy hapus fod ‘na eliffant blewog yn hawlio’r sylw i gyd!


Mae ‘na ddigon o sgôp i ‘neud dipyn bach o leisiau a dramatics wrth ddarllen, sy’n siŵr o’i neud yn fwy o hwyl. Roedd y twist mawr ar y diwedd yn ddisgwyliedig, ond roedd rhywbeth ar goll yn y diweddglo i mi.



Mi fydd ‘na rai oedolion fydd yn meddwl bod y stori’n un twp, a bod ail adrodd diddiwedd y gair ‘mamoth’ yn mynd yn annoying, ond dwi’n meddwl fydd plant ifanc iawn yn gweld yr ail adrodd yn help i gyd-ddarllen. Y ffaith ydi, mae plant yn hoff o ail adrodd.


Dwi’n licio’r dudalen olaf sy’n rhoi ‘chydig o ffeithiau am y creaduriaid go iawn – doeddwn i ddim yn gwybod nad oedden nhw’n byw yn yr Antarctig. Wel, does ‘na ddim tystiolaeth beth bynnag.


Mi oni’n darllen yn ddiweddar bod 'na wyddonwyr yn trio gneud clones o famothiaid (gair da, = mwy nac un mamoth) Pwy a ŵyr? Os fydd y gwyddonwyr yn llwyddiannus, ella gawn ni weld mamoth eto rhyw ddiwrnod...



 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £6.99

 

20 views0 comments
bottom of page