top of page
Rhieni
Beth ydi Sôn am lyfra?
Yn bennaf, gwefan sy'n cynnwys adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yw Sôn am Lyfrau.
Mae hefyd yn ofod ar-lein i gael sgwrs am lyfrau. Mae gwybodaeth am awduron Cymraeg ar gael yma yn ogystal.
Sut fydd o'n ddefnyddiol i mi?
Bydd adolygiadau cynhwysfawr yn rhoi digon o wybodaeth i chi am lyfrau hen a newydd er mwyn eich helpu i benderfynu os yw llyfr yn addas. Gallwch glywed am y llyfrau mwyaf diweddar trwy'r wefan, ein cyfrif Twitter, Facebook ac Instagram!
Dwi ddim yn siarad Cymraeg...
Dim problem! Mae'r wefan yn berffaith i chi - yn enwedig os yw eich plentyn/plant yn mynd i ysgol Gymraeg.
Mae 100% o'n hadolygiadau yn ddwyieithog ac mae 87% o'r wefan ar gael yn Saesneg (heblaw am gynnwys a grëwyd yn allanol).
Pa wybodaeth sydd yn yr adolygiadau?
⦾⦾⦾⦾⦾ dim o gwbl
⦿⦾⦾⦾⦾ ychydig bach bach
⦿⦿⦾⦾⦾ ychydig
⦿⦿⦿⦾⦾ dipyn
⦿⦿⦿⦿⦾ dipyn go-lew
⦿⦿⦿⦿⦿ llawer iawn
​
☆☆☆☆☆ gwael iawn
★☆☆☆☆ gwael
★★☆☆☆ gweddol
★★★☆☆ da
★★★★☆ da iawn
★★★★★ Ardderchog/ffantastig!!
Rydym yn defnyddio system raddfa dotiau 0-5 i roi gwybodaeth i chi am gynnwys y llyfr. Os nad oes dotiau wedi'u lliwio, yna nid yw'n berthnasol.
​
Mae 1-2 dot yn golygu ychydig bach iawn ac ychydig yn ôl eu trefn. Mae 3 dot yn golygu dipyn. Mae 4-5 dot yn golygu fod dipyn go-lew a llawer.
​
Ar gyfer her darllen, mae hyn wedi'i seilio ar farn yr adolygwr yn unig ac yn cael ei gymharu ag oed darged y llyfr. (llai o dots- haws, mwy o dots - anoddach)
​
Ar hyn o bryd nid ydym yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gyfer y categorïau hyn
e.e. pa air rheg â ddefnyddir, pa ddarnau sy'n anodd, beth yw'r cyfeiriadau at ryw.
​
Cysylltwch os ydych yn meddwl fod rhywbeth ar goll.
Dwi'n dysgu Cymraeg!
Gwych! Da iawn chi! Mae llyfrau plant a phobl ifanc yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i bobl sy'n dysgu Cymraeg oherwydd fod y llyfrau'n fyrrach ac mae'r iaith yn haws.
Ewch at y dudalen adolygiadau ac edrychwch am lyfrau 12-14 neu 14+ i weld os oes un yn denu'ch sylw.
bottom of page