*For English version, switch language toggle on top of page*
Oed darllen: 7+
Oed diddordeb: 3-11
Genre: #llyfrlluniau #chwedlau #moeswers #ffuglen
Mae hi wastad yn bleser gweld pobl sy’n mentro cyhoeddi’n annibynnol gan ei fod yn ychwanegu at yr amrywiaeth o ddeunydd darllen sydd ar gael i’n darllenwyr. Yn aml iawn, mae cyhoeddwyr annibynnol yn gwneud llawer o’r gwaith eu hunain, gan gynnwys ysgrifennu, dylunio, cysodi, hyrwyddo a marchnata - tipyn o gamp y dyddiau yma. Mae’n bwysig cefnogi awduron newydd, gan gynnwys y rheiny sy’n hunan-gyhoeddi.
Dyma lyfr cyntaf Eira Moon, awdures sy’n hanu o ogledd Cymru yn wreiddiol, ond sydd hefyd wedi byw yn Sbaen am dros ugain mlynedd. Mae’n debyg fod hynny’n esbonio pam fod y llyfr ar gael mewn tair iaith, sef Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg o dan y teitlau Fira Farus a’r Wy Siocled Enfawr, Greedy Gracee’s Giant Chocolate Egg ac La Codiciosa Princesa Graciana y el Huevo de Chocolate Gigante. Sgyrsiau di-ri gyda ei phlentyn maeth oedd y sbardun tu ôl i ysgrifennu stori Fira Farus.
Cawn yma stori tylwyth teg (fairytale), sy’n sôn am Fira, tywysoges ifanc reit annymunol i fod yn onest! A hithau’n byw mewn castell enfawr, mae’n deg i ddweud ei bod hi’n cael ei sbwylio, ac mae hynny wedi ei gwneud yn berson digon hunanol, barus, ond unig hefyd.
Un diwrnod, pan mae wy pasg anferth hudol yn glanio ar stepen drws y castell, mae’r dywysoges yn ffeindio’i hun mewn dipyn o bicl. Tybed fydd rhywun am ei helpu, a hithau wedi bod mor farus?
Dyma stori fasa’n berffaith ar gyfer ei rhannu amser gwely, neu yn yr ysgol amser stori. Mae’r lluniau gan Aswitha Gunda yn helpu i adrodd y stori ac yn rhoi blas ar fyd hudolus y dywysoges.
Cynigia’r llyfr gyfle i drafod gwahanol deimladau ac ymddygiadau; sut y gall bod yn farus eich cael chi i bob math o drwbl! Dwi wastad wedi credu mewn ‘karma’ (what goes around comes around) a dwi’n teimlo’n gryf y bydd pobl farus a hunanol yn talu’r pris yn y pen draw.
Er bod y stori’n cynnwys elfennau ffantasïol fel cestyll, tywysogesau a hud a lledrith, stori sydd â moeswers digon syml a down to earth ydi hon yn y bôn. Mewn byd sy’n gallu bod mor gas a brwnt ar brydiau, croesawaf unrhyw stori sy’n lledaenu negeseuon o garedigrwydd a chariad – a does unlle gwell i wneud hyn nac yn y blynyddoedd cynnar.
Mae llyfr llafar ar gael i’w lawrlwytho o https://eiramoon.com/ am £2.99 – beth am ddarllen a gwrando ar yr un pryd?
Ar gael yn eich siopau lleol neu o wefan Gwales rŵan.
Gwasg: Eira Moon
Cyhoeddwyd: Mai 2021
Pris: £6.95
ISBN: 978-1916875524
AM YR AWDUR...
EIRA MOON
She was one of the lucky ones, being born and bred in the land of song and sheep, aka “God’s Country”…North Wales!
Since 2001 she’s been involved in organizing music and entertainment for venues all over the world.
Her company was lucky enough to arrange voice-over projects involving Hollywood celebrity talent, which she uses to her advantage when trying (in vain!) to impress her young nieces and nephew!
Eira and her long-term partner are also proud and dedicated foster carers. They’ve cared for vulnerable children of all ages and backgrounds over the past several years- providing a safe and fun home to flourish and be happy, for however long it was needed.
Her debut short story was in fact inspired by a comical chitter-chatter with one of their young foster children! She wanted to create a classic-style fairytale for children to enjoy over and over again which provided a valuable moral lesson.
When not on the school run or role-playing superheroes, Eira loves to be in or near the sea, watching rugby or practicing photography!
Comments