top of page

Sara a'r Stranc - Nadia Shireen [addas. Endaf Griffiths]

*For English review see language toggle switch*



(awgrym) oed darllen: 5+

(awgrym) oed diddordeb: 2-5

 

Nabod plentyn sy’n mynd drwy gyfnod y terrible two’s? Darllenwch ymlaen.


Dwi’m yn cofio sut, ond mi ddes i ar draws y llyfr yma’n ddiweddar a meddwl ei fod o’n un da iawn - yn enwedig os da chi’n rhieni i blentyn bach sy’n dueddol o gael temper tantrums o dro i dro. (felly addas i bron bob plentyn bach!)


Mae Sara’r gath yn cael diwrnod drwg iawn. Mae’n dechrau gyda phroblem gyda’i hosan ac yn raddol mynd o ddrwg i waeth wrth i’r hwyliau drwg gynyddu. Cyn pen dim, mae Sara wedi cyrraedd pen ei thennyn ac mae hi’n rhyddhau’r STRANC fwyaf erioed!


Mi fydd nifer o rieni plant bach yn gyfarwydd iawn â’r sefyllfa yma. Yn ôl sôn, mi gefais i ufflwn o stranc yn Marks & Spencer unwaith *ww, cwilydd* – dwi’n siŵr ‘sa mam wedi dymuno i’r ddaear ei llyncu yn y fan a’r lle!


Dwi’n siŵr fod hi’n deg i ddweud bod pob plentyn bach wedi cael strancs ar ryw bwynt neu'i gilydd. Mae o’n rhan o dyfu i fyny a dysgu rheoli emosiynau. I fod yn onest, dim jest plant sydd wrthi chwaith - ‘da ni gyd jest yn deffro ar ochr anghywir y gwely weithia dydan ac mewn funk go iawn drwy’r dydd. Does dim rhaid cael rheswm weithia!


I chi sy’n rhieni, dyma lyfr annwyl fydd yn siŵr o fod yn arf defnyddiol iawn wrth drafod emosiynau a theimladau gyda phlant ifanc. Dwi’n meddwl fod y trosiad o’r stranc fel rhyw fath o anghenfil yn un hynod o effeithiol. Dwi’n licio’r syniad o reolaeth a pherchnogaeth dros y ‘stranc’ - os mai chi greodd y stranc, yna mi fedrwch ei reoli hefyd a gwneud iddo ddiflannu ‘run mor hawdd!



Ar y dudalen olaf, a hithau’n gado na fydd stranc arall (wel, y diwrnod hwnnw beth bynnag) gwelwn nifer o sefyllfaoedd arall fasa’n gallu achosi un arall. Mae cyfle i drafod yma, a bydd plant yn mwynhau ceisio ffeindio’r holl triggers sy’n gallu troi diwrnod i’r brenin yn sur.


Y gobaith yw, ar ôl darllen drwy’r llyfr, y bydd plant yn gallu adnabod y teimladau, er mwyn ceisio tawelu’r dyfroedd ac osgoi ffrwydrad. Mae dysgu rheoli emosiynau yn cymryd amser, a dwi’m yn meddwl fod pob oedolyn hyd yn oed wedi meistroli hyn 100% eto!



Llyfr dwyieithog

Gan mod i’n gwneud ymchwil ar lyfrau dwyieithog a chymysgu ieithoedd, mi fydda i wastad yn cadw llygaid allan am lyfrau newydd fel hyn. Mi dynnodd hwn fy sylw oherwydd y fformat.


Mae llyfrau dwyieithog yn hynod o boblogaidd, yn enwedig gyda rhieni di-Gymraeg neu ddysgwyr sy’n awyddus i gefnogi darllen Cymraeg eu plant. Ond maen nhw’n gallu bod yn ddadleuol hefyd. Tydi pawb ddim yn hoff ohonynt, gan eu cyhuddo o “dynnu oddi ar y Gymraeg” neu’n drysu’r darllenwr gyda’r ddwy iaith ar bob tudalen. Rybish llwyr yn fy marn i. Mae ganddyn nhw eu lle fel popeth arall.


Ond mae’r ddadl yna’n amherthnasol oherwydd fformat arloesol y llyfr yma, sy’n sicrhau’r gorau o ddau fyd. Ar yr edrychiad cyntaf, mae’n edrych fel llyfr Cymraeg, ond mae’r testun ar gael yn y Saesneg hefyd i’r rheiny sy’n dymuno.



Yn hytrach na rhoi’r testun Cymraeg a Saesneg gyferbyn a’i gilydd, mae’r addasiad Saesneg ar gael fel fold out sy’n gallu cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â’r prif destun. Dim mwy o fflicio nôl a mlaen i’r cefn bob munud, a dim cwyno fod gormod o ‘sgwennu ar y tudalennau. Mae ‘na hyd yn oed set o gwestiynau trafod i helpu i gynnal sgwrs am gynnwys y llyfr hefyd -handi! I mi, mae o’n teimlo fel y cyfaddawd perffaith – mae’n edrych fel llyfr Cymraeg, ond mae’n cynnig cymorth dwyieithog i’r rheiny sydd eisiau.


Tybed fyddai cyhoeddi mwy o lyfrau fel hyn (gyda’r addasiad Saesneg ar gael fel atodiad) yn helpu i ehangu apêl llyfrau Cymraeg gwreiddiol? Dwi’n meddwl basa cyhoeddi llyfrau fel hyn yn gwneud llyfrau Cymraeg yn fwy accessible i fwy o bobl, ac mae hynny’n gorfod bod yn beth da, ‘ndi?


Dwi’n meddwl fod y dull yma’n syml, ond yn hynod o effeithiol, ac mi faswn i’n hoffi gweld mwy o gyhoeddwyr ddilyn esiampl Atebol drwy gyhoeddi mwy o lyfrau sy’n ieithyddol hyblyg.




 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: Chwefror 2023

Pris: £6.99

Fformat: clawr meddal

 

bottom of page