*For English, use language toggle option on top of page*
Oed darllen: 8+
Oed diddordeb: 7+
Synopsis:
Amser maith yn ôl, ymhell cyn bodolaeth y Wladfa, roedd merch ifanc dlos yn byw ymysg llwyth y Tehuelche – pobl wreiddiol talaith Chubut. Un dydd wrth chwilio am baent i'w nain, dyma Calaffate yn cyfarfod bachgen o lwyth y Selk'nam – gelynion y Tehuelche! Wrth i'r ddau sgwrsio dyma nhw'n disgyn mewn cariad, ond dydi llwybr cariad byth yn hawdd. Dyma'r addasiad Cymraeg cyntaf o'r chwedl drist o gariad, brad a thorcalon, sy'n rhoi cipolwg i ni o fywyd ym Mhatagonia ymhell cyn i'r Cymry groesi'r môr yn 1865.
Dyma yn bendant un o’r llyfrau harddaf i gael eu cyhoeddi yn 2021 ac mae’n un o fy ffefrynnau personol.
Dwi wedi gwirioni gyda hwn, mae o wirioneddol yn wych - y stori, y lluniau - popeth. Gwaith arbennig Lleucu. Yn ôl ei blog, mae Bethan Gwanas hefyd yn ffan o’r llyfr.
Dwi mor falch o weld stori â dimensiwn rhyngwladol yn dod i’r farchnad – mi fasa’n braf gweld mwy a dweud y gwir, yn enwedig os ydyn nhw o’r un safon â Chwedl Calaffate.
Mae’r gwaith arlunio yn ardderchog. Mae ’na nifer o artistiaid talentog yng Nghymru sy’n darlunio llyfrau plant, ond mae hwn yn enghraifft o'r goreuon yn fy marn i – lliwiau cynnes oren, melyn a choch, sy’n cyfleu caledi bywyd ar y paith.
Fel sy’n amlwg o’r teitl, chwedl yw hon, yn wreiddiol o Batagonia, sy’n sôn am goeden ffrwythau’r Calaffate, a’r stori drist tu ôl iddi. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd gyda’r goeden, ei ffrwyth na’r chwedl, mae’n rhaid i mi gyfaddef.
Daw’r chwedl o’r dywediad “El que come Calafate siempre vuelve.” Hynny yw, os flaswch chi ffrwyth y Calaffate, rydych chi’n siŵr o ddychwelyd i’r Wladfa. Mae ’na rywbeth rhamantus iawn tu ôl i’r dywediad yna yn does, yn debyg iawn i’r syniad o ‘hiraeth’ sydd gennym ni yng Nghymru – y cysylltiad pwerus rhwng y pobl a’r tir.
Ac mae ’na ramant yn y chwedl hefyd, sydd yng ngeiriau’r awdur, yn ymdebygu i stori Blodeuwedd. Mae’r ddau yn sôn am barau ifanc sy’n disgyn mewn cariad, ond cariad sydd ddim i fod. Fedrwch chi ddim helpu ond meddwl ei bod hi’n bechod na fyddai’r dynion hŷn wedi meindio eu busnes yn y chwedlau yma a gadael i’r cyplau ifanc fod! Mi wnes i eitha licio'r ffaith fod 'na ddim 'happy ever after' i'r stori, fel sydd i'w weld yn y rhan fwyaf o lyfrau i blant.
Dwi’n meddwl y basa’r chwedl yma’n un dda i’w haddasu fel ‘animated short’ ar gyfer y teledu, petai na bres i wneud hynny.
Yn ogystal â’r stori ei hun, ar ddiwedd y llyfr cawn fwy fyth o wybodaeth am darddiad y chwedl, a thipyn o wybodaeth am y broses o greu’r gyfrol hefyd. Dwi’m yn gwybod am bawb arall, ond dwi’n fascinated efo manylion behind the scenes fel hyn. Roedd y rhestr eirfa yn syniad da hefyd.
Wel, dim ond un peth sydd ar ôl i’w wneud – gwneud yn siŵr mod i’n mynd i Batagonia fy hun rhyw ddiwrnod, i gael trio ffrwyth y calaffate...
Gwasg: Gwasg Carreg Gwalch
Cyhoeddwyd: 2021
Pris: £6.50
ISBN: 9781845278182
PWY YW'R AWDUR?
Mae Lleucu Gwenllian yn ddarlunydd 24 oed sy’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog ac â BA mewn Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd. Fel rhan o’r cwrs bu iddi gwblhau amryw o friffiau creadigol gwahanol, a gellir gweld esiamplau o’i gwaith ar ei gwefan – lleucugwenllian.wixsite.com/lleucuillustration/ portfolio ac ar ei chyfrif Instagram –
@lleucuillustration
Comments