top of page

Chwilio

295 items found for ""

  • Madi - Dewi Wyn Williams

    Scroll down for English & comments* Nofel am fyw gyda anorecsia. Novel about living with anorexia. Genre: iechyd a lles / health & wellbeing Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◎◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◉◉◉ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◉◉◉◎◎ Rhyw/sex: ◉◉◉◉◎ Hiwmor/humour: ◉◉◎◎◎ Her darllen/reading difficulty: ◉◉◉◉◎ Dyfarniad/Rating: ★★★★☆ ⭐️Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original ⭐️ ❗ Rhybudd/warning: cynnwys sensitif a themau heriol/aeddfed. sensitive topic and mature/challenging themes. Adolygiad gan Llio Mai Hughes Madi ydi nofel gyntaf yr awdur Dewi Wyn Williams. Dyma nofel sy’n trafod bywyd merch ifanc wrth iddi ddatblygu a delio efo’r anhwylderau bwyta (eating disorders) anorexia a bulimia. O oedran ifanc iawn mae Madelyn wedi poeni am bwysau ac am sut mae hi’n edrych. Mae ganddi hefyd ddychymyg byw iawn, ac wrth geisio cofio ei hatgof cyntaf un, mae hi’n mynd yn ôl i’r adeg pan oedd hi’n ffoetws yn y groth. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i’n hollol siŵr o’r nofel ar y pwynt yma, ond fe wnes i ddal ati i ddarllen ac fe ddaeth pethau’n gliriach. Llwydda’r awdur i gyfleu’r anhwylderau bwyta yn effeithiol iawn yn y nofel, a hynny trwy eu gwneud yn gymeriad - Llais. Llais ydi’r ffrind dychmygol sydd gan Madi ers pan oedd hi’n blentyn bach. Llais sy’n gwneud sylwadau beirniadol am bwysau Madi, am sut mae hi’n edrych ac am bob rhan o’i bywyd hi. Mae Madi’n credu fod Llais yn ffrind, ond dydi’r cyfeillgarwch yn gwneud dim lles iddi. Nid yr anhwylderau bwyta yn unig sy’n cael eu trafod yn y nofel yma gan Dewi Wyn Williams. Mae’n plethu nifer o themâu eraill i’r stori fel rhyw, unigrwydd, perthnasau, cymhlethdodau teulu a galar. Perthynas Madi efo’i rhieni ydi’r brif thema arall, ar wahân i’r anorexia a’r bulimia, ac mae ei pherthynas efo’i rhieni yn bendant wedi cyfrannu at ei anhwylderau bwyta. Mae ei thad i ffwrdd am ddyddiau neu wythnosau gyda’i waith, does gan Madi ddim perthynas dda iawn efo’i mam, mae perthynas ei mam a’i thad yn amlwg dan straen ac mae’n amlwg fod rhywbeth wedi digwydd ar ryw adeg gan fod ei mam yn amlwg yn anhapus iawn, yn yfed gormod a phrin yn gadael y tŷ. Gwaethygu mae anorexia Madi, gan wedyn ddatblygu’n bulimia. Wrth i’r bobl o’i hamgylch wneud eu gorau i’w helpu i wella cawn wybod mwy am yr hyn sydd y tu ôl i berthynas gymhleth ei rhieni. Mae’r nofel yn bendant yn rhoi mewnwelediad effeithiol iawn i fywyd rhywun sy’n byw efo anhwylder bwyta. Daw’n amlwg fod yr awdur wedi gwneud gwaith ymchwil manwl, ac mae’n cyflwyno rhai o nodweddion ac elfennau’r cyflwr yn dda iawn. Yn bersonol, byddwn i’n teimlo’n hapusach petai ryw fath o rybudd wedi’i gynnwys ar ddechrau’r nofel ynglŷn â’r cynnwys. I rywun sydd wedi profi anhwylder bwyta, dw i’n siŵr y byddai rhai darnau o’r nofel yn gallu bod yn anodd iawn i’w darllen, ac mae darn sy’n disgrifio hunan-niweidio hefyd, y dylid tynnu sylw ato ar y dechrau. Yn ogystal, dw i’n teimlo nad ydi rhai o’r cyfeiriadau a pheth o iaith y nofel yn gweddu i ferch ifanc yn ei harddegau. Fyddai merch ifanc heddiw yn cofio’r rhaglen deledu Fat Friends ac wrth restru rhai o fodelau prydferthaf y byd yn enwi Heidi Klum cyn Kendall Jenner? Wedi dweud hynny, dydi hyn ddim yn amharu ar y stori o gwbl mewn gwirionedd. Mae’n bwysig bod nofelau ar gael sy’n trafod ac yn addysgu pobl am anhwylderau bwyta, ac mae Madi yn sicr yn gwneud hynny. Mi fyddwn i wedi hoffi darllen mwy am y broses o wella a delio efo bywyd ar ôl byw efo anhwylderau bwyta – deunydd am ail nofel ella? Review by Llio Mai Hughes Madi is Dewi Wyn Williams's first novel. This is a novel that discusses the life of a young girl as she develops and deals with different eating disorders, namely anorexia and bulimia. From a very young age Madelyn worries about her weight and how she looks. She also has a very vivid imagination, and in trying to remember her very first memory, she goes back to the time when she was a fetus in the womb. I have to confess that I wasn't quite sure of the novel at this point, but I did keep reading and things became clearer. The author manages to convey the eating disorders very effectively in the novel by making them a character in their own right- Llais [voice]. Voice is the imaginary friend Madi has had since she was a toddler. A voice that makes critical remarks about Madi's weight, about how she looks and about every part of her life. Madi believes that ‘Llais’ is a friend, but the friendship does not benefit her. It’s not just the eating disorders that are discussed in this novel. The author interweaves a number of other themes such as gender, loneliness, relationships, family complications and grief. Madi's relationship with her parents is the other main theme, besides the anorexia and the bulimia, and her relationship with her parents has definitely contributed to her eating disorders. Her father is away for days or weeks with his work and Madi hasn’t got a very good relationship with her mother. Their relationship is clearly strained and it's obvious that something happened in the past because her mother was obviously very unhappy, drinking too much and hardly leaving the house. Madi’s anorexia is worsened by developing into bulimia. As the people around her do their best to help her we know more about what lies behind her parent’s complex relationship. The novel definitely provides very effective insights into the life of a person living with an eating disorder. It is apparent that the author has carried out detailed research, and presents some of the characteristics and elements of the condition very well. Personally, I would feel happier if some kind of warning was included at the beginning of the novel about the content. For someone who has experienced an eating disorder, I'm sure some portions of the novel could be very difficult to read, and there's a piece that also describes self-harm, which should be highlighted at the beginning. In addition, I feel that some of the cultural references and some of the language of the novel do not suit a young teenage girl. Would a young girl today remember the television program Fat Friends and in listing some of the world's most beautiful models, would they name Heidi Klum before Kendall Jenner? Having said that, the slightly out of date references don’t impede on the story at all. It is important that novels are available that discuss and educate people about eating disorders, and Madi certainly does. I would have liked more about the process of healing and dealing with life after living with eating disorders – enough material for a second novel? Gwasg/publisher: Atebol Cyhoeddwyd/released: 2019 Pris: £8.99 ISBN: 978-1912261581

  • Yr Ynys - Lleucu Roberts

    *Scroll down for English & comments* Antur ôl-apocalytpig yn yr Arctig Post-apocalyptic adventure in the Arctic Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/released: 2017 Pris: £5.99 ISBN: 978-1784615031 Lefel her/challenge level: ❖ ❖ ❖ ☆ ☆ Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original ☆ ☆ Rai blynyddoedd yn ôl, dwi’n cofio gwylio cyfres deledu horror psychological thriller o’r enw ‘Fortitude’ ar Sky Atlantic. Lleoliad hwn oedd rhywle yn Svalbard, sef ynysoedd yn yr Arctig. Dwi’n cofio cael fy syfrdanu wrth weld y lleoliad oer, llwm ac anghysbell yma, a oedd hefyd mor ryfeddol. Dwi’n cofio dweud wrthaf i fy hun bryd hynny, ‘dwi AM weld fanna go iawn rhyw ddiwrnod.’ Yn anffodus, dwi dal heb fod yno eto, ond dyma lle mae’r llyfr yma’n cychwyn. Dylai’r clawr ffantastig roi blas i chi o sut le yw Ynys Spitsbergen. Yr Ynys yw’r llyfr cyntaf yn nhrioleg ‘Yma’ gan Lleucu Roberts (awdur profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau), ac fe gomisiynwyd y gyfres hon ar gyfer plant yn eu harddegau hŷn. Roedd y prif destun, sef dyfodol ôl-apocalyptig, yn cydio ynof yn syth. Y flwyddyn yw 2140. Yn 2030 bu bron i holl fywyd ar y ddaear ddod i ben oherwydd y bomiau niwclear ond llwyddodd 49 (ia – dim ond 49!!) o bobl i oroesi o dan ddaear yn yr Arctig bell. Maen nhw wedi sefydlu cymdeithas fechan yno ac mae hi’n frwydr ddyddiol i oroesi heb nifer o’r eitemau pob dydd rydan ni’n eu cymryd yn ganiataol. Mae ‘technoleg’ i bob pwrpas wedi cael ei ddinistrio’n llwyr ac mae rhaid i ddynol ryw dechrau o’r dechrau. Back to basics go iawn. Rwân, dwi am fod yn onest; does na ddim llwyth o action yn y llyfr yma. Prif waith y llyfr cyntaf yw sefydlu’r sefyllfa a’r cymeriadau. Mae’r llyfr yn ymroi’n llwyr i wneud hyn a dwi’n teimlo ei fod wedi llwyddo. Yn fy marn i, mae’n hynod bwysig i gymryd yr amser i greu cymeriadau y gallwn uniaethu â nhw, a rhai rydym yn mynd i falio amdanynt. Yn driw i’r gynulleidfa darged, rydym yn dilyn dau ffrind 15 oed, sef Gwawr a Cai. Mae Gwawr yn brwydro yn erbyn ei rhieni oherwydd maen nhw’n dal i’w thrin hi fel plentyn. Dwi’n siŵr y bydd nifer o’r darllenwyr yn gallu uniaethu gyda hyn. Mae’r gymuned ar yr ynys yn cynnal taith archwiliadol, (ond sydd hefyd yn teimlo ychydig fel pererindod) yn ôl i’r hen Famwlad, Cymru. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn bywyd, ac mae Gwawr ar dân eisiau ymuno â’r criw anturus. Wrth gwrs, mae ei rhieni yn dweud na i ddechrau – ac mae hyn yn achosi tipyn o wrthdaro. Heb sbwylio’r llyfr a mynd i ormod o fanylder, mae Cai a Gwawr yn llwyddo i sicrhau lle ar y fordaith hir a pheryglus, ac mae’n hawdd gweld sut mae’r llyfr yn gosod y sefyllfa’n daclus ar gyfer y ddau lyfr nesaf. Roedd darn canol y llyfr yn llusgo braidd ac roeddwn yn falch iawn o gael ’chydig bach o gyffro erbyn y diwedd. Ym mhenodau olaf y llyfr, maen nhw ar dir Cymru, ac mae’r awdur yn gorffen y llyfr ar cliffhanger go iawn. Roedd yr antur ar ddiwedd y llyfr yn hollol annisgwyl ac yn frawychus i ddweud y gwir. Cyffro llwyr, ond dychrynllyd ar yr un pryd. Mi wnes i fwynhau cyfres Y Melanai gan Bethan Gwanas yn fawr iawn, ond ffantasi oedd y rheiny. Er mai ffuglen sydd yma hefyd, mae’n teimlo’n llawer mwy real, oherwydd mi fysa’r math yma o beth yn gallu digwydd go iawn. Dyna sy’n scary. I mi’n bersonol, roedd hi’n haws dilyn iaith ac arddull Y Melanai - roedd rhaid i mi ganolbwyntio’n llawer caletach wrth ddarllen hon. Mae Lleucu Roberts yn defnyddio geirfa heriol, ac roedd rhaid i mi edrych yn y geiriadur ambell dro. Er fod y gwaith darllen yn anoddach, mae’r stori’n dda iawn ac yn werth yr ymdrech. Dwi ddim cweit yn siŵr pam fod y criw mor benderfynol o gyrraedd Aberystwyth o bob man, ond dwi’n awyddus iawn i ddarllen yr ail nofel i gael mwy o atebion.... Some years ago, I remember watching a psychological horror/thriller television series called 'Fortitude' on Sky Atlantic. This was filmed on location somewhere in Svalbard, in the Arctic. I remember being amazed at the cold, bleak and remote setting. I remember telling myself then, 'I want to see it for myself one day.' Unfortunately, I’m yet to make it there, but it is where this book starts. The fantastic cover image should give you a flavour of what kind of place Spitsbergen is. Yr Ynys is the first book in the ‘Yma’ trilogy by Lleucu Roberts (an experienced author having won a number of awards). This, like the Melanai series, was commissioned by Welsh Government for older teenage readers. The story is set in a post-apocalyptic future and it appealed to me immediately. The year is 2140. In 2030 almost all life on Earth was wiped out because of nuclear bombs but 49 (yes – only 49!!) people managed to survive in underground caves in the Arctic. They have managed to set up a small society there and it’s a daily struggle to survive without many of the luxuries we take for granted today. Technology has effectively been completely destroyed and mankind had to ' start again ' from scratch. Back to basics for sure. To be honest, there isn’t a whole load of action in this book. The main task of the first book is to establish the situation, setting and characters. The book is totally committed to doing this and I feel that it was successful in doing so. In my view, it's really important to take time to create characters that we can identify with, and ones we are going to care about. Appropriately for the target audience, we are following two 15-year-old friends, Gwawr and Cai. Gwawr rebels against her parents because they still treat her as a child. I'm sure many readers will be able to identify with this. The community on the island is about to embark on an exploratory expedition, (which also feels a little bit like a pilgrimage) back to the motherland, Wales. This is a once in a life opportunity, and Gwawr is desperate to join the intrepid crew. Of course, her parents say no to begin with – and this causes some conflict in the book. Without ruining the book and going into too much detail, Cai and Gwawr succeed in securing a place on the long and dangerous voyage, and the book successfully sets things up neatly for the next two installments. The middle section of the book dragged on a little and I was relieved to get a little bit of excitement right at the end. In the final chapters of the book, they are finally on Welsh land, and the author finishes the book on real cliffhanger. The ‘excitement’ at the end of the book was completely unexpected and rather frightening. Great! I enjoyed the Melanai series, by Bethan Gwanas very much, but those were fantasy novels. Although this is also fiction, it feels much more real, because it is of the sort of thing that really could happen. That’s what makes it so scary. It was easier to read Bethan Gwanas’ style of writing and I had to focus a lot more when reading this. She uses challenging vocabulary and I did have to consult a dictionary occasionally. Although the reading took a bit more effort, the story is very good and totally worth the effort. I'm still not sure why the crew are so determined to get to Aberystwyth of all places but I really want to read the second novel to get some answers. ...

  • Gwyn y Carw Cloff - Tudur Dylan Jones & Valériane Leblond

    Christmas adventure with lovely artwork. Antur Nadoligaidd gyda arlunwaith hardd. Gwasg/publisher: Gomer Cyhoeddwyd/released: Tachwedd 2019 ISBN: 9781785621642 Pris: £6.99 Lefel darllen/challenge level: ❖ ✮✮Cymraeg Gwreiddiol - Welsh Original✮✮ Stori Nadoligaidd hyfryd sy’n gywaith rhwng y bardd Tudur Dylan Jones â’r arlunydd talentog Valériane Leblond. Yn y stori, fe â Greta y ferch fach am dro gan ddod ar draws carw bach wedi brifo ei goes. Ar ôl iddi helpu’r carw ifanc, mae yntau ‘n gaddo talu’r ffafr yn ôl iddi. Pan ddaw’r Nadolig, mae’r carw yn dychwelyd ac yn mynd a hi ar antur wnaiff hi byth mo’i anghofio! Stori ar ffurf cwpledi (sy’n odli wrth gwrs) yw hon sydd wedi eu gosod dros waith celf Valériane, sy’n gampwaith ynddo ’i hun. Mae hi’n gwneud defnydd da o wahanol liwiau, siapiau a gweadau ac mae cymaint o fanylion i’w harchwilio ym mhob llun. Ceir ambell dudalen lle mae’r ysgrifen braidd yn anodd i’w weld – ond nid yn amhosib. Dwi’n hoff o’r twist bach chwareus ar y diwedd – tydi oedolion byth yn credu plant nac ydyn?! Fel cyn-athro, dwi’n gwybod byddai fy nosbarth wedi bod wrth eu bodd yn gwrando ar y stori yma ac yn edrych ar y lluniau. Stori perffaith i’w ddarllen ddiwedd pnawn ar y mat, neu rhwng ymarferion cyngerdd ‘Dolig. Bydd plant 3+ yn gallu mwynhau a deall cynnwys y llyfr ond tybiaf y bydd angen help oedolyn i’w ddarllen. A lovely festive story that is a collaboration between poet Tudur Dylan Jones and talented artist Valériane Leblond. In the story Greta, a young girl, goes for a walk and a picnic to the woods and comes across a small deer who has hurt his leg. After she helps the young deer, he promises to return the favour someday. Months later, as Christmas draws near, the deer returns taking her on an adventure she will never forget. This story takes the form of rhyming couplets that are overlaid on Valériane’s artwork; a masterpiece in itself. She makes good use of different colours, shapes and textures - there are so much details to explore in each picture. On a few pages the writing was rather difficult to see – but not impossible. I liked the twist at the end; made me smile. Adults never believe their children, do they?! As a former teacher, I know my old class would have loved listening to this story and looking at the pictures. It’s a perfect story to read at the end of the day on the mat, or in between concert rehearsals. Children aged 3 + will be able to enjoy and understand the contents of the book but I suspect they will need the help of an adult to read it.

  • Nadolig yn y Cartref - Luned Aaron

    *Scroll down for English & to leave comments* Llyfr Adfent del sy'n odli. A lovely Advent book, that rhymes. Gwasg/publisher: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd/released: 2019 Pris: £5.95 ISBN: 978-1-84527-716-1 Lefel her/challenge level: ❖ *Gwreiddiol Cymraeg - Welsh Original* Ai jyst fi sy’n caru llyfrau clawr caled? Wel, dyma lyfr bach del, tua maint cerdyn Nadolig. Mae lluniau Luned Aaron yn hyfryd o syml. Nid llyfr stori ydi hon fel y cyfryw, ond mae’n fwy o lyfr Adfent. Mae yna 24 llun a chwpled (sy’n odli yn amlwg) i gyflwyno traddodiadau Nadoligaidd yr ŵyl. Mi fyddai’n llyfr addas i astudio gyda dysgwyr yn ystod y cyfnod yn arwain at y Nadolig gan fod yna eirfa Saesneg yng nghefn y llyfr. Mae’r athro ynof yn gweld potensial hefyd addasu’r llyfr a’i ddarllen yn ei gyfanrwydd fel rhan o wasanaeth Nadolig yn yr ysgol neu Gapel - rhywbeth mwy ysgafn na darlleniadau o’r Beibl. Addas i blant 3+ os yw oedolyn yn darllen. O wefan Gwasg Carreg Gwalch: Dyma drysor o gyfrol liwgar a chwareus i'w mwynhau yn y dyddiau cyn y Nadolig, a hynny ar ffurf odl a llun. Yn ogystal â dangos rhai o elfennau cyfarwydd yr ŵyl i blant, mae rhai o'r traddodiadau llai cyfarwydd, syml a Chymreig, yn cael eu cyflwyno yma hefyd. Llyfr hardd a syml ar gyfer y Nadolig, does 'na ddim mwy i’w ddweud rili! Is it just me that loves hardbacks? Well, this is a small book, about the size of a Christmas card. Luned Aaron’s artwork is beautifully simple. It’s not a story book per se, but rather, an Advent book. It contains 24 pictures and couplets (that rhyme obviously!) that take us through the traditions of the Festive season. It would make a good book to study with Welsh learners in the time leading up to Christmas as it contains an English glossary in the back. The teacher in me also sees potential in using it in its entirety as a light hearted item in a school Christmas Service. Suitable for children aged 3+ if an adult reads. A lovely, simple book for the Christmas period; nothing more to say really!

  • Y Cwilt - Valériane Leblond

    *For English review, see language toggle switch on top of page* Gwledd o luniau arbennig a stori hyfryd. A treasure trove of pictures and a lovely story. *Gwreiddiol Cymraeg - Welsh Original* Yn aml, y geiriau sy’n bwysig mewn llyfr, ond yn sicr y lluniau sy’n hawlio’r sylw yn y stori yma. Llyfr hyfryd, sy’n cynnwys arlunwaith bendigedig gan Valériane Leblond. Fel arfer, gwneud lluniau ar gyfer eraill mae hi, ond dyma’r llyfr cyntaf iddi fod yn gyfrifol am y stori a’r lluniau ei hun. Stori yw hon am deulu tlawd sy’n gadael Cymru er mwyn chwilio am fywyd gwell yn America bell. Wrth i hiraeth godi a’r plentyn yn dyheu am ei hen gartref, mae’r cwilt y gwnïodd ei Fam yn dod a chysur mawr iddo. Yn ogystal â mwynhau’r stori, oedd yn gynnil a chain, cymerais oes i ddarllen y llyfr byr gan i mi fod yn edrych ac yn astudio’r lluniau hardd yn fanwl. Ar ei gwefan, soniai’r awdur/arlunydd am ei gwaith: “Yn aml, bydd fy ngweithiau’n trafod y perthynas sy rhwng pobol â’u cartref, y lle alwan nhw’n gartre. Mae i’r rhan fwyaf o’m gweithiau fanylion ac hanesion cyfochrog a welir wrth inni graffu’n fwy ofalus arnyn nhw.” Dwi’n tueddu i gytuno â hi – mae ei defnydd o batrymau yn glyfar iawn, ond i chi edrych yn ddigon agos. Drwy'r oesoedd, mae pobl Cymru wedi ymfudo dros y môr wrth chwilio am fywyd newydd. Mae nhw’n wynebu siwrne faith, a heriau di-ri wrth frwydro i sefydlu bywyd newydd mewn tir estron. Mae’r llyfr yn sôn am hyn mewn ffordd hyfryd, sy’n gwbl addas i blant ifanc. (Nid yw’r geiriau cweit mor syml a mae’r llyfr yn awgrymu i ddechrau – efallai bydd angen help oedolyn i’w ddarllen ar blant ifanc iawn.) Clawr caled ydi o sy’n gweddu’r llyfr i’r dim. Bargen am £5.99! ADOLYGIAD GWALES: Dyma drysor. Wir i chi, mae ’na rywbeth am y gyfrol hon yr ydw i, fel oedolyn, eisiau ei drysori. Mae hyd yn oed ansawdd y tudalennau’n teimlo’n werthfawr. Rydan ni wedi arfer gweld gwaith arbennig yr artist Valériane Leblond mewn gweithiau celf o bob math, gan gynnwys lluniau mewn llyfrau, ond yma mae hi’n troi ei llaw at yr ysgrifennu hefyd. Stori teulu sy’n ymfudo gan fynd â'u cwilt gyda nhw a geir yma. Mae hi’n darllen fel cerdd i mi, ac mae’r darluniau yn hynod annwyl ac yn creu awyrgylch unigryw. Darllenais drwyddi ac yna mynd o glawr i glawr eto, gan edrych ar y lluniau yn unig. Mae’r stori’n cael ei hadrodd ddwywaith yn hyn o beth. Wnes i ddim ei darllen i fy merch – mae hi’n rhy ifanc, dwi’n credu (nid yw eto'n ddwy oed). Ond bydd hon yn gyfrol y byddwn ni’n troi ati gyda’n gilydd ac yn sicr yn gyfrol y bydd Martha’n gallu ei mwynhau wrth ei darllen ar ei phen ei hun pan fydd hi'n hŷn. Mi faswn i’n awgrymu ei bod hi'n addas i blentyn ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd. Mae hi’n stori dawel ac annwyl sy’n rhoi rhyw deimlad personol iawn iddi. Mae'n llyfr perffaith i blentyn tawel sy’n hoff o gael pum munud o lonydd i ymgolli mewn llyfr. Mae Valériane yn profi ei bod hi’n feistres ar ddarlunio gyda phaent a geiriau yn y gyfrol fendigedig yma. Anni Llŷn Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2019 ISBN: 9781784617974 Pris: £5.99

  • Rygbi

    *Scroll Down for English & to leave comments* Byrstio gyda ffeithiau am y bêl hirgrwn. Bursting with facts about the oval ball! ♥ Llyfr y Mis i Blant: Medi 2019♥ ♥Book of the Months: September 2019 ♥ Genre: #ffeithiol #chwaraeon #rygbi / #nonfiction #factbook #sports #rugby Gwasg/publisher: Rily Cyhoeddwyd/released: 2019 Addasiad/adaptation: Sioned Lleinau ISBN: 9781849674393 Pris: £9.99 Addasiad o Saesneg. Welsh adaptation. Dwi’n rhagweld y bydd hwn yn bresant Nadolig poblogaidd iawn mewn sawl cartref ‘lenni! Cyfieithiad o’r llyfr Saesneg ‘Rugby’ ydi hwn, gan y cyhoeddwr ‘DK’. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r llyfrau yma wrth dyfu i fyny. Dwi’n cyfaddef - doeddwn i ddim wir yn un am ddarllen. ‘Typical hogyn’ oedd rhai yn deud. Ond roedd hyn yn hollol anghywir - ac yn niweidiol braidd! Y gwir ydi, ddim yn keen ar lyfrau ffuglen, stori oeddwn i a heb ffeindio’r math o lyfrau roeddwn i angen. Rhowch i mi lyfr ffeithiol a ro ni wrth fy modd yn ei ddarllen am oriau! Os ‘da chi’n rhywun, boed fachgen neu’n ferch, sydd ddim wedi bod yn darllen rhyw lawer- rhowch rest i’r xbox a thrïwch lyfr ffeithiau a gwybodaeth fel hon. Dwi’n gobeithio y bydd ‘Rily’ yn cyfieithu mwy o lyfrau gwybodaeth fel hyn. Mae’r llyfr yn byrstio gyda ffeithiau diddorol ac mae’n siŵr o’ch gwneud yn mini-expert ar y pwnc. Mae rygbi’n hynod o boblogaidd yng Nghymru! Dwi’m yn meddwl y gallaf fynd mor bell a dweud fod o’n curo pêl-droed, ond yn sicr mae ‘na lwyth o blant, pobl ifanc ac oedolion yn caru chwarae a gwylio’r bel hirgrwn. Meddyliwch am y cyffro cyn gem Cymru v Lloegr yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, neu wrth i Gymru wneud yn dda yng Nghwpan y Byd 2019! Mae’r llyfr yma’n lliwgar, ac yn bwysicach na hynny, yn llawn ffeithiau byr wedi eu rhannu’n effeithiol drwy’r llyfr. Hynny ydi, mae’n cynnwys llwyth o ffeithiau, ond eto, maen nhw’n hawdd iawn eu darllen. Mae’r tudalen gynnwys yn le da ar gyfer edrych beth sydd yn y llyfr. Mae ‘na hanes am sut y Dechreuodd y gêm, gwahaniaethau rhwng rygbi undeb a rygbi cynghrair, gwybodaeth am safle’r chwaraewyr, enwogion y gêm, rygbi rhyngwladol, gwybodaeth am gystadlaethau a gemau hanesyddol bwysig….mae’r rhestr yn parhau!!! Os da chi fel fi, yn drysu weithiau gyda rhai o reolau’r gêm - mae’r llyfr yma’n berffaith i chi. Mae ‘na ddarn cyfan yn esbonio pwrpas pob rôl, sut i chwarae a sut i hyd yn oed dal, gafael a phasio’r bel! Yn bersonol, gan fy mod i’n tueddu i ddefnyddio termau Saesneg y gêm, mi fyddwn i wedi hoffi gweld y geiriau Saesneg wrth ymyl y termau Cymraeg i helpu, ond barn bersonol ydi hon! Dwi’n meddwl bydd y llyfr yma’n tueddu i apelio fwy at fechgyn, ond dwi’n meddwl y bydd rhai merched wedi gwirioni gyda’r llyfr yma hefyd. Roeddwn i’n hapus o weld fod rygbi merched yn cael sylw yn y llyfr a dangos mai NID jyst gem i fechgyn ydi o. Plant: Byddwch wrth eich bodd yn dysgu a chofio ffeithiau o’r llyfr yma - hyd yn oed os ydych chi’n meddwl fod chi’n gwybod pob dim am y gêm - da chi’n siŵr o ddysgu rhywbeth newydd! Os ‘da chi awydd impressio eich mêts gyda ffeithiau clyfar am rygbi, gofynnwch yn neis i Siôn Corn am y llyfr yma! Athrawon/rhieni: Os ydi’r plant yn ddarllenwyr amharod dwi’n siŵr bydd y llyfr yma’n apelio. Mae ‘na bosibiliadau di-ri drwy ei ddefnyddio yn y dosbarth wrth astudio’r pwnc. Darllen grŵp er enghraifft? Chwlio a chwalu am eiriau a ffeithiau… Dysgu i ddefnyddio mynegai a chynnwys…. I have the feeling that this will be a very popular Christmas gift in many Welsh homes this Christmas. 'Rygbi' is a new adaptation of an English book by illustrated reference book experts 'DK'. I must confess that I wasn't really one for reading but I loved these books. 'Typical boy' some would say. This was completely wrong – and somewhat damaging! The truth is, I wasn’t keen on fiction (story) books and just hadn’t found the right type of book for me. Give me a fact book and I would read it for hours! If you are someone who hasn’t been reading much, give the Xbox a rest and try a fact book like this one. The book is bursting with interesting facts and is bound to make you a mini-expert on the subject. Rugby is hugely popular in Wales! I'm not sure I can go as far as saying that it’s better than football, but certainly lots of children, young people and adults love playing and watching the oval ball. Think of the excitement before a Wales v England game in The Six Nations or Wales doing well in the World Cup 2019. This book is colorful and, more importantly, full of short facts effectively spread throughout the book. It contains many facts, but they are very easy to read. There’s a history of how the game began, differences between rugby union and rugby league, knowledge of the positions, famous players, international rugby and important historical games. ... the list goes on…. If you, like me, sometimes get confused with some of the rules of the game – this book is perfect for you. A whole section explains the purpose of each player position, instructions on how to play; going into such detail as how to catch, hold and pass the ball! Because I’m so used to the English terms of the game, I would have liked to see the English words beside the Welsh terms just to help, but this is a personal opinion! I think this book will tend to appeal more to boys, but I think some girls will be thrilled with this book too. I was happy to see that women's rugby is featured prominently in the book and challenges the idea that it is just a game for boys. Children: you will love to learn and remember facts from this book, and even if you think you know all about the game – you are sure to learn something new! If you want to impress your friends with cool facts about rugby, you’d better ask Santa Claus about this book! Teachers/parents: If the children are reluctant readers, I am sure this book will appeal. There are unending possibilities for use in the classroom. Group reading perhaps? Using the index and contents pages maybe?

  • Geiriau Cyntaf Babi (Baby's First Words) - Elin Meek

    *Scroll down for English & comments* Llyfr dwyieithog, syml a lliwgar. A bilingual, simple and colourful book. Gwasg/publisher: Dref Wen Cyhoeddwyd/released: 2019 Pris: £3.99 ISBN: 978-1-78423-118-7 *Llyfr dwyieithog - Bilingual Book* Llyfr bach del i ddysgu geiriau cyntaf i fabi. Mae lluniau clir iawn o wrthrychau cyfarwydd sy’n llawn lliw er mwyn ysgogi’r synhwyrau. Mae ‘na chydig o ymadroddion yno hefyd er mwyn i’r rhiant allu darllen a chadw sylw’r babi. Syniad da iawn ydi rhoi’r geiriau Saesneg hefyd fel bod rhiant di-gymraeg yn gallu deall hefyd - a dysgu rhywfaint o Gymraeg ar yr un pryd gobeithio! Anrheg neis i fabi ifanc. Allwch chi ddim dechrau cael nhw i arfer gyda llyfrau’n rhy fuan! A lovely little book to teach first words to a baby. There are very clear pictures of familiar objects that are full of colour to stimulate the baby’s senses. As well as words, there are also a few phrases so the parent can read and keep the baby's attention. It was a good idea to provide the English translation too so that a non-Welsh speaking parent can also understand – and hopefully learn a bit of Welsh at the same time! A nice gift for a young baby. There’s no such thing as too early to start getting them used to books!

  • Gweld, Cyffwrdd, Teimlo

    *Scroll down for English & comments* Llyfr i'r synhwyrau i'w rannu gyda'ch babi. First sensory book to share with your baby. Gwasg/publisher: Rily Cyhoeddwyd/released: 2018 Addasiad: Catrin Wyn Lewis Pris: £7.99 ISBN: 978-1-84967-422-5 *Llyfr dwyieithog - Bilingual Book* Llyfr cyntaf i fabi sy’n llawn gweithgareddau difyr i ddeffro ac ysgogi’r synhwyrau. Mae’n llyfr perffaith i riant a babi fwynhau dysgu gyda’i gilydd. Dyma lyfr da iawn ar gyfer gweld, clywed, cyffwrdd a theimlo. Mae yna weadau a siapiau newydd a diddorol er mwyn iddyn nhw allu teimlo’r patrymau gwahanol. Dwi’n hoffi’r drych ar y dudalen olaf. Mae’r brawddegau’n fyr ac mae’r cyfieithiad Saesneg ar gael hefyd oddi tanodd. Cyfle gwych i riant a babi ddysgu 'chydig o eiriau Cymraeg newydd. A first book for a baby with fun activities to stimulate the senses. It's a perfect book for a parent and baby to enjoy learning together. This is a very good book for seeing, hearing, touching and feeling. There are new and interesting textures and shapes so they can feel the different patterns. I like the mirror on the last page. The sentences are short and the English translation is also available underneath. A great opportunity for parent and baby to learn a few new Welsh words.

  • Tom - Cynan Llwyd

    *Scroll down for English & comments* Stori sy'n cydio, wedi ei leoli yn y ddinas. Gripping story set in the city. Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/released: 2019 Pris: £5.99 ISBN: 978-1-78461-745-5 *Llyfr gwreiddiol - Welsh Original* Lefel her/challenge level: ❖ ❖ ❖ Dwi’n mwynhau darllen, ond ddim yn aml dwi’n mwynhau nofel cymaint â hon. Mae’n swnio dipyn bach yn cliché, ond roedd hi wir y amhosib rhoi hon i lawr. Tydi hi ddim fel unrhyw beth dwi wedi’i ddarllen yn y Gymraeg o’r blaen. Mae lleoliad dinesig y nofel, mewn stad o fflatiau, yn fy atgoffa o’r ddrama deledu This is England - ond wrth gwrs, mae hwn yn sbesial i Gymru ac yn llawer gwell! Tydi’r wybodaeth ar wefan y Lolfa ddim yn gwneud cyfiawnder â’r nofel yma: “Mae Tom yn 15 oed ac mae ei fywyd yn gymhleth.” Wel, dyna i chi understatement! Llawer gwell gen i ddisgrifiad Manon Steffan Ros ohoni fel nofel sy’n “gyffrous, mentrus a chwbl unigryw.” Mae hi’n unigryw. Bachgen 15 oed yw Tom, sy’n dioddef y pethau teenage angst fyse chi’n disgwyl mewn nofel fel hyn, ond mae ambell i dwist diddorol. Er enghraifft, mae o’n obsessed efo bod yn lân a pheidio dal germau. Rhywbeth diddorol sy’n cael ei esbonio wedyn. Mae Tom yn byw ar stad Caercoed yn Grangetown. Dwi wedi gwirioni efo disgrifiadau Cynan Llwyd o’r ardal - mae o’n ein trochi ym myd dydd-i-ddydd y stad. Mae’n cyfleu tlodi a chaledi bywyd yno. Er hyn, mae ’na lawer o gariad yn nhŷ Tom, ond mae ei fam, sy’n fam sengl, yn gweithio ddydd a nos er mwyn crafu byw i roi bîns a chicken nuggets ar y bwrdd. Mae pres yn dynn a fedrwch chi ddim helpu ond cydymdeimlo â nhw. Mae’r disgrifiadau yn gignoeth, ac yn blaen - nid ydynt yn ceisio cuddio’r agweddau annymunol. Pan ffeindia Tom gath wedi marw er enghraifft, dyweda: “dwi’n credu ’mod i wedi delio gyda hynny’n dda er gwaetha’r gwaed, y perfedd, y drewdod a hagrwch moelni’r ci.” Trafoda’r nofel nifer o themâu cyfoes. Mae yna dlodi, oes, a gangs, trais, cyffuriau, hiliaeth a llofrudd, ond yng nghanol hyn oll, mae yna gyfeillgarwch a theimlad o gymdogaeth hefyd. Mae Tom yn ffrindiau mawr efo Dai, sef dyn yn ei wythdegau, ac maen nhw’n rhannu mwynhad o gomics. Ffrind gorau Tom yw Ananya, ac maen nhw’n fêts gorau. Mae ei theulu, Y Khans, yn wreiddiol o Fangladesh, ac yn dioddef peth atgasedd hiliol yn y stori. Serch hynny, llwydda’r nofel i ddangos Cymru fodern sy’n amlddiwylliannol a sut mae gwahanol hiliau a chrefyddau’n cyd-fyw gyda’i gilydd, er bod 'na anghydraddoldebau cymdeithasol yn dal i fod. I fynd yn ôl at ddisgrifiad gor-syml Y Lolfa o’r nofel, yndi, mae bywyd Tom yn gymhleth. Mae’n ffeindio’i hun yn cael ei dynnu’n ddyfnach i mewn i fyd tywyll y gangs ac mae’r pethau mae’n ei weld - ac yn ei wneud - yn peri gofid mawr iddo. Yn wir, mae ei fywyd mewn perygl. Wna i ddim rhoi mwy o spoliers! Ella fod 'na fymryn gormod o ddisgrifio ar brydiau, ac yn bersonol mi faswn i wedi hoffi diweddglo gwahanol. Roedd y tensiwn a’r drama wedi cael eu hadeiladu i’r fath raddau, roeddwn i’n siŵr fod rhywbeth ofnadwy’n mynd i ddigwydd, ond siomedig braidd oedd y diweddglo sydyn, taclus. Roeddwn i’n awyddus i’r nofel fod yn dywyllach yn y diwedd. Roedd iaith ddeheuol y llyfr yn hawdd i’w ddeall (hyd yn oed i Gog fel fi) a dwi’n hapus iawn i weld nifer o eiriau Saesneg (wedi eu hitaleiddio) yn hytrach na thrio defnyddio geiriau Cymraeg stiff ac annaturiol. O ganlyniad, roedd popeth yn llifo’n dda. Roeddwn i’n hoffi’r darnau ‘social media chatroom’ yn ogystal â defnyddio pwyntiau bwled i grynhoi ambell ddisgrifiad. Pam lai? Mae’n lleihau’r baich darllen ond yn cyfleu’r wybodaeth i gyd yn syml ac yn sydyn. Dwi’n gobeithio y bydd yna lyfr arall gan yr awdur yma, ac mi faswn i’n synnu os na fydd hwn yn ymddangos ar y maes llafur TGAU yn fuan. Mae’n hen bryd i ni gael nofel gyfoes, rymus wedi ei lleoli mewn dinas ar y cwricwlwm sy’n fwy perthnasol erbyn hyn i bobl ifanc na Y Stafell Ddirgel. (No offens i Marion Eames!) I enjoy reading but I’m not often gripped by a novel as I was with this one. Sounds a little bit cliché perhaps but it really was impossible to put down. It's not like anything I've read in Welsh before. The novels urban location, based on a block of flats within an estate reminds me of the TV drama This is England – but of course this is special to us in Wales and much better! The information on The Lolfa’s website does not do this novel justice: "Tom is 15 years old and his life is complicated." Well, that’s an understatement! I much prefer Manon Steffan Ros’s description. She calls it "exciting, risky and totally unique." It is unique. Tom, our 15-year-old main character suffers from the usual teenage angst you’d expect in a novel for this age group, but it does have a few interesting twists. For one, he is obsessed with cleanliness and despises germs. This is something that is addressed later in the book. Tom lives on the Caercoed estate in Grangetown. I'm thrilled with Cynan Llwyd's descriptions of the area – he immerses us in day-to-day life on the estate. It portrays the deprivation and poverty as well as the general struggle of life there. Despite the bleakness, there’s a lot of love in Tom's house, and the two have a strong bond. His mother, who is a single parent, works day and night to scrape a living and to put chicken nuggets on the table. Money is tight and you can’t help but feel sorry for them. The descriptions are blunt and raw. They do not attempt to conceal the undesirable aspects. For example, when he finds a dead cat, he describes: "I think I have dealt with it well despite the blood, the guts, the stench and the deformity.” The novel discussed a number of topical themes. There is poverty, yes, and gangs, violence, murder, drugs and racism, but in the midst of all this, there is also friendship and comradery amongst neighbours. Tom is big friends with Dai, a man in his eighties, and they share a love of comics. Tom's best friend is Ananya, and they are close. Her family, the Khans, are originally from Bangladesh, and they suffer some racial abuse in the story. But more than this, the novel portrays a modern and multicultural Wales where different races and religions co-exist together despite many social inequalities. Going back to that overly simplistic description of the novel, I agree, his life is complex. He finds himself being dragged deeper into the world of the gangs and he sees and does things that are very distressing. Indeed, it puts his very life in danger. No more spoilers, I promise! Maybe there are too many descriptions at times, and personally I would have liked a different ending. The tension, and the drama had been built to such an extent, I was sure that something terrible was going to happen, but the swift, tidy ending was somewhat disappointing. I wanted the novel to be darker towards the end. The South-Walian dialect of the book was easy enough to understand (even for a Gog such as myself) and I was very happy to see a number of English words (italicised) rather than using a number of stiff, artificial-sounding Welsh words. As a result, the story flows naturally. I liked the ' social media chatroom ' sections and the use of bullet points to summarise some descriptions. Why not? - It reduces the reading burden but conveys all the information simply and quickly. I hope another book is on it’s way from the author, and I would be surprised if this does not appear on the GCSE syllabus soon. It’s about time for us to have a modern, powerful, city-based novel on the curriculum that is more relevant to the youth of today than Y Stafell Ddirgel. (No offence to Marion Eames of course!)

  • Hunllef o Anrheg - Graham Howells

    *Scroll down for English & comments* Antur ym myd y Tylwyth Teg - Cymraeg ei naws Fairytale adventure- with a Welsh flavour Gwasg/publisher: Gomer Cyhoeddwyd/released: 2019 Addasiad/adaptation: Bethan Gwanas Pris/price: £5.99 ISBN: 978-1-78562-316-5 Lefel Her/challenge level: ❖ ❖ Mwy addas i ddarllenwr da - un da i riant ddarllen More suited for good readers - but could be read by an adult Dwi’m yn siŵr os mai llyfr arall yw hwn neu sequel i’r Bwbach Bach Unig, ond mae o’n sicr yn rhyw fath o ddilyniant. Mae ganddo ‘r un gwedd a naws a’r llyfr cyntaf ac mae ein cyfaill bach annwyl, Y Bwbach, yn gwneud ymddangosiad! Os wnaethoch chi fwynhau’r Bwbach Bach Unig, dwi’n meddwl wnewch chi hoffi hon yn well. Dwi’n teimlo fod hon yn well stori gyda mwy o bethau’n digwydd. Addasiad Bethan Gwanas o The Nightmare Gift gan Graham Howells ydi hwn. Mae B G yn hen law ar ‘sgwennu llyfrau i blant ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod o’n llifo’n lot gwell na’r llyfr cyntaf. Mi oedd yr iaith dipyn yn grandiose yn y llyfr diwethaf ac mae o wedi cael ei symleiddio dipyn ar gyfer hon. (sy’n beth da iawn!) Mae Aled yn boenwr. Mae o’n gofidio gan ei fod yn cychwyn mewn ysgol newydd. Ar gyrraedd yr ysgol, mae o’n darganfod fod ganddo athrawes annisgwyl newydd, Miss Ceridwen ac mae hi’ agor ei lygaid i fyd newydd a rhyfeddol o antur. Mae hi’n ei yrru i’r cwpwrdd yng nghefn y dosbarth… ond nid cwpwrdd normal mohono… ond cartref y Bwbach!! Mae o’n rhoi anrheg bythgofiadwy i Aled, sef y Bwci Bo sydd ar y clawr. (Dwi wedi gwirioni hefo’r pelan bach fflwffiog hyll yma!! Dwi isio un fy hun ‘Dolig!) Wrth i’r ddau ffrind newydd fynd ar antur, da ni’n cyfarfod ambell i hen gymeriad fel Gwyn ap Nudd, a rhai newydd fel y Ladi Wen, yr hwch ddu anferthol, y ferch heb ben a mwy… Er bod y llyfr yn llawn hud a lledrith a chymeriadau rhyfeddol, mae’r awdur yn llwyddo i blethu’r byd chwedlonol gyda’r byd real. Mae’n llwyddo i gyfleu neges bwysig hefyd am orchfygu’ch ofnau ac am sut i drin eraill. Diddorol fod Ethan y bwli, sy’n pigo ar eraill, yn ofn ac yn unig ei hun… Unwaith eto, dwi wrth fy modd gyda lluniau Graham Howells. Mae ei luniau’n cyfoethogi’r llyfr gyda’r cymeriadau lliwgar. Mae ganddo ddawn am greu bwystfilod; mae hynny’n ffaith. Cofiwch fod na sôn am Amgueddfa Sain Ffagan yn y llyfr yma hefyd, ac os nad ydych wedi bod – ewch! I'm not sure if this is another book or a sequel to Y Bwbach Bach Unig, but it's definitely some sort of follow-up. It has the same look and feel of the first book and our dear little friend, the Bwbach, makes an appearance! If you enjoyed Y Bwbach Bach Unig, I think you’ll like this one even more. I feel this is a better story with more action and things going on. This is Bethan Gwanas's adaptation of The Nightmare Gift by Graham Howells. B G is well versed in book writing for children and I have to say that this one flows a lot better than the first book. The language was a bit difficult/posh in the last book and it’s been simplified for this one. (which is a very good thing!) Aled, a young boy, is a worrier. He is anxious because he’s starting at a new school. On arrival, he discovers that he has an unexpected new teacher, Miss Ceridwen, and she opens his eyes to an amazing world of adventure. She sends him on an errand to the storeroom cupboard at the back of the class... This isn’t just any old cupboard... but it’s the Bwbach’s home!! He gives Aled the unforgettable gift of the Bwci Bo (monster) on the cover. (I’m in love with this cute, yet ugly fluffball – I want one for Christmas!) As the two new friends go on an adventure, we meet some old characters such as Gwyn ap Nudd, and new ones like the Ladi Wen, the hairy black sow, the headless woman and more… Although the book is filled to the brim with magic and adventure, the author manages to intertwine the mythical world with the real world. He also manages to convey an important message about overcoming your fears and how to treat others. Interesting to note that Ethan the bully, who picks on others, is scared and lonely himself… Again, I'm delighted with Graham Howells's drawings. His illustrations enrich the book with colourful characters. He has a talent for creating monsters; that is a fact. The St Fagans Museum gets another mention in this book too, and if you still haven't been – go!

  • Teulu Tŷ Bach - Eurig Salisbury

    *Scoll down for English & to leave comments* Stori llawn hiwmor am dŷ bach boncyrs Funny story about a mad little house Gwasg/publisher: CAA Cymru Cyfres/series: Halibalŵ Cyhoeddwyd: 2018 ISBN: 978-1-84521-704-4 Llyfr hawdd i'w ddarllen, pennodau byr, font mawr. Fairly easy to read, short chapters, large font. Lefel: ❖ Mae Teulu Tŷ Bach yn fy atgoffa o rhai o’r llyfrau Cymraeg roeddwn i’n arfer mwynhau eu darllen yn y 90au. Tydi’r stori ddim yn ddwys, nac yn cymryd ei hun o ddifri, mae o jyst yn nyts – ac mae hynny’n braf weithiau. Y math o lyfr y gallwch ddarllen heb orfod meddwl gormod. Llyfr syml ac ysgafn (dim yn llythrennol). Mae’r stori’n hollol random a dweud y gwir. Ar ddiwedd y stori, doeddwn i ddim cweit yn siŵr beth oeddwn i newydd ddarllen, na beth yn union oedd wedi digwydd, ond mam bach mi wnes i fwynhau! Yn y llyfr, yn lle un stori fawr hir, rydym ni’n clywed pytiau o straeon sy’n adrodd hanes doniol a helbulus y rhai sy’n byw yn Nhŷ Bach, sef Blodwen, Cleif a Sam y ci. Mae ‘na bob math o bethau boncyrs yn digwydd yn y llyfr – wrth ddarllen doedd gen i ddim syniad i ble roedd y stori’n mynd nesaf, oedd yn braf o beth. Y Gath drws nesaf yw gelyn mwyaf Sam y ci; mae hi’n dod i mewn i’r ardd ac yn mwynhau ei bryfocio. Mae hyn yn cynhyrfu Sam y ci’n racs - gyda chanlyniadau doniol! Mae’r gath a’r ci yn fy atgoffa o’r cartŵns Tom & Jerry! Mae’r hiwmor yn y llyfr yn slapstick pur, ac mae meddwl am Edward Edwards (y dyn moel drws nesaf) yn rhedeg o gwmpas yr ardd gyda’r gath am ei ben yn hileriys! Yna, mae Blodwen yn gweld llygoden fawr tra mae hi yn y bath! Rhywsut mae hi’n landio yn yr ardd yn gwisgo dim byd ond ei thywel! Wrth i’r cymdogion busneslyd ddod i drio helpu, mae pethau’n mynd yn rhemp lwyr wrth i’r dynion ddechrau cwffio yn yr ardd! Mae unrhyw un sy’n hoffi stori wirion bost yn siŵr o fod yn eu dybla’n chwerthin drwy’r llyfr yma! Ond mae yna hefyd ddiweddglo hapus, annwyl yng nghanol yr holl wallgofrwydd. O, ia, a dwi ddim yn siŵr fedrai BYTH edrych ar jar o bicls eto heb feddwl am Cleif – neu Edward Edwards druan! YCH-A-FI!!! Mae’r ysgrifen yn fawr ac yn glir yn y llyfr yma. Mae o’n un o ddewisiadau Bl.3a4 ar gyfer ‘Cwis Llyfrau 2019’ ond mi fasa fo’n addas i blant Bl.5&6 sy’n newydd i ddarllen llyfrau Cymraeg neu’n dysgu Cymraeg achos fod o’n syml ac yn hawdd i'w ddarllen. Er hyn, dwi’n meddwl fod Eurig Salisbury’n defnyddio iaith dda ynddo. Mae’r lluniau cartŵn od yn gweddu’r llyfr i’r dim. Athrawon, cofiwch fod yna adnoddau ar gyfer y llyfr yma ar HWB: Teulu Tŷ Bach reminds me of some of the funny Welsh books I used to enjoy reading in the 90s. The story isn't intense, doesn’t take itself too seriously, and is just nuts, basically! It’s nice to read a story like that sometimes. It’s the kind of book you can read without having to think too much. A simple, easy read. The story is totally random. At the end of the story, I still wasn’t quite sure what I’d just read, or what exactly had happened, but boy did I enjoy it! Even though it is one story, it feels more like a few shorter stories about the crazy antics of those who live at Tŷ Bach, namely Blodwen, Cleif and Sam the dog. There are all sorts of mad things going on in the book – as I was reading, I had no idea where the story was going next, which was interesting. Next door’s cat is Sam’s biggest enemy; she comes into the garden and enjoys winding him up whilst he’s stuck in the house. The results are hilarious – they both remind me of the Tom & Jerry cartons! The humour in the book is a pure slapstick, and the thought of Edward Edwards (the bald man next door) running around the garden with the cat on his head is very funny indeed! Then, all of a sudden, Blodwen sees a big rat while she’s in the bath! One way or another she ends up standing in the garden wearing nothing but her towel! As the nosey, meddling neighbours come to her rescue, it descends into complete chaos as the grown men start brawling in her prized flowerbed! Anyone who likes a silly story is bound to in stitches throughout this book! But there is also a happy, affectionate ending in the midst of all the madness. Oh, and, I'm not sure I can EVER look at a jar of pickles again without thinking of Cleif – or poor Edward Edwards! Yuck! The font is large and clear in this book. It is one of the choices for Yrs.3&4 in the 2019 Book Quiz but I have also found it suitable for children in Yrs. 5&6 who are learners or are new to reading in Welsh. This is because it’s a simple and easy-going read. Despite its down to earth storyline, Eurig Salisbury uses rich, good quality language with many learning opportunities. The odd-looking cartoon pictures suit the book perfectly. Teachers, remember that there are teaching resources for this book on HWB: https://hwb.gov.wales/repository/resource/4bbcaeff-c46d-4e30-b2cc-e4a8fe236bb2/cy

  • Y Boced Wag - Eurgain Haf

    *Scroll down for English & to leave comments* Stori annwyl am fabwysiadu i blant ifanc. Lovely story about adoption for young children. Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/released: 2019 Lluniau: Siôn Morris ISBN: 978-1-78461-746-2 Lefel her/challenge level: ❖ Llyfr byr a syml. Un da i ddarllen gyda phlentyn. Short and simple book. A good one to read with children. Dyma lyfr annwyl newydd gan Eurgain Haf sy’n trafod thema mabwysiadu mewn ffordd sy’n ddealladwy i blant ifanc. Yn ôl sôn, hwn yw’r llyfr cyntaf ar y pwnc yma yn y Gymraeg i blant bach – dwi’n falch o’i weld ar y silffoedd. Fel dwi’n deall, mae gan yr awdur brofiad o fabwysiadu ei hun, felly hi yw’r person perffaith i ysgrifennu’r llyfr yma. Mae ynddo luniau hyfryd a syml gan Siôn Morris. Ar ddechrau’r stori mae Cadi’r cangarŵ yn drist achos mae ei phoced hi’n wag a does ganddi ddim cangarŵ bach i ofalu amdano. Mae hi’n mynd am dro o gwmpas y wlad yn chwilio am ‘hapusrwydd’ ac yn dod ar draws nifer o anifeiliaid Awstralia. Mae rhai o’r anifeiliaid yn fwy na pharod i helpu ond mae ambell un yn trio ei thwyllo. (Cyfle da yma i drafod sut mae’r dihiryn yn trio ei thwyllo). Yn y pen draw, mae arth coala clên yn ei helpu ac erbyn diwedd y stori, mae Cadi wedi mabwysiadu Jo Bach. Tydi’r stori ddim yn dweud yn union fod Jo Bach wedi colli ei Fam, ond yn hytrach, ei roi mewn ffordd sensitif sy’n addas i blant bach. Mae’r stori’n gynnil felly gallwch ei ddarllen mewn un eisteddiad. Dwi’n meddwl fod y llyfr yn cynnig sbardun da ar gyfer trafodaeth. Anrheg lyfli am £4.99. This is a charming new book by writer Eurgain Haf which discusses the theme of adoption in a way that young children understand. I’m told that this is the first book on this subject in Welsh for young children – I'm glad to see it on the shelves. As I understand, the author has experience of adopting herself, so she is the perfect person to write this book. It contains lovely and simple drawings by Siôn Morris. At the start of the story Cadi the kangaroo is sad because her pouch is empty and she doesn't have a little joey to look after. She goes for a walk around the country looking for ' happiness ' and encounters a number of Australian animals on the way. Some of the animals are more than happy to help but one tries to trick her. (a good opportunity here to discuss how the rascal tries to do this). Eventually, a nice koala bear helps her out and by the end of the story, Cadi has adopted Jo Bach. The story doesn't exactly say that Jo Bach lost (or no longer has) his mum, but instead puts it in a sensitive way that suits small children. The story is nice and short, with each word being chosen carefully, so you can read it in one sitting. I think the book provides a good stimulus for discussion. A lovely gift at £4.99.

bottom of page