top of page

Mae pob uncorn yn hoffi enfys...Tybed? [Emma Adams a Mike Byrne, addas. Gwynne Williams]

*For English review, see language toggle switch on top of page*


Oed darllen: 5+

Oed diddordeb: 3+

Lluniau: Mike Byrne

Fformat: Clawr Caled

 
"Dwi ddim yn hoffi gwenu, dwi'n hoffi gwgu'n gas. Dwi ddim yn hoffi pethe neis -'sdim ots beth ydy'w blas."

Be sy’n dod i’ch pen wrth i chi feddwl am unicorns? (neu uncyrn yn Gymraeg!) Yn aml iawn, maen nhw’n cael eu cysylltu gyda phethau pinc, hudolus, lliwgar, fflwfflyd, sbarcli ac wrth gwrs, fedrwn ni ddim anghofio’r pŵ amryliw! Mae uncyrn wedi bod yn boblogaidd ar hyd yr oesoedd, ac maen nhw’n ymddangos yn aml yn pop culture ac yn dipyn bach o craze hefo plant, yn enwedig genethod ifanc.


Efallai eich bod chi’n meddwl bod chi’n gwybod sut mae uncyrn i fod i edrych, ond ‘da chi ‘rioed wedi cyfarfod yr un yma! Byddwch yn barod am sioc. Dyma uncorn hollol wahanol – welsoch chi ‘rioed un mor bad**s a hwn yn eich bywyd! Mae o’n yn dipyn o rebal yn ôl y golwg, a does dim ganddo i’w ddweud wrth pŵ bob lliw!


Dyma lyfr sy’n ffrwydrad o liwiau, ac mae’r odl yn ddoniol iawn wrth i’r uncorn restru’r holl bethau “neis” tydi o ddim yn licio. Yn wir, mae gan yr uncorn yma ffordd unigryw iawn o wneud pethau ac mae’n ddigon hapus a hyderus i wneud pethau’n wahanol.


Dwi’n licio sut mae’r awdur yn gwneud hwyl am ben y ddelwedd sterotypical o uncyrn ac yn troi’r syniad o ‘sut mae uncyrn i fod’ ar ei ben, ac yn herio’r drefn.



Yn hytrach na phethau pinc a fflwfflyd, mae’n well gan hwn/hon wisgo dillad emo tywyll, ac yn lle canu caneuon carioci, mae’n well ganddo/hi ganu caneuon roc! A pham lai? Pwy sydd ddim yn licio dipyn bach o AC/DC neu Led Zep?


Er yr hiwmor a’r tynnu coes, mae neges hollbwysig wrth wraidd y llyfr yma - mae pawb yn wahanol ac yn sbeshal, a does dim o’i le â hynny. Mae lle i ni gyd yn y byd, a dyliwn ni fod yn fwy parod i dderbyn ein gilydd a chlodfori’r amrywiaeth. Y brif neges yma yw byddwch yn hapus yn eich croen eich hun.


Wedi ei ddarllen, tydw i dal ddim yn hollol siŵr os dwi’n licio teitl y llyfr. Ydio’n gwneud synnwyr yn y Gymraeg ‘dwa? Swnio dipyn bach yn chwithig i mi. Mae’r iaith yn ddeheuol, ond yn gwbl ddealladwy – hyd yn oed i Gog fel fi. Ar y cyfan, 7.5 allan o 10.


 

Gwasg: Dref Wen

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £6.99

ISBN: 9781784231774

 

bottom of page