*For English review, see language toggle switch*
(awgrym) oed diddordeb: 12+
(awgrym) oed darllen: 12+
Genre/themâu: #hanesCymru #teulu #ffuglen #empathi
Sgwn i os ydi Manon Steffan Ros yn teimlo’r pressure wrth gyhoeddi llyfr newydd? Yn enwedig pan ’da chi wedi gosod y bar mor uchel â Llyfr Glas Nebo. Mi fasa unrhyw un yn cael dipyn o job curo llwyddiant y nofel honno! Gyda 5 gwobr Tir na n-Og dan ei belt yn barod, mae hi wedi profi ei hun sawl tro fel un o’n hawduron mwyaf poblogaidd. Er fod nifer yn cysidro Llyfr Glas Nebo fel magnum opus yr awdur, rhaid i mi ddweud mod i wedi mwynhau Llechi a Powell mwy (controversial, right?). Weithiau, mae’n cymryd wythnosau i mi ddarllen fy ffordd drwy nofel, ond yn achos Powell - mater o ddyddiau.
Mae Elis Powell, bachgen pymtheg oed, wastad wedi bod yn falch iawn o’i gyndaid a’i stori, ac yn fwy na bodlon rhannu’r un enw ag o. Caiff ei atgoffa’n feunyddiol o gyfraniad ei hen hen (hen?) daid i’r dref - fo sefydlodd yr ysbyty a’r ysgol leol.
Er bod y stori’n cychwyn yn Nhrefair, Cymru, yn yr Unol Daleithiau y mae’r rhan helaeth o’r llyfr wedi ei leoli. A dweud y gwir, roedd yn chwa o awyr iach darllen stori oedd wedi ei gosod yn bennaf yn rhywle heb law am Gymru am unwaith.
Prif linyn y stori yw taith Elis a’i Daid i’r UDA i ddarganfod mwy am fywyd y gŵr arbennig sydd wedi bod yn bresenoldeb cyson yn eu bywydau ar hyd eu hoes. Er i’r siwrne unwaith-mewn-bywyd ddechrau’n addawol, cawn yr argraff yn fuan iawn fod pethau ar fin mynd o chwith...
“Doedd dim syniad gan yr un ohonom fod pethau ar fin dechrau suro.”
Dwi’n reit sicr y baswn i’n gallu adnabod gwaith Manon Steffan hefo fy llygaid wedi gau erbyn hyn gan ei fod yn unigryw. Y berthynas rhwng ei chymeriadau yw’r prif ffocws ganddi bob amser, ac mae hi’n aml yn sylwi ar y pethau bach mae pobl yn eu gwneud neu’n ddweud, ac y tynnu sylw atynt, boed hynny’n gwpwl yn ffraeo yn gyhoeddus yn y maes awyr neu’n bobl sy’n rhoi back-handed compliments i chi. (Da chi’n gwybod - y rheiny sy’n smalio bod yn genuine, ond ’da chi’n gwybod nad ydyn nhw go iawn.)
Tra mae’r ddau ar eu hantur fawr yn dysgu mwy am fywyd yr Elis Powell gwreiddiol, mae ’na ffeithiau newydd yn dod i’r amlwg, sy’n eu bwrw oddi ar eu hechel yn llwyr. Wna i ddim dweud dim mwy ’na hynny, ond un peth sy’n sicr, fyddan nhw ddim yn gallu meddwl am Elis Powell yn yr un ffordd eto. Roedd yr enw da yn golygu popeth i’r ddau - yn enwedig i taid, a rŵan, mae fel petai’r carped wedi cael ei dynnu o dan eu traed.
Nid dyma’r tro cyntaf i MSR ymdrin â phwnc caethwasiaeth. Yn 2018, mi fuodd hi’n rhan o brosiect yng Nghastell Penrhyn, lle gwnaeth hi lunio ‘12 stori’ yn trafod hanes y castell a’r diwydiant caethwasiaeth yn Jamaica. Efallai bod hynny wedi ei sbarduno i sgwennu mwy a thaflu goleuni pellach ar y pwnc, sydd heb gael hanner digon o sylw tan yn gymharol ddiweddar yn Gymraeg.
Dim ond yn y blynyddoedd diwethaf, yn sgil y symudiad #BlackLivesMatter yr ydan ni wedi bod yn barod i gydnabod a derbyn rhan Cymru yn y diwydiant creulon ac anfoesol. Mae’n bwysig nad ydan ni’n anwybyddu’r gorffennol. Ond yn yr un modd, fedrwn ni ddim ei newid o chwaith. Rhaid ei wynebu a dysgu ohono os ydan ni am allu symud ymlaen.
O ran hanes y caethweision yn y stori, gwybodaeth gefndirol a gawn ni’n unig - digon i fodloni gofynion y stori, ond fawr arall. Mae’n bosib y bysa rhai wedi hoffi gweld mwy o gig ar yr asgwrn fan hyn. Dw i’n credu y bysa ambell i dudalen yng nghefn y llyfr (yn debyg i lyfrau hanes Gwasg Carreg Gwalch) wedi bod yn syniad da er mwyn rhoi mwy o gyd-destun. Wedi dweud hynny, dwi’n meddwl mai dewis bwriadol gan yr awdur ydi peidio â dweud gormod am fywyd a phrofiadau’r caethweision, ac mi fedra i ddallt hynny’n iawn. Mae Manon wedi siarad eisoes am y pwnc o cultural appropriation yn y podcast ‘Colli’r Plot’ ac mae’n werth gwrando ar y drafodaeth ddifyr yma. Dwi dal ddim yn siŵr be di’r ateb cywir, chwaith.
Mae’r nofel yn codi cwestiynau pwysig, ac yn gwneud i chi feddwl ond tydi o byth yn teimlo fel pregeth. Mae’n bosib y bydd hi’n gwneud i chi deimlo braidd yn anghyffyrddus ar brydia. Dyma bwnc trafod cymhleth iawn, ond mae o angen ei drafod, ac felly dwi’n ddiolchgar am nofel fel hyn. Yn debyg i’r Elis Powell dychmygol, mae cerfluniau o unigolion dadleuol fel Henry Morton Stanley, Thomas Picton, Cecil Rhodes a’u tebyg yn dal i’w gweld yn ein cymunedau. Gan na fedrwn ni newid hanes, yr unig beth y gallwn ni ei wneud ydi sicrhau bod pawb yn gwybod y ffeithiau i gyd, a derbyn bod rhai o’r unigolion yma wedi cyfrannu at ein cymunedau, ond fod llawer o’u cyfoeth wedi dod o ecsbloetio pobl eraill.
Yn hytrach na dweud wrthym sut a beth i’w feddwl, mae MSR yn troi atom ni fel darllenwyr ac yn gofyn cwestiwn digon teg: unwaith yr ydych chi’n dod i wybod (a chydnabod) y ffeithiau i gyd, be ydach CHI am ei wneud nesaf efo’r wybodaeth? Dyna beth sy’n bwysig.
Bình luận