top of page

Bach a Mawr - Luned Aaron

Updated: Aug 25, 2023

♥ llyfr y Mis i Blant: Gorffennaf 2023♥


(awgrym) oed diddordeb: 0-4

(awgrym) oed darllen: 5

 

Wel wir, mi roedd Gorffennaf yn fis a hanner! Sori dwi wedi bod yn ddistaw iawn ar hwn, ond yn y cyfamser, dwi wedi dod yn dad am y tro cyntaf. Ar y 5/7/23 mi wnaeth Llio a fi groesawu Broc Siôn Dafydd i’r byd! Ac er y diffyg cwsg, mae o wedi llenwi ein bywydau â chariad ers y munud iddo gyrraedd.


Gydag yntau’n fis oed, wnaeth hi ddim cymryd yn hir i mi stwffio llyfr o’i flaen naddo! Mi gyrhaeddodd Bach a Mawr gan Luned Aaron jest mewn pryd – ac mae o’n addas iawn. Fedra i ddim helpu ond rhyfeddu ar ei gorff bach diymadferth yn fy mreichiau, a sut y bydd o’n tyfu i fyny i fod yn glamp o hogyn rhyw ddiwrnod. Mae pawb yn deud wrthan ni ‘wneud y mwyaf’ o’r cyfnod, a dwi’n dallt be maen nhw’n feddwl – mae o ‘di tyfu allan o sawl babygrow yn barod!


Rheswm arall dwi’n hapus, ydi mae gen i guinea pig rŵan i dreialu llyfrau arno a cael barn plentyn go iawn. Er mod i’n trio gwneud fy ngorau wrth adolygu llyfrau plant a bod yn objective, ar ddiwedd y dydd, dwi ddim yn blentyn bach a fydda i byth eto! Dwi’n hapus i ddweud fod Broc yn reit hoff o’r llyfr, er nad ydi o wedi dweud hynny wrtha i fel y cyfryw!



Sut dwi’n gwybod hyn? Wel, mae o’n treulio oriau yn edrych ar y lluniau, a mae o wedi gwirioni hefo nhw ac mae o’n stopio fo rhag crio sy’n lifesaver. Doeddwn i ddim yn deall fod babis pretty much yn ddall pan maen nhw’n cael eu geni. Tydyn nhw ond yn gallu gweld siapiau cyfagos, ac mae eu golwg reit fuzzy am y misoedd cyntaf yn ôl sôn.


Mae’r llyfr yn deidi ac yn fach – jest y peth i ddod hefo ni yn y goetsh. Tydi o ddim wedi dechrau cnoi pethau eto, felly mae’r corneli yn saff am y tro. Mae babis yn licio siapiau amlwg a syml – dwi’n meddwl mai pethau high contrast mae nhw’n licio, felly mae’r anifeiliaid yn sefyll allan yn erbyn y cefndir gwyn ac yn denu’r llygaid bach chwilfrydig. Mae’r ansoddeiriau hefyd yn rai da – geiriau safonol fel ‘ffyrnig’ ac ‘addfwyn’ er mwyn cyflwyno’r syniad o gyferbyniadau sydd ym mhobman o’n cwmpas.



Dwi ‘di bod yn defnyddio’r sensory cards bach del ma gan Priya & Peanut hefyd, ond rŵan mae gynon ni lyfr bach handi Cymraeg sy’n gwneud yr un peth. Dio’m bwys nad ydio’n dallt be mae o’n weld. Mi geith fodloni ar edrych ar y lluniau am y tro, a phan fydd o bach hŷn, mi fedrwn ni fwynhau’r llyfr hefo’n gilydd. Gawn ni ddigon o iws allan o hwn dwi’n meddwl!


As always, mae lluniau Luned Aaron yn wych, ac roedd yn ddifyr iawn gweld ar ei thudalen Insta be di’r broses behind the scenes o greu llyfr fel hyn. Tydi rhywun ddim bob tro yn sylwi nac yn gwerthfawrogi’r oriau o waith sy’n mynd i mewn i greu llyfrau i blant. Y sloth yw fy hoff lun i, a dyna’n union sut dwi’n teimlo ar ôl dim ond ryw deirawr o gwsg bob nos!



Ar y dudalen olaf ond un daw’r anifeiliaid at eu gilydd mewn sbloetsh o liw, ac mi oni’n licio’r syniad o gynnwys rhestr geiriau ar y cefn i’r rheiny sydd ei angen. Unwaith eto, dyma gyfrol hardd a hwyliog gan Luned Aaron, a faswn i ddim yn disgwyl dim byd llai gan yr artist a’r awdur aml dalentog yma.





 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: Mehefin 2023

Pris: £4.95

Fformat: clawr meddal

 

bottom of page