top of page

Nadolig yn y Cartref - Luned Aaron

*Scroll down for English & to leave comments*


Llyfr Adfent del sy'n odli.

A lovely Advent book, that rhymes.



Gwasg/publisher: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd/released: 2019

Pris: £5.95

ISBN: 978-1-84527-716-1

Lefel her/challenge level:


*Gwreiddiol Cymraeg - Welsh Original*

 

Ai jyst fi sy’n caru llyfrau clawr caled? Wel, dyma lyfr bach del, tua maint cerdyn Nadolig. Mae lluniau Luned Aaron yn hyfryd o syml. Nid llyfr stori ydi hon fel y cyfryw, ond mae’n fwy o lyfr Adfent. Mae yna 24 llun a chwpled (sy’n odli yn amlwg) i gyflwyno traddodiadau Nadoligaidd yr ŵyl. Mi fyddai’n llyfr addas i astudio gyda dysgwyr yn ystod y cyfnod yn arwain at y Nadolig gan fod yna eirfa Saesneg yng nghefn y llyfr. Mae’r athro ynof yn gweld potensial hefyd addasu’r llyfr a’i ddarllen yn ei gyfanrwydd fel rhan o wasanaeth Nadolig yn yr ysgol neu Gapel - rhywbeth mwy ysgafn na darlleniadau o’r Beibl. Addas i blant 3+ os yw oedolyn yn darllen.



O wefan Gwasg Carreg Gwalch:

Dyma drysor o gyfrol liwgar a chwareus i'w mwynhau yn y dyddiau cyn y Nadolig, a hynny ar ffurf odl a llun. Yn ogystal â dangos rhai o elfennau cyfarwydd yr ŵyl i blant, mae rhai o'r traddodiadau llai cyfarwydd, syml a Chymreig, yn cael eu cyflwyno yma hefyd.


Llyfr hardd a syml ar gyfer y Nadolig, does 'na ddim mwy i’w ddweud rili!



 

Is it just me that loves hardbacks? Well, this is a small book, about the size of a Christmas card. Luned Aaron’s artwork is beautifully simple. It’s not a story book per se, but rather, an Advent book. It contains 24 pictures and couplets (that rhyme obviously!) that take us through the traditions of the Festive season.



It would make a good book to study with Welsh learners in the time leading up to Christmas as it contains an English glossary in the back. The teacher in me also sees potential in using it in its entirety as a light hearted item in a school Christmas Service. Suitable for children aged 3+ if an adult reads.


A lovely, simple book for the Christmas period; nothing more to say really!




32 views0 comments
bottom of page