top of page

Cymry o Fri! - Jon Gower

♥Llyfr Cymraeg Y Mis i Blant: Mawrth 2022♥


(awgrym) oed darllen: 9+ ,

(awgrym) oed diddordeb: 11+

Lluniau: Efa Lois https://efalois.cymru/en/

 

Gwlad Beirdd a Chantorion...

Mae’n bwysig ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, a pha ffordd well o wneud hyn na chyfrol fel hyn, sy’n edrych yn ôl ac yn dathlu rhai o’r merched a’r dynion hynod o Gymru sydd wedi gwneud eu marc ar y byd?

Yn Cymry o Fri fe gawn ni hanes 50 o Gymry anhygoel sydd wedi gwneud gwahaniaeth mewn amryw o ffyrdd ac wedi dangos i’r byd fod Cymru’n llawn talent!


Dwi’m yn gwybod sut mae mynd ati i ddewis y fath restr, (tipyn o job i’r awdur dwi’n siŵr) ond fe welwch yn syth cymaint o amrywiaeth sydd rhwng y cloriau, o orchestion Colin Jackson ar y cae ras hyd at ddylanwad Betty Campbell yn yr ystafell ddosbarth. Rhai yn hanesyddol ac eraill yn fwy diweddar. A dwi’n gwybod yn iawn fod ‘na ddigon o enwau ar ôl i lenwi sawl cyfrol arall hefyd!


Mae’r clawr yn apelgar ac mae’r llyfr wedi ei osod yn synhwyrol a thaclus, er ei fod yn gallu edrych braidd yn blaen weithiau o’i gymharu â bwrlwm rhai llyfrau diweddar fel Genod Gwych a Merched Medrus. Wedi dweud hyn, mae’r cyfresi hynny fel ‘Enwogion o Fri’ gan wasg Broga ar gyfer plant iau, a dwi’n meddwl fod y llyfr yma’n un sy’n gweddu’n well i gynulleidfa hŷn. Mae’n well gen i’r tudalennau lle mae ffotograff go iawn yn cyd-fynd â lluniau Efa Lois. Dwi’n licio gweld y person go iawn hefyd ond fi ‘di hynna.



Wyddoch chi...?

Oeddech chi’n gwybod mai Doctor oedd wedi annog Kyffin Williams i ddechrau peintio? Neu beth am y ffaith fod gan Barti Ddu gysylltiad â baner enwog y môr-ladron? Fe gewch chi’ch synnu be wnewch chi ddysgu drwy fflicio trwy’r tudalennau.


Dwi’n ffeindio dysgu am fywydau pobl eraill mor ddifyr (ella am fy mod i’n fusneslyd!) ond cofiwch, does dim rhaid darllen y llyfr o glawr i glawr ar unwaith, gallwch fynd a dod fel y mynnoch – beth am ddarllen am un Cymro neu Gymraes anhygoel bob diwrnod fel advent calendar?


O ddarllen am orchestion y Cymry rhyfeddol yma, a chan gofio mai gwlad fechan ydan ni, ‘da ni wedi cael cryn dipyn o ddylanwad ar y byd yn do? Mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol dydi!



 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £6.99

 

DYMA BETH OEDD GAN BETHAN GWANAS I'W DDWEUD HEFYD!




49 views0 comments
bottom of page