*For English review, see language toggle switch on top of webpage*
Lluniau: Chris Chatterton
(awgrym) oed darllen: 6+
(awgrym) oed diddordeb: 2+
Cymylau Duon
Mae Rachel Bright, awdur y llyfr hynod o lwyddiannus, Y Llew Tu Mewn, yn ei hôl gyda llyfr arall sydd yr un mor annwyl. Oes gennych chi boenwr bach yn eich tŷ chi? Os felly, dyma lyfr delfrydol i gynnal sgwrs am yr hen deimladau annifyr ‘na sy’n gallu codi i’r wyneb o dro i dro.
Dyma stori fach charming am ddinosor bach sy’n edrych ymlaen at antur gyffrous a phicnic blasus. Ond yn fuan iawn, daw’r cymylau duon i dywyllu ei ddiwrnod a rhoi stop ar ei hwyl. Oes ganddo ddigon o fwyd? Fydd o’n cael niwed yn y goedwig fawr? Mae pob math o bryderon yn chwyrlio yn ei ben.
Caiff y teimladau anxious yma eu mynegi fel ‘pili-palod’ yn y bol -cysyniad digon syml y bydd plant yn gallu ei ddeall. Dwi’n licio fod y llyfr yn defnyddio’r syniad yma fel trosiad i helpu i esbonio a thrafod pwnc sy’n gallu bod yn anodd ei ddisgrifio. Wedi dweud hynny, efallai bydd rhaid esbonio i’r plant lleiaf na fydd pili pala go iawn yn hedfan allan o’u bol! (dwi’n cofio darllen cerdd ‘sdalwm am hogyn o’r enw Bili Bolyn oedd yn bwyta lot o afalau - mi oni’n convinced wedyn fod 'na goeden fala am dyfu drwy fy mol os faswn i’n llyncu un o'r hadau!)
Mam y dinosor bach sy’n achub y dydd, ac mae ganddi gyngor doeth i’r poenwr bach. Dwi wedi colli cownt ar y nifer o weithiau mae mam a dad wedi dweud geiriau o gysur wrthyf pan roedd y felan arnaf. Weithiau, mae jest lleisio’ch pryderon a chael rhywun yno’n gwrando’n gwneud byd o wahaniaeth.
Pili-palod
‘Da ni gyd wedi eu profi nhw yn do? Teimladau rhyfedd neu anghyfforddus. Boed hynny ar ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol neu ar ôl symud tŷ - mae unrhyw sefyllfa newydd, annisgwyl neu’r unknown yn gallu deffro’r pili-palod yn y stumog.
A wyddoch chi be? Mae bod yn nerfus neu boeni am bethau weithiau yn gwbl naturiol, ond wrth gwrs mae rhai unigolion yn poeni’n fwy nac eraill. Yn ôl rhai ffigyrau, mae gor-bryder yn cynyddu ymysg plant a phobl ifanc, ac roedd hynny cyn y pandemig!
Yn sicr bydd y llyfr yma’n hanfodol i unrhyw un sydd â phlentyn ifanc sy’n poeni dipyn am wahanol bethau, ond i fod yn onest, ‘da ni gyd yn poeni o dro i dro, felly mae’r llyfr yn addas i’w ddarllen gydag unrhyw blentyn. Mae’n cynnig y sbardun i gael sgwrs am y teimladau hyn; sut i’w hadnabod a sut i geisio delio â hwy.
O ran y lluniau, maen nhw’n ddigon del. Wyddwn I ddim llawer am gelf i fod yn onest, a dwi un ai yn hoffi lluniau mewn llyfr, neu ddim. Mae’r rhain yn ciwt ac mae’r defnydd o liw yn effeithiol, gyda lliwiau tywyll yn disgrifio’r pryderon, tra bod lliwiau’n llenwi’r tudalennau wrth i’r poenau ddiflannu.
I mi, mae rhai o’r tudalennau’n teimlo reit ‘brysur’ oherwydd y ddwy iaith, ond dwi’n meddwl fod hynny’n bris bychan i’w dalu am gael llyfr dwyieithog. Mae’r galw am lyfrau fel hyn yn cynyddu, yn enwedig gan rieni di-Gymraeg neu rhai sydd â sgiliau Cymraeg cyfyngedig ond sy’n awyddus i helpu eu plant and I’m all for it! Drwy gynnig y stori yn y ddwy iaith, ochr yn ochr, gall hyn agor y drws i fwy o bobl at fwy o lyfrau Cymraeg. Ideal.
Mae sefyllfaoedd stressful yn anochel mewn bywyd, ac mi fydd pawb yn poeni am rywbeth rhywdro neu'i gilydd.
Mae’n rhaid i blant wybod fod hi’n ok i deimlo fel hyn weithiau, ond iddyn nhw beidio gadael i’r teimladau yma fod yn drech na nhw. I ddefnyddio syniad Rachel Bright -weithiau, rhaid i ni beidio dal ein gafael ar ein pili palas poeni, a rhaid eu gollwng yn rhydd!
Pen ar y bloc, roedd yn well gen i Y Llew Tu Fewn, ond mae Y Poenisawrws yn llyfr da, defnyddiol gyda neges bwysig i’r oes sydd ohoni ac mae’r lluniau’n neis!
Comentarios