top of page

Dere i Dyfu gyda Dewi Draenog a Beca Broga - Adam Jones

*For English review, see language toggle switch*

Oed diddordeb: 3+

Oed Darllen: 7+

 

Ewch i chwilota’n y sied...

Rŵan fod y gwanwyn wedi cyrraedd, ac mai’n dechrau brafio, mae hi’n amser i nôl y menig a’r trywel, ac ail-gychwyn yn yr ardd ar ôl seibiant y gaeaf. Buan iawn fydd yr ardd wedi llenwi â lliw unwaith eto.


Gyda chymaint o distractions digidol erbyn hyn, mae hi’n hawdd seguro ar y soffa a threulio oriau o flaen rhyw sgrîn neu ddyfais. Ond mae Adam Jones on a mission – i ysbrydoli plant bach Cymru i fentro allan i’r ardd a rhoi cynnig ar dipyn o arddio! Wyddwn i ddim am weithgaredd sydd mor llesol i’r enaid a dweud y gwir. Mae garddio yn cynnig gweithgaredd hynod o ddiddorol, sy’n rhoi cyfle i ymgysylltu â byd natur, cael dipyn o awyr iach a gwneud ymarfer corff ‘run pryd. Be gewch chi well?


Pan welais i fod y llyfr yma’n cael ei gyhoeddi, roeddwn i’n reit gyffrous, ac mi allwch chi weld bod yr awdur yn angerddol iawn dros yr achos. Er mai dim ond yn 2018 cychwynnodd Adam ei gyfrif instagram, dwi’n siŵr fod ganddo dros 10,000 o ddilynwyr erbyn hyn. Mae o wedi bod yn garddio ers yn blentyn felly mae profiad helaeth ganddo. A jest fatha fo, cael fy ysbrydoli gan genhedlaeth nain a taid wnes i, ac mi ddysgais i’r cyfan dwi’n ei wybod am arddio ganddyn nhw.


Dere i Dyfu

Gan ddefnyddio cymeriadau hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga, bwriad Adam yw cyflwyno garddio i’n plant lleiaf a’u rhieni. Er ei fod yn cadw pethau’n ddigon syml ac addas ar gyfer yr oedran, dyma lyfr cynhwysfawr, sy’n frith o ffeithiau, wedi eu amgylchynu gan arlunwaith lliwgar gan Ali Lodge. Syniad da dwi’n meddwl oedd cyfuno’r arlunwaith gyda ffotograffau go iawn, a diolch i Tanwen Haf am sicrhau eu bod yn asio’n berffaith.


Wedi eu trefnu dan benodau synhwyrol, cawn gyngor syml ar gyfer sut i dyfu gwahanol bethau fel llysiau neu flodau. Rhaid i mi ddweud, doeddwn i ddim yn gyfarwydd gyda thermau fel ‘rhaca’ (cribin ‘da ni’n ddeud yn y Gogs) ac efallai bysa hi wedi bod yn fanteisiol cynnwys y ddau derm ochr yn ochr i osgoi dryswch. Ta waeth, hollti blew ydw i yn fanna.


Yn ogystal â chyfarwyddiadau clir gam wrth gam am sut i hau hadau ac i blannu, mae Adam yn esbonio pwysigrwydd rhai o’r creaduriaid hollbwysig sydd i’w canfod yn ein gerddi. Un o’r rhain yw y draenog. Yn ôl rhai adroddiadau mae nifer y draenogod yn y DU wedi disgyn 75%, felly roeddwn i’n falch o weld cyfarwyddiadau ar gyfer creu gerddi draenog-gyfeillgar yn y llyfr.



Beth wnewch chi dyfu ‘leni?

Fedra i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw llyfrau fel Dere i Dyfu. Ein plant yw y dyfodol, a nhw fydd yn gyfrifol am y blaned ar ein hôl, felly mae meithrin perthynas agos a pharchus rhyngddyn nhw â byd natur o oedran ifanc yn hanfodol.


A chofiwch, does dim angen allotments enfawr a raised beds ffansi i fwynhau’r profiad o dyfu planhigion. Dwi wedi gweld pobl mewn fflatiau yn tyfu tatws mewn potiau ar y balconi, felly does 'na ddim esgus. Ar y lleiaf, mi allwch chi dyfu cress mewn plisgyn wy ar silff y ffenest!


Heb sôn am y sgiliau di-ri fydd y plant (a chi, o bosib) yn eu dysgu wrth arddio, jest meddyliwch pa mor dda fydd y tatw rhost a’r moron yn blasu yn y cinio dydd Sul, ar ôl y gwaith caled...

Fuodd hi ‘rioed mor hawdd i ddechau garddio -mentrwch i’r ardd a rhowch gynnig arni!



 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £6.99

ISBN:9781800991309

 

bottom of page