top of page

Manawydan Jones: Y Pair Dadeni - Alun Davies

Updated: Jun 8, 2023

*For English review, see language toggle switch on top of page*


♥Llyfr y mis i blant Gorffennaf 2022♥

♥Enillydd TNNO23: Uwchradd♥


(awgrym) oed diddordeb: 11+

(awgrym) oed darllen: 12+


 


 

Magical Realism...

Dwi’n teimlo ’bach o gywilydd wrth gyfaddef, na wnes i astudio’r Mabinogi yn yr ysgol, felly mi gefais i’r camargraff eu bod nhw’n hen straeon llychlyd, diflas. Pa mor wrong oeddwn i?!

Ydach chi wedi clywed am stori Branwen? Wel, mae hi’n stori hollol boncyrs mewn gwirionedd! Dim yn annhebyg i rai o blockbusters y sgrin fawr - yn cynnwys brad, dial, trais, cewri, hud a lledrith ac epic battles gyda’r meirw.


Dyma felly gyflwyno Manadwyan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies, sy’n plethu chwedloniaeth gwallgo’r Mabinogi gyda bywyd modern bob dydd, ar gyfer cynulleidfa yn eu harddegau [yn ôl y wasg]. Wel, dwi ddim yn fachgen ysgol - dwi’n llawer hŷn, ac mi wnes i wir fwynhau’r llyfr yma, felly peidiwch â’i ddiystyru jest am eich bod chi’n hŷn na’r target audience!


Fatha llawer o geir y dyddiau yma, dwi’n tueddu i feddwl am y llyfr yma fel dipyn bach o hybrid sy’n golygu ein bod ni, fel darllenwyr, yn cael y gorau o ddau fyd!

Mae’r awdur yn llwyddiannus wrth greu darn o waith ffuglen sy’n troedio tir ffantasi, hud a lledrith ac antur arallfydol, ond sydd wedi ei wreiddio ym mywyd arferol bob dydd, drwy gynnwys elfennau o nofelau ditectif a police procedural sy’n boblogaidd y dyddiau yma. Yn ôl Google, Magical Realism yw’r enw ar genre sy’n cyfuno hud a lledrith hefo’r byd ‘normal.’



Pwy ydi Manawydan Jones a beth yw’r Pair Dadeni?

Bachgen ysgol, pymtheg oed yw Manawydan Jones, sy’n ymddangos yn ddigon cyffredin, nes i ymwelydd ddod draw i’r ysgol i’w gwrdd – cyfarfod sydd am newid ei fywyd am byth. Rhaid i mi fod yn hynod o ofalus yma, achos dwi ddim isio dweud gormod!


Ia, mae ’na sawl peth anghyffredin am y bachgen yma. Tydi o ddim yn siarad, achos mae o’n fud. Ond yn hyd yn oed mwy unigryw ’na hyn yw’r ffaith ei fod o’n ddisgynnydd i un o gymeriadau enwog y Mabinogi - Manawydan Fab Llŷr.


Ond pam yr holl ffỳs? Wel - mae ’na ddwy garfan wedi bod yn elynion pur ers canrifoedd (ers cyfnod y Mabinogi dim llai) ac mae’r tensiynau rhyngddynt yn cynyddu, gyda brwydr fawr ar y gorwel. Mae’r ‘Cyfeillion’ yn cynrychioli heddwch tra bod y ‘Marchogion’ yn ysu am waed a thrais (dipyn bach fatha’r Jedi a’r Sith efallai.) Mae popeth yn y fantol ac mae angen help Manadwyan arnynt ar frys - dim ond os yw’r “gallu” ganddo wrth gwrs (eto, debyg i’r ‘force’). Ond cyn iddo gael ei dderbyn fel rhan o’r criw dewr, bydd rhaid iddo brofi ei hun.



Beth oedd yn dda am y nofel?

I ddechrau, roedd hwn yn gyfuniad o rai o fy hoff genres. Dwi’n licio antur a ffantasi, ond roedd cael elfen o nofel dditectif a throsedd yn bonus! Doedd ’na ddim gormod o “fflwff emosiynol” am gymeriadau, ond roedd llond trol o antur a thensiwn - jest y peth i mi. Wedi dweud hynny, dwi’m yn teimlo y daethon ni i nabod rhai o’r side characters yn ddigon da, felly mae digon o gyfle i roi mwy o gig ar yr asgwrn lle mae Mogs ac Alys yn y cwestiwn yn y llyfr nesaf. Bydd yn ddiddorol parhau i weld Manawydan yn datblygu fel cymeriad, o socially awkward teenager i rywbeth llawer mwy...


Roedd ’na dipyn go lew o benodau, ond maen nhw’n rhai byr (ideal), felly roedd hi’n hawdd darllen ambell un bob nos, ac roedd y switsio ‘nôl a mlaen’ rhwng stori Manawydan ac ymdrechion Ditectif Saunders yn cadw pethau’n symud yn eu blaen.


Llwyddodd y brif stori am y pair dadeni hudol gadw fy niddordeb drwy gydol y nofel, ac mae’r syniad o bŵer annaturiol sy’n gallu dod a’r meirw yn ôl yn fyw yn un da, os nad mymryn yn creepy - sy’n wych. Does dim angen bod ofn mynd lawr trywydd mwy tywyll mewn nofelau fel hyn. Mae’n fy atgoffa i o fyddin y ‘White Walkers’ yn Game of Thrones, neu’r milwyr sgerbwd yn y ffilm Jason and the Argonauts.


Ma 'na hud tywyll yn perthyn i'r Pair

Mi oeddwn i’n euog o feddwl mai pethau diflas oedd chwedlau’r Mabinogi, ond dwi wedi cael fy mhrofi yn gwbl anghywir. Mae’n destament i’w hirhoedledd eu bod nhw’n dal i ysbrydoli straeon newydd hyd heddiw. Dwi’n hoff iawn o’r sbin newydd diweddaraf ar yr hen chwedlau, sy’n siŵr o’u cyflwyno i genhedlaeth newydd a’u gwneud yn berthnasol unwaith eto.



Dwi isio gwybod beth sy’n digwydd nesaf!!!

Dwi ddim yn cofio gweld llyfrau fel hyn ar y silff pan oeddwn i yn fy arddegau. Efallai petawn i wedi, yna mi faswn i wedi dechrau mwynhau darllen ffuglen llawer cynt! Mae arddegwyr heddiw yn cael eu sboilio! Yr unig beth sy’n fy mhoeni - ydyn nhw’n dod i wybod am lyfrau ardderchog fel hyn? Gobeithio wir, achos mae hwn yn llyfr sy’n werth yr £8.99 pob ceiniog! Ac os gwnawn nhw werthu digon o gopïau, dwi’n siŵr y gwneith Alun Davies ysgrifennu part 2, i mi gael gwybod beth sy’n digwydd nesaf!! C’mon bobl!


Corff wedi ei ddarganfod!

 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: Mehefin 2022

Pris: £8.99

 


Recent Posts

See All
bottom of page