top of page

Dros y môr a'r mynyddoedd - Awduron Amrywiol

*See language toggle for English review*


♥Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2023♥



(awgrym) oed diddordeb: 8+

(awgrym) oed darllen: 11+

Lluniau: Elin Manon https://www.elin-manon.com/

 

Disgrifiad Gwales: Merched cryf a dewr yw'r prif gymeriadau yn chwedlau'r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy'n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.

 

Adolygiad Francesca Sciarrillo

Cariad ar yr olwg gyntaf oedd fy ymateb i'r llyfr prydferth yma: o’r clawr i'r teitl – hyd yn oed cyn i mi ei agor a darllen y storiau gwych!

Ac yn syth ar ôl hynny, meddyliais am sut mi fyswn i wedi gwirioni efo llyfr fel hyn pan roeddwn i'n blentyn. Ond beth bynnag, dwi’n falch fy mod i wedi dod o hyd i lyfr mor hyfryd fel oedolyn, a dwi’n hapus iawn i wybod bod plant a phobol ifanc ar draws y wlad am fynd i ddarganfod a mwynhau’r straeon sydd yn fyw tu fewn tudalennu Dros y Môr a’r Mynyddoedd.


Pymtheg stori o wledydd Celtiaid sydd ar gael yn y casgliad hwn – o Nia Ben Aur o Iwerddon i'r Frenhines Lupa o Galisia. A rhwng y geiriau crefftus sydd wedi cael eu hysgrifennu gan awduron annwyl iawn yn y byd llenyddiaeth i blant a phobol ifanc, mae gennyn ni darluniadau hyfryd dros ben gan Elin Manon.


Un o’r pethau gora am y casgliad hwn – yn fy marn i beth bynnag! – yw’r ffaith bod chi’n gallu darllen un ar y tro a dychwelyd yn ôl at yr un stori, neu stori arall. Bob un yn teimlo’n ffres ac yn wahanol i'r gweddill – gan mai awduron gwahanol sydd wedi eu hysgrifennu – ac mae hynny’n ychwanegu’r mwynhad o ddarllen.

Cast o gymeriadau cryf, mentrus a dewr sy’n cadw chi cwmni yn Dros y Môr a’r Mynyddoedd, fel Rhiannon o Gymru a Kowrmelyan y cawr o Gernyw. Fy hoff straeon – er fy mod i'n caru bob un – yw'r Frenhines Lupa o Galisia a Merch y Tonnau o’r Alban. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd efo’r rhan fwyaf o’r straeon yn y casgliad, ac rydw i wedi gwirioni’n dysgu mwy am chwedlau a chymeriadau sy’n gysylltiedig efo gwledydd Celtiaid.


Mi fyswn i wir yn argymell y casgliad hwn i unrhyw ddarllenwr ifanc sy’n hoff o straeon llawn antur, hud a chymeriadau cofiadwy. Casgliad i'w drysori yw hwn, ac un lle mae merched arbennig iawn yn serennu. Mor hyfryd yw gweld sut mae’r darlunydd ac awduron wedi dychmygu a chreu’r cymeriadau pwysig hyn. A heb os nac oni bai, mae’r casgliad yn llwyddo i “gadw’r straeon yn fyw” i ddarllenwyr o bob oedran.



 

Adolygiad Morgan Dafydd, Sôn am Lyfra


Llyfrau i’w trysori

Mae ‘na rei llyfrau jest yn sefyll allan yn y cof yn does? Ambell i lyfr ‘da chi’n eu cofio’n well nag eraill. Un o’r llyfrau felly i mi oedd ‘Heno Heno’ golygwyd gan Glenys Howells - llyfr a gefais yn anrheg pan oeddwn i’n bump oed. Saith mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, dwi’n dal i fynd yn ôl ato o dro i dro, a dwi wedi ei ddefnyddio droeon yn y dosbarth ac mae plant yn dal i fwynhau’r straeon byrion. Dwi’n dal i allu adrodd ‘Yr anghenfil ych-a-fi’ a ‘Sut gollodd y neidr ei thraed’ hyd heddiw. Wrth gwrs, roedd llyfr o’r fath yn llawer rhy anodd i mi fel darllenwr pump oed, ond, Mam fuodd yn darllen y straeon i mi gyda’r nos, cyn i mi ddysgu gwneud hynny dros fy hun.


Mae ‘Dros y môr a’r mynyddoedd' yn llyfr tebyg, un sy’n arbennig o hardd, ac yn un fyddai’n gwneud anrheg lyfli i’w drysori a’i basio i lawr. Yn sicr mi faswn i wedi gwirioni ar lyfr o’r fath ar y pryd. Doedd llyfrau byth yn arfer edrych mor ddel! Mae’r gwaith celf gan Elin Manon yn arbennig – mi faswn i’n ei brynu jest am hynny mewn gwirionedd! Mae ei gwaith celf yn mynd a ni ar draws moroedd gwyllt a mynyddoedd geirwon ac yn dod a geiriau’r amrywiol awduron yn fyw.



Straeon sy’n newydd ond cyfarwydd ‘run pryd

Mae’n wych clywed straeon a chwedlau newydd rhyngwladol, sy’n gwbl newydd i mi, ond eto’n teimlo’n gyfarwydd ‘run pryd. Er enghraifft, mae ‘Ker Is’ yn debyg iawn i hen chwedl Cantre’r Gwaelod.

Mae gormod o straeon i sôn amdanynt yn unigol, ond roedd _Rhos y Pawl a Môr-forwyn Purt le Moirrey ymysg rhai o fy ffefrynnau. Mae cymaint o amrywiaeth ymysg y chwedlau - dyna sy’n wych am y gyfrol. Mae pob stori yn wahanol, ond eto, mae un llinyn sy’n gyffredin rhyngddynt - merched cryf a dewr. Wedi dweud hynny, peidiwch am eiliad a meddwl mai llyfr i ferched yn unig yw hwn. Mae rhywbeth yma i bawb.


Iaith

O ran yr iaith, waeth i mi fod yn onest, mae o’n heriol. Mae rhai straeon yn llifo’n well ac yn haws i’w dilyn nac eraill. O fy mhrofiad fel athro cynradd, dim ond y darllenwyr mwyaf hyderus fydd yn gallu taclo’r testun yn llwyddiannus yn annibynnol. Fodd bynnag, cofiwch am bwysigrwydd darllen i’n plant. Yn aml iawn, mae tueddiad i beidio blaenoriaethu amser stori, gan feddwl mai rhywbeth i blant bach ydi o. Gydag oedolyn meistrolgar yn adrodd y stori, bydd modd i unrhyw un o 8+ ymlaen fwynhau’r straeon. Mae natur straeon byrion y gyfrol yn ei gwneud yn addas iawn i fynd a dod yn ôl ati fel y dymunir.


Wir yr, dyma gyfrol brydferth iawn, ac er ei fod yn swnio’n ddrud am £18, mae ‘na lot o waith wedi mynd i mewn i greu’r gyfrol yma, ac mae’n un o’r llyfrau sy’n haeddu pride of place ar y silff lyfrau.



 

Y Chwedlau:

Nia Ben Aur (Iwerddon)

Rhiannon a'r gosb o fod yn geffyl (Cymru)

Ker Is (Llydaw)

Morag Glyfar (Yr Alban)

Cewri Karrek Loos yn Koos (Cernyw)

Môr-forwyn Purt-le-Moirrey (Ynys Manaw)

Llygad am Lygad (Iwerddon)

Rhos y Pawl (Cymru)

Merch y Tonnau (Yr Alban)

Antur Keresen o Senar (Cernyw)

Stori Gráinne (Iwerddon)

Azenor ddoeth, Azenor ddel (Llydaw)

Castell Penârd (Cymru)

Cailleach – ceidwad y ceirw (Yr Alban)

Y Frenhines Lupa (Galisia)

 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: Medi 2022

Pris: £18 (neu am ddim o lyfrgell)

Fformat: Clawr Caled

 

bottom of page