top of page

Ti a Dy Gorff - Adam Kay [addas. Eiry Miles]

*For English review, see language toggle button*

(awgrym) oed darllen: 9+

*mae adran ar atghenhedlu

(awgrym) oed diddordeb: 9-14

Lluniau: Henry Paker

 
Anghofia’r gwersi bioleg diflas ‘na – dyma’r unig lyfr wyt ti ei angen am y corff. Mae ei berfeddion yn byrstio efo ffeithiau difyr a dwdls doniol. Hefyd, mi fyddi di’n gwybod llwyth o bethau doeddet ti ddim o’r blaen, a wnei di ddim hyd yn oed sylweddoli dy fod ti’n dysgu!

Y peiriant gora’ fu erioed

Ydach chi erioed wedi meddwl pa mor anhygoel yw’r corff dynol? Mae o fel gorsaf bŵer, cyfrifiadur, peiriant a ffactori mewn un, yn gweithio’n hynod o effeithiol y rhan fwyaf o’r amser. A phan mae pethau’n mynd o’i le, mae ganddo hyd yn oed y gallu i drwsio ei hun! Waw.


Cyn i’r rhieni neu athrawon gwyddoniaeth ddechrau cwyno nad yw’r cynnwys yn ddigon ‘gwyddonol’ gan mai comedïwr yw’r awdur, efallai bydd yn syndod i chi wybod ei fod wedi bod yn ddoctor go iawn. Mi allwch chi ymddiried felly, ei fod o’n gwybod am be mae o’n sôn. Tydi hwn ddim fatha darllen yr hen werslyfrau llychlyd yn yr ysgol, achos mae steil y llyfr yn ysgafn a doniol. Er y dôn hwyliog, mae’n adnodd hynod o gynhwysfawr ac addysgiadol. Ar yr olwg gyntaf, edrycha fel llyfr swmpus dros ben, ond mae’r cynnwys yn hawdd i’w ddarllen. Mae lluniau cartŵn Henry Paker yn ychwanegu at yr hwyl ac yn torri’r testun yn ddarnau byrrach sy’n haws eu darllen.


Canllaw cyflawn (a ffiaidd!)

Wrth ein tywys o amgylch y corff dynol yn ei holl ogoniant, mae’r awdur yn drylwyr tu hwnt, gan holi nifer o arbenigwyr ar hyd y ffordd. Cawn ymweld â nifer o wahanol rannau o’r corff, gan gynnwys y prif organau, yr esgyrn, y cyhyrau a’r croen i enwi dim ond rhai.



Fel un sy’n hoffi bwyd, mi wnes i wir fwynhau’r darnau sy’n trafod y system dreulio a thaith y bwyd holl ffordd o’r geg, nes iddo ddod allan o’r pen arall yn y rectwm (ia, dwi’n dilyn esiampl y llyfr ac yn defnyddio’r termau gwyddonol cywir). Nid pob llyfr sy’n gallu brolio’r ffaith fod ganddo ddarn cyfan i drafod pwps! (neu ysgarthion i fod yn hollol gywir) Dwi’n siŵr bydd sawl un yn mwynhau’r darn yma.


Mae’n werth nodi, fel unrhyw lyfr gwerth ei halen sy’n trafod y corff, fod y llyfr yn ymweld â’r system atgenhedlu. Wrth reswm felly, mae diagramau yn trafod rhannau fel y fwlfa, y pidyn a’r ceilliau, ynghyd a’r broses cenhedlu. Dwi’n credu’n gryf ei bod hi’n bwysig i blant gael y wybodaeth wyddonol, gywir, er mwyn osgoi camddealltwriaeth neu gamsyniadau. Wedi dweud hyn, mater i rieni fydd penderfynu os ydynt yn teimlo fod y cynnwys yn addas. (Yn fy marn i fel athro, mae o.)



Ydi snot yn iawn i’w fwyta?

Os wyt ti erioed wedi gorwedd yn dy wely yn meddwl am gwestiynau mawr y bydysawd, mae’n eithaf posib wnei di ffeindio’r atebion yn y llyfr yma. Cwestiynau fel ydi snot yn saff i’w bwyta? Neu faint o dy fywyd wyt ti wedi ei dreulio’n eistedd ar y toiled? Gydag isadrannau difyr fel ‘cwestiynau Kay’ a ‘Gwir neu Gaca,’ rydach chi’n siŵr o ddarganfod ateb i gwestiynau na wnaethoch chi erioed feddwl eu gofyn!


Ar ôl llowcio Ti a Dy Gorff o glawr i glawr, dwi wedi dod i’r canlyniad fod y corff dynol y beth rhyfedd ar y diawl. Ond dwi hefyd wedi sylweddoli ei fod o’n hollol wyrthiol a rhyfeddol hefyd, felly cofiwch ofalu am eich corff chi – dim ond un gewch chi! Mae digon o dips ar sut i edrych ar ôl eich corff yn y llyfr, gyda llaw!


Os ydw i wedi llwyddo i’ch perswadio fod y llyfr yma’n osym, gwnewch ffafr i chi’ch hunain – bwydwch eich ymennydd drwy gael eich bachau ar gopi o’r llyfr bendigedig yma a byddwch yn barod i fynd o dan groen y corff dynol – y peiriant mwyaf rhyfeddol fuodd ‘na erioed!

Dwi’n falch iawn fod llyfrau fel hyn yn cael eu haddasu i’r Gymraeg. Yr union math o lyfr faswn i wedi bod isio ei ddarllen fel bachgen ifanc deg oed.



Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

 

Gwasg: Rily

Cyhoeddwyd: 2023

Pris: £8.99

Fformat: Clawr Meddal

 

BYWGRAFFIAD AWDUR: (gwybodaeth o Gwales)

Adam Kay is an award-winning writer and former non-award-winning junior doctor. His first book, This is Going to Hurt: Secret Diaries of a Junior Doctor, was a Sunday Times number-one bestseller for over a year and has sold over 2.5 million copies. It has been translated into 37 languages, was the winner of four National Book Awards, including Book of the Year, and has been adapted into a major comedy drama for BBC/AMC starring Ben Whishaw. His second book, Twas the Nightshift Before Christmas, was an instant Sunday Times number-one bestseller and sold over 500k copies in its first few weeks. His compilation, Dear NHS, raised over £400k for charity. His memoir Undoctored: The Story of a Medic Who Ran Out of Patients was published in September 2022. His first children's book, Kay's Anatomy, was published in October 2020 and became the fastest-selling children's general non-fiction hardback of the decade and rights across Kay's Anatomy and Kay's Marvellous Medicine have now been sold in 28 languages.


 



'The sort of book I would have loved as a child' - Malorie Blackman


'Like listening to a teacher who makes pupils fall about' - The Times


'Absolutely packed with facts... Entertaining and highly informative' - Daily Mail


'As brilliant, and revolting, as the human body it celebrates' - The i newspaper


'Totally brilliant!' - Jacqueline Wilson


'If only this funny and informative book had been around when I was too embarrassed to teach my kids about bodily functions' - David Baddiel


bottom of page