top of page

Y Disgo Dolig Dwl - Gruffudd Owen

*For English review, select language toggle switch on top of webpage


Gwaith Celf: Huw Aaron

Oed diddordeb: 3+

Oed darllen: 7/8

 

Wel, mae bwrlwm a chyffro’r Nadolig wedi bod am flwyddyn arall, gan adael dim byd ond y January Blues felltith ’na. Ond peidiwch â phoeni, os ’di’r felan arnoch chi, fe allwch chi ailgydio yn hwyl yr ŵyl drwy fachu copi o Y Disco Dolig Dwl, gan Gruffudd Owen a Huw Aaron (Gwasg Carreg Gwalch.)


Fel ‘da chi’n gwybod, ‘does ‘na neb yn gweithio’n galetach na Siôn Corn, Mrs Corn, y ceirw a’r corachod dros y flwyddyn. Ar ôl chwysu chwartiau’n adeiladu presanta drwy'r flwyddyn a’u deliverio nhw i gyd i mewn un noson - tydi hi ond yn iawn fod nhw’n cal clamp o office party wedyn i ddathlu! Does ‘na ddim covid-19 yng Ngwlad yr ia ‘da chi’n gweld, felly tydi cael parti mawr ddim yn dabŵ yn fanno!


Dwi’n cofio cael discos gwirion yn y lounge hefo fy chwaer ‘stalwm, yn dawnsio i finyls, cd’s a chasetiau dad ar yr hi-fi. Weithia, fyddai’n dal i wneud hynny heddiw- jest sticio miwsig cheesy fatha Steps neu Abba ymlaen a dawnsio fel peth gwirion am ddim rheswm o gwbl! Rhowch gynnig arni rywbryd- mae o’n reit therapiwtig!



Mae’r llyfr ar ffurf cerdd hi’r sy’n odli, ac mi fysa fo’n addas (yn ôl y cyhoeddwyr) at blant hyd at 8 oed “a phawb sy’n dymuno bach o hwyl Nadoligaidd!” Yn wir, mae o’n llawn petha gwirion – a pwy fasa’n meddwl fod rhaid i Mr a Mrs Corn dalu tacsys fatha pawb arall!



Ein Quentin Blake Cymraeg ni’n hunain, Huw Aaron, sydd wedi benthyg ei dalentau i sbrinclo hwyl a sbri Nadoligaidd dros y llyfr, a fedra i ddim meddwl am berson gwell i wneud y gwaith celf gwyllt a gwallgo, sy’n cyd-fynd efo’r geiriau i’r dim.



Mi ddaeth fy nghefndryd ifanc draw dros y ‘Dolig, ac fe wnaethon nhw fwynhau’r llyfr. Fe gawson ni crazy kitchen disco ein hunain wedyn! Os ‘da chi’n hiraethu am hwyl y Nadolig, neu’n berson hynod drefnus sy’n chwilio am stwff ar gyfer ‘Dolig nesa – mynnwch gopi.

 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £6.95

ISBN: 978-1-84527-842-7

 

18 views0 comments
bottom of page