top of page

Mwy o Helynt - Rebecca Roberts

Updated: Jun 22, 2023

*Use language toggle switch for English review*


♥Llyfr y mis i blant: Mehefin 2023♥



(awgrym) oed diddordeb: 12-15+

(awgrym) oed darllen: 12+

Themâu yn y nofel hon: Trais yn y cartref / Iechyd meddwl/ Hunanddelwedd / Meithrin perthynas amhriodol (grooming) / Hunanhyder. **YN CYNNWYS IAITH GREF**

 

Dwi'm di gneud dim byd i gymharu â'r awdur - ond roedd o reit cŵl i weld fy enw ar gefn y llyfr!

Pan gafodd #helynt ei gyhoeddi nôl yn Nhachwedd 2020 (waw, mae’n teimlo fel oes yn ôl yn barod!) gweddol ddistaw oedd yr ymateb cychwynnol. Roedd Rebecca yn awdur gymharol newydd, a dwi’n meddwl mai honno oedd ei nofel gyntaf i’r arddegau. Ond, yn raddol, daeth mwy i ddarllen am helyntion Rachel Ross, ac ym mis Mai 2021, enillodd #helynt y Gwobrau Tir na n-Og yng nghategori’r uwchradd. Enillydd haeddiannol iawn os ga i ddeud!


Pan mae llyfr cyntaf yn gwneud cystal â hynny, dwi’n siŵr fod ‘na dipyn o bwysau i wneud yn siŵr fod y dilyniant yn cadw’r safon. Dwi’n falch o ddweud fod Rachel Ross, neu Rachel Calvi fel y mae hi’n cael ei hadnabod bellach, yn ei hôl i greu Mwy o helynt, (see what I did there?) Mae’r awdur wedi llwyddo i gadw’r elfennau wnaeth y llyfr cyntaf mor hawdd i’w ddarllen, ond wedi adeiladu ar stori Rachel a tydi o ddim yn teimlo fel repeat o’r llyfr cyntaf. I feddwl fod Rachel fymryn yn hŷn, dydi hi fawr callach, ac mae hi’n dal i greu- a ffeindio’i hun mewn digon o helyntion, sy’n beth da i ni’r darllenwyr!


Mae’n anodd ‘sgwennu adolygiadau heb sbwylio’r plot, a faswn i ddim isio gwneud hynny. Mae’r dilyniant yn cychwyn rhai misoedd ar ôl digwyddiadau cythryblus y nofel gyntaf. Gyda Jason, ei llystad, yn y carchar am beth wnaeth o i Fam Rachel, mae’r teulu bach bellach wedi gorfod gadael y Rhyl. Gadael eu bywydau a phopeth maen nhw’n ei adnabod a diflannu i rywle anhysbys i gadw low profile. Fedra i ddim dychmygu sut beth ydi hynny - gorfod gadael eich cartref, eich eiddo, eich ffrindiau...


Erbyn hyn, mae Rachel wedi cychwyn yn y coleg, mae ganddi gariad ac ymddengys fod pethau’n dechrau mynd yn dda, ond does fawr o amser yn mynd heibio cyn iddi gael ei syniad annoeth cyntaf... sleifio nôl i’r Rhyl ar rescue mision i’w hen gartref. Roedd sawl tro yn ystod y nofel lle roeddwn i’n teimlo fel dweud ‘O na Rachel bach, paid â gwneud hynna...!’



Yn ogystal â rhai o’r hen gymeriadau fel Shane, Gina a Medium Jim, cawn ein cyflwyno i gymeriadau newydd. Er fod Rachel yn ferch hynod o graff, ffraeth a galluog, mae hi’n gwneud pethau gwirion weithiau. Am y rhesymau iawn, debyg, ond gwirion ‘run fath. Wrth iddi gychwyn meithrin perthynas annoeth, hefo rhywun dylai wybod yn well, mae’r alarm bells yn dechrau canu’n fuan iawn...


Dduda i ddim llawer mwy ‘na hynny. Bydd rhaid i chi ddarllen dros eich hunain i weld sut fydd Rachel yn dod allan ohoni. Yn ngoleuni’r holl sylw mae ‘grooming’ wedi ei gael yn y cyfryngau yn ddiweddar, mae’r nofel yn teimlo’n amserol a pherthnasol iawn yn hynny o beth.


Ond mae gen i ffydd yn Rachel. Mae hi’n gymeriad cryf. Dyna rywbeth oedd yn amlwg iawn yn y nofel gyntaf. Dwi’n meddwl mai “badass” oedd y term gorau i’w disgrifio! Tydi hi’n bendant ddim am adael i’w anabledd ei diffinio. Alllwn i ddim helpu ond meddwl ‘Go Rachel!’ wrth iddi roi Jasmine, hen ferch annymunol, yn ei lle. Biti ‘na fasen ni’n gallu potelu y fath hyder a’i werthu!


Mae arddull Rebecca yn hynod o ddarllenadwy, ac yn siwtio’r arddegau cynnar i’r dim. Tydi darllen y nofel ddim yn dasg llafurus gan fod yr iaith a’r plot yn ddigon hawdd i’w ddeall. Mae dipyn o Saesneg yn cael ei ddefnyddio yn y nofel, a does gen i ddim problem â hynny, achos mae’n adlewyrchu natur a realiti ieithyddol ardal Gogledd Ddwyrain Cymru (ardal daearyddol sydd heb gael digon o sylw mewn llyfrau Cymraeg).

Dwi’n digwydd gwybod fod y llyfrau helynt yn boblogaidd ymysg grwpiau eraill hefyd, ac mae gan Rebecca fan base o ddarllenwyr hŷn sydd hefyd wedi llowcio anturiaethau Rachel a’i theulu.


Petai stori Rachel yn gorffen ar ôl digwyddiadau Mwy o Helynt, byddai’n ddiweddglo digon taclus ac mi faswn i reit fodlon. Wedi dweud hynny, dywedodd Rebecca yn y lansiad fod ganddi sawl stori arall ar ei chyfer. Ar ôl tro bach annisgwyl ar ddiwedd y nofel, dwi’n siŵr bod digon o sgôp am fwy o straeon Rachel Calvi, y goth o’r Rhyl...


Deud ti wrthi Rachel!

Dyma ni yn lansiad y llyfr yng Nghaernarfon

"Newydd ei llarpio mewn un eisteddiad. Nid hawdd o beth ydi sgwennu mor rhwydd â hyn. Campwaith arall gan Rebecca Elizabeth Roberts." dywed Elin Llwyd Morgan am nofel diweddaraf @BeckyERoberts
 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: Ebrill 2023

Pris: £8.00

Fformat: clawr meddal

 

Cliciwch yma i weld adolygiad o'r llyfr cyntaf, #helynt


 

PLAYLIST SPOTIFY AR GYFER MWY O HELYNT...


Mae Rebecca wedi creu playlist sy'n cyd-fynd â'r nofel. Rhaid i mi gyfaddef - tydi pob cân ddim 'my cup of tea' ond dwi wedi mwynhau darganfod cwpwl o ganeuon newydd. Nes i fwynhau 'Die to Live' gan Volbeat a 'Your love is incarceration' gan Clutch!


 


Recent Posts

See All
bottom of page