top of page

Chwilio

310 results found with an empty search

  • Dere i Dyfu gyda Dewi Draenog a Beca Broga - Adam Jones

    *For English review, see language toggle switch* Genre: #ffeithiol #CymraegGwreiddiol #garddio #natur #CyfnodSylfaen Oed diddordeb: 3+ Oed Darllen: 7+ https://www.adamynyrardd.cymru/en/home-page/ Ewch i chwilota’n y sied... Rŵan fod y gwanwyn wedi cyrraedd, ac mai’n dechrau brafio, mae hi’n amser i nôl y menig a’r trywel, ac ail-gychwyn yn yr ardd ar ôl seibiant y gaeaf. Buan iawn fydd yr ardd wedi llenwi â lliw unwaith eto. Gyda chymaint o distractions digidol erbyn hyn, mae hi’n hawdd seguro ar y soffa a threulio oriau o flaen rhyw sgrîn neu ddyfais. Ond mae Adam Jones on a mission – i ysbrydoli plant bach Cymru i fentro allan i’r ardd a rhoi cynnig ar dipyn o arddio! Wyddwn i ddim am weithgaredd sydd mor llesol i’r enaid a dweud y gwir. Mae garddio yn cynnig gweithgaredd hynod o ddiddorol, sy’n rhoi cyfle i ymgysylltu â byd natur, cael dipyn o awyr iach a gwneud ymarfer corff ‘run pryd. Be gewch chi well? Pan welais i fod y llyfr yma’n cael ei gyhoeddi, roeddwn i’n reit gyffrous, ac mi allwch chi weld bod yr awdur yn angerddol iawn dros yr achos. Er mai dim ond yn 2018 cychwynnodd Adam ei gyfrif instagram, dwi’n siŵr fod ganddo dros 10,000 o ddilynwyr erbyn hyn. Mae o wedi bod yn garddio ers yn blentyn felly mae profiad helaeth ganddo. A jest fatha fo, cael fy ysbrydoli gan genhedlaeth nain a taid wnes i, ac mi ddysgais i’r cyfan dwi’n ei wybod am arddio ganddyn nhw. Dere i Dyfu Gan ddefnyddio cymeriadau hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga, bwriad Adam yw cyflwyno garddio i’n plant lleiaf a’u rhieni. Er ei fod yn cadw pethau’n ddigon syml ac addas ar gyfer yr oedran, dyma lyfr cynhwysfawr, sy’n frith o ffeithiau, wedi eu amgylchynu gan arlunwaith lliwgar gan Ali Lodge. Syniad da dwi’n meddwl oedd cyfuno’r arlunwaith gyda ffotograffau go iawn, a diolch i Tanwen Haf am sicrhau eu bod yn asio’n berffaith. Wedi eu trefnu dan benodau synhwyrol, cawn gyngor syml ar gyfer sut i dyfu gwahanol bethau fel llysiau neu flodau. Rhaid i mi ddweud, doeddwn i ddim yn gyfarwydd gyda thermau fel ‘rhaca’ (cribin ‘da ni’n ddeud yn y Gogs) ac efallai bysa hi wedi bod yn fanteisiol cynnwys y ddau derm ochr yn ochr i osgoi dryswch. Ta waeth, hollti blew ydw i yn fanna. Yn ogystal â chyfarwyddiadau clir gam wrth gam am sut i hau hadau ac i blannu, mae Adam yn esbonio pwysigrwydd rhai o’r creaduriaid hollbwysig sydd i’w canfod yn ein gerddi. Un o’r rhain yw y draenog. Yn ôl rhai adroddiadau mae nifer y draenogod yn y DU wedi disgyn 75%, felly roeddwn i’n falch o weld cyfarwyddiadau ar gyfer creu gerddi draenog-gyfeillgar yn y llyfr. Beth wnewch chi dyfu ‘leni? Fedra i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw llyfrau fel Dere i Dyfu. Ein plant yw y dyfodol, a nhw fydd yn gyfrifol am y blaned ar ein hôl, felly mae meithrin perthynas agos a pharchus rhyngddyn nhw â byd natur o oedran ifanc yn hanfodol. A chofiwch, does dim angen allotments enfawr a raised beds ffansi i fwynhau’r profiad o dyfu planhigion. Dwi wedi gweld pobl mewn fflatiau yn tyfu tatws mewn potiau ar y balconi, felly does 'na ddim esgus. Ar y lleiaf, mi allwch chi dyfu cress mewn plisgyn wy ar silff y ffenest! Heb sôn am y sgiliau di-ri fydd y plant (a chi, o bosib) yn eu dysgu wrth arddio, jest meddyliwch pa mor dda fydd y tatw rhost a’r moron yn blasu yn y cinio dydd Sul, ar ôl y gwaith caled... Fuodd hi ‘rioed mor hawdd i ddechau garddio -mentrwch i’r ardd a rhowch gynnig arni! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN:9781800991309

  • Hanes yn y Tir - Elin Jones

    *For English review, see language toggle switch on top of webpage* ♥ Llyfr y Mis i blant: Hydref 2021♥ ♥Rhestr Fer TNNO 2022♥ Addas: 9-16 oed (CA2/3/4) Genre: #ffeithiol #hanes #Cymru #gwerslyfr Dyma farn Elin Williams (13 oed) am y llyfr... Llyfr am hanes Cymru yw hwn gan Elin Jones, sy'n mynd â ni ar daith o'r dechreuad cyntaf un (tua 5000 o flynyddoedd yn ôl pan ddechreuodd y bobl gyntaf esblygu, gan fyw mewn ogofâu) hyd at sefydlu'r Senedd ym Mae Caerdydd yn 1997. Ceir llawer o ddigwyddiadau diddorol eraill yn hanes Cymru rhwng y cloriau, megis hanes y Celtiaid a'r Rhufeiniaid, sefydlu Cristnogaeth yng Nghymru a'r eglwysi ddaeth yn sgil hynny, cestyll mawreddog yn cael eu hadeiladu, y Cymry a'u rôl yn y fasnach gaethwasiaeth, codi'r tollbyrth a hanes eu chwalu gan Ferched Beca cyfrwys, hanes ofnadwy y Welsh Not mewn ysgolion, y ddau ryfel byd, hawliau menywod, a llawer mwy. Hoffais y ffordd rannwyd y gyfrol, gyda phedair llinell amser yn dynodi'r gwahanol brif gyfnodau. Mae yma hefyd ddigon o luniau a diagramau diddorol; credaf fod hyn yn ysgafnhau'r cynnwys ac yn cadw ein diddordeb. Cyflwynir llawer o'r ystadegau ar ffurf siartau a lluniau, megis y map o Gymru sy'n dangos y twf yn nifer y rheilffyrdd dros gyfnod o amser – cymaint mwy effeithiol na rhestrau o rifau'n unig. Hoffais y clawr am ei fod yn lliwgar, yn cynnwys cymeriadau o wahanol gyfnodau, ac hefyd mae cynnwys y ddraig yn tynnu sylw. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at unrhyw silff lyfrau. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Barn Morgan Dafydd, Sôn am Lyfra... Dwi’m yn gwybod amdanoch chi, ond doedd gen i fawr i’w ddweud wrth y gwerslyfrau hanes llychlyd oedd ganddon ni yn yr ysgol uwchradd. Er mai’r 2000au cynnar oedd hi, roedden ni’n dal i ddefnyddio hen lyfrau sgryfflyd, diflas du a gwyn o’r 80au yn ein gwersi. Doedd y rhain yn gwneud fawr i danio chwilfrydedd na chyffroi unrhyw ddysgwr. Fe dreulion ni fwy o amser yn astudio gorchestion teulu brenhinol Lloegr ar draul ein hanes cyfoethog ein hunain. Wrth gwrs ei bod hi’n bwysig dysgu am hanes y byd rhyngwladol, ond dwi’n dal i deimlo bod bylchau mawr yn fy ngwybodaeth am hanes Cymru. Nawr, diolch i’r llyfr hwn, mae gen i gyfle i chwarae catch-up, ac i ddysgu o’r diwedd am gyfnodau o’n hanes sy’n ddieithr iawn i mi, megis Oes y Tywysogion. Fel athro, dwi’n croesawu’r adnodd cynhwysfawr yma, sy’n glanio just in time ar gyfer dyfodiad Cwricwlwm Newydd i Gymru. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae pob ysgol yn y wlad wedi derbyn copi o’r llyfr, sydd hefyd ar gael yn Saesneg, o dan y teitl History Grounded. Er bod ei ddefnyddioldeb yn yr ystafell ddosbarth y amlwg, mae hwn yn llyfr sydd ag apêl llawer ehangach. Bydd oedolion sydd â diddordeb yn hanes Cymru, ond sy’n chwilio am drosolwg o gyfnod eang yn gweld defnydd yn y fath lyfr. Mae sgôp yr adnodd yn anferth – fe aiff â’r darllenydd ar daith weledol drwy 5,000 o flynyddoedd a mwy. Yn ogystal â rhoi trosolwg bras, mae’r llyfr hefyd yn manylu ar rai cyfnodau, unigolion a digwyddiadau hynod, gan gynnwys ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith a hanes sefydlu Senedd Cymru. Drwyddi draw, dyma gyfrol sy’n cynnig taith weledol drwy hanes cyfoethog ac amrywiol ein gwlad, ac yntau’n llawn lluniau perthnasol ac engaging sy’n ychwanegu at y testun. Cawn gyngor doeth gan yr awdur ar ddechrau’r llyfr, ac mae’n ein hatgoffa’n gyson mai dyfalu ydi astudio hanes mewn gwirionedd. Er yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, doedden ni ddim yno i’w weld yn digwydd, felly rhaid i ni geisio rhoi’r darnau ynghyd fel rhyw fath o jig-so. Cawn hefyd rybudd nad yw hanes yn fêl i gyd, ac mae’n frith gyda chreulondeb, rhyfel a marwolaeth. Rhaid hefyd cofio fod safbwyntiau unochrog a thuedd yn bodoli wrth astudio hanes, gan mai dynion pwerus a chyfoethog oedd fel arfer yn cofnodi hanes. Er bod ambell i dudalen yn sôn am gaethwasiaeth, mi faswn wedi hoffi gweld mwy yn trafod y rhan y chwaraeodd Cymru yng nghyfnod gwladychiaeth (colonialism). Er ei fod yn bwnc anghyfforddus, mae’n bwysig trafod y rôl y chwaraeodd rhai unigolion megis Thomas Picton, Sir Benfro neu Henry Morton Stanley, Dinbych yn y fasnach gaethion. Mae cerfluniau sy’n clodfori eu gorchestion yn dal i sefyll yn ein cymunedau heddiw, ond rhaid i ni gydnabod fod ochr tywyll i’w bywydau hefyd. Yn hytrach nag osgoi, anwybyddu neu ddileu hyn, mae’n bwysig cael sgwrs gyhoeddus am y peth mewn ffordd agored. Efallai bod cyfle wedi ei golli yma i wneud hyn. Dwi’n cydnabod ei bod hi’n amhosib ffitio popeth i mewn i un gyfrol, ond mae’n deg dweud fod yr awdur wedi gwneud gwaith diwyd a thrylwyr iawn yma. Yn anffodus, does ganddon ni ddim fath beth â pheiriant amser, ond mae’r llyfr yma’n dod reit agos! Agorwch y clawr ac ewch ar siwrne’n ôl drwy hanes Cymru, yr hanes sydd yn y pridd; sy’n perthyn i ni gyd. Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Medi 2021 Pris: £16.50 Fformat: Clawr Caled ISBN: 9781845278311 Ar gael yn Saesneg: History Grounded AM YR AWDUR: ELIN JONES Bu Elin Jones yn dysgu yn ysgolion uwchradd Preseli, Rhydfelen a Chwm Rhymni cyn cael ei phenodi’n swyddog addysg yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn y swyddi hyn i gyd roedd disgwyl iddi gynefino â phob cyfnod o hanes Cymru, a chafodd gyfle i gyd-weithio gydag arbenigwyr ac i baratoi adnoddau ar gyfer dysgwyr o bob oedran a gallu. Ym 1996 dechreuodd wneud gwaith ymgynghorol gydag Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, gyda chyfrifoldeb dros reoleiddio’r cymwysterau hanes, datblygu’r cwricwlwm hanes a’r dulliau o’i asesu, a chomisynu adnoddau dysgu hanes hefyd. Bu’n cadeirio’r tasglu oedd yn gyfrifol am baratoi’r adroddiad i’r Gweinidog Addysg ar Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru yn 2013. Mae’n westai poblogaidd wrth drafod straeon a chymeriadau o hanes Cymru ar raglenni Radio Cymru.

  • Y Bwystfil a'r Betsan - Jack Meggitt-Phillips (addas. Elidir Jones)

    *For English review, see language toggle switch on top of webpage* Lluniau: Isabelle Follath Oed diddordeb: 7+ Oed darllen: 9+ Genre: #dirgel #arswyd #thriller #doniol #ffantasi #ffuglen Y gŵr sy’n 511 oed! Yn aml iawn, ’da ni’n mynd i dipyn go lew o drafferth i edrych yn ddel ac i aros yn ifanc, dydan? Mae'r rhesi a rhesi o nwyddau harddwch ar y silffoedd yn Boots yn destun i hynny. Ond y cwestiwn mawr ydi – wrth i chi fynd y hŷn, pa mor bell fasa chi’n fodlon mynd er mwyn cadw’ch youthful looks? Dyma’r benbleth sydd gan Heddwyn Ploryn, ac yntau o fewn trwch blewyn o ddathlu ei ben-blwydd yn 512 oed! Achos, ’da chi’n gweld, mae’r ceiliog dandi yma wedi llwyddo i aros yn handsome ac yn ifanc ar hyd ei oes. Ond sut ar y ddaear mae rhywun mor oedrannus yn stopio’u hunan rhag mynd i edrych fatha rhywbeth allan o The Mummy? Wel... Perthynas go ryfedd Drwy hap a damwain, mae Heddwyn wedi taro bargen gyda bwystfil go annifyr, sy’n hen lwmpyn blonegog gyda thri llygad ddu a cheg llawn o ddannedd miniog. Fel rhan o’u trefniant cyfleus, caiff Heddwyn botelaid o hylif hudolus am bob pryd o fwyd blasus mae’n ddarparu i’r bwystfil. Dyma sy’n cadw ei wyneb mor smŵdd â phen-ôl babi! Ond mae ’na catch (does ’na wastad!) Y ffafr ofnadwy! Fel ni, laru mae’r bwystfil ar fwyta’r un peth bob tro ac fe aiff yn farusach gyda phob pryd! Mynna’r creadur boliog, slei gael danteithion newydd bob tro. Am ddod ag amrywiaeth o eitemau ato, fe gaiff Heddwyn ei wobrwyo’n hael gyda phob math o anrhegion crand a moethus. Ar ôl sglaffio’i ffordd drwy eitemau o bob math, gan gynnwys un aderyn egsotig, prin iawn, dydi hi’n fawr o syndod pan mae’r bwystfil yn datgan ei fod am gael trio rhywbeth newydd i de – plentyn bach juicy a chrwn! Yndi, mae Mr.Ploryn wedi gwneud pethau ofnadwy trwy gydol ei oes, ond bwydo plentyn i’r creadur? Tydi o ’rioed wedi gwneud unrhyw beth cweit mor erchyll â hynny! Diolch byth felly, fod ganddo jest y peth i wlychu gweflau’r creadur - y plentyn amddifad mwyaf digywilydd, direidus, drwg a snotlyd welsoch chi! Ond wrth dreulio mwy o amser yng nghwmni Betsan, tybed fydd o’n gallu parhau â’i gynllun ffiaidd er mwyn achub ei groen ei hun? Dorian Gray meets Little Shop of Horrors Mae’n hawdd gweld o le daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y llyfr yma. Dipyn bach o bob man a dweud y gwir. Mae ’na gymariaethau â’r man-eating plant sy’n gweiddi “Feed me, Seymour” o’r sioe gerdd Little Shop of Horrors. Mae o hefyd yn fy atgoffa o Dorian Gray, y dyn sy’n obsessed hefo edrych yn ifanc beth bynnag y gost. Mae ’na source material ac ysbrydoliaeth digon tywyll yma, wedi ei becynnu fel llyfr i blant llawn hiwmor macabre a sarcastig, sy’n efelychu steil Roald Dahl! Mae Jack Meggitt-Philips, awdur a sgriptiwr newydd a thalentog, wedi creu clasur modern yma, dwi’n siŵr o hynny. Yn aml iawn, mae ’na dueddiad i addasiadau deimlo braidd yn stiff (dim jest fi sy’n deud hyn) ond mae’n rhaid canmol Elidir Jones ar ei waith yma. Mae’r addasiad yn hynod o driw i’r gwreiddiol ond mae’n sefyll yn gadarn ar ei draed ei hun. Prin y sylwais ei fod yn addasiad o gwbl i fod yn onest. Nes i wir fwynhau hwn, a dwi’n ysu i roi trial run iddo gyda dosbarth o blant tro nesa bydd gen i waith llanw! Dwi’m yn un am roi sgôr fel rheol, ond mae hwn yn cael 9.5 allan o 10 gen i!! Dyma lyfr gwreiddiol iawn, llawn dychymyg, sydd â balans da o ofn, dirgelwch a hiwmor sych – ychwanegiad ardderchog i’r casgliad o lyfrau ‘middle grade’ i’r grŵp oedran 9-11. A wyddoch chi be? Heb ddatgelu gormod, mae’r diweddglo’n gwneud i mi feddwl y bydd ’na sequel – gobeithio wir! Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £7.99 ISBN: 978-1-80106-084-4 Addasiad Cymraeg o 'The Beast and the Bethany' GAIR GAN YR AWDUR... Jack Meggitt Phillips is an incredibly exciting new talent. He is an author, scriptwriter and playwright whose work has been performed at The Roundhouse and featured on Radio 4. He is scriptwriter and presenter of The History of Advertising podcast. In his mind, Jack is an enormously talented ballroom dancer, however his enthusiasm far surpasses his actual talent. Jack lives in north London where he spends most of his time drinking peculiar teas and reading PG Wodehouse novels. Isabelle Follath is an illustrator who has worked in advertising, fashion magazines and book publishing, but her true passion lies in illustrating children's books. She also loves drinking an alarming amount of coffee, learning new crafts and looking for the perfect greenish-gold colour. Isabelle lives in Zurich, Switzerland.

  • Lledrith yn y Llyfrgell - Anni Llŷn

    *For English review, please see language toggle switch* Addas: 6+ oed Genre: #storisydyn #antur #hudalledrith Diwrnod y Llyfr 2022 ’Da ni gyd yn gwybod pa mor bwysig ydi darllen dydan? Mae darllen yn ffordd wych o fwydo’r ymennydd a’ch tywys i unrhyw le yn y byd (a thu hwnt!), heb adael eich ystafell fyw! Yn anffodus, ’da ni gyd yn byw bywydau mor brysur, gyda chymaint o distractions, weithiau mae’n gallu bod yn anodd gwneud amser i setlo lawr i ddarllen. Ond mae’n bwysig i ni drio gwneud. Yn anffodus tydi pawb ddim mor lwcus i gael cyflenwad o lyfrau diddorol ac apelgar i’w darllen chwaith. Dyna pam dwi wrth fy modd gyda Diwrnod y Llyfr a’r syniad tu ôl iddo. Ar y diwrnod yma, ’da ni’n dathlu popeth sy’n YM-EI-SING am lyfrau – o’r awduron i’r darlunwyr, o’r siopau llyfrau i’r llyfrgelloedd. Fyddwch chi’n gwisgo fyny fel eich hoff gymeriad ’leni? Dwi’n meddwl y byswn i’n dewis cymeriad y Pry Bach Tew neu Mr Twit o bosib!! Ar gyfer 2022, mae un o’n hawduron aml dalentog, Anni Llŷn, wedi ’sgwennu stori sydyn o’r enw Lledrith yn y Llyfrgell. A wyddoch chi be? Mi allwch chi gael eich bachau ar hwn am llai na phris torth o fara! Da de! Ewch i fachu copi cyn iddyn nhw ddiflannu. Llanswyn-ym-Mochrith Nid pentref arferol yw hwn, o na! Mae’n llawn dop o gymeriadau rhyfeddol iawn. A beth sy’n gwneud y trigolion yma mor wahanol i chi a fi? Wel, mae gan bob un wan jac rhyw allu i wneud hud a lledrith. Pawb heblaw Chwim, y llyfrgellydd druan. Ond er nad ydi hi’n gallu gwneud triciau, mae hi yn gallu darllen... ac mae hynny’n eitha sbeshal ynddo’i hun, dydi. Pan mae dosbarth o blant anhrefnus a’u hathro anobeithiol yn dod i ymweld â’r llyfrgell, mae pethau go ryfedd yn dechrau digwydd wrth i Chwim agor y cloriau a chychwyn darllen... Tybed ydach chi wedi profi hud a lledrith fel hyn wrth ddarllen? Os ’da chi am wybod sut mae’r llyfrgellydd dewr yn cael y gorau ar yr hen inspector cas, Mrs Surbwch, neu am gael clywed os ydi Sali Mali’n llwyddo i ddianc o grafangau’r jagiwar, yna chewch chi mo’ch siomi â’r llyfr yma. (Wnes i ’rioed ddychmygu y byddwn i’n defnyddio ‘Sali Mali’ a ‘jagiwar’ yn yr un frawddeg!) Ar achlysur dathlu pum mlynedd ar hugain o Ddiwrnod y Llyfr, rydych chi ddarllenwyr lwcus yn cael y cyfle i fod yn berchen ar lyfr newydd sbon am £1! Bargen dduda i. Ac ar ôl i chi lowcio Lledrith yn y Llyfrgell, cofiwch fod ’na lond trol o lyfrau gwych eraill yn disgwyl amdanoch ar silffoedd y siop lyfrau. Ac hyd yn oed os nad oes gennych chi geiniog ar ôl yn y byd, mi fedrwch chi ddal i fwynhau llyfrau, a hynny AM DDIM, diolch i’n llyfrgelloedd gwych. Mwynhewch Ddiwrnod y Llyfr, a chofiwch wisgo fel eich hoff gymeriad a thynnu llun er mwyn lledaenu’r gair. Yna, soniwch wrth rhywun am eich hoff lyfr, boed hynny’n ffrind neu aelod o’r teulu, a gwnewch addewid, y gwnewch chi byth roi’r gorau i ddarllen. Does ’na ddim byd gwell na gweld geiriau’n dod yn fyw yn eich pen, a dim ond llyfrau sydd â’r gallu i wneud hynny! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: Diwrnod y Llyfr, Mawrth 2022 Pris: £1 (ia, dim ond £1!!!!) ISBN: 9781800992030

  • Gwil Garw a'r Carchar Crisial - Huw Aaron

    *For English version, use language toggle switch on top of page* Oed diddordeb: 5+ Oed darllen: 6+ Argymhelliad oedran y cyhoeddwr: 7-12 Synopsis: Cyn hanes, cyn y chwedlau, roedd...GWIL GARW! Ei swydd: i gadw trefn ar greaduriaid hudolus y Sw Angenfilod. Y broblem: Does dim diddordeb o gwbl gyda Gwil mewn heddwch. Wedi i'w dymer a'i chwilfrydedd roi'r byd mewn perygl, mae'n rhaid i Gwil, rywsut, ffeindio ffordd i wella pethau, mewn antur epig, llawn hiwmor a rhyfeddodau. Cicio yn gynta', gofyn cwestiynau wedyn! Dyna 'di problem Gwil Garw, ond fedrwch chi'm helpu ond licio'r cythral bach! Gwil Garw a’r Carchar Crisial Ella’ch bod chi’n cofio ei weld gyntaf yng nghylchgrawn Mellten, ond nawr, mae Gwil Garw wedi cael ei ‘lyfr’ ei hun sy’n dod â’r anturiaethau at ei gilydd! Nofel graffig yw hon (sy’n croesi llyfr ffuglen gyda chomig). A be di'r canlyniad ‘da chi’n gofyn? Ffrwydrad o liwiau a chyffro sy’n llawn “FSSHHWMS,” “SBLWSHYS,” “CROMPS” a “DWMFFS!” Casglwr angenfilod dewr (a ‘chydig bach yn nyts) o oes y Celtiaid yw Gwil Garw, sy’n cael ei yrru ar bob math o anturiaethau gan ei fos, Hemi ap Heilyn, perchennog sw Y Bwystfilariwm! (dim gwobr am ddyfalu beth sydd yno!) Caiff Gwil nifer o run-ins gyda sawl creadur peryglus, ond tydyn nhw’n poeni dim arno! Ar un o’i helfeydd, daw ar draws crisial arbennig (a pheryglus) iawn, ac mae rhywun wedi rhoi swyn pwerus arni i sicrhau bod beth bynnag sydd tu fewn yn aros yno! O diar mi, gobeithio fod rhywun wedi rhybuddio Gwil Garw am hyn cyn ei bod hi’n rhy hwyr?! Mae’r llyfr ei hun, gan gynnwys y clawr a’r tudalennau, yn amlwg o ansawdd da iawn. Peth od i’w ddweud ella, ond mae’n teimlo’n satisfying iawn i'w ddal, heb sôn am ei ddarllen! Mi geith hwn pride of place ar fy silff yn Sôn am Lyfra HQ! Hwre! Mae gynon ni nofel graffig yn y Gymraeg! Un peth mae’n RHAID ei bwysleisio - mae comics yn awesome! Wyddoch chi fod ’na lwyth o oedolion yn hoffi eu darllen hefyd, y ogystal â phlant? Ar ôl nofelau ffuglen a llyfrau ffeithiol, cylchgronau yw’r dewis mwyaf poblogaidd o ddarllen. Felly, cofiwch, mae darllen comics YN cyfri fel darllen ‘go-iawn’ ac mae’n bryd i’r stigma o’u cwmpas ddod i ben! Mae nofelau graffig fel hybrid o lyfr a comig, gyda thipyn o waith darllen a dweud y gwir, ond y peth da yw ei fod yn cael ei dorri i mewn i ddarnau llai. Yn wir, mae’n brofiad darllen gwahanol - ond diddorol - iawn. Os ‘da chi ddim fel arfer yn darllen yn Gymraeg, neu ddim yn keen ar nofelau, beth am roi cynnig ar nofel graffig fel Gwil Garw a’r Carchar Crisial? Gyda llaw, mae’r ddau lyfr arall yn y gyfres yn werth eu darllen hefyd! #mwyplîs Waeth i mi fod yn hollol onest, doedd gen i fawr o fynadd darllen nofelau pan oeddwn i’n iau, ond mi faswn i wedi LLYNCU hwn!!! (btw – dwi wrth fy modd yn darllen erbyn rŵan!) Mwy o blant yn darllen ers lockdown Diddorol oedd darllen adroddiad gan y National Literacy Trust, sef Children and young people’s reading engagement in 2021. [yma] Yn ôl hwn, mae mwy o blant yn mwynhau darllen na chyn y cyfnod clo (cynnydd o 17%). Bosib fod hyn achos eu bod wedi cael mwy o lonydd ac amser sbâr adref i ddarllen ‘er pleser.’ Tra bod hyn yn newyddion da, mae’n bosib mai effaith dros dro yw hyn a rhaid i ni beidio gorffwys ar ein rhwyfau yn ein hymdrechion i gael mwy o blant yn darllen (yn enwedig bechgyn!) Dyna pam dwi’n hapus iawn i weld mwy o amrywiaeth yn y ddarpariaeth ar gyfer darllenwyr 7-12 oed... Gwasg: Llyfrau Broga Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781914303036 MWY YN Y GYFRES..

  • Rhedeg yn gynt na'r cleddyfau - Myrddin ap Dafydd

    *For English review, please change language toggle switch on top of page* Oed diddordeb: 15+ / oedolion Oed darllen: 12+ (darllenwyr aeddfed) *cyfeiriadau anuniongyrchol at ymosodiadau rhywiol a thrais “Doedd yr Uwch-gapten William Parlby ddim mewn tymer rhy dda. A dweud y gwir, roedd croen ei din ar ei dalcen ers ben bore.” Chwarae teg iddyn nhw, mae Gwasg Carreg Gwalch wedi bod yn brysur dros y blynyddoedd diwethaf yn rhoi lot o sylw i gynhyrchu trysorfa o lyfrau yn ymwneud â hanes Cymru dros wahanol gyfnodau. Mae hyn yn beth da iawn o ystyried y pwyslais fydd ar ddysgu am hanes a thraddodiadau ein gwlad yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru. Mynd yn ôl i Oes Fictoria ydan ni’r tro hwn, i gyfnod terfysgoedd Beca yng ngorllewin a chanolbarth Cymru. Nid dyma’r tro cyntaf i ni ymweld â’r cyfnod cythryblus yma mewn llenyddiaeth i blant a phobl ifanc, gan i’r Brenin ei hun, T. Llew Jones, gyhoeddi nofel am y cyfnod ym 1974 o dan y teitl Cri’r Dylluan. Roedd honno’n chwip o nofel, felly tipyn o gystadleuaeth! Cefndir Hanesyddol Sydyn Heb fynd i ormod o fanylder a rhag ofn nad ydach chi’n gyfarwydd, dyma adeg lle'r oedd ffermwyr a gwerinwyr cefn gwlad Cymru yn gwrthryfela ac yn protestio yn erbyn tollau afresymol ar hyd lonydd Cymru. Yn y 1830au hwyr a’r 1840au cynnar, roedd gwerin bobl Cymru yn dlawd iawn. Roedd cyfres o gynaeafau gwael wedi arwain at gynnydd aruthrol yng nghostau byw ac roedd bywyd yn galed iawn. Ar ben hyn oll, roedd disgwyl iddynt dalu tollau uchel er mwyn cael defnyddio’r ffyrdd i symud nwyddau ac ati. Teimla’r ffermwyr eu bod yn cael eu trin yn annheg a’u gormesu, felly dyma fynd ati i weithredu. Roedden nhw’n mynd allan fin nos gan bardduo’u hwynebau a gwisgo dillad merched er mwyn llosgi’r tollbyrth, oedd yn arwydd o orthrwm, i’r llawr. beth sy'n digwydd? (heb sboilars) Mae’r dragŵns (milwyr) wedi cyrraedd ardal Sir Gaerfyrddin oherwydd yr anghydfod ynglŷn â’r protestiadau. Wrth i’r ffermwyr gyrraedd pen eu tennyn, mae mwy o’r tollbyrth yn cael eu chwalu a’u llosgi ac mae’r Cyrnol am eu gwaed. Mae’r milwr yno’n bla er mwyn dal criw ‘Beca’ in flagrante a rhoi stop arnynt unwaith ac am byth, ond mae Beca a’i ‘merched’, gyda’u rhwydwaith o negeseuon cudd, gam ar y blaen bob tro. Yn y stori, down i adnabod nifer o gymeriadau lleol fel teulu’r gof, teulu’r sipsiwn a theuluoedd y tafarndai. Mae’n amlwg fod pawb yn gwybod rhywbeth, ond does neb yn siarad am Beca. Canolbwyntia’r nofel ar Elin, merch pymtheg oed, sy’n byw yn Nhafarn y Wawr, Llangadog. Caiff ei thynnu i mewn i helynt y terfysg, ac mae ei bywyd mewn perygl o ganlyniad - yn llythrennol, bydd rhaid iddi redeg yn gynt na’r cleddyfau yn wir! Yng nghanol y cyffro, daw Elin i wybod mwy am ddigwyddiadau tywyll y gorffennol, am ei thad a’i mam, ac am newyddion a all chwalu ei bywyd teuluol yn llwyr. Daw i ddysgu fod hyd yn oed rhai o bobl fwyaf ‘parchus’ cymdeithas yn llawn cyfrinachau tywyll... I gloi Ella fod fy niffiniad i o ‘lyfr i blant’ yn wahanol i’r cyhoeddwr, ond faswn i ddim yn argymell y stori yma i blant cynradd, yn bennaf oherwydd bod y darllen yn rhy heriol i’r mwyafrif yn ôl fy mhrofiad i. ‘8-12 a hŷn’ medden nhw – dwi’n cytuno gyda’r darn olaf, ac yn meddwl mai cynulleidfa 15+ fyddai’n gwerthfawrogi’r nofel yma fwyaf er mwyn deall y cyd-destun yn llawn. A minnau’n reit hoff o hanes, dwi wedi bod yn llowcio nofelau ffuglen hanesyddol Myrddin ap Dafydd yn y blynyddoedd diwethaf gan fod sylw’r awdur at y ffeithiau hanesyddol yn drwyadl. Dwi’n hoff iawn o’r darnau yng nghefn y llyfr sy’n sôn am y broses/sbardun o greu’r stori. Er hyn, rhaid i mi gyfaddef, wnes i ddim mwynhau hon cymaint â Drws Du yn Nhonypandy a Y Goron yn y Chwarel. Doedd y stori ddim yn fy nghydio cystal am ryw reswm. Ella mod i'n gweld y plot yn araf yn datblygu. Wedi dweud hynny, mae nifer o’r negeseuon yn y llyfr yn berthnasol iawn i ni heddiw: “Ond alli di ddim osgoi mai politics yw gwreiddyn y drwg, bachan!” Dwi’n siŵr y byddai modd cael trafodaeth werthfawr yn y dosbarth ar ôl y darllen a chymharu rhai o anghyfiawnderau’r cyfnod gyda’n sefyllfa ni yng Nghymru heddiw. O ystyried y cynnydd diweddar mewn costau byw, y driniaeth ddirmygus o Gymru sy’n dod o gyfeiriad San Steffan a’r rhethreg ddiddiwedd am ‘nerth yr undeb’, dwi’n gobeithio y gwnawn ni’r Cymry cyffredin ffeindio ‘ysbryd Beca’ unwaith eto, er mwyn cwffio yn erbyn yr holl anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau (ond ella mewn ffordd wahanol i wisgo peisiau a llosgi adeiladau erbyn hyn!) Cân dda gan Tecwyn Ifan! Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £8 ISBN: 978-1-84527-820-5

  • Mae pob uncorn yn hoffi enfys...Tybed? [Emma Adams a Mike Byrne, addas. Gwynne Williams]

    *For English review, see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 5+ Oed diddordeb: 3+ Lluniau: Mike Byrne Fformat: Clawr Caled "Dwi ddim yn hoffi gwenu, dwi'n hoffi gwgu'n gas. Dwi ddim yn hoffi pethe neis -'sdim ots beth ydy'w blas." Be sy’n dod i’ch pen wrth i chi feddwl am unicorns? (neu uncyrn yn Gymraeg!) Yn aml iawn, maen nhw’n cael eu cysylltu gyda phethau pinc, hudolus, lliwgar, fflwfflyd, sbarcli ac wrth gwrs, fedrwn ni ddim anghofio’r pŵ amryliw! Mae uncyrn wedi bod yn boblogaidd ar hyd yr oesoedd, ac maen nhw’n ymddangos yn aml yn pop culture ac yn dipyn bach o craze hefo plant, yn enwedig genethod ifanc. Efallai eich bod chi’n meddwl bod chi’n gwybod sut mae uncyrn i fod i edrych, ond ‘da chi ‘rioed wedi cyfarfod yr un yma! Byddwch yn barod am sioc. Dyma uncorn hollol wahanol – welsoch chi ‘rioed un mor bad**s a hwn yn eich bywyd! Mae o’n yn dipyn o rebal yn ôl y golwg, a does dim ganddo i’w ddweud wrth pŵ bob lliw! Dyma lyfr sy’n ffrwydrad o liwiau, ac mae’r odl yn ddoniol iawn wrth i’r uncorn restru’r holl bethau “neis” tydi o ddim yn licio. Yn wir, mae gan yr uncorn yma ffordd unigryw iawn o wneud pethau ac mae’n ddigon hapus a hyderus i wneud pethau’n wahanol. Dwi’n licio sut mae’r awdur yn gwneud hwyl am ben y ddelwedd sterotypical o uncyrn ac yn troi’r syniad o ‘sut mae uncyrn i fod’ ar ei ben, ac yn herio’r drefn. Yn hytrach na phethau pinc a fflwfflyd, mae’n well gan hwn/hon wisgo dillad emo tywyll, ac yn lle canu caneuon carioci, mae’n well ganddo/hi ganu caneuon roc! A pham lai? Pwy sydd ddim yn licio dipyn bach o AC/DC neu Led Zep? Er yr hiwmor a’r tynnu coes, mae neges hollbwysig wrth wraidd y llyfr yma - mae pawb yn wahanol ac yn sbeshal, a does dim o’i le â hynny. Mae lle i ni gyd yn y byd, a dyliwn ni fod yn fwy parod i dderbyn ein gilydd a chlodfori’r amrywiaeth. Y brif neges yma yw byddwch yn hapus yn eich croen eich hun. Wedi ei ddarllen, tydw i dal ddim yn hollol siŵr os dwi’n licio teitl y llyfr. Ydio’n gwneud synnwyr yn y Gymraeg ‘dwa? Swnio dipyn bach yn chwithig i mi. Mae’r iaith yn ddeheuol, ond yn gwbl ddealladwy – hyd yn oed i Gog fel fi. Ar y cyfan, 7.5 allan o 10. Gwasg: Dref Wen Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781784231774

  • Y Dyn Dweud Drefn [yn chwarae pêl-droed] - Lleucu Fflyr Lynch

    *For English review, see language toggle switch on top of webpage* Oed diddordeb: 3-8 oed Oed darllen: 5+ Lluniau: Gwen Millward Mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei ôl, a’r bêl gron sy’n mynd a’i fryd y tro hwn. Fatha nifer ohonan ni, mae o’n meddwl ei fod o dipyn gwell am chwarae pêl-droed nac ydi o mewn gwirionedd! Yn amlwg tydi o heb newid dim, achos mae o’n fwy cranky nag erioed! Hwn yw’r trydydd llyfr yn y gyfres hoffus gan Lleucu Fflur Lynch, gyda lluniau gan Gwen Millward. Mae ei lluniau’n ysgafn ac yn hwyliog, ac yn cyfleu ystumiau’r cymeriadau’n dda. Gyda llaw, welsoch chi gi mwy ciwt ’rioed? Dwi’n licio’r gyfres yma. I feddwl bod y Dyn Dweud Drefn yn gallu bod yn hen foi bach pigog, fedrai’m helpu ond ei licio. Mae o fel petai o’n fy atogffa o rywun, ond fedra i ddim meddwl yn union pwy. Cyfuniad o wahanol bobl ella - cymeriadau sarrug fatha Mr. Wilson, y dyn drws nesa o Dennis the Menace, Victor Meldrew o’r sitcom One Foot in the Grave, a thipyn bach o Gru o Despicable Me hefyd. Un peth sy’n siŵr, mae o’n hynod o lwcus cael cyfaill mor ffyddlon a chlên â’r hen gi bach druan. Hyd yn oed pan mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei hwyliau gwaethaf (ac yn bod reit hyll weithia) mae Ci Bach wastad yno i helpu. Mae’n debyg fod y Dyn Dweud Drefn yn fwy o arddwr nac ydi o o beldroediwr, achos tydi o’n cael fawr o lwc gyda’r bêl nes i’r ci bach roi help llaw. Tybed a fydd y ci bach yn gallu gwireddu breuddwyd y Dyn Dweud Drefn o sgorio gôl y ganrif? Fydd ’na wên ar ei wyneb yntau dal i ddwrdio fydd o erbyn diwedd y stori? Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £4.95 ISBN: 9781845278243 HEFYD YN Y GYFRES... AM YR AWDUR Mae LLEUCU LYNCH yn enedigol o ardal Llangwm. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn 2017. Fel rhan o’i chwrs dilynodd fodiwl Ysgrifennu Creadigol, ble lluniodd bortffolio o lenyddiaeth i blant, ac yn portffolio hwnnw y gwelodd Y Dyn Dweud Drefn olau dydd am y tro cyntaf. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Swyddog y Wasg gydag S4C yng Nghaernarfon.

  • Y Disgo Dolig Dwl - Gruffudd Owen

    *For English review, select language toggle switch on top of webpage Gwaith Celf: Huw Aaron Oed diddordeb: 3+ Oed darllen: 7/8 Wel, mae bwrlwm a chyffro’r Nadolig wedi bod am flwyddyn arall, gan adael dim byd ond y January Blues felltith ’na. Ond peidiwch â phoeni, os ’di’r felan arnoch chi, fe allwch chi ailgydio yn hwyl yr ŵyl drwy fachu copi o Y Disco Dolig Dwl, gan Gruffudd Owen a Huw Aaron (Gwasg Carreg Gwalch.) Fel ‘da chi’n gwybod, ‘does ‘na neb yn gweithio’n galetach na Siôn Corn, Mrs Corn, y ceirw a’r corachod dros y flwyddyn. Ar ôl chwysu chwartiau’n adeiladu presanta drwy'r flwyddyn a’u deliverio nhw i gyd i mewn un noson - tydi hi ond yn iawn fod nhw’n cal clamp o office party wedyn i ddathlu! Does ‘na ddim covid-19 yng Ngwlad yr ia ‘da chi’n gweld, felly tydi cael parti mawr ddim yn dabŵ yn fanno! Dwi’n cofio cael discos gwirion yn y lounge hefo fy chwaer ‘stalwm, yn dawnsio i finyls, cd’s a chasetiau dad ar yr hi-fi. Weithia, fyddai’n dal i wneud hynny heddiw- jest sticio miwsig cheesy fatha Steps neu Abba ymlaen a dawnsio fel peth gwirion am ddim rheswm o gwbl! Rhowch gynnig arni rywbryd- mae o’n reit therapiwtig! Mae’r llyfr ar ffurf cerdd hi’r sy’n odli, ac mi fysa fo’n addas (yn ôl y cyhoeddwyr) at blant hyd at 8 oed “a phawb sy’n dymuno bach o hwyl Nadoligaidd!” Yn wir, mae o’n llawn petha gwirion – a pwy fasa’n meddwl fod rhaid i Mr a Mrs Corn dalu tacsys fatha pawb arall! Ein Quentin Blake Cymraeg ni’n hunain, Huw Aaron, sydd wedi benthyg ei dalentau i sbrinclo hwyl a sbri Nadoligaidd dros y llyfr, a fedra i ddim meddwl am berson gwell i wneud y gwaith celf gwyllt a gwallgo, sy’n cyd-fynd efo’r geiriau i’r dim. Mi ddaeth fy nghefndryd ifanc draw dros y ‘Dolig, ac fe wnaethon nhw fwynhau’r llyfr. Fe gawson ni crazy kitchen disco ein hunain wedyn! Os ‘da chi’n hiraethu am hwyl y Nadolig, neu’n berson hynod drefnus sy’n chwilio am stwff ar gyfer ‘Dolig nesa – mynnwch gopi. Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.95 ISBN: 978-1-84527-842-7

  • Shirley - Bethan Gwanas

    *for English review, please see language toggle switch on website* ♥Llyfr y Mis i Blant: Rhagfyr 2021♥ Gwaith celf: Hanna Harris Oed darllen: 6/7+ Oed diddordeb: 3-7+ Hey Big Spender! Yn wahanol iawn i eiriau’r gân enwog gan Shirley ei hun, fydd dim rhaid i chi wario ffortiwn er mwyn cael mwynhau’r llyfr yma, sy’n rhan o gyfres newydd sbon danlli, sef ‘Enwogion o Fri’ gan y wasg ifanc, Llyfrau Broga. Cyfres yw hon sydd, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, yn rhoi sylw i enwogion ac unigolion amrywiol sydd wedi cyfrannu at neu ddylanwadu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar ein hanes fel cenedl. Nid cyfres am ferched yn unig yw hon, ond penderfynwyd lansio gyda thair merch hynod er mwyn pwysleisio’r cyfraniad gwerthfawr maen nhw wedi ei wneud i’n byd. Bydd rhai unigolion yn fwy adnabyddus nac eraill, ond un peth sy’n sicr, maen nhw i gyd yn anhygoel ac yn amrywiol ac mae gen i deimlad y bydd y gyfres yma’n un lwyddiannus iawn. Yr ail lyfr yn y gyfres sy’n cael fy sylw yn y blog heddiw. Bethan Gwanas sydd wedi ’sgwennu Shirley, gyda darluniau modern a lliwgar gan Hanna Harris – llyfr hardd iawn, mae’n rhaid i mi ddweud. Rŵan, bydd pawb of a certain age wedi clywed am Shirley Bassey mae’n debyg, ond efallai ddim yn gwybod hanes ei magwraeth yma yng Nghymru. Ia wir, mae hi’n Gymraes! Gan mai cynulleidfa ifanc (oed 3-7) sy’n cael ei thargedu gan y gyfres, mae'n bur debyg na fydd y darllenwyr ifanc wedi clywed amdani eisoes, felly dyma gyfle gwych i ddangos pa mor bell mae rhai o’r Cymry wedi mynd, a be maen nhw wedi gallu ei gyflawni. Mae BG wedi gwneud job dda o wneud synnwyr o fywyd Shirley Bassey a’i gyflwyno mewn ffordd syml ond effeithiol sy’n sôn am y dyddiau cynnar yn Tiger Bay, Caerdydd hyd nes cyrraedd ei hanes diweddar ym Monaco. Roedd dysgu am ei bywyd yn hynod o ddiddorol - pwy fasa’n meddwl bod cantores sydd efo gymaint o bresenoldeb ar lwyfan wedi bod mor swil pan oedd hi’n blentyn? A wyddoch chi ei bod hi wedi cael trafferth fel cantores ifanc yn yr ysgol am fod ei llais hi’n RHY bwerus? Gwyliwch ei pherfformiad once-in-a-lifetime yn Glastonbury yn 2007. Waw. Jest waw. Dangosa’r llyfr yma sut wnaeth y Shirley ifanc oresgyn yr holl heriau oedd yn ei herbyn, er mwyn dod yn un o’r cantorion enwocaf yn y byd! Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoliaeth ac yn rhoi gobaith i bobl eraill sy’n darllen y llyfr - gallwch wneud un rhywbeth os wnewch chi gredu yn eich hun. Gwasg: Broga Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £5.99 ISBN: 9781914303081

  • Pam? - Luned Aaron a Huw Aaron

    *For English review, please use language toggle switch on website* Oed diddordeb: dan 7 Oed darllen: 5+ Chwilio am lyfr amser stori sy’n mynd i ‘neud i chi giglo? Luned a Huw Aaron strike again! Mae’n edrych fel bod y cwpwl yma’n cael blwyddyn a hanner ‘lenni! Rhwng cyhoeddi dwn im faint o lyfrau a gweld gwasg Broga’n mynd o nerth i nerth, dwi’n siŵr eu bod nhw’n bobl prysur iawn! Ond mae hynny’n beth da iawn i chi a fi achos nhw sy’n gwneud y gwaith, tra ein bod ni, y darllenwyr, yn cael eistedd yn ôl a mwynhau ffrwyth eu llafur. Y tro hwn, maent yn cyhoeddi llyfr i blant ifanc gyda gwasg Y Lolfa. Mae’r unigolyn ar y clawr yn edrych fel sut dwi’n teimlo heddiw (a hithau’n fore Llun) a’r pwnc sydd dan sylw yw un o hoff eiriau pob plentyn - “pam?” Mi fydd y rheiny ohonoch sy’n deilo â phlant yn gyfarwydd iawn gyda’r cwestiwn yma, a dwi’n siŵr bod amryw i riant wedi cael eu gyrru o’u co’ wrth glywed y gair yn cael ei ailadrodd dro ar ôl tro... Mae’r llyfr ar ffurf penillion bach doniol sy’n odli, o safbwynt y prif gymeriad wrth iddo gwestiynu pam na chaiff o wneud fel y mynnai, fel yfad coca cola neu dormentio ei chwaer fach hefo trychfilod! Ond er yr holl holi ac achwyn ‘pam na cha ‘i...?’ yr un yw’r ateb bob tro gan y rhieni – NA! NO WÊ! Tydi bywyd mor annheg - yr hen oedolion diflas na’n sbwylio’r hwyl i gyd ynte! Wir i chi, chewch chi neb mwy gonest a di-flewyn ar dafod na phlant, ac mi oni’n giglo wrth feddwl am y plentyn bach oedd bron a marw isio dweud bob math o bethau am ben ôl anferth ei fodryb (cyn cael ei stopio gan ei riant!) Dwi’n siŵr bod nifer o rieni hefo profiadau embarassing, lle mae’r plant wedi dweud rhywbeth inappropriate, fel yr adeg ‘na nesh i ‘outio’ nain am wneud soup paced a thrio’i basio fo ffwrdd fel sŵp cartref, a hynny o flaen y Gweinidog! Wps! Mae ‘na lot o lyfrau lluniau doniol ar gael, ond mae nifer ohonynt yn addasiadau, tra bod rhai gwreiddiol Cymraeg yn brinnach. Dwi fatha broken record, ond maisho mwy o lyfrau ysgafn, doniol, llai serious! Rhain ydi’r llyfra bydd plant yn gofyn am gael eu darllen a’u hail ddarllen dro ar ôl tro. Llyfr digri iawn sydd yma a dwi’n gwybod bydd ‘na lot o biffian chwerthin wrth ddarllen ‘Pam?’ a bydd yn ffefryn mewn sawl tŷ dwi’n siŵr. Mi fasa hwn yn gwneud darn adrodd steddfod da iawn! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: Awst 2021 Pris: £4.99 ISBN: 9781800990562

  • Y Ddinas Uchel/The Builders - Huw Aaron

    *For English review, see language toggle switch on webpage* Mae'n iawn i freuddwydio am rywbeth gwell... Its ok to dream for something better... Negeseuon positif: ◉◉◉◉◎ Themau trist,anodd: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn: ◎◎◎◎◎ Iaith gref: ◎◎◎◎◎ Rhyw: ◎◎◎◎◎ Oed darllen: 5+ Oed diddordeb: 3-7 Dyma lyfr lluniau gan yr arlunydd/cartwnydd talentog, Huw Aaron. Rydym ni’n gyfarwydd iawn gyda’i luniau a’i dwdls mewn nifer o lyfrau poblogaidd a’r cylchgrawn Mellten. Y tro hwn, Huw ei hun sydd wedi bod wrthi’n ysgrifennu’r stori yn ogystal â pheintio’r lluniau! Dywedodd Huw fod y stori wedi bod yn ffrwtian yng nghefn ei ben ers blynyddoedd - wel o’r diwedd, dyma hi! Stori yw hon am ferch fach o’r enw Petra, sy’n byw mewn dinas yn llawn pobl brysur iawn, iawn. Mae’r gweithwyr yn treulio drwy’r dydd, pob dydd yn adeiladu tyrrau uchel iawn sy’n ymestyn at yr awyr. Yn wir, mae’r gweithwyr yn fy atgoffa o forgrug gwyn, sy’n treulio eu bywydau’n adeiladu tomenni mawr. Mae Petra druan wedi diflasu gyda’r gwaith beunyddiol o adeiladu tyrrau. A dweud y gwir, mae hi’n hollol fed-up! Dechreua Petra gwestiynu’r drefn wrth iddi bendroni’r cwestiwn mawr athronyddol: oes 'na fwy i fywyd? Er bod 'na oedolion pwysig yn ei siarsio i ‘dyfu fyny’ a ‘derbyn y drefn,’ yn ei chalon tydi hi ddim yn gallu rhoi’r gorau i freuddwydio. Un diwrnod, pan ddaw dynes i lawr o’r cymylau mewn balŵn aer poeth fe ânt ar antur dros y byd, gan weld yr holl ryfeddodau sy’n bodoli. Tybed a fydd Petra’n gallu perswadio gweddill trigolion y ddinas fod mwy i fywyd na adeiladu tyrrau? Mae lluniau dyfrlliw Huw Aaron yn hyfryd o liwgar ac fe geir yma stori annwyl iawn gyda neges glir i blant ifanc (ac oedolion gwaetha’r modd!) fod hi’n gwbl dderbyniol i gwestiynu’r drefn. Mae’r llyfr yn cyfleu chwilfrydedd a rhyfeddod plant gyda’r byd o’u cwmpas. Bydd plant ac oedolion yn deall y neges fod rhyfeddodau lu i’w gweld yn y byd, ond i chi fentro mynd i chwilio. Ceir trosiad yn y llyfr sy’n dangos sut mae bywyd modern wedi’n cyflyru i frysio o un lle i’r llall, gan weithio’n ddi-stop, heb weithiau gymryd amser i werthfawrogi ein byd yn llawn. Ewch allan i weld y byd a mwynhau profiadau newydd -mae bywyd yn rhy fyr! Dwi'n falch bod y llyfr bellach ar gael yn ddwyieithog, fel bod mwy o bobl yn gallu ei fwynhau! Adolygiad oddi ai www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg/publisher: Atebol Pris/price: £6.99 Cyhoeddwyd/released: 2020 ISBN: 9781801060189

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page