top of page

Chwilio

309 results found with an empty search

  • Sbwriel [addas. Sioned Lleinau]

    (awgrym) oed darllen: 8+ (awgrym) oed diddordeb: 7+ #ffeithiol #amgylchedd #sbwriel #ailgylchu Ydach chi ‘rioed wedi meddwl lle mae’r carton llefrith yn mynd ar ôl i chi ei daflu i ffwrdd? Ar dipyn o antur yn ôl sôn... Mi nes i fenthyg copi o’r llyfr yma rhai wythnosau nôl o’r llyfrgell, ond rhywsut neu'i gilydd, mi anghofiais ei adolygu. Mi ges i fy atgoffa amdano bore ‘ma wrth gerdded yn y parc lleol gyda’r pram. Dyna lle’r oedd ryw sbwrgi drwg (ydw i wedi creu gair newydd?!) wedi dympio binbag yn llawn o sbwriel reit wrth ymyl y bin. Am hunanol. Beth sydd haru bobl? Oedd hi mor anodd â hynny rhoi’r bag i mewn yn y bin tybed? Mae wir yn torri fy nghalon pan dwi’n gweld pobl yn difetha ac yn amharchu ein byd hardd drwy daflu sbwriel. Ta waeth... Mi dyfais i fyny gyda llyfrau DK - adar, llongau, ymlusgiaid, adeiladau... you name it, roedd llyfr ar ei gyfer. Doedd dim yn well gen i ‘na dysgu am y byd o nghwmpas. Er bod llawer o’r rhain i’w cael yn y nawdegau, dwi ddim wedi gweld llawer ohonynt yn ddiweddar. Dyna pam dwi’n hapus fod Rily wedi dechrau addasu rhai o deitlau’r gyfres ‘darganfod!’ O edrych faint o deitlau sydd ar gael yn y gyfres wreiddiol, does dim prinder o rai i’w haddasu i ni gael eu mwynhau yn y Gymraeg. Mae’r llyfr yn dilyn fformat trïed and tested DK dros y blynyddoedd a tydyn nhw heb newid llawer arno. Bysa rhai’n dweud eu bod nhw mymryn yn hen ffasiwn, ond i mi, does dim angen newid arno achos mae’n gweithio’n dda. Mae’r tudalennau yn frith o luniau, diagramau a swigod ffeithiau sy’n apelio at y llygad ac sydd hefyd yn ddifyr dros ben. Er bod y tudalennau’n brysur, maen nhw hefyd yn reit glir ac yn hawdd i’w dilyn. Nid yw’r un peth yn wir ar gyfer pob llyfr ffeithiol. Yn sicr mae hwn yn llyfr y gallwch ei fwynhau adref, ond dwi’n gweld llawer o ddefnydd ar ei gyfer yn y dosbarth, yn enwedig ym mlynyddoedd 3-6. Mae Pedwar Diben y Cwricwlwm newydd yn sôn am greu ‘dinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd (yn dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd y blaned). Dyma felly'r llyfr perffaith ar gyfer uned o waith ar ailgylchu, yr amgylchedd, llygredd neu’r gymuned leol. Mi faswn i’n ei ddefnyddio ar gyfer tasg ymchwilio neu ar gyfer sesiwn darllen grŵp. Gallwch ddarllen darnau ohono yn hytrach na’r llyfr i gyd. Mae’n gweddu ei hun yn dda ar gyfer cyflwyno gwahanol elfennau o lyfr ffeithiol hefyd, fel y dudalen gynnwys, y mynegai neu’r cydnabyddiaethau. Mae gan Gymru record dda ar gyfer ailgylchu a chynaladwyedd, ond mi fasa ni’n ffôl i feddwl ein bod yn gwneud digon. Er bod pethau’n gwella, ‘da ni’n dal i fyw mewn throwaway culture gwastraffus. Be ddigwyddodd i’r agwedd make do and mend oedd mor boblogaidd ers talwm? Beth bynnag sy’n digwydd, mi fydd rhaid i bethau newid. Mae’r sefyllfa bresennol yn anghynaladwy. Dwi bron yn teimlo fod hi’n rhy hwyr i’r genhedlaeth yma, ond mae un llygedyn o obaith – ein plant. Dio ddim yn deg o gwbl, achos ‘da ni wedi gadael llanast ar y ddaear, a nhw sy’n mynd i etifeddu hynny i gyd. Er hyn, mae’n rhaid i mi obeithio a breuddwydio y bydden nhw’n dysgu o’n camgymeriadau ni ac yn gwneud gwell job o ofalu am ein planed anhygoel.... Fedra i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw llyfrau fel hyn. Gwasg: Rily Cyfres: Darganfod! Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99 ERAILL YN Y GYFRES... https://www.sonamlyfra.cymru/post/darganfod-newid-hinsawdd-dk-addas-sioned-lleinau

  • Bach a Mawr - Luned Aaron

    ♥ llyfr y Mis i Blant: Gorffennaf 2023♥ (awgrym) oed diddordeb: 0-4 (awgrym) oed darllen: 5 Wel wir, mi roedd Gorffennaf yn fis a hanner! Sori dwi wedi bod yn ddistaw iawn ar hwn, ond yn y cyfamser, dwi wedi dod yn dad am y tro cyntaf. Ar y 5/7/23 mi wnaeth Llio a fi groesawu Broc Siôn Dafydd i’r byd! Ac er y diffyg cwsg, mae o wedi llenwi ein bywydau â chariad ers y munud iddo gyrraedd. Gydag yntau’n fis oed, wnaeth hi ddim cymryd yn hir i mi stwffio llyfr o’i flaen naddo! Mi gyrhaeddodd Bach a Mawr gan Luned Aaron jest mewn pryd – ac mae o’n addas iawn. Fedra i ddim helpu ond rhyfeddu ar ei gorff bach diymadferth yn fy mreichiau, a sut y bydd o’n tyfu i fyny i fod yn glamp o hogyn rhyw ddiwrnod. Mae pawb yn deud wrthan ni ‘wneud y mwyaf’ o’r cyfnod, a dwi’n dallt be maen nhw’n feddwl – mae o ‘di tyfu allan o sawl babygrow yn barod! Rheswm arall dwi’n hapus, ydi mae gen i guinea pig rŵan i dreialu llyfrau arno a cael barn plentyn go iawn. Er mod i’n trio gwneud fy ngorau wrth adolygu llyfrau plant a bod yn objective, ar ddiwedd y dydd, dwi ddim yn blentyn bach a fydda i byth eto! Dwi’n hapus i ddweud fod Broc yn reit hoff o’r llyfr, er nad ydi o wedi dweud hynny wrtha i fel y cyfryw! Sut dwi’n gwybod hyn? Wel, mae o’n treulio oriau yn edrych ar y lluniau, a mae o wedi gwirioni hefo nhw ac mae o’n stopio fo rhag crio sy’n lifesaver. Doeddwn i ddim yn deall fod babis pretty much yn ddall pan maen nhw’n cael eu geni. Tydyn nhw ond yn gallu gweld siapiau cyfagos, ac mae eu golwg reit fuzzy am y misoedd cyntaf yn ôl sôn. Mae’r llyfr yn deidi ac yn fach – jest y peth i ddod hefo ni yn y goetsh. Tydi o ddim wedi dechrau cnoi pethau eto, felly mae’r corneli yn saff am y tro. Mae babis yn licio siapiau amlwg a syml – dwi’n meddwl mai pethau high contrast mae nhw’n licio, felly mae’r anifeiliaid yn sefyll allan yn erbyn y cefndir gwyn ac yn denu’r llygaid bach chwilfrydig. Mae’r ansoddeiriau hefyd yn rai da – geiriau safonol fel ‘ffyrnig’ ac ‘addfwyn’ er mwyn cyflwyno’r syniad o gyferbyniadau sydd ym mhobman o’n cwmpas. Dwi ‘di bod yn defnyddio’r sensory cards bach del ma gan Priya & Peanut hefyd, ond rŵan mae gynon ni lyfr bach handi Cymraeg sy’n gwneud yr un peth. Dio’m bwys nad ydio’n dallt be mae o’n weld. Mi geith fodloni ar edrych ar y lluniau am y tro, a phan fydd o bach hŷn, mi fedrwn ni fwynhau’r llyfr hefo’n gilydd. Gawn ni ddigon o iws allan o hwn dwi’n meddwl! As always, mae lluniau Luned Aaron yn wych, ac roedd yn ddifyr iawn gweld ar ei thudalen Insta be di’r broses behind the scenes o greu llyfr fel hyn. Tydi rhywun ddim bob tro yn sylwi nac yn gwerthfawrogi’r oriau o waith sy’n mynd i mewn i greu llyfrau i blant. Y sloth yw fy hoff lun i, a dyna’n union sut dwi’n teimlo ar ôl dim ond ryw deirawr o gwsg bob nos! Ar y dudalen olaf ond un daw’r anifeiliaid at eu gilydd mewn sbloetsh o liw, ac mi oni’n licio’r syniad o gynnwys rhestr geiriau ar y cefn i’r rheiny sydd ei angen. Unwaith eto, dyma gyfrol hardd a hwyliog gan Luned Aaron, a faswn i ddim yn disgwyl dim byd llai gan yr artist a’r awdur aml dalentog yma. Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Mehefin 2023 Pris: £4.95 Fformat: clawr meddal

  • Sara a'r Stranc - Nadia Shireen [addas. Endaf Griffiths]

    *For English review see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 5+ (awgrym) oed diddordeb: 2-5 Themau: #emosiynau #iechydalles #ffuglen #teimladau Nabod plentyn sy’n mynd drwy gyfnod y terrible two’s? Darllenwch ymlaen. Dwi’m yn cofio sut, ond mi ddes i ar draws y llyfr yma’n ddiweddar a meddwl ei fod o’n un da iawn - yn enwedig os da chi’n rhieni i blentyn bach sy’n dueddol o gael temper tantrums o dro i dro. (felly addas i bron bob plentyn bach!) Mae Sara’r gath yn cael diwrnod drwg iawn. Mae’n dechrau gyda phroblem gyda’i hosan ac yn raddol mynd o ddrwg i waeth wrth i’r hwyliau drwg gynyddu. Cyn pen dim, mae Sara wedi cyrraedd pen ei thennyn ac mae hi’n rhyddhau’r STRANC fwyaf erioed! Mi fydd nifer o rieni plant bach yn gyfarwydd iawn â’r sefyllfa yma. Yn ôl sôn, mi gefais i ufflwn o stranc yn Marks & Spencer unwaith *ww, cwilydd* – dwi’n siŵr ‘sa mam wedi dymuno i’r ddaear ei llyncu yn y fan a’r lle! Dwi’n siŵr fod hi’n deg i ddweud bod pob plentyn bach wedi cael strancs ar ryw bwynt neu'i gilydd. Mae o’n rhan o dyfu i fyny a dysgu rheoli emosiynau. I fod yn onest, dim jest plant sydd wrthi chwaith - ‘da ni gyd jest yn deffro ar ochr anghywir y gwely weithia dydan ac mewn funk go iawn drwy’r dydd. Does dim rhaid cael rheswm weithia! I chi sy’n rhieni, dyma lyfr annwyl fydd yn siŵr o fod yn arf defnyddiol iawn wrth drafod emosiynau a theimladau gyda phlant ifanc. Dwi’n meddwl fod y trosiad o’r stranc fel rhyw fath o anghenfil yn un hynod o effeithiol. Dwi’n licio’r syniad o reolaeth a pherchnogaeth dros y ‘stranc’ - os mai chi greodd y stranc, yna mi fedrwch ei reoli hefyd a gwneud iddo ddiflannu ‘run mor hawdd! Ar y dudalen olaf, a hithau’n gado na fydd stranc arall (wel, y diwrnod hwnnw beth bynnag) gwelwn nifer o sefyllfaoedd arall fasa’n gallu achosi un arall. Mae cyfle i drafod yma, a bydd plant yn mwynhau ceisio ffeindio’r holl triggers sy’n gallu troi diwrnod i’r brenin yn sur. Y gobaith yw, ar ôl darllen drwy’r llyfr, y bydd plant yn gallu adnabod y teimladau, er mwyn ceisio tawelu’r dyfroedd ac osgoi ffrwydrad. Mae dysgu rheoli emosiynau yn cymryd amser, a dwi’m yn meddwl fod pob oedolyn hyd yn oed wedi meistroli hyn 100% eto! Llyfr dwyieithog Gan mod i’n gwneud ymchwil ar lyfrau dwyieithog a chymysgu ieithoedd, mi fydda i wastad yn cadw llygaid allan am lyfrau newydd fel hyn. Mi dynnodd hwn fy sylw oherwydd y fformat. Mae llyfrau dwyieithog yn hynod o boblogaidd, yn enwedig gyda rhieni di-Gymraeg neu ddysgwyr sy’n awyddus i gefnogi darllen Cymraeg eu plant. Ond maen nhw’n gallu bod yn ddadleuol hefyd. Tydi pawb ddim yn hoff ohonynt, gan eu cyhuddo o “dynnu oddi ar y Gymraeg” neu’n drysu’r darllenwr gyda’r ddwy iaith ar bob tudalen. Rybish llwyr yn fy marn i. Mae ganddyn nhw eu lle fel popeth arall. Ond mae’r ddadl yna’n amherthnasol oherwydd fformat arloesol y llyfr yma, sy’n sicrhau’r gorau o ddau fyd. Ar yr edrychiad cyntaf, mae’n edrych fel llyfr Cymraeg, ond mae’r testun ar gael yn y Saesneg hefyd i’r rheiny sy’n dymuno. Yn hytrach na rhoi’r testun Cymraeg a Saesneg gyferbyn a’i gilydd, mae’r addasiad Saesneg ar gael fel fold out sy’n gallu cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â’r prif destun. Dim mwy o fflicio nôl a mlaen i’r cefn bob munud, a dim cwyno fod gormod o ‘sgwennu ar y tudalennau. Mae ‘na hyd yn oed set o gwestiynau trafod i helpu i gynnal sgwrs am gynnwys y llyfr hefyd -handi! I mi, mae o’n teimlo fel y cyfaddawd perffaith – mae’n edrych fel llyfr Cymraeg, ond mae’n cynnig cymorth dwyieithog i’r rheiny sydd eisiau. Tybed fyddai cyhoeddi mwy o lyfrau fel hyn (gyda’r addasiad Saesneg ar gael fel atodiad) yn helpu i ehangu apêl llyfrau Cymraeg gwreiddiol? Dwi’n meddwl basa cyhoeddi llyfrau fel hyn yn gwneud llyfrau Cymraeg yn fwy accessible i fwy o bobl, ac mae hynny’n gorfod bod yn beth da, ‘ndi? Dwi’n meddwl fod y dull yma’n syml, ond yn hynod o effeithiol, ac mi faswn i’n hoffi gweld mwy o gyhoeddwyr ddilyn esiampl Atebol drwy gyhoeddi mwy o lyfrau sy’n ieithyddol hyblyg. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: Chwefror 2023 Pris: £6.99 Fformat: clawr meddal

  • Dreigio: Tomos a Cenhaearn - Alastair Chisholm [addas. LLŷr Titus]

    *Use language toggle switch for English Review* (awgrym) oed diddordeb: 8+ (awgrym) oed darllen: 9-11+ Lluniau: Eric Deschamp http://www.ericdeschamps.com/ Disgrifiad Gwales: Does dim dreigiau fan hyn, meddai pawb wrth Tomos. Un diwrnod, mae dieithryn yn ei wahodd i fod yn brentis glerc, ond yn fuan iawn daw Tomos i ddeall mai prentisiaeth lawer mwy cyffrous na dysgu bod yn glerc sydd o'i flaen - dysgu cadw a hyfforddi ei ddraig ei hun! Cenhaearn ydi ei henw hi, ac mewn dim o dro mae hi a Tomos yn brwydro i achub y bobl sydd agosaf atyn nhw. Y cyntaf mewn cyfres ffantasi, gyffrous newydd! Cyhoeddwr: Rily Cyhoeddwyd: Ebrill 2022 Pris: £6.99 Fformat: clawr meddal Cyfres: Dreigio

  • Mwy o Helynt - Rebecca Roberts

    *Use language toggle switch for English review* ♥Llyfr y mis i blant: Mehefin 2023♥ (awgrym) oed diddordeb: 12-15+ (awgrym) oed darllen: 12+ Genre: #ffuglen #arddegau Themâu yn y nofel hon: Trais yn y cartref / Iechyd meddwl/ Hunanddelwedd / Meithrin perthynas amhriodol (grooming) / Hunanhyder. **YN CYNNWYS IAITH GREF** Pan gafodd #helynt ei gyhoeddi nôl yn Nhachwedd 2020 (waw, mae’n teimlo fel oes yn ôl yn barod!) gweddol ddistaw oedd yr ymateb cychwynnol. Roedd Rebecca yn awdur gymharol newydd, a dwi’n meddwl mai honno oedd ei nofel gyntaf i’r arddegau. Ond, yn raddol, daeth mwy i ddarllen am helyntion Rachel Ross, ac ym mis Mai 2021, enillodd #helynt y Gwobrau Tir na n-Og yng nghategori’r uwchradd. Enillydd haeddiannol iawn os ga i ddeud! Pan mae llyfr cyntaf yn gwneud cystal â hynny, dwi’n siŵr fod ‘na dipyn o bwysau i wneud yn siŵr fod y dilyniant yn cadw’r safon. Dwi’n falch o ddweud fod Rachel Ross, neu Rachel Calvi fel y mae hi’n cael ei hadnabod bellach, yn ei hôl i greu Mwy o helynt, (see what I did there?) Mae’r awdur wedi llwyddo i gadw’r elfennau wnaeth y llyfr cyntaf mor hawdd i’w ddarllen, ond wedi adeiladu ar stori Rachel a tydi o ddim yn teimlo fel repeat o’r llyfr cyntaf. I feddwl fod Rachel fymryn yn hŷn, dydi hi fawr callach, ac mae hi’n dal i greu- a ffeindio’i hun mewn digon o helyntion, sy’n beth da i ni’r darllenwyr! Mae’n anodd ‘sgwennu adolygiadau heb sbwylio’r plot, a faswn i ddim isio gwneud hynny. Mae’r dilyniant yn cychwyn rhai misoedd ar ôl digwyddiadau cythryblus y nofel gyntaf. Gyda Jason, ei llystad, yn y carchar am beth wnaeth o i Fam Rachel, mae’r teulu bach bellach wedi gorfod gadael y Rhyl. Gadael eu bywydau a phopeth maen nhw’n ei adnabod a diflannu i rywle anhysbys i gadw low profile. Fedra i ddim dychmygu sut beth ydi hynny - gorfod gadael eich cartref, eich eiddo, eich ffrindiau... Erbyn hyn, mae Rachel wedi cychwyn yn y coleg, mae ganddi gariad ac ymddengys fod pethau’n dechrau mynd yn dda, ond does fawr o amser yn mynd heibio cyn iddi gael ei syniad annoeth cyntaf... sleifio nôl i’r Rhyl ar rescue mision i’w hen gartref. Roedd sawl tro yn ystod y nofel lle roeddwn i’n teimlo fel dweud ‘O na Rachel bach, paid â gwneud hynna...!’ Yn ogystal â rhai o’r hen gymeriadau fel Shane, Gina a Medium Jim, cawn ein cyflwyno i gymeriadau newydd. Er fod Rachel yn ferch hynod o graff, ffraeth a galluog, mae hi’n gwneud pethau gwirion weithiau. Am y rhesymau iawn, debyg, ond gwirion ‘run fath. Wrth iddi gychwyn meithrin perthynas annoeth, hefo rhywun dylai wybod yn well, mae’r alarm bells yn dechrau canu’n fuan iawn... Dduda i ddim llawer mwy ‘na hynny. Bydd rhaid i chi ddarllen dros eich hunain i weld sut fydd Rachel yn dod allan ohoni. Yn ngoleuni’r holl sylw mae ‘grooming’ wedi ei gael yn y cyfryngau yn ddiweddar, mae’r nofel yn teimlo’n amserol a pherthnasol iawn yn hynny o beth. Ond mae gen i ffydd yn Rachel. Mae hi’n gymeriad cryf. Dyna rywbeth oedd yn amlwg iawn yn y nofel gyntaf. Dwi’n meddwl mai “badass” oedd y term gorau i’w disgrifio! Tydi hi’n bendant ddim am adael i’w anabledd ei diffinio. Alllwn i ddim helpu ond meddwl ‘Go Rachel!’ wrth iddi roi Jasmine, hen ferch annymunol, yn ei lle. Biti ‘na fasen ni’n gallu potelu y fath hyder a’i werthu! Mae arddull Rebecca yn hynod o ddarllenadwy, ac yn siwtio’r arddegau cynnar i’r dim. Tydi darllen y nofel ddim yn dasg llafurus gan fod yr iaith a’r plot yn ddigon hawdd i’w ddeall. Mae dipyn o Saesneg yn cael ei ddefnyddio yn y nofel, a does gen i ddim problem â hynny, achos mae’n adlewyrchu natur a realiti ieithyddol ardal Gogledd Ddwyrain Cymru (ardal daearyddol sydd heb gael digon o sylw mewn llyfrau Cymraeg). Dwi’n digwydd gwybod fod y llyfrau helynt yn boblogaidd ymysg grwpiau eraill hefyd, ac mae gan Rebecca fan base o ddarllenwyr hŷn sydd hefyd wedi llowcio anturiaethau Rachel a’i theulu. Petai stori Rachel yn gorffen ar ôl digwyddiadau Mwy o Helynt, byddai’n ddiweddglo digon taclus ac mi faswn i reit fodlon. Wedi dweud hynny, dywedodd Rebecca yn y lansiad fod ganddi sawl stori arall ar ei chyfer. Ar ôl tro bach annisgwyl ar ddiwedd y nofel, dwi’n siŵr bod digon o sgôp am fwy o straeon Rachel Calvi, y goth o’r Rhyl... "Newydd ei llarpio mewn un eisteddiad. Nid hawdd o beth ydi sgwennu mor rhwydd â hyn. Campwaith arall gan Rebecca Elizabeth Roberts." dywed Elin Llwyd Morgan am nofel diweddaraf @BeckyERoberts Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Ebrill 2023 Pris: £8.00 Fformat: clawr meddal Cliciwch yma i weld adolygiad o'r llyfr cyntaf, #helynt PLAYLIST SPOTIFY AR GYFER MWY O HELYNT... https://open.spotify.com/playlist/2Y1URBFRAjydaTlfKSxvgn?si=e015329997724d8a&nd=1 Mae Rebecca wedi creu playlist sy'n cyd-fynd â'r nofel. Rhaid i mi gyfaddef - tydi pob cân ddim 'my cup of tea' ond dwi wedi mwynhau darganfod cwpwl o ganeuon newydd. Nes i fwynhau 'Die to Live' gan Volbeat a 'Your love is incarceration' gan Clutch!

  • Cadi a'r Môr Ladron - Bethan Gwanas

    *For English review see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 6-9+ (llyfr i blant sy'n newydd i ddarllen yn annibynnol, neu sy'n pontio rhwng llyfrau llun a llyfrau pennod) (awgrym) oed diddordeb: 5+ Genre: #môr #môrladron #ffuglen #CymraegGwreiddiol #antur Adolygiad gan Siân Vaughan, Athrawes Ymgynghorol y Gymraeg Sir Conwy Stori arall am anturiaethau Cadi a Mabon wrth iddyn nhw gael gwyliau bach ym mwthyn mam-gu yn Sir Benfro dros y Pasg. Gan fod Mam a Nain yn brysur yn yr ardd mae Cadi a Mabon yn mynd lawr at y traeth i chwarae. Wrth gloddio am drysor ar y traeth maent yn dod ar draws cist drysor ac yn cael eu cipio gan fôr leidr. Down i gwrdd â chymeriadau lliwgar awn ar fwrdd llong y Môr-leidr Byrti Biws. Eto cawn nifer o negeseuon pwysig o fewn y stori, ac nad ydy o'n iawn i ddwyn oddi ar eraill. Mae Cadi a Mabon yn cael sawl antur ar fwrdd y llong a chawn ddysgu tipyn am fywyd bob dydd mor ladron drwy lygaid criw llong Y Blodwen. Stori arall wedi ei hysgrifennu mewn iaith hawdd i blant ei darllen a' deall. Cawn gip ar dafodieithoedd y de a'r gogledd ac fel mae ambell enw gwahanol ar bethau yn dibynnu ar eich tafodiaith. Bydd plant wrth eu bodd yn trafod bywyd Môr ladron - pwnc sydd wastad yn apelio at blant o'r oedran yma. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99 Fformat: Clawr Caled Adolygiad o Golwg Dwi bob amser wedi hoffi'r llyfrau yma a chymeriad drygionus ond annwyl Cadi [...] Dydi llyfrau'r gyfres hon byth yn siomi – cyfuniad perffaith o destun a lluniau lliwgar.- Gwenan Mared, Golwg

  • Dros y môr a'r mynyddoedd - Awduron Amrywiol

    *See language toggle for English review* ♥Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2023♥ (awgrym) oed diddordeb: 8+ (awgrym) oed darllen: 11+ Genre: #chwedlau #Celtaidd #ffuglen #hanes Lluniau: Elin Manon https://www.elin-manon.com/ Disgrifiad Gwales: Merched cryf a dewr yw'r prif gymeriadau yn chwedlau'r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy'n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams. Adolygiad Francesca Sciarrillo Cariad ar yr olwg gyntaf oedd fy ymateb i'r llyfr prydferth yma: o’r clawr i'r teitl – hyd yn oed cyn i mi ei agor a darllen y storiau gwych! Ac yn syth ar ôl hynny, meddyliais am sut mi fyswn i wedi gwirioni efo llyfr fel hyn pan roeddwn i'n blentyn. Ond beth bynnag, dwi’n falch fy mod i wedi dod o hyd i lyfr mor hyfryd fel oedolyn, a dwi’n hapus iawn i wybod bod plant a phobol ifanc ar draws y wlad am fynd i ddarganfod a mwynhau’r straeon sydd yn fyw tu fewn tudalennu Dros y Môr a’r Mynyddoedd. Pymtheg stori o wledydd Celtiaid sydd ar gael yn y casgliad hwn – o Nia Ben Aur o Iwerddon i'r Frenhines Lupa o Galisia. A rhwng y geiriau crefftus sydd wedi cael eu hysgrifennu gan awduron annwyl iawn yn y byd llenyddiaeth i blant a phobol ifanc, mae gennyn ni darluniadau hyfryd dros ben gan Elin Manon. Un o’r pethau gora am y casgliad hwn – yn fy marn i beth bynnag! – yw’r ffaith bod chi’n gallu darllen un ar y tro a dychwelyd yn ôl at yr un stori, neu stori arall. Bob un yn teimlo’n ffres ac yn wahanol i'r gweddill – gan mai awduron gwahanol sydd wedi eu hysgrifennu – ac mae hynny’n ychwanegu’r mwynhad o ddarllen. Cast o gymeriadau cryf, mentrus a dewr sy’n cadw chi cwmni yn Dros y Môr a’r Mynyddoedd, fel Rhiannon o Gymru a Kowrmelyan y cawr o Gernyw. Fy hoff straeon – er fy mod i'n caru bob un – yw'r Frenhines Lupa o Galisia a Merch y Tonnau o’r Alban. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd efo’r rhan fwyaf o’r straeon yn y casgliad, ac rydw i wedi gwirioni’n dysgu mwy am chwedlau a chymeriadau sy’n gysylltiedig efo gwledydd Celtiaid. Mi fyswn i wir yn argymell y casgliad hwn i unrhyw ddarllenwr ifanc sy’n hoff o straeon llawn antur, hud a chymeriadau cofiadwy. Casgliad i'w drysori yw hwn, ac un lle mae merched arbennig iawn yn serennu. Mor hyfryd yw gweld sut mae’r darlunydd ac awduron wedi dychmygu a chreu’r cymeriadau pwysig hyn. A heb os nac oni bai, mae’r casgliad yn llwyddo i “gadw’r straeon yn fyw” i ddarllenwyr o bob oedran. Adolygiad Morgan Dafydd, Sôn am Lyfra Llyfrau i’w trysori Mae ‘na rei llyfrau jest yn sefyll allan yn y cof yn does? Ambell i lyfr ‘da chi’n eu cofio’n well nag eraill. Un o’r llyfrau felly i mi oedd ‘Heno Heno’ golygwyd gan Glenys Howells - llyfr a gefais yn anrheg pan oeddwn i’n bump oed. Saith mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, dwi’n dal i fynd yn ôl ato o dro i dro, a dwi wedi ei ddefnyddio droeon yn y dosbarth ac mae plant yn dal i fwynhau’r straeon byrion. Dwi’n dal i allu adrodd ‘Yr anghenfil ych-a-fi’ a ‘Sut gollodd y neidr ei thraed’ hyd heddiw. Wrth gwrs, roedd llyfr o’r fath yn llawer rhy anodd i mi fel darllenwr pump oed, ond, Mam fuodd yn darllen y straeon i mi gyda’r nos, cyn i mi ddysgu gwneud hynny dros fy hun. Mae ‘Dros y môr a’r mynyddoedd' yn llyfr tebyg, un sy’n arbennig o hardd, ac yn un fyddai’n gwneud anrheg lyfli i’w drysori a’i basio i lawr. Yn sicr mi faswn i wedi gwirioni ar lyfr o’r fath ar y pryd. Doedd llyfrau byth yn arfer edrych mor ddel! Mae’r gwaith celf gan Elin Manon yn arbennig – mi faswn i’n ei brynu jest am hynny mewn gwirionedd! Mae ei gwaith celf yn mynd a ni ar draws moroedd gwyllt a mynyddoedd geirwon ac yn dod a geiriau’r amrywiol awduron yn fyw. Straeon sy’n newydd ond cyfarwydd ‘run pryd Mae’n wych clywed straeon a chwedlau newydd rhyngwladol, sy’n gwbl newydd i mi, ond eto’n teimlo’n gyfarwydd ‘run pryd. Er enghraifft, mae ‘Ker Is’ yn debyg iawn i hen chwedl Cantre’r Gwaelod. Mae gormod o straeon i sôn amdanynt yn unigol, ond roedd _Rhos y Pawl a Môr-forwyn Purt le Moirrey ymysg rhai o fy ffefrynnau. Mae cymaint o amrywiaeth ymysg y chwedlau - dyna sy’n wych am y gyfrol. Mae pob stori yn wahanol, ond eto, mae un llinyn sy’n gyffredin rhyngddynt - merched cryf a dewr. Wedi dweud hynny, peidiwch am eiliad a meddwl mai llyfr i ferched yn unig yw hwn. Mae rhywbeth yma i bawb. Iaith O ran yr iaith, waeth i mi fod yn onest, mae o’n heriol. Mae rhai straeon yn llifo’n well ac yn haws i’w dilyn nac eraill. O fy mhrofiad fel athro cynradd, dim ond y darllenwyr mwyaf hyderus fydd yn gallu taclo’r testun yn llwyddiannus yn annibynnol. Fodd bynnag, cofiwch am bwysigrwydd darllen i’n plant. Yn aml iawn, mae tueddiad i beidio blaenoriaethu amser stori, gan feddwl mai rhywbeth i blant bach ydi o. Gydag oedolyn meistrolgar yn adrodd y stori, bydd modd i unrhyw un o 8+ ymlaen fwynhau’r straeon. Mae natur straeon byrion y gyfrol yn ei gwneud yn addas iawn i fynd a dod yn ôl ati fel y dymunir. Wir yr, dyma gyfrol brydferth iawn, ac er ei fod yn swnio’n ddrud am £18, mae ‘na lot o waith wedi mynd i mewn i greu’r gyfrol yma, ac mae’n un o’r llyfrau sy’n haeddu pride of place ar y silff lyfrau. Y Chwedlau: Nia Ben Aur (Iwerddon) Rhiannon a'r gosb o fod yn geffyl (Cymru) Ker Is (Llydaw) Morag Glyfar (Yr Alban) Cewri Karrek Loos yn Koos (Cernyw) Môr-forwyn Purt-le-Moirrey (Ynys Manaw) Llygad am Lygad (Iwerddon) Rhos y Pawl (Cymru) Merch y Tonnau (Yr Alban) Antur Keresen o Senar (Cernyw) Stori Gráinne (Iwerddon) Azenor ddoeth, Azenor ddel (Llydaw) Castell Penârd (Cymru) Cailleach – ceidwad y ceirw (Yr Alban) Y Frenhines Lupa (Galisia) Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Medi 2022 Pris: £18 (neu am ddim o lyfrgell) Fformat: Clawr Caled

  • Eisteddfod i'w Chofio - Gwennan Evans

    *Use language toggle switch for English review* (awgrym) oed darllen: 5-8+ (awgrym) oed diddordeb: 4+ Genre: #antur #ffermio #amaeth #ffuglen #doniol Lluniau: Lleucu Gwenllian https://www.studiolleucu.co.uk/ Dyma’r bedwaredd yng nghyfres ‘Fferm Cwm Cawdel’, ac mae’n un addas iawn i’w hadolygu ar ôl wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, achos fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, mae’r gwartheg yn mynd ar antur i’r Eisteddfod – neu yn hytrach, mae’r ‘Steddfod a’i holl ryfeddodau yn dod atyn nhw i Fferm Cwm Cawdel. Ar ôl poeni’n arw ar ôl gweld pobl bwysig yn cerdded o amgylch y fferm, roedd y gwartheg yn hynod o falch i gael gwybod cyfrinach Ffion- fod y brifwyl yn dod acw! Handi de! Dwi’n cymryd fod y gwartheg heb fod i’r ‘Steddfod o’r blaen, ac maen nhw wrth eu boddau yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lu, fel cael eu derbyn i'r orsedd, cystadlu fel pedwarawd a dawnsio o flaen llwyfan y maes. "Cyfres berffaith i'r rheiny sy'n dysgu darllen yn annibynnol." Mae llyfrau’r gyfres wedi cael eu harlunio’n lliwgar gan Lleucu Gwenllian ac mae elfen o ddoniolwch a direidi gartwnaidd i’r lluniau sy’n gweddu tôn ysgafn y llyfrau. Dwi’n siŵr fod y gyfres yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd cefn gwlad. Mae nifer o blant Cymru yn hoffi darllen am bethau cyfarwydd, ac mae gosodiad cefn gwlad/amaethyddol y straeon yn siŵr o apelio at y garfan yma. Ac os dim arall, bydd yn siŵr o gyflwyno cynulleidfaoedd sy’n dod o ardaloedd mwy trefol Cymru i agweddau o fywyd cefn gwlad – sydd wastad yn beth da. Yn achos y llyfr yma, mae modd dysgu am rai o draddodiadau’r Eisteddfod i’r rheiny sy’n anghyfarwydd â’r ŵyl. Efallai bydd yn ddigon i berswadio rhywun sydd heb fod o’r blaen i fentro yno tro nesa... Mae’r llyfrau yn llenwi bwlch pwysig yn y ddarpariaeth ar gyfer plant rhwng 5-11 oed. Mae ‘na lot o lyfrau llun (picturebooks) i blant 5-7, ond mae llawer llai ar gael i’r grwpiau oedran hŷn. Mae llyfrau Cwm Cawdel yn edrych ac yn teimlo fel ‘llyfrau go iawn’ ac felly’n addas iawn ar gyfer y darllenwyr cynnar sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Yn bersonol, dwi’n licio’r ffaith fod yr ysgrifen ar gefndir gwyn, achos mae’n llawer haws i lygaid ifanc i’w ddarllen. Mae gwartheg Cwm Cawdel yn cael eu sbwylio’n racs wrth gael mynd ar yr holl anturiaethau, ac maent wedi bod ar sawl gwyliau yn barod, gan gynnwys Aberystwyth ac Eryri. Sgwn i lle fyddan nhw’n mynd nesaf...? Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Mawrth 2023 Cyfres: Fferm Cwm Cawdel Pris: £6 Fformat: clawr meddal Mwwwww-y yn y gyfres...

  • Dwi eisiau bod yn Ddeinosor - Luned a Huw Aaron

    *For English Review, see language toggle switch* ♥Enillydd Gwobrau Tir na n-Og 2023: Cynradd ♥ (awgrym) Oed diddordeb: 3+ (awgrym) oed darllen: 5+ Genre: #iechydalles #odl #hiwmor Llwyddiant eto i’r Aaroniaid Yn gynharach wythnos yma, roeddwn i’n falch iawn o weld fod llyfr arall gan Luned a Huw wedi cael cydnabyddiaeth, gan ei fod wedi ymddangos ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Mi oedd y llyfr hwnnw - ‘Pam?’ yn uchel iawn, iawn ar fy rhestr bersonol o top books ‘llynedd a dwi’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y gystadleuaeth. Darllenwch adolygiad ‘Pam?’ yma. Dyma lyfr arall mae’r dream team wedi ei ryddhau ‘leni, gyda gwasg Atebol y tro hwn. Tydi o jest yn edrych yn awesome! Mae o mor ffres, llachar a modern yr olwg - sydd jest yn dangos pa mor bell mae llyfrau gwreiddiol Cymraeg wedi dod yn eu blaenau dros y blynyddoedd. Mae hwn yn well llyfr ‘na nifer o addasiadau sydd ar y farchnad ar hyn o bryd. I mi, mae hwn yn esiampl o lyfr perffaith #Cymraeg #gwreiddiol i blant ifanc! Deinosors, Sombis a Frankenstein Mi fydd y llyfr yma’n siŵr o apelio at blant sy’n chwareus eu natur. Yn bwysicach na dim, mae ‘na hiwmor yn y llyfr. A dwi’n meddwl bod angen mwy fyth o hynny arnon ni nac erioed. Bydd rhaid mi brynu copi arall i fy nghefnder bach, achos dio definitely ddim yn cael fy nghopi i! Tydi’r lluniau ‘sgribli,’ blêr-ond-bendigedig yn lliwgar ac yn drawiadol? Dwi’n licio sut mae’r ffont yn fawr ac yn glir ar gefndir gwyn - lot haws i lygaid ifanc ei ddarllen. Mae’r odl yn wych, ac fel dwi wedi dweud o’r blaen, mi fedra i weld hwn fel darn adrodd dan 7 yn Steddfod yr Urdd! Creda yn dy hun Yn hanner cyntaf y llyfr mae’r bachgen yn rhoi ei hun i lawr. Tydi o byth yn teimlo’n ddigon da ac mae’n cymharu ei hun ac eraill. Mae hyn mor hawdd i’w wneud, a dim jest plant sy’n euog o wneud hyn chwaith. Mae meddwl yn negyddol fel hyn yn arwain at rai o’r self sabotaging behaviours ac mae’n bwysig trio cael meddylfryd positif bob amser. Dwi’n meddwl bod prif negeseuon y llyfr ‘derbyn dy hun,’ ‘cara dy hun am bwy wyt ti’ ac ‘rwyt ti’n ddigon’ yn HOLLBWYSIG yn y byd sydd ohoni, yn enwedig mewn byd cystadleuol lle mae gymaint o bwysau ar blant i fod yn ‘llwyddiannus.’ Be di'r take-home message? Mae’r llyfr yn llwyddo i gyfleu negeseuon pwysig neb eu stwffio lawr ein corn gyddfau. Mae’n cadw’r hiwmor a’r ysgafnrwydd (hwnna’n air?) drwyddi draw. I mi, y brif neges yw byddwch yn hapus yn eich croen eich hun. Ar ddiwedd y dydd, mae bod yn glên, cwrtais a charedig yn llawer pwysicach nac unrhyw beth arall! Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99

  • Nye: Bywyd Angerddol Aneurin Bevan - Manon Steffan Ros a Valériane Leblond

    *For English Review see language toggle switch on top of page* ♥Rhestr Fer Gwobr Tir na n-Og 2023♥ ♥Enillydd Barn y Darllenwyr #TNNO23♥ (awgrym) oed diddordeb: 3-7+ (awgrym) oed darllen: 6+ Genre: #ffeithiol #hanesCymru #GwreiddiolCymraeg Trysor Cenedlaethol Dwi’m yn meddwl fod 'na ‘run ohonan ni’n darllen hwn sydd heb gael rhyw gysylltiad neu'i gilydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr NHS) ar ryw bwynt yn ein bywydau. Dwi’n cyfri fy hun yn lwcus iawn i fod yma a deud y gwir, achos mi gefais i driniaeth yn yr ysbyty pan oeddwn i’n saith oed am ddos cas o froncitis. Oni bai am driniaeth hwnnw, does wybod be fasa wedi digwydd. Dwi’n grediniol fod yr NHS wedi achub fy mywyd i, (a hynny fwy nac unwaith, go debyg!) Mae’r NHS yn cael lot o stick yn y cyfryngau, ac mae ‘na gwyno diddiwedd amdano gan rai, yn enwedig pan ‘da chi methu cael deintydd, neu wedi bod yn disgwyl am syrjeri pen-glin ers blynyddoedd... A na, does 'na neb yn dweud ei fod yn berffaith - siŵr Dduw mae ‘na broblemau a meysydd i wella, ond y gwir ydi, ‘da ni’n anghofio weithiau pa mor bali lwcus ydan ni i gael triniaeth feddygol ddi-dâl i bawb. Cyfres Enwogion o Fri Yn gyntaf, dwi isio dweud gair neu ddau am y gyfres ‘Enwogion o Fri’ - sy’n enghraifft dda o sut mae cynhyrchu cyfres ddiddorol ac amrywiol tu hwnt, ac o safon uchel. Nid yn unig ei fod yn rhoi cyfle i nifer o awduron ac arlunwyr gwahanol, ond mae hefyd yn dewis a dethol y ffigyrau hanesyddol yn ofalus, fel ein bod yn cael gwybod mwy am bobl ‘da ni heb glywed digon amdanynt. Mae ‘na ôl cynllunio ar y gyfres, a dwi’n siŵr fod lot o sylw’n cael ei roi at baru awduron a dylunwyr, ac mae pob partneriaeth hyd yma wedi gweithio’n wych - a phob llyfr gyda’i vibes unigryw ei hun. Valériane Leblond (awdur Y Cwilt) sydd yn darlunio tro ‘ma, a Manon Steffan Ros sy’n awduro, felly ‘da ni mewn dwylo saff! Syniad da oedd cyhoeddi dau fersiwn hefyd - sy’n gwneud y llyfr yn hygyrch i fwy o bobl. I Gymro mae ein Diolch Tydi o’n anhygoel meddwl fod stori’r GIG – gwasanaeth sydd wedi achub miliynau o bobl dros y degawdau - yn cychwyn yma yng Nghymru, gyda bachgen o Dredegar, Aneurin Bevan, neu ‘Nye’ fel yr oedd yn cael ei adnabod. Gadawodd ‘Nye’ yr ysgol yn 14 oed, ac fe weithiodd fel glöwr am flynyddoedd – gan ddysgu’r grefft o siarad yn gyhoeddus ac annerch tyrfa drwy ei waith gyda’r undeb. Mynnodd hawliau gwell i’w gyd-weithwyr. Ar ôl iddo ddod yn siaradwr cyhoeddus o fri, cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol dros yr ardal. Roedd pobl yn credu ynddo. Gwnaeth gryn argraff tra roedd yn San Steffan. Dwi ddim am ddweud gormod, achos mae Manon Steffan yn adrodd stori ei fywyd yn llawer gwell na fi. Ond roedd gan ‘Nye’ weledigaeth – i wneud newidiadau anferth ac i greu rhywbeth wirioneddol arbennig. Stori ryfeddol Dwi’n dal i ryfeddu mai Cymro oedd tu ôl i’r syniad am wasanaeth cyntaf-o’i-fath i gynnig gofal meddygol am ddim i bawb. Roedd y gymuned yn bwysig iawn i Nye, ac mae hyn yn amlwg o’i waith ddiwedd dros bobl eraill ar hyd ei fywyd. Mae’r llyfr yn cyfleu’n hyfryd, sut y dylanwadwyd y dyn gan y gymuned glos yn Nhredegar, a’r gofal oedd gan bawb o’i gilydd yno. Pan dwi’n darllen stori Nye, dwi’n llawn edmygedd, balchder ac rwyf wir yn cael fy ysbrydoli. Mae'n gwneud i mi deimlo bod unrhyw beth yn bosib. Os all mab glöwr o Dde Cymru gydag anhawster siarad gyflawni beth y gwnaeth o, mi allwn ninnau wneud unrhywbeth hefyd – does dim terfyn ar ein potensial. Y GIG heddiw Ydi, mae’r GIG dan bwysau enfawr, ac mae ei ddyfodol yn y fantol oherwydd y rhai sy’n ei gam-drin, yn ei gymryd yn ganiataol ac yn ei wrthwynebu, ond o ddifrif calon, mae’n rhaid i ni afael ynddo’n dynn a’i drysori. We don’t know how good we’ve got it wir i chi! Peth amhosib yw rhoi pris ar ein diolch ni fel cenedl i Nye Bevan, ac i holl staff y GIG sy’n gweithio’n ddiflino i ofalu amdanom pan fo’r angen. Diolch i’r wasg am gyflwyno stori Nye i genhedlaeth newydd – mae’n bwysig iddynt ddeall gwreiddiau’r GIG yma yng Nghymru, achos nhw fydd ceidwaid gwasanaeth y dyfodol – a’u dyletswydd nhw fydd sicrhau ei fod yn parhau am flynyddoedd i ddod. Mae’r NHS yn llygedyn o obaith mewn byd sy’n gallu bod yn llawn rhagfarn ac annhegwch. Esiampl wych o sut mae gofalu am ein gilydd, yn hytrach na dim ond edrych ar ôl ein hunain, yn talu ar ei ganfed yn y pen draw. Ac mae’r cyfan yn dechrau mewn tref ym Mlaenau Gwent. Gwasg: Broga Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £5.99 UN O AREITHIAU ANEURIN:

  • Manawydan Jones: Y Pair Dadeni - Alun Davies

    *For English review, see language toggle switch on top of page* ♥Llyfr y mis i blant Gorffennaf 2022♥ ♥Enillydd TNNO23: Uwchradd♥ (awgrym) oed diddordeb: 11+ (awgrym) oed darllen: 12+ Genre: #ffuglen #ffantasi #antur #ditectif #Mabinogi Magical Realism... Dwi’n teimlo ’bach o gywilydd wrth gyfaddef, na wnes i astudio’r Mabinogi yn yr ysgol, felly mi gefais i’r camargraff eu bod nhw’n hen straeon llychlyd, diflas. Pa mor wrong oeddwn i?! Ydach chi wedi clywed am stori Branwen? Wel, mae hi’n stori hollol boncyrs mewn gwirionedd! Dim yn annhebyg i rai o blockbusters y sgrin fawr - yn cynnwys brad, dial, trais, cewri, hud a lledrith ac epic battles gyda’r meirw. Dyma felly gyflwyno Manadwyan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies, sy’n plethu chwedloniaeth gwallgo’r Mabinogi gyda bywyd modern bob dydd, ar gyfer cynulleidfa yn eu harddegau [yn ôl y wasg]. Wel, dwi ddim yn fachgen ysgol - dwi’n llawer hŷn, ac mi wnes i wir fwynhau’r llyfr yma, felly peidiwch â’i ddiystyru jest am eich bod chi’n hŷn na’r target audience! Fatha llawer o geir y dyddiau yma, dwi’n tueddu i feddwl am y llyfr yma fel dipyn bach o hybrid sy’n golygu ein bod ni, fel darllenwyr, yn cael y gorau o ddau fyd! Mae’r awdur yn llwyddiannus wrth greu darn o waith ffuglen sy’n troedio tir ffantasi, hud a lledrith ac antur arallfydol, ond sydd wedi ei wreiddio ym mywyd arferol bob dydd, drwy gynnwys elfennau o nofelau ditectif a police procedural sy’n boblogaidd y dyddiau yma. Yn ôl Google, Magical Realism yw’r enw ar genre sy’n cyfuno hud a lledrith hefo’r byd ‘normal.’ Pwy ydi Manawydan Jones a beth yw’r Pair Dadeni? Bachgen ysgol, pymtheg oed yw Manawydan Jones, sy’n ymddangos yn ddigon cyffredin, nes i ymwelydd ddod draw i’r ysgol i’w gwrdd – cyfarfod sydd am newid ei fywyd am byth. Rhaid i mi fod yn hynod o ofalus yma, achos dwi ddim isio dweud gormod! Ia, mae ’na sawl peth anghyffredin am y bachgen yma. Tydi o ddim yn siarad, achos mae o’n fud. Ond yn hyd yn oed mwy unigryw ’na hyn yw’r ffaith ei fod o’n ddisgynnydd i un o gymeriadau enwog y Mabinogi - Manawydan Fab Llŷr. Ond pam yr holl ffỳs? Wel - mae ’na ddwy garfan wedi bod yn elynion pur ers canrifoedd (ers cyfnod y Mabinogi dim llai) ac mae’r tensiynau rhyngddynt yn cynyddu, gyda brwydr fawr ar y gorwel. Mae’r ‘Cyfeillion’ yn cynrychioli heddwch tra bod y ‘Marchogion’ yn ysu am waed a thrais (dipyn bach fatha’r Jedi a’r Sith efallai.) Mae popeth yn y fantol ac mae angen help Manadwyan arnynt ar frys - dim ond os yw’r “gallu” ganddo wrth gwrs (eto, debyg i’r ‘force’). Ond cyn iddo gael ei dderbyn fel rhan o’r criw dewr, bydd rhaid iddo brofi ei hun. Beth oedd yn dda am y nofel? I ddechrau, roedd hwn yn gyfuniad o rai o fy hoff genres. Dwi’n licio antur a ffantasi, ond roedd cael elfen o nofel dditectif a throsedd yn bonus! Doedd ’na ddim gormod o “fflwff emosiynol” am gymeriadau, ond roedd llond trol o antur a thensiwn - jest y peth i mi. Wedi dweud hynny, dwi’m yn teimlo y daethon ni i nabod rhai o’r side characters yn ddigon da, felly mae digon o gyfle i roi mwy o gig ar yr asgwrn lle mae Mogs ac Alys yn y cwestiwn yn y llyfr nesaf. Bydd yn ddiddorol parhau i weld Manawydan yn datblygu fel cymeriad, o socially awkward teenager i rywbeth llawer mwy... Roedd ’na dipyn go lew o benodau, ond maen nhw’n rhai byr (ideal), felly roedd hi’n hawdd darllen ambell un bob nos, ac roedd y switsio ‘nôl a mlaen’ rhwng stori Manawydan ac ymdrechion Ditectif Saunders yn cadw pethau’n symud yn eu blaen. Llwyddodd y brif stori am y pair dadeni hudol gadw fy niddordeb drwy gydol y nofel, ac mae’r syniad o bŵer annaturiol sy’n gallu dod a’r meirw yn ôl yn fyw yn un da, os nad mymryn yn creepy - sy’n wych. Does dim angen bod ofn mynd lawr trywydd mwy tywyll mewn nofelau fel hyn. Mae’n fy atgoffa i o fyddin y ‘White Walkers’ yn Game of Thrones, neu’r milwyr sgerbwd yn y ffilm Jason and the Argonauts. Mi oeddwn i’n euog o feddwl mai pethau diflas oedd chwedlau’r Mabinogi, ond dwi wedi cael fy mhrofi yn gwbl anghywir. Mae’n destament i’w hirhoedledd eu bod nhw’n dal i ysbrydoli straeon newydd hyd heddiw. Dwi’n hoff iawn o’r sbin newydd diweddaraf ar yr hen chwedlau, sy’n siŵr o’u cyflwyno i genhedlaeth newydd a’u gwneud yn berthnasol unwaith eto. Dwi isio gwybod beth sy’n digwydd nesaf!!! Dwi ddim yn cofio gweld llyfrau fel hyn ar y silff pan oeddwn i yn fy arddegau. Efallai petawn i wedi, yna mi faswn i wedi dechrau mwynhau darllen ffuglen llawer cynt! Mae arddegwyr heddiw yn cael eu sboilio! Yr unig beth sy’n fy mhoeni - ydyn nhw’n dod i wybod am lyfrau ardderchog fel hyn? Gobeithio wir, achos mae hwn yn llyfr sy’n werth yr £8.99 pob ceiniog! Ac os gwnawn nhw werthu digon o gopïau, dwi’n siŵr y gwneith Alun Davies ysgrifennu part 2, i mi gael gwybod beth sy’n digwydd nesaf!! C’mon bobl! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: Mehefin 2022 Pris: £8.99

  • Powell - Manon Steffan Ros

    *For English review, see language toggle switch* (awgrym) oed diddordeb: 12+ (awgrym) oed darllen: 12+ Genre/themâu: #hanesCymru #teulu #ffuglen #empathi Sgwn i os ydi Manon Steffan Ros yn teimlo’r pressure wrth gyhoeddi llyfr newydd? Yn enwedig pan ’da chi wedi gosod y bar mor uchel â Llyfr Glas Nebo. Mi fasa unrhyw un yn cael dipyn o job curo llwyddiant y nofel honno! Gyda 5 gwobr Tir na n-Og dan ei belt yn barod, mae hi wedi profi ei hun sawl tro fel un o’n hawduron mwyaf poblogaidd. Er fod nifer yn cysidro Llyfr Glas Nebo fel magnum opus yr awdur, rhaid i mi ddweud mod i wedi mwynhau Llechi a Powell mwy (controversial, right?). Weithiau, mae’n cymryd wythnosau i mi ddarllen fy ffordd drwy nofel, ond yn achos Powell - mater o ddyddiau. Mae Elis Powell, bachgen pymtheg oed, wastad wedi bod yn falch iawn o’i gyndaid a’i stori, ac yn fwy na bodlon rhannu’r un enw ag o. Caiff ei atgoffa’n feunyddiol o gyfraniad ei hen hen (hen?) daid i’r dref - fo sefydlodd yr ysbyty a’r ysgol leol. Er bod y stori’n cychwyn yn Nhrefair, Cymru, yn yr Unol Daleithiau y mae’r rhan helaeth o’r llyfr wedi ei leoli. A dweud y gwir, roedd yn chwa o awyr iach darllen stori oedd wedi ei gosod yn bennaf yn rhywle heb law am Gymru am unwaith. Prif linyn y stori yw taith Elis a’i Daid i’r UDA i ddarganfod mwy am fywyd y gŵr arbennig sydd wedi bod yn bresenoldeb cyson yn eu bywydau ar hyd eu hoes. Er i’r siwrne unwaith-mewn-bywyd ddechrau’n addawol, cawn yr argraff yn fuan iawn fod pethau ar fin mynd o chwith... “Doedd dim syniad gan yr un ohonom fod pethau ar fin dechrau suro.” Dwi’n reit sicr y baswn i’n gallu adnabod gwaith Manon Steffan hefo fy llygaid wedi gau erbyn hyn gan ei fod yn unigryw. Y berthynas rhwng ei chymeriadau yw’r prif ffocws ganddi bob amser, ac mae hi’n aml yn sylwi ar y pethau bach mae pobl yn eu gwneud neu’n ddweud, ac y tynnu sylw atynt, boed hynny’n gwpwl yn ffraeo yn gyhoeddus yn y maes awyr neu’n bobl sy’n rhoi back-handed compliments i chi. (Da chi’n gwybod - y rheiny sy’n smalio bod yn genuine, ond ’da chi’n gwybod nad ydyn nhw go iawn.) Tra mae’r ddau ar eu hantur fawr yn dysgu mwy am fywyd yr Elis Powell gwreiddiol, mae ’na ffeithiau newydd yn dod i’r amlwg, sy’n eu bwrw oddi ar eu hechel yn llwyr. Wna i ddim dweud dim mwy ’na hynny, ond un peth sy’n sicr, fyddan nhw ddim yn gallu meddwl am Elis Powell yn yr un ffordd eto. Roedd yr enw da yn golygu popeth i’r ddau - yn enwedig i taid, a rŵan, mae fel petai’r carped wedi cael ei dynnu o dan eu traed. Nid dyma’r tro cyntaf i MSR ymdrin â phwnc caethwasiaeth. Yn 2018, mi fuodd hi’n rhan o brosiect yng Nghastell Penrhyn, lle gwnaeth hi lunio ‘12 stori’ yn trafod hanes y castell a’r diwydiant caethwasiaeth yn Jamaica. Efallai bod hynny wedi ei sbarduno i sgwennu mwy a thaflu goleuni pellach ar y pwnc, sydd heb gael hanner digon o sylw tan yn gymharol ddiweddar yn Gymraeg. Dim ond yn y blynyddoedd diwethaf, yn sgil y symudiad #BlackLivesMatter yr ydan ni wedi bod yn barod i gydnabod a derbyn rhan Cymru yn y diwydiant creulon ac anfoesol. Mae’n bwysig nad ydan ni’n anwybyddu’r gorffennol. Ond yn yr un modd, fedrwn ni ddim ei newid o chwaith. Rhaid ei wynebu a dysgu ohono os ydan ni am allu symud ymlaen. O ran hanes y caethweision yn y stori, gwybodaeth gefndirol a gawn ni’n unig - digon i fodloni gofynion y stori, ond fawr arall. Mae’n bosib y bysa rhai wedi hoffi gweld mwy o gig ar yr asgwrn fan hyn. Dw i’n credu y bysa ambell i dudalen yng nghefn y llyfr (yn debyg i lyfrau hanes Gwasg Carreg Gwalch) wedi bod yn syniad da er mwyn rhoi mwy o gyd-destun. Wedi dweud hynny, dwi’n meddwl mai dewis bwriadol gan yr awdur ydi peidio â dweud gormod am fywyd a phrofiadau’r caethweision, ac mi fedra i ddallt hynny’n iawn. Mae Manon wedi siarad eisoes am y pwnc o cultural appropriation yn y podcast ‘Colli’r Plot’ ac mae’n werth gwrando ar y drafodaeth ddifyr yma. Dwi dal ddim yn siŵr be di’r ateb cywir, chwaith. Mae’r nofel yn codi cwestiynau pwysig, ac yn gwneud i chi feddwl ond tydi o byth yn teimlo fel pregeth. Mae’n bosib y bydd hi’n gwneud i chi deimlo braidd yn anghyffyrddus ar brydia. Dyma bwnc trafod cymhleth iawn, ond mae o angen ei drafod, ac felly dwi’n ddiolchgar am nofel fel hyn. Yn debyg i’r Elis Powell dychmygol, mae cerfluniau o unigolion dadleuol fel Henry Morton Stanley, Thomas Picton, Cecil Rhodes a’u tebyg yn dal i’w gweld yn ein cymunedau. Gan na fedrwn ni newid hanes, yr unig beth y gallwn ni ei wneud ydi sicrhau bod pawb yn gwybod y ffeithiau i gyd, a derbyn bod rhai o’r unigolion yma wedi cyfrannu at ein cymunedau, ond fod llawer o’u cyfoeth wedi dod o ecsbloetio pobl eraill. Yn hytrach na dweud wrthym sut a beth i’w feddwl, mae MSR yn troi atom ni fel darllenwyr ac yn gofyn cwestiwn digon teg: unwaith yr ydych chi’n dod i wybod (a chydnabod) y ffeithiau i gyd, be ydach CHI am ei wneud nesaf efo’r wybodaeth? Dyna beth sy’n bwysig. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: Hydref 2022 Pris: £8.99 Fformat: Clawr meddal DARLLEN PELLACH: Adroddiad Llywodraeth Cymru https://www.gov.wales/over-200-welsh-statues-streets-and-buildings-connected-slave-trade-listed-nationwide-audit

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page