top of page

Gwil Garw a'r Carchar Crisial - Huw Aaron

Updated: Feb 11, 2022

*For English version, use language toggle switch on top of page*


Oed diddordeb: 5+

Oed darllen: 6+

Argymhelliad oedran y cyhoeddwr: 7-12


Synopsis: Cyn hanes, cyn y chwedlau, roedd...GWIL GARW! Ei swydd: i gadw trefn ar greaduriaid hudolus y Sw Angenfilod. Y broblem: Does dim diddordeb o gwbl gyda Gwil mewn heddwch. Wedi i'w dymer a'i chwilfrydedd roi'r byd mewn perygl, mae'n rhaid i Gwil, rywsut, ffeindio ffordd i wella pethau, mewn antur epig, llawn hiwmor a rhyfeddodau.

 
Cicio yn gynta', gofyn cwestiynau wedyn! Dyna 'di problem Gwil Garw, ond fedrwch chi'm helpu ond licio'r cythral bach!
sbiwch cŵl! Llwyth o liwiau, a llwyth o action! Ma'r bwystfil na'n edrych yn bigog!

Gwil Garw a’r Carchar Crisial

Ella’ch bod chi’n cofio ei weld gyntaf yng nghylchgrawn Mellten, ond nawr, mae Gwil Garw wedi cael ei ‘lyfr’ ei hun sy’n dod â’r anturiaethau at ei gilydd! Nofel graffig yw hon (sy’n croesi llyfr ffuglen gyda chomig). A be di'r canlyniad ‘da chi’n gofyn? Ffrwydrad o liwiau a chyffro sy’n llawn “FSSHHWMS,” “SBLWSHYS,” “CROMPS” a “DWMFFS!”


Casglwr angenfilod dewr (a ‘chydig bach yn nyts) o oes y Celtiaid yw Gwil Garw, sy’n cael ei yrru ar bob math o anturiaethau gan ei fos, Hemi ap Heilyn, perchennog sw Y Bwystfilariwm! (dim gwobr am ddyfalu beth sydd yno!) Caiff Gwil nifer o run-ins gyda sawl creadur peryglus, ond tydyn nhw’n poeni dim arno! Ar un o’i helfeydd, daw ar draws crisial arbennig (a pheryglus) iawn, ac mae rhywun wedi rhoi swyn pwerus arni i sicrhau bod beth bynnag sydd tu fewn yn aros yno! O diar mi, gobeithio fod rhywun wedi rhybuddio Gwil Garw am hyn cyn ei bod hi’n rhy hwyr?!


Mae’r llyfr ei hun, gan gynnwys y clawr a’r tudalennau, yn amlwg o ansawdd da iawn. Peth od i’w ddweud ella, ond mae’n teimlo’n satisfying iawn i'w ddal, heb sôn am ei ddarllen! Mi geith hwn pride of place ar fy silff yn Sôn am Lyfra HQ!


Hwre! Mae gynon ni nofel graffig yn y Gymraeg!

Un peth mae’n RHAID ei bwysleisio - mae comics yn awesome! Wyddoch chi fod ’na lwyth o oedolion yn hoffi eu darllen hefyd, y ogystal â phlant? Ar ôl nofelau ffuglen a llyfrau ffeithiol, cylchgronau yw’r dewis mwyaf poblogaidd o ddarllen. Felly, cofiwch, mae darllen comics YN cyfri fel darllen ‘go-iawn’ ac mae’n bryd i’r stigma o’u cwmpas ddod i ben!


Mae nofelau graffig fel hybrid o lyfr a comig, gyda thipyn o waith darllen a dweud y gwir, ond y peth da yw ei fod yn cael ei dorri i mewn i ddarnau llai. Yn wir, mae’n brofiad darllen gwahanol - ond diddorol - iawn. Os ‘da chi ddim fel arfer yn darllen yn Gymraeg, neu ddim yn keen ar nofelau, beth am roi cynnig ar nofel graffig fel Gwil Garw a’r Carchar Crisial? Gyda llaw, mae’r ddau lyfr arall yn y gyfres yn werth eu darllen hefyd! #mwyplîs


Waeth i mi fod yn hollol onest, doedd gen i fawr o fynadd darllen nofelau pan oeddwn i’n iau, ond mi faswn i wedi LLYNCU hwn!!! (btw – dwi wrth fy modd yn darllen erbyn rŵan!)
 

Mwy o blant yn darllen ers lockdown

Diddorol oedd darllen adroddiad gan y National Literacy Trust, sef Children and young people’s reading engagement in 2021. [yma] Yn ôl hwn, mae mwy o blant yn mwynhau darllen na chyn y cyfnod clo (cynnydd o 17%). Bosib fod hyn achos eu bod wedi cael mwy o lonydd ac amser sbâr adref i ddarllen ‘er pleser.’ Tra bod hyn yn newyddion da, mae’n bosib mai effaith dros dro yw hyn a rhaid i ni beidio gorffwys ar ein rhwyfau yn ein hymdrechion i gael mwy o blant yn darllen (yn enwedig bechgyn!) Dyna pam dwi’n hapus iawn i weld mwy o amrywiaeth yn y ddarpariaeth ar gyfer darllenwyr 7-12 oed...

 

Gwasg: Llyfrau Broga

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £6.99

ISBN: 9781914303036

 

MWY YN Y GYFRES..


 



bottom of page