*for English review, please see language toggle switch on website*
♥Llyfr y Mis i Blant: Rhagfyr 2021♥
Gwaith celf: Hanna Harris
Oed darllen: 6/7+
Oed diddordeb: 3-7+
Hey Big Spender! Yn wahanol iawn i eiriau’r gân enwog gan Shirley ei hun, fydd dim rhaid i chi wario ffortiwn er mwyn cael mwynhau’r llyfr yma, sy’n rhan o gyfres newydd sbon danlli, sef ‘Enwogion o Fri’ gan y wasg ifanc, Llyfrau Broga.
Cyfres yw hon sydd, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, yn rhoi sylw i enwogion ac unigolion amrywiol sydd wedi cyfrannu at neu ddylanwadu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar ein hanes fel cenedl.
Nid cyfres am ferched yn unig yw hon, ond penderfynwyd lansio gyda thair merch hynod er mwyn pwysleisio’r cyfraniad gwerthfawr maen nhw wedi ei wneud i’n byd. Bydd rhai unigolion yn fwy adnabyddus nac eraill, ond un peth sy’n sicr, maen nhw i gyd yn anhygoel ac yn amrywiol ac mae gen i deimlad y bydd y gyfres yma’n un lwyddiannus iawn.
Yr ail lyfr yn y gyfres sy’n cael fy sylw yn y blog heddiw. Bethan Gwanas sydd wedi ’sgwennu Shirley, gyda darluniau modern a lliwgar gan Hanna Harris – llyfr hardd iawn, mae’n rhaid i mi ddweud.
Rŵan, bydd pawb of a certain age wedi clywed am Shirley Bassey mae’n debyg, ond efallai ddim yn gwybod hanes ei magwraeth yma yng Nghymru. Ia wir, mae hi’n Gymraes!
Gan mai cynulleidfa ifanc (oed 3-7) sy’n cael ei thargedu gan y gyfres, mae'n bur debyg na fydd y darllenwyr ifanc wedi clywed amdani eisoes, felly dyma gyfle gwych i ddangos pa mor bell mae rhai o’r Cymry wedi mynd, a be maen nhw wedi gallu ei gyflawni.
Mae BG wedi gwneud job dda o wneud synnwyr o fywyd Shirley Bassey a’i gyflwyno mewn ffordd syml ond effeithiol sy’n sôn am y dyddiau cynnar yn Tiger Bay, Caerdydd hyd nes cyrraedd ei hanes diweddar ym Monaco.
Roedd dysgu am ei bywyd yn hynod o ddiddorol - pwy fasa’n meddwl bod cantores sydd efo gymaint o bresenoldeb ar lwyfan wedi bod mor swil pan oedd hi’n blentyn? A wyddoch chi ei bod hi wedi cael trafferth fel cantores ifanc yn yr ysgol am fod ei llais hi’n RHY bwerus? Gwyliwch ei pherfformiad once-in-a-lifetime yn Glastonbury yn 2007. Waw. Jest waw.
Dangosa’r llyfr yma sut wnaeth y Shirley ifanc oresgyn yr holl heriau oedd yn ei herbyn, er mwyn dod yn un o’r cantorion enwocaf yn y byd! Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoliaeth ac yn rhoi gobaith i bobl eraill sy’n darllen y llyfr - gallwch wneud un rhywbeth os wnewch chi gredu yn eich hun.
Comments