top of page

Lledrith yn y Llyfrgell - Anni Llŷn

*For English review, please see language toggle switch*



Addas: 6+ oed



 

Diwrnod y Llyfr 2022

’Da ni gyd yn gwybod pa mor bwysig ydi darllen dydan? Mae darllen yn ffordd wych o fwydo’r ymennydd a’ch tywys i unrhyw le yn y byd (a thu hwnt!), heb adael eich ystafell fyw!


Yn anffodus, ’da ni gyd yn byw bywydau mor brysur, gyda chymaint o distractions, weithiau mae’n gallu bod yn anodd gwneud amser i setlo lawr i ddarllen. Ond mae’n bwysig i ni drio gwneud. Yn anffodus tydi pawb ddim mor lwcus i gael cyflenwad o lyfrau diddorol ac apelgar i’w darllen chwaith.


Dyna pam dwi wrth fy modd gyda Diwrnod y Llyfr a’r syniad tu ôl iddo. Ar y diwrnod yma, ’da ni’n dathlu popeth sy’n YM-EI-SING am lyfrau – o’r awduron i’r darlunwyr, o’r siopau llyfrau i’r llyfrgelloedd. Fyddwch chi’n gwisgo fyny fel eich hoff gymeriad ’leni? Dwi’n meddwl y byswn i’n dewis cymeriad y Pry Bach Tew neu Mr Twit o bosib!!


Ar gyfer 2022, mae un o’n hawduron aml dalentog, Anni Llŷn, wedi ’sgwennu stori sydyn o’r enw Lledrith yn y Llyfrgell. A wyddoch chi be? Mi allwch chi gael eich bachau ar hwn am llai na phris torth o fara! Da de! Ewch i fachu copi cyn iddyn nhw ddiflannu.



Llanswyn-ym-Mochrith

Nid pentref arferol yw hwn, o na! Mae’n llawn dop o gymeriadau rhyfeddol iawn. A beth sy’n gwneud y trigolion yma mor wahanol i chi a fi? Wel, mae gan bob un wan jac rhyw allu i wneud hud a lledrith. Pawb heblaw Chwim, y llyfrgellydd druan. Ond er nad ydi hi’n gallu gwneud triciau, mae hi yn gallu darllen... ac mae hynny’n eitha sbeshal ynddo’i hun, dydi.


Pan mae dosbarth o blant anhrefnus a’u hathro anobeithiol yn dod i ymweld â’r llyfrgell, mae pethau go ryfedd yn dechrau digwydd wrth i Chwim agor y cloriau a chychwyn darllen... Tybed ydach chi wedi profi hud a lledrith fel hyn wrth ddarllen?


Os ’da chi am wybod sut mae’r llyfrgellydd dewr yn cael y gorau ar yr hen inspector cas, Mrs Surbwch, neu am gael clywed os ydi Sali Mali’n llwyddo i ddianc o grafangau’r jagiwar, yna chewch chi mo’ch siomi â’r llyfr yma. (Wnes i ’rioed ddychmygu y byddwn i’n defnyddio ‘Sali Mali’ a ‘jagiwar’ yn yr un frawddeg!)

Ar achlysur dathlu pum mlynedd ar hugain o Ddiwrnod y Llyfr, rydych chi ddarllenwyr lwcus yn cael y cyfle i fod yn berchen ar lyfr newydd sbon am £1! Bargen dduda i. Ac ar ôl i chi lowcio Lledrith yn y Llyfrgell, cofiwch fod ’na lond trol o lyfrau gwych eraill yn disgwyl amdanoch ar silffoedd y siop lyfrau. Ac hyd yn oed os nad oes gennych chi geiniog ar ôl yn y byd, mi fedrwch chi ddal i fwynhau llyfrau, a hynny AM DDIM, diolch i’n llyfrgelloedd gwych.


Mwynhewch Ddiwrnod y Llyfr, a chofiwch wisgo fel eich hoff gymeriad a thynnu llun er mwyn lledaenu’r gair. Yna, soniwch wrth rhywun am eich hoff lyfr, boed hynny’n ffrind neu aelod o’r teulu, a gwnewch addewid, y gwnewch chi byth roi’r gorau i ddarllen. Does ’na ddim byd gwell na gweld geiriau’n dod yn fyw yn eich pen, a dim ond llyfrau sydd â’r gallu i wneud hynny!

 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: Diwrnod y Llyfr, Mawrth 2022

Pris: £1 (ia, dim ond £1!!!!)

ISBN: 9781800992030

 

bottom of page