top of page

Yr Ynys - Lleucu Roberts

*Scroll down for English & comments*


Antur ôl-apocalytpig yn yr Arctig

Post-apocalyptic adventure in the Arctic


Gwasg/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2017

Pris: £5.99

ISBN: 978-1784615031

Lefel her/challenge level: ❖ ❖ ❖


☆ ☆ Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original ☆ ☆

 

Rai blynyddoedd yn ôl, dwi’n cofio gwylio cyfres deledu horror psychological thriller o’r enw ‘Fortitude’ ar Sky Atlantic. Lleoliad hwn oedd rhywle yn Svalbard, sef ynysoedd yn yr Arctig. Dwi’n cofio cael fy syfrdanu wrth weld y lleoliad oer, llwm ac anghysbell yma, a oedd hefyd mor ryfeddol. Dwi’n cofio dweud wrthaf i fy hun bryd hynny, ‘dwi AM weld fanna go iawn rhyw ddiwrnod.’ Yn anffodus, dwi dal heb fod yno eto, ond dyma lle mae’r llyfr yma’n cychwyn. Dylai’r clawr ffantastig roi blas i chi o sut le yw Ynys Spitsbergen.



Yr Ynys yw’r llyfr cyntaf yn nhrioleg ‘Yma’ gan Lleucu Roberts (awdur profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau), ac fe gomisiynwyd y gyfres hon ar gyfer plant yn eu harddegau hŷn. Roedd y prif destun, sef dyfodol ôl-apocalyptig, yn cydio ynof yn syth. Y flwyddyn yw 2140. Yn 2030 bu bron i holl fywyd ar y ddaear ddod i ben oherwydd y bomiau niwclear ond llwyddodd 49 (ia – dim ond 49!!) o bobl i oroesi o dan ddaear yn yr Arctig bell. Maen nhw wedi sefydlu cymdeithas fechan yno ac mae hi’n frwydr ddyddiol i oroesi heb nifer o’r eitemau pob dydd rydan ni’n eu cymryd yn ganiataol. Mae ‘technoleg’ i bob pwrpas wedi cael ei ddinistrio’n llwyr ac mae rhaid i ddynol ryw dechrau o’r dechrau. Back to basics go iawn.


Rwân, dwi am fod yn onest; does na ddim llwyth o action yn y llyfr yma. Prif waith y llyfr cyntaf yw sefydlu’r sefyllfa a’r cymeriadau. Mae’r llyfr yn ymroi’n llwyr i wneud hyn a dwi’n teimlo ei fod wedi llwyddo. Yn fy marn i, mae’n hynod bwysig i gymryd yr amser i greu cymeriadau y gallwn uniaethu â nhw, a rhai rydym yn mynd i falio amdanynt.



Yn driw i’r gynulleidfa darged, rydym yn dilyn dau ffrind 15 oed, sef Gwawr a Cai. Mae Gwawr yn brwydro yn erbyn ei rhieni oherwydd maen nhw’n dal i’w thrin hi fel plentyn. Dwi’n siŵr y bydd nifer o’r darllenwyr yn gallu uniaethu gyda hyn. Mae’r gymuned ar yr ynys yn cynnal taith archwiliadol, (ond sydd hefyd yn teimlo ychydig fel pererindod) yn ôl i’r hen Famwlad, Cymru. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn bywyd, ac mae Gwawr ar dân eisiau ymuno â’r criw anturus. Wrth gwrs, mae ei rhieni yn dweud na i ddechrau – ac mae hyn yn achosi tipyn o wrthdaro.


Heb sbwylio’r llyfr a mynd i ormod o fanylder, mae Cai a Gwawr yn llwyddo i sicrhau lle ar y fordaith hir a pheryglus, ac mae’n hawdd gweld sut mae’r llyfr yn gosod y sefyllfa’n daclus ar gyfer y ddau lyfr nesaf.


Roedd darn canol y llyfr yn llusgo braidd ac roeddwn yn falch iawn o gael ’chydig bach o gyffro erbyn y diwedd. Ym mhenodau olaf y llyfr, maen nhw ar dir Cymru, ac mae’r awdur yn gorffen y llyfr ar cliffhanger go iawn. Roedd yr antur ar ddiwedd y llyfr yn hollol annisgwyl ac yn frawychus i ddweud y gwir. Cyffro llwyr, ond dychrynllyd ar yr un pryd.


Darnau dyddiadur sy'n llenwi bylchau hanes. Diary extracts that fill in some historical blanks

Mi wnes i fwynhau cyfres Y Melanai gan Bethan Gwanas yn fawr iawn, ond ffantasi oedd y rheiny. Er mai ffuglen sydd yma hefyd, mae’n teimlo’n llawer mwy real, oherwydd mi fysa’r math yma o beth yn gallu digwydd go iawn. Dyna sy’n scary. I mi’n bersonol, roedd hi’n haws dilyn iaith ac arddull Y Melanai - roedd rhaid i mi ganolbwyntio’n llawer caletach wrth ddarllen hon. Mae Lleucu Roberts yn defnyddio geirfa heriol, ac roedd rhaid i mi edrych yn y geiriadur ambell dro. Er fod y gwaith darllen yn anoddach, mae’r stori’n dda iawn ac yn werth yr ymdrech. Dwi ddim cweit yn siŵr pam fod y criw mor benderfynol o gyrraedd Aberystwyth o bob man, ond dwi’n awyddus iawn i ddarllen yr ail nofel i gael mwy o atebion....


 

Some years ago, I remember watching a psychological horror/thriller television series called 'Fortitude' on Sky Atlantic. This was filmed on location somewhere in Svalbard, in the Arctic. I remember being amazed at the cold, bleak and remote setting. I remember telling myself then, 'I want to see it for myself one day.' Unfortunately, I’m yet to make it there, but it is where this book starts. The fantastic cover image should give you a flavour of what kind of place Spitsbergen is.


Yr Ynys is the first book in the ‘Yma’ trilogy by Lleucu Roberts (an experienced author having won a number of awards). This, like the Melanai series, was commissioned by Welsh Government for older teenage readers. The story is set in a post-apocalyptic future and it appealed to me immediately. The year is 2140. In 2030 almost all life on Earth was wiped out because of nuclear bombs but 49 (yes – only 49!!) people managed to survive in underground caves in the Arctic. They have managed to set up a small society there and it’s a daily struggle to survive without many of the luxuries we take for granted today. Technology has effectively been completely destroyed and mankind had to ' start again ' from scratch. Back to basics for sure.


To be honest, there isn’t a whole load of action in this book. The main task of the first book is to establish the situation, setting and characters. The book is totally committed to doing this and I feel that it was successful in doing so. In my view, it's really important to take time to create characters that we can identify with, and ones we are going to care about.



Appropriately for the target audience, we are following two 15-year-old friends, Gwawr and Cai. Gwawr rebels against her parents because they still treat her as a child. I'm sure many readers will be able to identify with this. The community on the island is about to embark on an exploratory expedition, (which also feels a little bit like a pilgrimage) back to the motherland, Wales. This is a once in a life opportunity, and Gwawr is desperate to join the intrepid crew. Of course, her parents say no to begin with – and this causes some conflict in the book.


Without ruining the book and going into too much detail, Cai and Gwawr succeed in securing a place on the long and dangerous voyage, and the book successfully sets things up neatly for the next two installments.


The middle section of the book dragged on a little and I was relieved to get a little bit of excitement right at the end. In the final chapters of the book, they are finally on Welsh land, and the author finishes the book on real cliffhanger. The ‘excitement’ at the end of the book was completely unexpected and rather frightening. Great!


I enjoyed the Melanai series, by Bethan Gwanas very much, but those were fantasy novels. Although this is also fiction, it feels much more real, because it is of the sort of thing that really could happen. That’s what makes it so scary. It was easier to read Bethan Gwanas’ style of writing and I had to focus a lot more when reading this. She uses challenging vocabulary and I did have to consult a dictionary occasionally. Although the reading took a bit more effort, the story is very good and totally worth the effort. I'm still not sure why the crew are so determined to get to Aberystwyth of all places but I really want to read the second novel to get some answers. ...

29 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page