top of page

Sblash! - Branwen Davies

Updated: Feb 4, 2023

*For English review, see language toggle switch*


♥Llyfr y Mis i Blant: Tachwedd 2022♥



(awgrym) oed darllen: 11+

(awgrym) oed diddordeb: 10-14


 

Dwi'n llwyr gydnabod, nid fi yw cynulleidfa darged y llyfr yma. Yn ôl Gwales, llyfr ar gyfer darllenwyr rhwng 10 ac 13 oed ydi o, ond dwi’n deud 11-14+


Ella mod i ddim yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd erbyn hyn, ond dwi wedi bod yno (amser maith yn ôl!) ac i unrhyw un sydd wedi bod yn fwli, neu wedi cael eu bwlio, mi fydd y llyfr yn canu cloch.


Fel rhywun oedd yn ‘fwy’ na’i ffrindiau, yn anffodus mae gen i brofiad o'r ddwy sefyllfa- dwi wedi cael fy mwlio, a dwi wedi bod yn fwli. Petai gen i ond beiriant i fynd yn ôl mewn amser, mi fasa pethau’n wahanol iawn. Tydi’r profiad o gael eich bwlio byth yn eich gadael chi mewn gwirionedd, ac mae jest darllen stori Beca yn dod a hen deimladau poenus yn ôl i’r wyneb, hyd yn oed os yw’r cyd-destun yn wahanol.


Ar y tir, mae Beca’n lletchwith, a hithau’n destun hwyl i’r plant eraill. Mae hi’n darged amlwg i'r bwlis gan fod ei chorff yn wahanol i bawb arall, ac fe ddechreua’r nofel gyda’r plant yn tynnu ei choes am fod ganddi stretch marks.



Ond unwaith mae hi yn y dŵr, trawsnewidia yn llwyr. Yma, yn y pwll sy’n lloches iddi, teimla Beca’n saff ac yn gyffyrddus. Mewn dŵr, mae hi’n nofiwr gosgeiddig a medrus iawn - does neb yn ei blwyddyn gystal â hi. Pam felly mae hi wedi cadw ei champau a’i gorchestion yn gyfrinach rhag pawb?


Un o’r ringleaders sy’n gwneud bywyd Beca’n hunllef yw Siwan, y ferch ddelaf yn y flwyddyn. Mae hi'n mynd allan o’i ffordd i wneud bywyd yn ddiflas i Beca heb fod angen. O leiaf mae Beca’n saff yn niogelwch y pwll nofio... wel, dyna oedd hi’n feddwl...


Tydi Beca ddim ar ben ei hun yn llwyr, dwi’n falch o ddweud. Mae ganddi gnewyllyn bach o ffrindiau ffyddlon. Ond pan mae Jacob, ei ffrind, yn cychwyn mynd allan hefo Siwan, y gelyn, mae hyn yn creu dipyn o gur pen i Beca. Ar ôl digwyddiad hynod o gas, daw bywydau’r ddwy ferch at ei gilydd mewn ffordd annisgwyl.



Heb ddweud gormod, roedd hi’n ddiddorol gweld cip o fywyd Siwan, ac er mai hi yw’r ferch fwyaf poblogaidd, dydi bywyd ddim yn fêl i gyd iddi. Maen nhw’n dweud, dydyn, fod bwlis yn bobl anhapus go iawn.


Dros gwrs y nofel, gwelwn Beca druan ar ei hisaf, ond hefyd yn tyfu fel person ac yn dod drwyddi’r ochr arall yn gryfach person. Wrth iddi fagu hyder a dechrau derbyn ei chorff, fe ddaw yn hapusach yn ei chroen ei hun. Nid fairytale yw hwn chwaith, ac er na fedra Beca newid siâp ei chorff, mi all ddysgu i ddal ei phen yn uchel ac ymfalchïo yn yr hyn gall ei chorff gyflawni. Mewn ffordd, mae’r ‘bwlis’ yn dal o gwmpas yn y cefndir – mi fydd ‘na wastad haters, bydd, ond tydi Beca ddim yn gadael iddyn nhw effeithio arni yn yr un ffordd erbyn y diwedd. Mae hyn yn neges bwysig iawn i unrhyw un sy’n cael amser gwael ar hyn o bryd.

Carwch eich hunain a charwch eich gilydd, bobl.

Er mod i’n meddwl y bydd y nofel yn apelio fwy at ferched, dwi yn meddwl fod hwn yn llyfr y byddai pawb yn buddio o’i ddarllen, yn enwedig os ydach chi’n strydglo efo’ch hunanddelwedd, neu wedi cael eich bwlio (neu wedi bod yn fwli hefyd). Gobeithio iddo roi nerth i’r rheiny sy’n isel eu hysbryd ar hyn o bryd, ac os wneith o wneud i ni stopio, a meddwl, cyn dweud neu gwneud rhywbeth cas wrth berson arall, yna mi fydd y nofel wedi llwyddo yn fy marn i. Sylweddolais ar ôl darllen, cymaint o bwysau a disgwyliadau unattainable sydd ar bobl ifanc heddiw – merched yn enwedig – i edrych ac i ymddwyn mewn ffordd benodol, ac mae celeb culture ac apiau fel Instagram a TikTok wedi chware rhan fawr yn hyn. Dwi’n teimlo reit falch mod i wedi gorffen fy nghyfnod ysgol cyn i oes y mobile phones, Love Island a social media gyrraedd ei anterth.


Er bod y plot braidd yn syml ac yn cliché ar brydiau, mae’n sicr yn easy read – sy’n gwneud i chi feddwl ‘run pryd. Yn debyg o ran maint i’r llyfrau ‘stori sydyn,’ mae angen mwy o nofelau byrion fel hyn.

 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £5.99

 

DARLLENWCH ADOLYGIAD ALICE JEWELL,

AR BLOG Y LOLFA:


bottom of page