top of page

Sbwriel [addas. Sioned Lleinau]


(awgrym) oed darllen: 8+

(awgrym) oed diddordeb: 7+

 

Ydach chi ‘rioed wedi meddwl lle mae’r carton llefrith yn mynd ar ôl i chi ei daflu i ffwrdd? Ar dipyn o antur yn ôl sôn...


Mi nes i fenthyg copi o’r llyfr yma rhai wythnosau nôl o’r llyfrgell, ond rhywsut neu'i gilydd, mi anghofiais ei adolygu. Mi ges i fy atgoffa amdano bore ‘ma wrth gerdded yn y parc lleol gyda’r pram. Dyna lle’r oedd ryw sbwrgi drwg (ydw i wedi creu gair newydd?!) wedi dympio binbag yn llawn o sbwriel reit wrth ymyl y bin. Am hunanol. Beth sydd haru bobl? Oedd hi mor anodd â hynny rhoi’r bag i mewn yn y bin tybed? Mae wir yn torri fy nghalon pan dwi’n gweld pobl yn difetha ac yn amharchu ein byd hardd drwy daflu sbwriel. Ta waeth...


Mi dyfais i fyny gyda llyfrau DK - adar, llongau, ymlusgiaid, adeiladau... you name it, roedd llyfr ar ei gyfer. Doedd dim yn well gen i ‘na dysgu am y byd o nghwmpas. Er bod llawer o’r rhain i’w cael yn y nawdegau, dwi ddim wedi gweld llawer ohonynt yn ddiweddar. Dyna pam dwi’n hapus fod Rily wedi dechrau addasu rhai o deitlau’r gyfres ‘darganfod!’ O edrych faint o deitlau sydd ar gael yn y gyfres wreiddiol, does dim prinder o rai i’w haddasu i ni gael eu mwynhau yn y Gymraeg.



Mae’r llyfr yn dilyn fformat trïed and tested DK dros y blynyddoedd a tydyn nhw heb newid llawer arno. Bysa rhai’n dweud eu bod nhw mymryn yn hen ffasiwn, ond i mi, does dim angen newid arno achos mae’n gweithio’n dda. Mae’r tudalennau yn frith o luniau, diagramau a swigod ffeithiau sy’n apelio at y llygad ac sydd hefyd yn ddifyr dros ben. Er bod y tudalennau’n brysur, maen nhw hefyd yn reit glir ac yn hawdd i’w dilyn. Nid yw’r un peth yn wir ar gyfer pob llyfr ffeithiol.


Yn sicr mae hwn yn llyfr y gallwch ei fwynhau adref, ond dwi’n gweld llawer o ddefnydd ar ei gyfer yn y dosbarth, yn enwedig ym mlynyddoedd 3-6. Mae Pedwar Diben y Cwricwlwm newydd yn sôn am greu ‘dinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd (yn dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd y blaned). Dyma felly'r llyfr perffaith ar gyfer uned o waith ar ailgylchu, yr amgylchedd, llygredd neu’r gymuned leol. Mi faswn i’n ei ddefnyddio ar gyfer tasg ymchwilio neu ar gyfer sesiwn darllen grŵp. Gallwch ddarllen darnau ohono yn hytrach na’r llyfr i gyd. Mae’n gweddu ei hun yn dda ar gyfer cyflwyno gwahanol elfennau o lyfr ffeithiol hefyd, fel y dudalen gynnwys, y mynegai neu’r cydnabyddiaethau.



Mae gan Gymru record dda ar gyfer ailgylchu a chynaladwyedd, ond mi fasa ni’n ffôl i feddwl ein bod yn gwneud digon. Er bod pethau’n gwella, ‘da ni’n dal i fyw mewn throwaway culture gwastraffus. Be ddigwyddodd i’r agwedd make do and mend oedd mor boblogaidd ers talwm? Beth bynnag sy’n digwydd, mi fydd rhaid i bethau newid. Mae’r sefyllfa bresennol yn anghynaladwy. Dwi bron yn teimlo fod hi’n rhy hwyr i’r genhedlaeth yma, ond mae un llygedyn o obaith – ein plant. Dio ddim yn deg o gwbl, achos ‘da ni wedi gadael llanast ar y ddaear, a nhw sy’n mynd i etifeddu hynny i gyd. Er hyn, mae’n rhaid i mi obeithio a breuddwydio y bydden nhw’n dysgu o’n camgymeriadau ni ac yn gwneud gwell job o ofalu am ein planed anhygoel....

Fedra i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw llyfrau fel hyn.




 

Gwasg: Rily

Cyfres: Darganfod!

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £6.99

 

ERAILL YN Y GYFRES...



bottom of page