top of page
Writer's picturesônamlyfra

Y Bwystfil a'r Betsan - Jack Meggitt-Phillips (addas. Elidir Jones)

*For English review, see language toggle switch on top of webpage*


Lluniau: Isabelle Follath

Oed diddordeb: 7+

Oed darllen: 9+

 

Y gŵr sy’n 511 oed!

Yn aml iawn, ’da ni’n mynd i dipyn go lew o drafferth i edrych yn ddel ac i aros yn ifanc, dydan? Mae'r rhesi a rhesi o nwyddau harddwch ar y silffoedd yn Boots yn destun i hynny. Ond y cwestiwn mawr ydi – wrth i chi fynd y hŷn, pa mor bell fasa chi’n fodlon mynd er mwyn cadw’ch youthful looks?


Dyma’r benbleth sydd gan Heddwyn Ploryn, ac yntau o fewn trwch blewyn o ddathlu ei ben-blwydd yn 512 oed! Achos, ’da chi’n gweld, mae’r ceiliog dandi yma wedi llwyddo i aros yn handsome ac yn ifanc ar hyd ei oes. Ond sut ar y ddaear mae rhywun mor oedrannus yn stopio’u hunan rhag mynd i edrych fatha rhywbeth allan o The Mummy? Wel...


Perthynas go ryfedd

Drwy hap a damwain, mae Heddwyn wedi taro bargen gyda bwystfil go annifyr, sy’n hen lwmpyn blonegog gyda thri llygad ddu a cheg llawn o ddannedd miniog. Fel rhan o’u trefniant cyfleus, caiff Heddwyn botelaid o hylif hudolus am bob pryd o fwyd blasus mae’n ddarparu i’r bwystfil. Dyma sy’n cadw ei wyneb mor smŵdd â phen-ôl babi! Ond mae ’na catch (does ’na wastad!)



Y ffafr ofnadwy!

Fel ni, laru mae’r bwystfil ar fwyta’r un peth bob tro ac fe aiff yn farusach gyda phob pryd! Mynna’r creadur boliog, slei gael danteithion newydd bob tro. Am ddod ag amrywiaeth o eitemau ato, fe gaiff Heddwyn ei wobrwyo’n hael gyda phob math o anrhegion crand a moethus.


Ar ôl sglaffio’i ffordd drwy eitemau o bob math, gan gynnwys un aderyn egsotig, prin iawn, dydi hi’n fawr o syndod pan mae’r bwystfil yn datgan ei fod am gael trio rhywbeth newydd i de – plentyn bach juicy a chrwn!


Yndi, mae Mr.Ploryn wedi gwneud pethau ofnadwy trwy gydol ei oes, ond bwydo plentyn i’r creadur? Tydi o ’rioed wedi gwneud unrhyw beth cweit mor erchyll â hynny! Diolch byth felly, fod ganddo jest y peth i wlychu gweflau’r creadur - y plentyn amddifad mwyaf digywilydd, direidus, drwg a snotlyd welsoch chi! Ond wrth dreulio mwy o amser yng nghwmni Betsan, tybed fydd o’n gallu parhau â’i gynllun ffiaidd er mwyn achub ei groen ei hun?


Dorian Gray meets Little Shop of Horrors

Mae’n hawdd gweld o le daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y llyfr yma. Dipyn bach o bob man a dweud y gwir. Mae ’na gymariaethau â’r man-eating plant sy’n gweiddi “Feed me, Seymour” o’r sioe gerdd Little Shop of Horrors. Mae o hefyd yn fy atgoffa o Dorian Gray, y dyn sy’n obsessed hefo edrych yn ifanc beth bynnag y gost. Mae ’na source material ac ysbrydoliaeth digon tywyll yma, wedi ei becynnu fel llyfr i blant llawn hiwmor macabre a sarcastig, sy’n efelychu steil Roald Dahl! Mae Jack Meggitt-Philips, awdur a sgriptiwr newydd a thalentog, wedi creu clasur modern yma, dwi’n siŵr o hynny.



Yn aml iawn, mae ’na dueddiad i addasiadau deimlo braidd yn stiff (dim jest fi sy’n deud hyn) ond mae’n rhaid canmol Elidir Jones ar ei waith yma. Mae’r addasiad yn hynod o driw i’r gwreiddiol ond mae’n sefyll yn gadarn ar ei draed ei hun. Prin y sylwais ei fod yn addasiad o gwbl i fod yn onest.

Nes i wir fwynhau hwn, a dwi’n ysu i roi trial run iddo gyda dosbarth o blant tro nesa bydd gen i waith llanw! Dwi’m yn un am roi sgôr fel rheol, ond mae hwn yn cael 9.5 allan o 10 gen i!!

Dyma lyfr gwreiddiol iawn, llawn dychymyg, sydd â balans da o ofn, dirgelwch a hiwmor sych – ychwanegiad ardderchog i’r casgliad o lyfrau ‘middle grade’ i’r grŵp oedran 9-11. A wyddoch chi be? Heb ddatgelu gormod, mae’r diweddglo’n gwneud i mi feddwl y bydd ’na sequel – gobeithio wir!

 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £7.99

ISBN: 978-1-80106-084-4

Addasiad Cymraeg o 'The Beast and the Bethany'

 

GAIR GAN YR AWDUR...



Jack Meggitt Phillips is an incredibly exciting new talent. He is an author, scriptwriter and playwright whose work has been performed at The Roundhouse and featured on Radio 4. He is scriptwriter and presenter of The History of Advertising podcast. In his mind, Jack is an enormously talented ballroom dancer, however his enthusiasm far surpasses his actual talent. Jack lives in north London where he spends most of his time drinking peculiar teas and reading PG Wodehouse novels.

Isabelle Follath is an illustrator who has worked in advertising, fashion magazines and book publishing, but her true passion lies in illustrating children's books. She also loves drinking an alarming amount of coffee, learning new crafts and looking for the perfect greenish-gold colour. Isabelle lives in Zurich, Switzerland.

Recent Posts

See All

コメント

5つ星のうち0と評価されています。
まだ評価がありません

評価を追加
bottom of page