top of page

Rhedeg yn gynt na'r cleddyfau - Myrddin ap Dafydd

*For English review, please change language toggle switch on top of page*


Oed diddordeb: 15+ / oedolion

Oed darllen: 12+ (darllenwyr aeddfed)

*cyfeiriadau anuniongyrchol at ymosodiadau rhywiol a thrais

 
“Doedd yr Uwch-gapten William Parlby ddim mewn tymer rhy dda. A dweud y gwir, roedd croen ei din ar ei dalcen ers ben bore.”

Chwarae teg iddyn nhw, mae Gwasg Carreg Gwalch wedi bod yn brysur dros y blynyddoedd diwethaf yn rhoi lot o sylw i gynhyrchu trysorfa o lyfrau yn ymwneud â hanes Cymru dros wahanol gyfnodau. Mae hyn yn beth da iawn o ystyried y pwyslais fydd ar ddysgu am hanes a thraddodiadau ein gwlad yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru. Mynd yn ôl i Oes Fictoria ydan ni’r tro hwn, i gyfnod terfysgoedd Beca yng ngorllewin a chanolbarth Cymru.


Nid dyma’r tro cyntaf i ni ymweld â’r cyfnod cythryblus yma mewn llenyddiaeth i blant a phobl ifanc, gan i’r Brenin ei hun, T. Llew Jones, gyhoeddi nofel am y cyfnod ym 1974 o dan y teitl Cri’r Dylluan. Roedd honno’n chwip o nofel, felly tipyn o gystadleuaeth!


Cefndir Hanesyddol Sydyn

Heb fynd i ormod o fanylder a rhag ofn nad ydach chi’n gyfarwydd, dyma adeg lle'r oedd ffermwyr a gwerinwyr cefn gwlad Cymru yn gwrthryfela ac yn protestio yn erbyn tollau afresymol ar hyd lonydd Cymru. Yn y 1830au hwyr a’r 1840au cynnar, roedd gwerin bobl Cymru yn dlawd iawn. Roedd cyfres o gynaeafau gwael wedi arwain at gynnydd aruthrol yng nghostau byw ac roedd bywyd yn galed iawn. Ar ben hyn oll, roedd disgwyl iddynt dalu tollau uchel er mwyn cael defnyddio’r ffyrdd i symud nwyddau ac ati. Teimla’r ffermwyr eu bod yn cael eu trin yn annheg a’u gormesu, felly dyma fynd ati i weithredu. Roedden nhw’n mynd allan fin nos gan bardduo’u hwynebau a gwisgo dillad merched er mwyn llosgi’r tollbyrth, oedd yn arwydd o orthrwm, i’r llawr.


beth sy'n digwydd? (heb sboilars)

Mae’r dragŵns (milwyr) wedi cyrraedd ardal Sir Gaerfyrddin oherwydd yr anghydfod ynglŷn â’r protestiadau. Wrth i’r ffermwyr gyrraedd pen eu tennyn, mae mwy o’r tollbyrth yn cael eu chwalu a’u llosgi ac mae’r Cyrnol am eu gwaed. Mae’r milwr yno’n bla er mwyn dal criw ‘Beca’ in flagrante a rhoi stop arnynt unwaith ac am byth, ond mae Beca a’i ‘merched’, gyda’u rhwydwaith o negeseuon cudd, gam ar y blaen bob tro.


dwi'n licio'r arfer o roi rhestr cymeriadau - yn enwedig pan mae na gymaint! handi.

Yn y stori, down i adnabod nifer o gymeriadau lleol fel teulu’r gof, teulu’r sipsiwn a theuluoedd y tafarndai. Mae’n amlwg fod pawb yn gwybod rhywbeth, ond does neb yn siarad am Beca. Canolbwyntia’r nofel ar Elin, merch pymtheg oed, sy’n byw yn Nhafarn y Wawr, Llangadog. Caiff ei thynnu i mewn i helynt y terfysg, ac mae ei bywyd mewn perygl o ganlyniad - yn llythrennol, bydd rhaid iddi redeg yn gynt na’r cleddyfau yn wir! Yng nghanol y cyffro, daw Elin i wybod mwy am ddigwyddiadau tywyll y gorffennol, am ei thad a’i mam, ac am newyddion a all chwalu ei bywyd teuluol yn llwyr. Daw i ddysgu fod hyd yn oed rhai o bobl fwyaf ‘parchus’ cymdeithas yn llawn cyfrinachau tywyll...


mae'r dafodiaith leol yn gryf ond mae'n ddigon hawdd i'w ddeall. Mae'n ychwanegu at 'authenticity'r' nofel

I gloi

Ella fod fy niffiniad i o ‘lyfr i blant’ yn wahanol i’r cyhoeddwr, ond faswn i ddim yn argymell y stori yma i blant cynradd, yn bennaf oherwydd bod y darllen yn rhy heriol i’r mwyafrif yn ôl fy mhrofiad i. ‘8-12 a hŷn’ medden nhw – dwi’n cytuno gyda’r darn olaf, ac yn meddwl mai cynulleidfa 15+ fyddai’n gwerthfawrogi’r nofel yma fwyaf er mwyn deall y cyd-destun yn llawn. A minnau’n reit hoff o hanes, dwi wedi bod yn llowcio nofelau ffuglen hanesyddol Myrddin ap Dafydd yn y blynyddoedd diwethaf gan fod sylw’r awdur at y ffeithiau hanesyddol yn drwyadl. Dwi’n hoff iawn o’r darnau yng nghefn y llyfr sy’n sôn am y broses/sbardun o greu’r stori. Er hyn, rhaid i mi gyfaddef, wnes i ddim mwynhau hon cymaint â Drws Du yn Nhonypandy a Y Goron yn y Chwarel. Doedd y stori ddim yn fy nghydio cystal am ryw reswm. Ella mod i'n gweld y plot yn araf yn datblygu. Wedi dweud hynny, mae nifer o’r negeseuon yn y llyfr yn berthnasol iawn i ni heddiw:


“Ond alli di ddim osgoi mai politics yw gwreiddyn y drwg, bachan!”

Dwi’n siŵr y byddai modd cael trafodaeth werthfawr yn y dosbarth ar ôl y darllen a chymharu rhai o anghyfiawnderau’r cyfnod gyda’n sefyllfa ni yng Nghymru heddiw. O ystyried y cynnydd diweddar mewn costau byw, y driniaeth ddirmygus o Gymru sy’n dod o gyfeiriad San Steffan a’r rhethreg ddiddiwedd am ‘nerth yr undeb’, dwi’n gobeithio y gwnawn ni’r Cymry cyffredin ffeindio ‘ysbryd Beca’ unwaith eto, er mwyn cwffio yn erbyn yr holl anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau (ond ella mewn ffordd wahanol i wisgo peisiau a llosgi adeiladau erbyn hyn!)


Cân dda gan Tecwyn Ifan!

 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £8

ISBN: 978-1-84527-820-5

 

Recent Posts

See All
bottom of page