top of page

Hunllef o Anrheg - Graham Howells

*Scroll down for English & comments*


Antur ym myd y Tylwyth Teg - Cymraeg ei naws

Fairytale adventure- with a Welsh flavour



Gwasg/publisher: Gomer

Cyhoeddwyd/released: 2019

Addasiad/adaptation: Bethan Gwanas

Pris/price: £5.99

ISBN: 978-1-78562-316-5


Lefel Her/challenge level: ❖ ❖


Mwy addas i ddarllenwr da - un da i riant ddarllen

More suited for good readers - but could be read by an adult

 

Dwi’m yn siŵr os mai llyfr arall yw hwn neu sequel i’r Bwbach Bach Unig, ond mae o’n sicr yn rhyw fath o ddilyniant. Mae ganddo ‘r un gwedd a naws a’r llyfr cyntaf ac mae ein cyfaill bach annwyl, Y Bwbach, yn gwneud ymddangosiad!



Os wnaethoch chi fwynhau’r Bwbach Bach Unig, dwi’n meddwl wnewch chi hoffi hon yn well. Dwi’n teimlo fod hon yn well stori gyda mwy o bethau’n digwydd. Addasiad Bethan Gwanas o The Nightmare Gift gan Graham Howells ydi hwn. Mae B G yn hen law ar ‘sgwennu llyfrau i blant ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod o’n llifo’n lot gwell na’r llyfr cyntaf. Mi oedd yr iaith dipyn yn grandiose yn y llyfr diwethaf ac mae o wedi cael ei symleiddio dipyn ar gyfer hon. (sy’n beth da iawn!)


Mae Aled yn boenwr. Mae o’n gofidio gan ei fod yn cychwyn mewn ysgol newydd. Ar gyrraedd yr ysgol, mae o’n darganfod fod ganddo athrawes annisgwyl newydd, Miss Ceridwen ac mae hi’ agor ei lygaid i fyd newydd a rhyfeddol o antur. Mae hi’n ei yrru i’r cwpwrdd yng nghefn y dosbarth… ond nid cwpwrdd normal mohono… ond cartref y Bwbach!! Mae o’n rhoi anrheg bythgofiadwy i Aled, sef y Bwci Bo sydd ar y clawr. (Dwi wedi gwirioni hefo’r pelan bach fflwffiog hyll yma!! Dwi isio un fy hun ‘Dolig!)



Wrth i’r ddau ffrind newydd fynd ar antur, da ni’n cyfarfod ambell i hen gymeriad fel Gwyn ap Nudd, a rhai newydd fel y Ladi Wen, yr hwch ddu anferthol, y ferch heb ben a mwy…


Er bod y llyfr yn llawn hud a lledrith a chymeriadau rhyfeddol, mae’r awdur yn llwyddo i blethu’r byd chwedlonol gyda’r byd real. Mae’n llwyddo i gyfleu neges bwysig hefyd am orchfygu’ch ofnau ac am sut i drin eraill. Diddorol fod Ethan y bwli, sy’n pigo ar eraill, yn ofn ac yn unig ei hun…


Unwaith eto, dwi wrth fy modd gyda lluniau Graham Howells. Mae ei luniau’n cyfoethogi’r llyfr gyda’r cymeriadau lliwgar. Mae ganddo ddawn am greu bwystfilod; mae hynny’n ffaith. Cofiwch fod na sôn am Amgueddfa Sain Ffagan yn y llyfr yma hefyd, ac os nad ydych wedi bod – ewch!


 

I'm not sure if this is another book or a sequel to Y Bwbach Bach Unig, but it's definitely some sort of follow-up. It has the same look and feel of the first book and our dear little friend, the Bwbach, makes an appearance!



If you enjoyed Y Bwbach Bach Unig, I think you’ll like this one even more. I feel this is a better story with more action and things going on. This is Bethan Gwanas's adaptation of The Nightmare Gift by Graham Howells. B G is well versed in book writing for children and I have to say that this one flows a lot better than the first book. The language was a bit difficult/posh in the last book and it’s been simplified for this one. (which is a very good thing!)


Aled, a young boy, is a worrier. He is anxious because he’s starting at a new school. On arrival, he discovers that he has an unexpected new teacher, Miss Ceridwen, and she opens his eyes to an amazing world of adventure. She sends him on an errand to the storeroom cupboard at the back of the class... This isn’t just any old cupboard... but it’s the Bwbach’s home!! He gives Aled the unforgettable gift of the Bwci Bo (monster) on the cover. (I’m in love with this cute, yet ugly fluffball – I want one for Christmas!)


As the two new friends go on an adventure, we meet some old characters such as Gwyn ap Nudd, and new ones like the Ladi Wen, the hairy black sow, the headless woman and more…



Although the book is filled to the brim with magic and adventure, the author manages to intertwine the mythical world with the real world. He also manages to convey an important message about overcoming your fears and how to treat others. Interesting to note that Ethan the bully, who picks on others, is scared and lonely himself…


Again, I'm delighted with Graham Howells's drawings. His illustrations enrich the book with colourful characters. He has a talent for creating monsters; that is a fact. The St Fagans Museum gets another mention in this book too, and if you still haven't been – go!

18 views0 comments
bottom of page