Chwilio
310 results found with an empty search
- Luned Bengoch - Elizabeth Watkin-Jones
*For English review, please see language toggle switch on top of page* Oed Darllen: 10+ Oed Diddordeb: 10+ Fel Hogan o Forfa Nefyn dw i wastad wedi bod yn ymwybodol o’r awdures arbennig, Elizabeth Watkin-Jones. Cyn i mi hydnoed ddarllen ei nofelau dwi’n cofio eu gweld ar y silff lyfrau yn nhŷ Nain a Taid. Lois… Esyllt… Y Dryslwyn… ond yr enwocaf oll o’r rhain ydi Luned Bengoch. Do, mae T. Llew Jones wedi ysgrifennu am arfordir gwyllt Ceredigion, ond mae Elizabeth Watkin-Jones hefyd wedi llwyddo i blethu antur, rhamant a pherygl yn gelfydd ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Mae hyn oll wedi’i grisialu ar glawr yr argraffiad newydd gan yr artist Efa Blosse-Mason – mae’n edrych fel poster ar gyfer ffilm epig. A coeliwch chi fi, mae hon yn stori epig y bydd pobl ifanc ac oedolion yn ei mwynhau. Rydym yn y flwyddyn 1401, ac mae’r cyfnod yn un arwyddocaol am ein bod ym mlynyddoedd cynnar gwrthryfel Owain Glyndŵr. Braf yw darllen nofel sydd ddim yn ofni dangos ei lliwiau cenedlaetholgar. Yn ogystal â’r cymeriadau yn y nofel sy’n deyrngar i Glyndŵr a’r achos i gael annibyniaeth i Gymru, ac er mai nofel hanesyddol ydi hi mae’n teimlo’n hynod amserol gan bod y ddadl dros annibyniaeth wedi dod fwyfwy i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Ond beth am gymeriadau’r nofel? Mae Luned yn ferch gref, anturus a tydi hi ddim yn gadael i’r ffaith ei bod yn ferch ei chyfyngu o gwbl, fel y byddai yn siŵr o fod wedi gwneud yn yr adeg honno. Mae’n benderfynol o ddilyn ei ffrind, Rhys ar daith i gyflwyno neges i Owain Glyndŵr yn ei wersyll ym Mhumlumon, a hynny drwy esgus bod yn fachgen. Ond ar y daith mae hi’n dwyn sylw sawl un, a fedr ei chap ddim cuddio’r cyrls fflamgoch, na’r nodweddion enwog hynny oedd gan deulu Caradog ab Merfyn Goch o Grafnant, Dyffryn Conwy. Pam bod perygl ym Mhlas Crafnant? Pwy yw Luned Bengoch? Dyma’r trydydd tro i’r nofel gael ei hargraffu. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1946, yna fe wnaeth nai yr awdures, Hugh D. Jones ddiweddaru’r testun ar gyfer argraffiad newydd yn 1983. Gobeithio wir y bydd pobl ifanc heddiw yn parhau i ymgolli yn yr antur hwn. Ewch gyda Luned a Rhys ar eu taith, o greigiau geirwon Nant Gwrtheyrn, i lethrau mynyddoedd Pumlumon ac i Ddyffryn Conwy. Mae Luned Bengoch wir y gorau o’r goreuon, does dim llawer o straeon yn cael eu hadrodd fel hyn heddiw. Mae Luned Bengoch yn glasur. Gwasg: Gomer@Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 (ond yn wreiddiol yn 1946, 1983) Cyfres: Gorau'r Goreuon Pris: £6.99 ISBN: 978-1-80099-135-4 WEDI MWYNHAU LUNED BENGOCH? BETH AM RAI O'R CLASURON ERAILL YN Y GYFRES? https://llyfrau.cymru/en/goraur-goreuon-cyflwyno-tair-stori-or-gorffennol/
- Sara Mai a Lleidr y Neidr - Casia Wiliam
*For English review, see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 8+ Oed diddordeb: 7-11 Gwaith celf: Gwen Millward Genre: #CymraegGwreiddiol #ffuglen #ditectif #cyfeillgarwch Dwi’n siŵr fod yr awdur, Casia Wiliam, wedi teimlo ’chydig o bwysau tro ’ma wrth fynd ati i ysgrifennu dilyniant i Sw Sara Mai, yn enwedig o ystyried llwyddiant ysgubol y gwreiddiol, aeth ymlaen i ennill Gwobr Tir na n-Og 2021. Nid gwaith hawdd ydi curo hynny! Dwi’n meddwl ei bod hi’n bendant wedi cadw’r safon, ac mi wnes i fwynhau’r ail nofel cymaint os nad mwy na’i rhagflaenydd. Mae’r cynhwysion wnaeth Sw Sara Mai mor boblogaidd i gyd yno, ond erbyn hyn, rydym yn fwy cyfarwydd â’r cymeriadau hoffus, ac fe gawn ein cyflwyno i nifer o gymeriadau newydd hefyd. Cafodd y nofel gyntaf ei chanmol am gyflwyno prif gymeriad hil gymysg a hefyd am gynnwys peth trafodaeth am hiliaeth. Wrth gwrs, mae hyn yn beth da – mae angen i’n llenyddiaeth adlewyrchu ein cymdeithas ni heddiw. I mi, llwyddiant y ddwy nofel ydi sut mae’r pynciau hyn yn cael eu cyflwyno mor naturiol. Yn y stori gyntaf, roedd dyfodol y sw ei hun dan fygythiad, ond y tro hwn, fel awgryma’r teitl, mae rhywun wedi dwyn neidr. Ond nid neidr gyffredin mo hon, o na, ond Peithon Albino Porffor prin. Bydd gofyn i Sara Mai droi’n dditectif er mwyn datrys y dirgelwch mawr: ‘pwy yw lleidr y neidr?’ Wrth ddechrau ei hymchwiliad, daw nifer o’i ffrindiau a’i chydweithwyr o dan amheuaeth. Ai person diarth sydd ar fai neu oes ’na ddihiryn yn cuddio reit o dan ei thrwyn hi? Dim mwy o sboilars gen i! Dwi’n meddwl mai penderfyniad doeth oedd lleoli’r stori mewn lle mor ddiddorol â sw. Wedi’r cyfan, mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi anifeiliaid, yn dydyn? Dwi’n gwerthfawrogi’r ffeithiau am wahanol anifeiliaid sy’n cael eu sbrinclo yma ac acw. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i ’rioed wedi clywed am pademelon gynt! Mae’r anifeiliaid yn darparu cyfleoedd er mwyn cyflwyno pynciau megis colled, galar a pherthnasau mewn ffordd sensitif. Roeddwn i’n hoffi sut mae’r awdur wedi troi pethau ar eu pen gyda’r nofel yma. Yn y nofel gyntaf, bu Sara Mai yn ddigalon gan fod rhywun wedi bod yn dweud pethau cas amdani. Y tro hwn, fe welwn nad ydi Sara Mai ei hun yn berffaith bob amser, ac mae hi’n dysgu neges bwysig am fod yn garedig a pharchu eraill, hyd yn oed os oes ganddynt ymddangosiad neu ddiddordebau gwahanol. Mae’r iaith naturiol, hawdd i’w darllen yn golygu bod llyfrau Sara Mai yn berffaith ar gyfer plant 7–11 oed, a byddwn yn argymell y rhain fel nofelau y dylai athrawon ystyried buddsoddi ynddynt. Adolygiad gan Morgan Dafydd Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £5.99 ISBN: 9781800991170 YDYCH CHI WEDI DARLLEN Y LLYFR CYNTAF YN Y GYFRES? https://www.gwales.com/bibliographic/?newsize=300&tsid=7 ♥ Llyfr y Mis i Blant: Awst 2020 ♥ ♥ Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021 ♥
- Ffwlbart Ffred: Yn Dywyll fel Bol Buwch - Sioned Wyn Roberts
*For English, see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 6+ Oed diddordeb: 3+ Lluniau: Bethan Mai Insta:@bethan_mai Genre: #ffuglen #doniol #CymraegGwreiddiol Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf, dwi’n meddwl ein bod ni i gyd isio dipyn bach o light relief a rhywbeth i godi gwên. Mae hyn yn bwysicach fyth yn ein llyfrau i blant, achos pa ffordd well o fagu cariad at ddarllen ’na gyda chyfrolau doniol sy’n llawn hiwmor drygionus? Mi o’n i’n ffan mawr o’r llyfr cyntaf yn y gyfres, ac o’n i’n meddwl fod o’n syniad bril i gael storis bach digri yn esbonio tarddiad rhai o’n hidiomau enwocaf. Dwi’n falch o weld fod yr hen ffwlbart gwirion yn ei ôl i’n diddanu eto. Tro yma, ‘yn dywyll fel bol buwch’ sy’n cael sylw. Pan ’da chi’n ista ac yn meddwl am rai o’r idiomau ’ma, maen nhw’n hollol nyts dydyn? Pwy ddaeth i fyny hefo’r syniad fod rhywbeth mor dywyll â bol buwch? Ma’r iaith Gymraeg yn llawn rhyfeddodau bach fel ’na. Mi gewch chi hwyl wrth ddarllen y stori yma, gan ei fod o’n llawn cwpledi bach doniol sy’n odli, wrth adrodd hanes yr hen Anti Gyrti, sy’n reit flin gan fod y fuwch druan methu cynhyrchu llaeth! Be sydd gan hanner porc pei a Sbectol Nain Chwilog i wneud hefo hyn tybed? A sgwn i be fydd gan Dr. Ffwlbart i’w ddweud am yr holl beth? Rhybudd - mae digonedd o sôn am ben-ôl’s buwch a nicyrs a thronsys! Be gewch chi well? Mae’n debyg y basa hi’n anodd iawn dod ar draws unrhyw un sydd ddim yn licio’r stori yma. Mae lluniau cain Bethan Mai yn dod â hwyl a helynt y stori’n fyw. Dyma bartneriaeth arbennig rhwng awdur ac artist a dyfodd yn naturiol o gwrs yng Nghanolfan Tŷ Newydd. Gwych. Mae’r llyfrau yma’n naturiol ddoniol ac yn ddireidus, ac yn llawn hwyl dros-ben-llestri gwirion - jest y peth ’da ni ei angen ar y funud. Dwi’n edrych ymlaen at weld pa idiom fydd yn cael sylw’r llyfr nesa. Mae gen i ddau gefnder bach ifanc (sy’n ddau beth gwyllt ar brydiau) ac mae’n gallu bod yn anodd eu setlo lawr i wrando ar stori. Dwi’n GWYBOD y gwnawn nhw wirioni efo hon a dwi’n reit ffyddiog y gwneith y llyfr ffeindio’i ffordd i mewn i sach Siôn Corn ’leni! Y ‘verdict’ - un o fy ‘top 5’ llyfrau i blant 3-7 oed a gafodd ei gyhoeddi yn 2021. Mynnwch gopi! Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781913245412 AM YR AWDUR: SIONED WYN ROBERTS Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am raglenni 'Cyw' a 'Stwnsh'. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac yn uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Cred Sioned bod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol. HEFYD YN Y GYFRES...
- O'r Tywyllwch (2021) -Mair Wynn Hughes
*For English, please see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 11+ Oed diddordeb: 11+ Genre: #antur #hinsawdd #amgylchedd #ffuglen #scifi #dystopaidd Cyfres newydd ‘Gorau o’r Goreuon’ Swnio’n gyfarwydd? Mi ddylia fo, achos fe gafodd ‘O’r Tywyllwch’ ei gyhoeddi yn wreiddiol ym 1991. Efallai eich bod yn cofio ei weld o ar silff y siop lyfrau flynyddoedd yn ôl, neu ella mai hwn oedd eich llyfr darllen yn yr ysgol. Mae’r tair cyfrol gyntaf yng nghyfres Gorau’r Goreuon wedi cael eu hail-wampio a’u diweddaru, i sicrhau eu bod yn edrych yn ffres ac yn ddeniadol i ddarllenwyr heddiw - mae gan ddarllenwyr ddisgwyliadau uchel wyddoch chi! Mae pob un wedi cael clawr newydd sbon, ac mae’r rhain yn hynod o drawiadol. https://llyfrau.cymru/goraur-goreuon-cyflwyno-tair-stori-or-gorffennol/ Ydan ni wastad yn chwilio am rywbeth newydd o hyd? Maen nhw’n dweud nad yw stori dda’n dyddio. Ac i raddau, mae hynny’n wir. Ond mae llyfrau’n dyddio. Ac maen nhw’n bendant yn gallu cael eu hanghofio. Dyma ddigwyddodd yn achos O’r Tywyllwch gan Mair Wynn Hughes fwy na thebyg. Rhyw gwta flwyddyn yn ôl, prin fasa chi wedi medru bachu copi o’r gwreiddiol, heblaw am yr un copi ail law oedd ar ebay am dros £100! Y rheswm dros hyn - does na jest ddim llawer o gopïau ar ôl. A dydi hyn ddim yn broblem sy’n perthyn i O’r Tywyllwch yn unig chwaith. Mae ’na gannoedd o deitlau da, gwerth eu darllen, sydd allan o brint ac wedi mynd i ebargofiant erbyn hyn. Yn y byd cyhoeddi Prydeinig, maen nhw’n trysori llyfrau’r gorffennol ac maen nhw wastad i’w cael mewn print - dwi’n sôn am eich A Christmas Carol, Black Beauty, Charlotte’s Web, The Lion, the Witch and the Wardrobe ac ati. Caiff y teitlau hyn eu hystyried fel ‘clasuron,’ yn y Saesneg, ond mae rhai o ‘glasuron’ a chlasuron posib y Gymraeg yn eistedd yn hel llwch ar silffoedd siopau elusen, storefydd ysgolion, neu waeth yn cael eu taflu. Pam? Diffyg ymwybyddiaeth llwyr am lyfrau'r gorffennol. Ydan ni’n trysori, clodfori ac yn gwerthfawrogi digon ar lenyddiaeth plant y gorffennol (ac eithrio T. Llew Jones, wrth gwrs) neu ydan ni rhy sydyn i anghofio? Mae hyn yn fy arwain at gwestiwn mawr arall: ydi llyfrau Cymraeg i blant yn cael digon o sylw yn gyffredinol? Ai ail gyhoeddi yw’r ateb? Mae ’na wastad ddau safbwynt yn does. Bydd rhai yn dweud mai peth ffôl yw edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi bod. ‘Had it’s day,’ neu ‘past it’s best’ fasa rhai yn ddweud. Tybiwn y byddai ambell un yn dweud fod ail gyhoeddi hen lyfrau’n ddiog, am ein bod ni’n hesb o syniadau. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n anghytuno’n llwyr. Dwi o’r farn ei bod hi’n bwysig cael digon o ddewis ac amrywiaeth. Yn bendant mae ’na le i gydbwysedd rhwng yr hen a’r newydd. Stori dda ydi stori dda yn fy marn i, ac mae ’na ormod o lyfrau Cymraeg da ‘allan o brint’. Dyna pam dwi’n croesawu nostalgia digywilydd cyfres ‘Gorau o’r Goreuon’ ac yn dymuno pob llwyddiant iddi. Ella mod i ’chydig yn biased am fy mod i wedi bod ar y panel dethol, ond so what! Wrth reswm, tydi pob llyfr ddim yn addas i gael ei ail gyhoeddi. Mae rhai wedi dyddio’n erchyll ac yn cynnwys safbwyntiau ac ystrydebau sy’n gwbl anaddas heddiw. O’r Tywyllwch... yn ôl i’r goleuni! Wedi dweud hynny, mae ’na beth wmbredd o drysorau coll allan yna, sy’n disgwyl i gael eu cyflwyno i genhedlaeth newydd. Mae rhai hen straeon yn llawn haeddu cael eu hystyried yn ‘glasuron’ ac maen nhw’n dal i fod yn berthnasol iawn i ni heddiw, gydag ‘O’r Tywyllwch’ yn enghraifft dda iawn o hyn. Adolygiad Manon Steffan Ros O ran, ‘O’r Tywyllwch,’ ychydig iawn o waith newid oedd ei angen ar y stori mewn gwirionedd, sy’n destament i safon y gwreiddiol. Ychydig fisoedd yn ôl, fe drydarodd Manon Steffan Ros am y llyfr gwreiddiol ar ôl iddi hi ei ail ddarganfod, ac fe fuodd ddigon clên i ’sgwennu adolygiad i ni ar y pryd. Gan fod y stori fwy neu lai'r un fath, dyma ddetholiad o’i hadolygiad: Dwn i ddim sut yn y byd i mi anghofio'r nofel yma, achos wir i chi, mae hi'n wych. Rydw i'n ffan fawr o lyfrau gwyddonias (sci fi), ac yn arbennig o nofelau dystopaidd, ond mi fydda i'n teimlo'n aml eu bod nhw'n gallu bod yn rhy brysur, gormod yn digwydd a'r cymeriadau braidd yn fflat. Dydy O'r Tywyllwch ddim fel hyn o gwbl- y peth cyntaf i'ch tynnu chi i mewn ydy'r cyfeillgarwch rhwng y ddau brif gymeriad, Hywyn a Meilyr. Maen nhw'n byw yn ein byd ni, ond, efallai, yn y dyfodol- mae'r byd wedi poethi, ac mae'n rhaid i bobol wisgo siwtiau arbennig cyn mentro allan. Mae cynlluniau mawr ar droed- Mae pawb yn gorfod mynd i fyw mewn dinas arbennig yn y mynydd, a chau'r byd a'r awyr iach allan am byth. Dim pawb sydd eisiau mynd, ond does dim dewis. A dyna i chi ddechrau'r tensiwn yn y stori. Mae ail ran i'r stori yma hefyd, am y profiad o fyw yn y ddinas danddaearol genedlaethau ar ôl y mudo mawr. Cefais fy nychryn gan y rhan yma, a hynny achos ei fod yn creu'r byd newydd hunllefus yma mewn ffordd oedd yn teimlo mor real. Roedd 'na rannau ohono yn teimlo fel y byd yn nofel enwog George Orwell, 1984- ond i mi, mae O'r Tywyllwch yn fwy personol, yn fwy cyfarwydd, ac felly ganwaith yn fwy dychrynllyd. Dwi'n gwneud fy ngorau i beidio rhoi sboilars yma, ond dwi'n meddwl efallai y bydd y diwedd yn teimlo'n rhy benagored i rai. I fi, dwi'n hoffi'r ffaith nad ydy'r nofel yn gorffen gydag ateb pendant i bob cwestiwn. A dweud y gwir, mae'r diweddglo yn teimlo fel her i ni, y darllenydd- be' 'da ni'n mynd i'w wneud nesaf wrth i'r byd boethi? Cyhoeddwr: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Cyfres: Gorau'r Goreuon Pris: £6.99 ISBN: 9781800991361 LLYFRAU ERAILL YNG NGHYFRES GORAU'R GOREUON...
- Pwyll a Rhiannon - Aidan Saunders [geiriau Cymraeg - Mererid Hopwood]
*For English, see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 7-11+ Oed diddordeb: 7-11+ Yn dilyn llwyddiant Branwen, mae’r awdur/arlunydd Aidan Saunders yn ôl gyda chyfrol newydd sy’n ail ddychmygu stori o gainc gyntaf Y Mabinogi, Stori Pwyll a Rhiannon. Mae’r chwedlau hyn yn rhan bwysig o’n traddodiad Celtaidd, ac maent wedi cael eu hadrodd a’u hailadrodd ar hyd y canrifoedd. Gobeithio y bydd y llyfr yma’n llwyddo i gyflwyno mytholeg y Mabinogi i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr ifanc. Credaf fod yr awdur wedi dewis a dethol yn ddoeth pa ddarnau i’w cynnwys a pha rai i’w hepgor wrth greu fersiwn gyfoes o hen stori. Gyda’i siâp hirsgwar cul anarferol, a’r gwaith print trawiadol, dyma lyfr sy’n mynnu eich sylw wrth i chi fynd heibio’r silff lyfrau. Rydym yn dueddol o anghofio am luniau erbyn i ni gyrraedd y grŵp oedran 7+ ac felly rwy’n falch iawn o weld llyfr sy’n clodfori gwaith celf, gan ddangos bod llyfrau lluniau yn addas i blant hŷn yn ogystal â phlant iau. Mi fyddwch yn cael eich swyno gan waith print lino’r awdur, sy’n edrych fel tapestri hardd canoloesol, gyda phob math o gyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol. Ceir yma stori am Pwyll Pendefig Dyfed, tywysog sy’n cael ei ddewis gan Rhiannon i fod yn ŵr iddi. Does dim ond un broblem fach, mae hi i fod i briodi rhywun arall! Tybed fydd ’na ‘happy ever after’ i’r stori hon? Annhebyg! Dyma’r Mabinogi, wedi’r cyfan. Yma, fe gewch stori llawn antur, serch, brad, trais a thipyn o ddewiniaeth ar ben hynny! Un o fanteision unigryw'r llyfr yw’r ffaith ei fod yn cynnwys geiriau Cymraeg Mererid Hopwood gyferbyn â’r geiriau Saesneg, sy’n golygu fod apêl y llyfr yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. O gysidro natur ddwyieithog Cymru gyfoes, byddwn yn hoffi gweld mwy o lyfrau dwyieithog fel hyn ar gael. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: Hydref 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781801060820 AM YR AWDUR... Dyma fo'r awdur/arlunydd, Aidan Saunders, a'i gwmni @printwagon. Ewch i'r wefan i ddysgu mwy am ei waith... https://www.print-wagon.com/
- Tomos Llygoden y Theatr a Feiolet Pot Blodau - Caryl Parry Jones a Craig Russell
*For English review, see language toggle button on top of webpage* Oed darllen: 6/7+ Oed diddordeb: 5-8 ♥Cymraeg gwreiddiol♥ Genre: #ffuglen #doniol #empathi Wel, mi fuon ni i ffwrdd o’r theatr am amser hir iawn yn do? A phwy sydd wedi bod yno’n aros amdanon ni ond Tomos Llygoden. Mae Tomos yn ôl gyda stori newydd ac mae ganddo gymeriad newydd i’w gyflwyno inni – Feiolet Pot Blodau. Mae sawl dynes lanhau yn gweithio yn y theatr, ond ffefryn y llygod ydi Feiolet Pot Blodau, ac mae hi’n hawdd iawn gweld pam. Mae hi’n annwyl a charedig a chydig bach yn od. Mae hi’n gwneud pethau chydig bach yn od, ac yn gwisgo pethau braidd yn od. A dyna sut y cafodd hi ei henw – am ei bod hi’n gwisgo pot blodau ar ei phen yn lle het! Ond y prif reswm pam fod y llygod yn ei hoffi, ydi am ei bod hi’n ddynes lanhau wael ofnadwy, sy’n golygu fod yna fwy na digon o friwsion a phethau da ar ôl yn y theatr i’r llygod eu mwynhau. Ond er bod y llygod yn hoffi hyn, tydi Mr Meilir, y rheolwr, ddim yn hoffi hyn o gwbl, ac mae dyfodol Feiolet fel glanhawraig yn y theatr mewn perygl. Tybed a fydd Tomos a’i ffrindiau’n gallu darganfod pam fod Feiolet yn ddynes lanhau mor wael? A tybed fyddan nhw’n gallu cadw ei swydd hi yn y theatr? Dyma stori olaf y gyfres hon, ond mae hi’n stori arall ddifyr a doniol, sy’n addas ar gyfer plant 5-8 oed. Mae Tomos a’i ffrindiau’n gymeriadau mor hoffus ac annwyl ac mae hi’n hwyl dilyn eu hanturiaethau yn y theatr. Yn ychwanegu at greu byd hudolus y theatr a’r cymeriadau hoffus mae darluniau hyfryd Leri Tecwyn wrth gwrs. Mae hi’n defnyddio lliwiau tywyll a chynnes fel coch, gwyrdd a brown sy’n cyfleu’r teimlad o fod mewn theatr grand draddodiadol i’r dim. A dw i’n siŵr ei bod hi wedi cael hwyl yn darlunio Feiolet! Dw i’n ffan mawr o’i sanau hi fy hun. Dw i’n tueddu i feddwl bod gormod o ysgrifen ar rai tudalennau o gymharu ag eraill, a bod hyn braidd yn anghyson. Efallai y byddai'n ormod i rai plant ifanc fod yn darllen y llyfr heb gymorth, ond eto, gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer darllenwyr annibynnol newydd. Dw i’n gwybod y byswn i wedi bod wrth fy modd yn gwrando ar y stori hon pan oeddwn i’n blentyn. Am stori ysgafn a hwyliog, am gymeriadau annwyl ac agos atoch chi, ewch i chwilio am gopi o Tomos Llygoden y Theatr a Feiolet Pot Blodau! A chofiwch fynd i chwilota am straeon eraill y gyfres hefyd- mae digon o ddewis! Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Mawrth 2021 Pris: £4.95 ISBN: 9781845277376 LLYFRAU ERAILL YNG NGHYFRES TOMOS LLYGODEN...
- Chwedl Calaffate - Lleucu Gwenllian
*For English, use language toggle option on top of page* Oed darllen: 8+ Oed diddordeb: 7+ Genre: #chwedl #rhyngwladol #gwreiddiol #Patagonia #cariad Synopsis: Amser maith yn ôl, ymhell cyn bodolaeth y Wladfa, roedd merch ifanc dlos yn byw ymysg llwyth y Tehuelche – pobl wreiddiol talaith Chubut. Un dydd wrth chwilio am baent i'w nain, dyma Calaffate yn cyfarfod bachgen o lwyth y Selk'nam – gelynion y Tehuelche! Wrth i'r ddau sgwrsio dyma nhw'n disgyn mewn cariad, ond dydi llwybr cariad byth yn hawdd. Dyma'r addasiad Cymraeg cyntaf o'r chwedl drist o gariad, brad a thorcalon, sy'n rhoi cipolwg i ni o fywyd ym Mhatagonia ymhell cyn i'r Cymry groesi'r môr yn 1865. Dyma yn bendant un o’r llyfrau harddaf i gael eu cyhoeddi yn 2021 ac mae’n un o fy ffefrynnau personol. Dwi wedi gwirioni gyda hwn, mae o wirioneddol yn wych - y stori, y lluniau - popeth. Gwaith arbennig Lleucu. Yn ôl ei blog, mae Bethan Gwanas hefyd yn ffan o’r llyfr. Dwi mor falch o weld stori â dimensiwn rhyngwladol yn dod i’r farchnad – mi fasa’n braf gweld mwy a dweud y gwir, yn enwedig os ydyn nhw o’r un safon â Chwedl Calaffate. Mae’r gwaith arlunio yn ardderchog. Mae ’na nifer o artistiaid talentog yng Nghymru sy’n darlunio llyfrau plant, ond mae hwn yn enghraifft o'r goreuon yn fy marn i – lliwiau cynnes oren, melyn a choch, sy’n cyfleu caledi bywyd ar y paith. Fel sy’n amlwg o’r teitl, chwedl yw hon, yn wreiddiol o Batagonia, sy’n sôn am goeden ffrwythau’r Calaffate, a’r stori drist tu ôl iddi. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd gyda’r goeden, ei ffrwyth na’r chwedl, mae’n rhaid i mi gyfaddef. Daw’r chwedl o’r dywediad “El que come Calafate siempre vuelve.” Hynny yw, os flaswch chi ffrwyth y Calaffate, rydych chi’n siŵr o ddychwelyd i’r Wladfa. Mae ’na rywbeth rhamantus iawn tu ôl i’r dywediad yna yn does, yn debyg iawn i’r syniad o ‘hiraeth’ sydd gennym ni yng Nghymru – y cysylltiad pwerus rhwng y pobl a’r tir. Ac mae ’na ramant yn y chwedl hefyd, sydd yng ngeiriau’r awdur, yn ymdebygu i stori Blodeuwedd. Mae’r ddau yn sôn am barau ifanc sy’n disgyn mewn cariad, ond cariad sydd ddim i fod. Fedrwch chi ddim helpu ond meddwl ei bod hi’n bechod na fyddai’r dynion hŷn wedi meindio eu busnes yn y chwedlau yma a gadael i’r cyplau ifanc fod! Mi wnes i eitha licio'r ffaith fod 'na ddim 'happy ever after' i'r stori, fel sydd i'w weld yn y rhan fwyaf o lyfrau i blant. Dwi’n meddwl y basa’r chwedl yma’n un dda i’w haddasu fel ‘animated short’ ar gyfer y teledu, petai na bres i wneud hynny. Yn ogystal â’r stori ei hun, ar ddiwedd y llyfr cawn fwy fyth o wybodaeth am darddiad y chwedl, a thipyn o wybodaeth am y broses o greu’r gyfrol hefyd. Dwi’m yn gwybod am bawb arall, ond dwi’n fascinated efo manylion behind the scenes fel hyn. Roedd y rhestr eirfa yn syniad da hefyd. Wel, dim ond un peth sydd ar ôl i’w wneud – gwneud yn siŵr mod i’n mynd i Batagonia fy hun rhyw ddiwrnod, i gael trio ffrwyth y calaffate... Gwasg: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.50 ISBN: 9781845278182 PWY YW'R AWDUR? Mae Lleucu Gwenllian yn ddarlunydd 24 oed sy’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog ac â BA mewn Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd. Fel rhan o’r cwrs bu iddi gwblhau amryw o friffiau creadigol gwahanol, a gellir gweld esiamplau o’i gwaith ar ei gwefan – lleucugwenllian.wixsite.com/lleucuillustration/ portfolio ac ar ei chyfrif Instagram – @lleucuillustration
- Fira Farus a'r Wy Siocled Enfawr - Eira Moon [addas. Nerys Roberts]
*For English version, switch language toggle on top of page* Oed darllen: 7+ Oed diddordeb: 3-11 Genre: #llyfrlluniau #chwedlau #moeswers #ffuglen Mae hi wastad yn bleser gweld pobl sy’n mentro cyhoeddi’n annibynnol gan ei fod yn ychwanegu at yr amrywiaeth o ddeunydd darllen sydd ar gael i’n darllenwyr. Yn aml iawn, mae cyhoeddwyr annibynnol yn gwneud llawer o’r gwaith eu hunain, gan gynnwys ysgrifennu, dylunio, cysodi, hyrwyddo a marchnata - tipyn o gamp y dyddiau yma. Mae’n bwysig cefnogi awduron newydd, gan gynnwys y rheiny sy’n hunan-gyhoeddi. Dyma lyfr cyntaf Eira Moon, awdures sy’n hanu o ogledd Cymru yn wreiddiol, ond sydd hefyd wedi byw yn Sbaen am dros ugain mlynedd. Mae’n debyg fod hynny’n esbonio pam fod y llyfr ar gael mewn tair iaith, sef Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg o dan y teitlau Fira Farus a’r Wy Siocled Enfawr, Greedy Gracee’s Giant Chocolate Egg ac La Codiciosa Princesa Graciana y el Huevo de Chocolate Gigante. Sgyrsiau di-ri gyda ei phlentyn maeth oedd y sbardun tu ôl i ysgrifennu stori Fira Farus. Cawn yma stori tylwyth teg (fairytale), sy’n sôn am Fira, tywysoges ifanc reit annymunol i fod yn onest! A hithau’n byw mewn castell enfawr, mae’n deg i ddweud ei bod hi’n cael ei sbwylio, ac mae hynny wedi ei gwneud yn berson digon hunanol, barus, ond unig hefyd. Un diwrnod, pan mae wy pasg anferth hudol yn glanio ar stepen drws y castell, mae’r dywysoges yn ffeindio’i hun mewn dipyn o bicl. Tybed fydd rhywun am ei helpu, a hithau wedi bod mor farus? Dyma stori fasa’n berffaith ar gyfer ei rhannu amser gwely, neu yn yr ysgol amser stori. Mae’r lluniau gan Aswitha Gunda yn helpu i adrodd y stori ac yn rhoi blas ar fyd hudolus y dywysoges. Cynigia’r llyfr gyfle i drafod gwahanol deimladau ac ymddygiadau; sut y gall bod yn farus eich cael chi i bob math o drwbl! Dwi wastad wedi credu mewn ‘karma’ (what goes around comes around) a dwi’n teimlo’n gryf y bydd pobl farus a hunanol yn talu’r pris yn y pen draw. Er bod y stori’n cynnwys elfennau ffantasïol fel cestyll, tywysogesau a hud a lledrith, stori sydd â moeswers digon syml a down to earth ydi hon yn y bôn. Mewn byd sy’n gallu bod mor gas a brwnt ar brydiau, croesawaf unrhyw stori sy’n lledaenu negeseuon o garedigrwydd a chariad – a does unlle gwell i wneud hyn nac yn y blynyddoedd cynnar. Mae llyfr llafar ar gael i’w lawrlwytho o https://eiramoon.com/ am £2.99 – beth am ddarllen a gwrando ar yr un pryd? Ar gael yn eich siopau lleol neu o wefan Gwales rŵan. Gwasg: Eira Moon Cyhoeddwyd: Mai 2021 Pris: £6.95 ISBN: 978-1916875524 AM YR AWDUR... EIRA MOON She was one of the lucky ones, being born and bred in the land of song and sheep, aka “God’s Country”…North Wales! Since 2001 she’s been involved in organizing music and entertainment for venues all over the world. Her company was lucky enough to arrange voice-over projects involving Hollywood celebrity talent, which she uses to her advantage when trying (in vain!) to impress her young nieces and nephew! Eira and her long-term partner are also proud and dedicated foster carers. They’ve cared for vulnerable children of all ages and backgrounds over the past several years- providing a safe and fun home to flourish and be happy, for however long it was needed. Her debut short story was in fact inspired by a comical chitter-chatter with one of their young foster children! She wanted to create a classic-style fairytale for children to enjoy over and over again which provided a valuable moral lesson. When not on the school run or role-playing superheroes, Eira loves to be in or near the sea, watching rugby or practicing photography!
- Rali'r Gofod 4002 - Joe Watson [addas. Huw Aaron, Elidir Jones]
Genre: #antur #nofelgraffig #ffuglen #Cymraeg #gwyddonias Oed darllen: 7+ Oed diddordeb: 7-12 ♥ Gwreiddiol Cymraeg ♥ Nofel Graffig.... be ’di un o’r rheiny? Peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud wrthoch chi fod darllen comics yn beth drwg, achos nonsens llwyr ydi hynny! Coeliwch neu beidio, ond mae ’na andros o lot o oedolion yn hoffi eu darllen hefyd, felly tydyn nhw ddim o reidrwydd ‘mond yn betha’ i blant. Nofel graffig yw hon yn ôl ei disgrifiad. Does ’na ddim llawer ohonyn nhw yn y Gymraeg eto (er y dylai fod!) ond yn syml iawn, maen nhw wedi rhoi’r gyfres, a ymddangosodd yn wreiddiol yng nghylchgrawn Mellten, at ei gilydd mewn un llyfr o ansawdd uchel iawn. Mae darllenwyr heddiw yn cael eu sbwylio o gymharu â beth oedd ar gael flynyddoedd yn ôl! Dwi’n falch iawn o roi hwn i eistedd ar fy silff lyfrau yn Sôn am Lyfra HQ. Be di’r stori ’ta? Fast-forward tua 2,000 o flynyddoedd i’r dyfodol. Mae ras fawr yn y gofod ar fin cychwyn, sef Cwpan Manta 4002, ac mae ’na griw go rhyfedd o raswyr o’r blaned Cymru Newydd yn barod i gystadlu am y tro cyntaf (mae hi reit braf meddwl y byddwn ni fel Cymry ‘Yma o Hyd’- hyd yn oed yn y flwyddyn 4002!). Does gan Iola, y peilot, a’i chriw Meew, Alun, Tezu, a Branwen ond un dymuniad – i ennill rali’r gofod. Tybed a fyddan nhw’n llwyddiannus? Rhaid i mi gyfaddef, o weld eu llong ofod pren, ia, PREN, dwi’m yn rhy siŵr am hynny! Tra mae’r cystadleuwyr amhrofiadol yn brysur yn ceisio peidio cael eu hyrddio i ganol yr haul, mae ’na gynlluniau sinistr ar waith yn y cysgodion. Pwy yw’r grŵp o ddihirod sy’n ceisio taflu llwch i lygaid pawb? Beth yw pwrpas ‘y peiriant’ a beth sydd gan meicrodon blin i wneud hefo hyn i gyd? Wel... ddyliwn i ddarllen Rali’r Gofod 4002 neu be? Yn sicr! Os da chi – fel fi – wrth eich bodd efo anturiaethau sci-fi, gyda digon o hiwmor, mi fydd hwn yn apelio. Mae llawer o elfennau sy’n fy atgoffa o Star Wars, Star Trek a nifer o sioeau eraill. Dyw’r ras Manta 4002 ddim yn rhy annhebyg i’r Pod Racing yn Star Wars: The Phantom Menace (film sy’n cael lot gormod o stick, gyda llaw!). Mae safon y gwaith arlunio yn wych – yn lliwgar, llawn manylion a jest yn edrych yn hollol cŵl basically! Gan mai comic ydi o yn y bôn, mae’r gwaith darllen yn cael ei rannu’n bytiau bach, sy’n ideal os oes well gynnoch chi lai o waith darllen trwm (ond mae o i gyd yn adio i fyny yn y diwedd, felly mae darllen comic YN cyfri fel darllen go-iawn!). Dwi’n gwbod mod i fel tôn gron yn rhygnu ’mlaen am y diffyg dewis o lyfrau i fechgyn 7-11 oed, ond mae’n wir. RHAID cael mwy o bethau sy’n apelio, felly dwi’n hapus iawn i weld y gyfres yma’n ymddangos. Gwasg: Llyfrau Broga Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781914303029 LLYFRAU ERAILL YN Y GYFRES...
- Miaren a'r Sioe Haf - Che Golden [Addas. Sian Lewis]
*Scroll down for English* Disgrifiad Gwales Description Miaren yw merlyn mwyaf drygionus y stablau, a hoff geffyl Sam, ac maen nhw'n gallu cyflawni unrhyw beth gyda'i gilydd, fel tîm. Maen nhw'n deall ei gilydd i'r dim! Ond mae Sam yn torri ei chalon pan fo Miaren yn cael ei rhoi ar werth. A fydd y berthynas glòs sydd rhyngddynt yn ddigon i'w cadw gyda'i gilydd? A Welsh adaptation of Mulberry for Sale. Sam is broken-hearted when she hears her favourite pony Miaren is going to be sold. But Miaren has decided to be very fussy about the home she goes to and sets about causing some serious mischief! Oed darllen/reading age: 9+ Oed diddordeb/interest age: 9-13 ADOLYGIAD GAN LENA PIERCE, BLWYDDYN 8 YSGOL GLAN CLWYD Ydych chi’n edrych am nofel afaelgar, llawn antur? Ydych chi’n gwirioni ar farchogaeth ceffylau fel fi? Os felly dyma’r nofel i chi! Mae’r nofel Miaren a’r Sioe Haf yn berffaith i chi os ydych yn edrych am lyfr sy’n eich perswadio chi i ddyfalbarhau neu yn mwynhau darllen llyfrau marchogaeth! Mae Sam yn benderfynol o reidio Miaren yn y sioe haf flynyddol ond dydy o ddim mor rhwydd â mae’n swnio! Merch hollol benderfynol ac annibynnol yw Sam sy’n hoff o wneud popeth ei hun, er ei bod hi’n ferch dawel iawn. Ar y llaw arall mae chwaer Sam, Alys yn wych am farchogaeth ceffylau ac yn ennill popeth! Y cymeriad nesaf yw Clara Jones, ac mae hi hefyd yn dda am farchogaeth ond yn hogan speitlyd iawn ac yn mynd o gwmpas yn bwlio pawb! Ar yr iard mae merlod Shetland i’r plant bach ond mae’r rhain yn rhai gwahanol! Yng ngolwg Sam, maen nhw’n siarad! Mae Miaren yn geffyl styfnig a does neb yn ei reidio hi fel arfer. Tybed ydy Sam yn llwyddo i reidio Miaren….. Wrth i’r plot ddatblygu, mae Sam yn cael digon ar fwlio Clara ac eisiau ei phrofi yn anghywir drwy reidio Miaren yn llwyddiannus. Ond mae angen help ar Sam ac mae hi’n gwybod yn iawn wrth bwy i ofyn! Y merlod Shetland! Ar ol cael codwm gannoedd o weithiau ac ailfeddwl am ei dewis o reidio Miaren, y ceffyl mwya styfnig yn y iard, mae Sam yn dyfalbarhau ac yn ceisio dangos i’r ferlen pwy yw’r meistr. Yn fy marn i roedd y llyfr yma yn wych! Roeddwn yn ei ddarllen a methu rhoi gorau iddo wedyn! Dyna sy’n profi i mi fod llyfr yn dda. Yn ddiweddar fe ges i geffyl newydd ond gan ei bod hi’n ifanc mae llawer o waith dysgu arni. Ar ôl darllen y llyfr Miaren a’r Sioe Haf, fe wnaeth i mi sylwi fod ei dysgu hi ddim am fod mor hawdd ac mae wedi gwneud i mi ddyfalbarhau i weithio’n galed arni, gan obeithio rhyw ddiwrnod bydd hi yn datblygu i fod y ceffyl gorau posib! I mi mae’r nofel yma yn bedair seren allan o bump. Pam pedair seren? Fe wnes i fwynhau ei darllen ond erbyn tua hanner ffordd roeddwn yn gallu rhagweld be oedd am ddigwydd nesaf. Faswn i yn awgrymu y llyfr yma i unrhyw oed! Ydy Sam yn llwyddo i farchogaeth Miaren yn y sioe haf flynyddol? Darllenwch y llyfr os oes eisiau gwybod arnoch! Are you looking for a catchy, adventure-filled novel? Do you love riding horses like me? If so, then this is the novel for you! The novel Miaren a’r Sioe Haf [Miaren and the Summer Show] is perfect for you if you are looking for a book that persuades you to enjoy, or carry on reading horse-riding books! Sam is determined to ride Miaren at the annual summer show but it's not as easy as it sounds! Sam is a totally determined and independent girl who loves to do everything herself, and yet, she is a very quiet girl. On the other hand, Sam's sister Alys is great at riding horses and wins everything! The next character is Clara Jones, and she is also good at riding but is a very spiteful girl who goes around bullying everyone! In the yard there are Shetland ponies for the small children but these are different ones! In Sam's eyes, they can actually speak! Miaren is a stunning horse and no one usually rides her. I wonder if Sam will be the one who manages to ride Miaren... As the plot unfolds, Sam has had enough of Clara's bullying and wants to prove her wrong by successfully riding Miaren. But Sam needs help and she knows full well who to ask! The Shetland ponies! After several injuries, setbacks and even rethinking her choice of riding Miaren, the most stubborn horse in the yard, Sam perseveres and shows the horse who’s boss. In my opinion this book was wonderful! I started reading it and couldn't stop. That's what proves to me that it’s a good book. I recently had a new horse but as she’s young there’s a lot of training to be done. After reading the book Miaren a’r Sioe Haf, it made me realise that her training won’t be as easy as I had imagined, and it has encouraged me persevere to keep at it, with the hope that one day she will develop to be the finest horse possible! For me this novel gets four stars out of five. Why four stars? I enjoyed reading it but by about halfway I was able to predict what was going to happen next. I would suggest this book to any age. Does Sam manage to ride Miaren at the annual summer show? Read the book if you want to know! Gwasg/publisher: Gomer@Atebol Cyhoeddwyd/released: 2014 Cyfres/series: Merlod Maes-Y-Cwm Pris: £5.99 ISBN: 9781848517707 LLYFRAU ERAILL YNG NGHYFRES MERLOD MAES-Y-CWM...
- Mari Wyn - Sara Ashton
*Scroll down for English* Genre: #ffuglen #antur #gwreiddiol / #fiction #adventure #original Cynulleidfa/audience: 11+ Barn/verdict: 4.5/5 (Yn colli hanner seren am gymaint o dristwch, trallod a cholled.) Adolygiad gan Arthur Jones Bl.9 – Ysgol Brynhyfryd Roedd yn rhaid i mi ddilyn yn llythrennol y cyngor i beidio â barnu llyfr wrth ei glawr pan awgrymodd fy athro y dylwn ddarllen y llyfr hwn. Wedi’r cyfan, yn fachgen 12 oed, doedd enw merch fel teitl a llun merch oddi tani ddim wir wedi apelio. Rwyf mor falch y dilynais y cyngor. Mae’r llyfr hwn yn wych. Plot Mae’r stori wedi’i gosod yn 2029 ac yn dilyn hanes merch ifanc o’r enw Mari, o Ysbyty Ifan sy’n symud i Blaenau gyda’i mam. Yno, mae hi’n mynd i fyw gyda’i modryb Nest, ei chefnder Osian a’i Daid. O’r cychwyn cyntaf, mae’n glir bod rhywbeth o’i le. Dim ond ‘un orsaf radio swyddogol oedd yna bellach’, a dim llawer o geir. Mae’r ysgolion wedi cau, a gorfodir pawb i gael gwared ar eu setiau teledu. Mae newid yn yr hinsawdd bellach wedi cael gafael, ac mae afiechydon fel malaria wedi ymddangos, a Blaenau yn llawn ffoaduriaid o Landudno, Bae Colwyn a Rhyl yn ceisio dianc rhag y llifogydd am dir uwch. Mae bwyd yn brin. Mae pobl yn ddibynnol am becynnau bwyd o’r eglwys bob dydd Sul. Ond i dderbyn pecyn, rhaid cymryd rhan yn ‘Saints and Sinners’. Dyma seremoni lle mae 3 o bobl o’r dref yn cael eu llusgo o flaen y gynulleidfa am eu ‘pechodau’ ac mae’n rhaid i’r gynulleidfa bleidleisio ar ba un y dylid ei chosbi. Ni welir y rhai a ddewisir byth eto. Fodd bynnag, nid yw’n sefyllfa enbyd i bawb. Mae yna bobl yn elwa o’r holl ddioddefaint a thrallod hwn. Ond pwy ydyn nhw? Pam maen nhw’n gwneud hyn? A beth sy’n digwydd i’r ‘pechaduriaid’ sy’n diflannu bob dydd Sul? Er mwyn ei theulu, rhaid i Mari beidio â cholli gobaith. Rhaid iddi ymladd yn ôl, ond a fydd hynny’n ddigon i’w hachub, ac i achub Blaenau? Cymeriadau Mari yw’r prif gymeriad. Mae hi’n gryf, yn ddewr, ac yn ddyfeisgar. Mae hi’n treulio llawer o amser gyda’i chefnder Osian sydd ag anghenion arbennig ac mae’n amlwg ei bod hi’n garedig iawn ac yn amyneddgar ac yn amddiffynnol drosto. Bu Mari yn caru ei thaid fwy nag unrhyw beth arall yn y byd. Dywedai am ei hysgwyddau llydan,‘mi fedrat ti gario holl feichiau’r byd ar y sgwydda ‘na’. Byddai hyn yn cael ei brofi. Mari yw fy hoff gymeriad - mae hi’n cymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa, a bob amser rywsut, yn dod o hyd i obaith. Fel pob stori antur cŵl, mae yna ‘badis’. Maen nhw’n gasgliad ffiaidd o bobl greulon a threisgar. Fy marn Mae Mari Wyn yn rhoi golwg ysgytwol i ni o ddyfodol posibl. Os ydych chi’n mwynhau dirgelwch, antur a ‘da yn erbyn drwg’, dyma’r stori i chi. Mae’n rhoi cip i ni ar sut y gall effaith newid yn yr hinsawdd effeithio ar ein bywydau gan wneud i chi feddwl. Mae wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, o le dwi’n dod, sydd hefyd yn rhoi cynefindra a realiti iddo. Mae yna neges bositif sy’n ymddangos yn arbennig o berthnasol yn ystod ein pandemig - ‘ Paid byth ag anobeithio! O’r holl rymoedd sydd yn gwneud gwell byd, does na’r un mor anhepgorol, yr un mor rymus â gobaith’. Unig wendid y stori yw’r tristwch a’r golled ddi-ildio sy’n gwehyddu trwy’r stori o’r dechrau i’r diwedd. Efallai ei fod yn rhy ddigalon ar brydiau. Ar y cyfan, mae’n stori afaelgar ac yn bendant yn un i’w darllen ar y cyfle cyntaf. Cynulleidfa Mae hon yn stori sy’n addas ar gyfer 11 oed a hŷn. O ganlyniad i’r cynnwys tywyll, trist, y trais ac ofn, ac ambell i regi, ni fyddai’n addas ar gyfer plant iau. Mae dewrder Mari yn ysbrydoledig i ferched a bechgyn ac felly dwi’n meddwl y byddai merched a bechgyn yn ei fwynhau. Dyfarniad 4 seren a hanner allan o 5. Yn colli hanner seren am gymaint o dristwch, trallod a cholled. I had to follow, quite literally, the advice not to judge a book by its cover when my teacher suggested I read this book. After all, as a 12-year-old boy, a girl's name as a title with a girl's picture underneath didn't really appeal, I’ll be honest. I’m so pleased that I followed the advice because I can confirm, this book is great. Plot The story is set in 2029 and follows the story of a young girl called Mari, from Ysbyty Ifan who moves to Blaenau with her mother. There, she goes to live with her aunt Nest, her cousin Osian and his Taid. From the outset, it’s clear that something is wrong. There was now only one official radio station remaining and not many cars. The schools have closed, and everyone is forced to get rid of their televisions. Climate change has now taken hold, and diseases such as malaria have appeared, and Blaenau is full of refugees from Llandudno, Colwyn Bay and Rhyl, trying to escape the floods by moving to higher ground. Food is scarce. People are dependent on packed lunches from the church every Sunday. But to receive a package, one must participate in 'Saints and Sinners'. This is a ceremony where 3 people from the town are dragged in front of the audience for their 'sins' and the audience must vote on which one should be punished. Those chosen will never be seen again… However, the situation isn’t so dire for everyone. There are people who benefit from all this suffering and distress. But who are they? Why are they doing this? And what happens to the 'sinners' who disappear every Sunday? For the sake of her family, Mari must not lose hope. She must fight back, but will that be enough to save them, and to save Blaenau? Characters Mari is the main character. She is strong, courageous, and resourceful. She spends a lot of time with her cousin Osian who has special needs and she’s obviously very kind, patient and protective of him. Mari loved her father more than anything else in the world. She once remarked that he could carry the world’s weight on his shoulders – something that would indeed be tested. Mari is my favourite character - she takes responsibility for the situation, and always somehow, finds hope. Like all cool adventure stories, there are 'baddies'. They are a disgusting collection of cruel and violent people. My opinion Mari Wyn gives us a harrowing view of a possible future. If you enjoy mystery, adventure and 'good versus bad', this is the story for you. It gives us a snapshot of how the impact of climate change could affect our lives and it makes you think. It’s based in North Wales, where I come from, which also gives it familiarity and reality. There’s a positive message that seems particularly relevant during our pandemic - ‘Paid byth ag anobeithio! O’r holl rymoedd sydd yn gwneud gwell byd, does na’r un mor anhepgorol, yr un mor rymus â gobaith.’ [Never despair! Of all the forces that make a better world, there is not one as indispensable, or as powerful as hope'.] The story’s only weakness is the unrelenting sadness and loss that permeates through the story from start to finish. Perhaps it is too depressing at times. On the whole, it’s a gripping story and definitely one to read at the earliest opportunity. Audience This is a story suitable for ages 11 and over. As a result of the dark, sad content, the violence, fear and occasional swearing, it would not be suitable for younger children. Mari's courage is inspiring for girls and boys alike therefore I think both would enjoy it. Verdict 4 and a half stars out of 5. (Losing half a star for so much sadness, distress and loss.) Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyfres: Y Dderwen Cyhoeddwyd/published: 2010 Pris: £5.95 ISBN: 9781847712141 Cyfres y Dderwen novels, provide challenging reading for the late teens, and are also suitable for adults. Available as a box set.
- Fi a Joe Allen - Manon Steffan Ros
*Scroll down for English & comments* Stori am berthynas tad a mab, a phêl-droed hefyd! A Father and son's relationship, with football too! ♥♥Enillydd Gwobr Tir na n-Og Award Winner 2019♥♥ Genre: #ffuglen #fiction #teen #football #sports #chwaraeon #peldroed #arddegau Addas ar gyfer: CA3+ Suitable: KS3+ Adolygiad gan Morgan Jones Mae haf 2016 yn dal yn fyw yn y cof i gefnogwyr pêl-droed Cymru, ac mae Fi a Joe Allen yn cynnig cyfle i ail-fyw cyffro’r cyfnod hwnnw wrth i ni ddilyn Marc Huws, bachgen o Fangor, ar ei antur anfarwol yn Ffrainc. Ond mae’n gymaint mwy na stori bêl-droed. Mae’n stori am berthynas bachgen ifanc â’i fam a’i dad sydd wedi gwahanu – am fam sydd yn gwneud popeth posib dros ei mab dan amgylchiadau anodd, gan fynd dros ben llestri ar brydiau, ac am dad ‘prysur’ nad yw’n dangos llawer o ddiddordeb ym mywyd Marc, nes i’r crysau cochion eu harwain i Baris. Mae Manon Steffan Ros wedi defnyddio un o benodau mwyaf gorfoleddus chwaraeon yng Nghymru i blethu’r elfennau yma at ei gilydd yn deimladwy iawn, gan roi cipolwg sensitif i ni ar deimladau bachgen y gall llawer iawn o ieuenctid Cymru uniaethu â nhw o ganlyniad i dor priodas. Dyma gyfrol ysgafn-ddwys afaelgar sydd yn llwyddo i’n tywys drwy iwfforia a thristwch a phryder. Byddai pobl ifanc yn cael blas mawr arni heb os, boed nhw’n ddilynwyr pêl-droed neu beidio, ond mae hi hefyd yn foeswers i unrhyw riant fyddai’n ei darllen – mae’n fyfyrdod cynnil ar riantu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n dangos bod bywyd yn gyffredinol yn debyg iawn i ddilyn tîm pêl-droed – mae’r llon a’r lleddf yn anochel. Does dim yn gymhleth am yr iaith na’r arddull. Mae’r Gymraeg yn naturiol a sgyrsiol braf. Iaith Marc ei hun ydi hon, iaith y teras o’r gic gyntaf i’r chwiban olaf. Cefais bleser cynnes o’i darllen, a gwefr o ailddathlu goliau Bale, Vokes, Taylor a Robson Kanu, heb sôn am gyfarfod â Joe Allen ei hun! I’r genhedlaeth iau mae’n taro cefn y rhwyd, ac i rai ychydig hŷn fel fi mae’n ail blentyndod rhwng dau glawr. Nofel arall gan yr awdures boblogaidd, gyda phêl-droed yn ganolog iddi, gan anelu at fechgyn, yn bennaf. Mae’r gyfrol wedi’i hanelu at ddarllenwyr da diwedd CA2 a Bl. 7-9. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Review by Morgan Jones The summer of 2016 is still alive and kicking in the memory of Welsh football fans, and Fi a Joe Allen offers an opportunity to re-live the excitement of that time as we follow Marc Huws, a Bangor lad, on his unforgettable adventure in France. But it's so much more than a football story. It is a story of a young boy's relationship with his separated mother and father – about a mother who is doing everything possible for her son in difficult circumstances, going over the top at times, and about a 'busy' father who does not show much interest in his son’s life, until the red shirts lead them to Paris. Manon Steffan Ros has used one of the most triumphant episodes in Welsh sporting history to weave in these very poignant messages, giving us a sensitive insight into a boy's feelings that a great deal of Welsh youth can relate to as a result of failed marriage. This is a light-hearted yet provocative novel that manages to guide us through the euphoria, sadness and anxiety. Without a doubt, young people would really like this book, whether they are football fans or not, but it is also a moral lesson to any parent who reads it –a subtle reflection of parenting in the twenty-first century. It shows that life in general is very similar to following a football team – the highs and lows are inevitable. There is nothing complex about the language or style. The Welsh language is both natural and conversational. This is written in the language of Mark himself – using the talk of the terraces from the first to the last whistle. It was a pleasure to read, and gave me a chance to re-live the thrill of celebrating the exploits of Bale, Vokes, Taylor and Robson Kanu, not to mention meeting Joe Allen himself! For the younger generation it hits the back of the net, and for some older readers like me it is a second childhood between two covers. Another novel by the popular author, with football at its heart, aimed mainly at boys. The volume is aimed at good readers towards the upper KS2 range and Yrs. 7-9. A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.









![Pwyll a Rhiannon - Aidan Saunders [geiriau Cymraeg - Mererid Hopwood]](https://static.wixstatic.com/media/7d0d0d_d0e63dfb51974334819902b7fd850d0c~mv2.png/v1/fit/w_176,h_124,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,blur_3,enc_auto/7d0d0d_d0e63dfb51974334819902b7fd850d0c~mv2.png)


![Fira Farus a'r Wy Siocled Enfawr - Eira Moon [addas. Nerys Roberts]](https://static.wixstatic.com/media/7d0d0d_335c45bd5a774d009ad1dcb1b1e78fc5~mv2.jpg/v1/fit/w_176,h_124,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,blur_3,enc_auto/7d0d0d_335c45bd5a774d009ad1dcb1b1e78fc5~mv2.jpg)
![Rali'r Gofod 4002 - Joe Watson [addas. Huw Aaron, Elidir Jones]](https://static.wixstatic.com/media/7d0d0d_51f3c11302b042f6ac6e4ae6b654f90b~mv2.jpg/v1/fit/w_176,h_124,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,blur_3,enc_auto/7d0d0d_51f3c11302b042f6ac6e4ae6b654f90b~mv2.jpg)
![Miaren a'r Sioe Haf - Che Golden [Addas. Sian Lewis]](https://static.wixstatic.com/media/7d0d0d_3b528c40030746e1916863e15cc62a22~mv2.png/v1/fit/w_176,h_124,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,blur_3,enc_auto/7d0d0d_3b528c40030746e1916863e15cc62a22~mv2.png)

