top of page

Miaren a'r Sioe Haf - Che Golden [Addas. Sian Lewis]

*Scroll down for English*


Disgrifiad Gwales Description


Miaren yw merlyn mwyaf drygionus y stablau, a hoff geffyl Sam, ac maen nhw'n gallu cyflawni unrhyw beth gyda'i gilydd, fel tîm. Maen nhw'n deall ei gilydd i'r dim! Ond mae Sam yn torri ei chalon pan fo Miaren yn cael ei rhoi ar werth. A fydd y berthynas glòs sydd rhyngddynt yn ddigon i'w cadw gyda'i gilydd? A Welsh adaptation of Mulberry for Sale. Sam is broken-hearted when she hears her favourite pony Miaren is going to be sold. But Miaren has decided to be very fussy about the home she goes to and sets about causing some serious mischief!


Oed darllen/reading age: 9+

Oed diddordeb/interest age: 9-13

 

ADOLYGIAD GAN LENA PIERCE, BLWYDDYN 8

YSGOL GLAN CLWYD



Ydych chi’n edrych am nofel afaelgar, llawn antur? Ydych chi’n gwirioni ar farchogaeth ceffylau fel fi? Os felly dyma’r nofel i chi!


Mae’r nofel Miaren a’r Sioe Haf yn berffaith i chi os ydych yn edrych am lyfr sy’n eich perswadio chi i ddyfalbarhau neu yn mwynhau darllen llyfrau marchogaeth! Mae Sam yn benderfynol o reidio Miaren yn y sioe haf flynyddol ond dydy o ddim mor rhwydd â mae’n swnio!


Merch hollol benderfynol ac annibynnol yw Sam sy’n hoff o wneud popeth ei hun, er ei bod hi’n ferch dawel iawn. Ar y llaw arall mae chwaer Sam, Alys yn wych am farchogaeth ceffylau ac yn ennill popeth! Y cymeriad nesaf yw Clara Jones, ac mae hi hefyd yn dda am farchogaeth ond yn hogan speitlyd iawn ac yn mynd o gwmpas yn bwlio pawb! Ar yr iard mae merlod Shetland i’r plant bach ond mae’r rhain yn rhai gwahanol! Yng ngolwg Sam, maen nhw’n siarad! Mae Miaren yn geffyl styfnig a does neb yn ei reidio hi fel arfer. Tybed ydy Sam yn llwyddo i reidio Miaren…..


Wrth i’r plot ddatblygu, mae Sam yn cael digon ar fwlio Clara ac eisiau ei phrofi yn anghywir drwy reidio Miaren yn llwyddiannus. Ond mae angen help ar Sam ac mae hi’n gwybod yn iawn wrth bwy i ofyn! Y merlod Shetland! Ar ol cael codwm gannoedd o weithiau ac ailfeddwl am ei dewis o reidio Miaren, y ceffyl mwya styfnig yn y iard, mae Sam yn dyfalbarhau ac yn ceisio dangos i’r ferlen pwy yw’r meistr.


Yn fy marn i roedd y llyfr yma yn wych! Roeddwn yn ei ddarllen a methu rhoi gorau iddo wedyn! Dyna sy’n profi i mi fod llyfr yn dda.

Yn ddiweddar fe ges i geffyl newydd ond gan ei bod hi’n ifanc mae llawer o waith dysgu arni. Ar ôl darllen y llyfr Miaren a’r Sioe Haf, fe wnaeth i mi sylwi fod ei dysgu hi ddim am fod mor hawdd ac mae wedi gwneud i mi ddyfalbarhau i weithio’n galed arni, gan obeithio rhyw ddiwrnod bydd hi yn datblygu i fod y ceffyl gorau posib!


I mi mae’r nofel yma yn bedair seren allan o bump. Pam pedair seren? Fe wnes i fwynhau ei darllen ond erbyn tua hanner ffordd roeddwn yn gallu rhagweld be oedd am ddigwydd nesaf. Faswn i yn awgrymu y llyfr yma i unrhyw oed!



Ydy Sam yn llwyddo i farchogaeth Miaren yn y sioe haf flynyddol? Darllenwch y llyfr os oes eisiau gwybod arnoch!



 


Are you looking for a catchy, adventure-filled novel? Do you love riding horses like me? If so, then this is the novel for you!


The novel Miaren a’r Sioe Haf [Miaren and the Summer Show] is perfect for you if you are looking for a book that persuades you to enjoy, or carry on reading horse-riding books! Sam is determined to ride Miaren at the annual summer show but it's not as easy as it sounds!


Sam is a totally determined and independent girl who loves to do everything herself, and yet, she is a very quiet girl. On the other hand, Sam's sister Alys is great at riding horses and wins everything! The next character is Clara Jones, and she is also good at riding but is a very spiteful girl who goes around bullying everyone! In the yard there are Shetland ponies for the small children but these are different ones! In Sam's eyes, they can actually speak! Miaren is a stunning horse and no one usually rides her. I wonder if Sam will be the one who manages to ride Miaren...


As the plot unfolds, Sam has had enough of Clara's bullying and wants to prove her wrong by successfully riding Miaren. But Sam needs help and she knows full well who to ask! The Shetland ponies! After several injuries, setbacks and even rethinking her choice of riding Miaren, the most stubborn horse in the yard, Sam perseveres and shows the horse who’s boss.


In my opinion this book was wonderful! I started reading it and couldn't stop. That's what proves to me that it’s a good book.

I recently had a new horse but as she’s young there’s a lot of training to be done. After reading the book Miaren a’r Sioe Haf, it made me realise that her training won’t be as easy as I had imagined, and it has encouraged me persevere to keep at it, with the hope that one day she will develop to be the finest horse possible!


For me this novel gets four stars out of five. Why four stars? I enjoyed reading it but by about halfway I was able to predict what was going to happen next. I would suggest this book to any age.



Does Sam manage to ride Miaren at the annual summer show? Read the book if you want to know!

 

Gwasg/publisher: Gomer@Atebol

Cyhoeddwyd/released: 2014

Cyfres/series: Merlod Maes-Y-Cwm

Pris: £5.99

ISBN: 9781848517707

 

LLYFRAU ERAILL YNG NGHYFRES MERLOD MAES-Y-CWM...



Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page