top of page

Y Llew Tu Mewn / The Lion Inside - Rachel Bright [addas. Eurig Salisbury]

*For English review, see language toggle switch on top of web page*


(awgrym) oed diddordeb: 2-7

(awgrym) oed darllen: 5+

Lluniau: Jim Field https://www.jimfield.me/

 
Twist modern ar un o chwedlau Aesop.

Un o picturebooks gorau'r ddegawd ddiwethaf, mae hwn yn edrych fel rhywbeth yn syth allan o fyd Disney. Bydd plant yn gofyn am gael ei ddarllen fwy nac unwaith!


Does dim rhaid i chi gymryd fy ngair i, mae’r llyfr wedi gwerthu mwy na 200,000 o gopïau ym Mhrydain a’i gyfieithu i dros 30 o ieithoedd! Tipyn o gamp i unrhyw lyfr.

“Dydi bod yn fach ddim yn hawdd bob amser.”

Mae’r llygoden fach wedi laru ar gael ei hanwybyddu a’i hanghofio, yn aml yn cael ei gwasgu dan droed gan ei bod mor fach. Ar y llaw arall, mae’r llew yn dipyn o geiliog dandi - yn llawn hyder ac yn gallu mynnu sylw holl anifeiliaid y Safana. Does ond rhaid iddo ruo’n uchel ac mae pawb yn ufuddhau. Dipyn o show-off ydi o mewn gwirionedd.


Un noson, caiff y lygoden fach syniad. Dymuna fod yn ddewr fel y llew, ac er ei bod yn gwybod yn iawn y gallai’r llew ei llyncu mewn ennyd, penderfyna fod yn ddewr a mynd i chwilio am y llew i ofyn am gymorth... Oh-oh!



“Mae’r lleiaf ohonom yn medru rhuo a bod yn ddewr.”

Ond, yn wahanol i’r disgwyl, mae’r llew yn ymddwyn mewn ffordd gwbl annisgwyl - mae’n ofn llygod bach am ei fywyd! Llwydda’r llygoden i berswadio’r llew nad oes dim i’w ofni ac nad oes raid iddo glochdar/wneud twrw er mwyn cael ei barchu. Dyma yw dechrau cyfeillgarwch go wahanol!

“Does dim rhaid i chi fod yn fawr ac yn ddewr i wneud gwahaniaeth...”


Mae’r llyfr yma jest yn HYFRYD – pleser pur i’w ddarllen. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â gwaith Jim Field, ewch i chwilio ar y we – mae ei steil mor unigryw- lluniau sy’n hynod o filmic ac yn gyfoes iawn. Hwn yw fy ffefryn!


Weithiau, dwi’n poeni bod addasiadau, yn enwedig rhai sy’n odli, yn gallu bod braidd yn awkward, ond mae Eurig Salisbury wedi gwneud job dda yma, gyda chyfieithiad sy’n llifo gystal â’r gwreiddiol.

“Clasur modern”


I unrhyw blentyn sy’n nerfus neu sy’n teimlo’n ddihyder, mi faswn i’n argymell y llyfr yma. Ond i fod yn onest, mae o mor dda, dylai pawb ei ddarllen. Mae’r negeseuon yn bwysig ac yn glir, ac mae stori’r llew a’r llygoden yn cyfleu hyn mewn ffordd ddealladwy i blant ifanc. Dangosa’r stori fod gan hyd yn oed yr unigolion mwyaf hyderus ac uchel-eu-cloch ofnau cudd weithiau. Hefyd, dyma ddangos nad oes rhaid bod yn fawr ac yn swnllyd i gael eich clywed, ac mae ‘na ddewrder yn llechu ym mhob un ohonom, beth bynnag ein maint! Mae gan bawb ran bwysig i’w chwarae yn y byd, cofiwch hynny.


Hwn di'r ffefryn gen i! Am spread!


Dim yn aml fyddai’n rhoi sgôr i lyfrau, ond mae hwn yn cael 10/10 gen i, heb os.





 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: 2015, 2020

Pris: £6.99

Fformat: Clawr meddal

 

bottom of page