top of page

Pwyll a Rhiannon - Aidan Saunders [geiriau Cymraeg - Mererid Hopwood]

*For English, see language toggle switch on top of page*


Oed darllen: 7-11+

Oed diddordeb: 7-11+

 

Yn dilyn llwyddiant Branwen, mae’r awdur/arlunydd Aidan Saunders yn ôl gyda chyfrol newydd sy’n ail ddychmygu stori o gainc gyntaf Y Mabinogi, Stori Pwyll a Rhiannon. Mae’r chwedlau hyn yn rhan bwysig o’n traddodiad Celtaidd, ac maent wedi cael eu hadrodd a’u hailadrodd ar hyd y canrifoedd. Gobeithio y bydd y llyfr yma’n llwyddo i gyflwyno mytholeg y Mabinogi i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr ifanc. Credaf fod yr awdur wedi dewis a dethol yn ddoeth pa ddarnau i’w cynnwys a pha rai i’w hepgor wrth greu fersiwn gyfoes o hen stori.


Gyda’i siâp hirsgwar cul anarferol, a’r gwaith print trawiadol, dyma lyfr sy’n mynnu eich sylw wrth i chi fynd heibio’r silff lyfrau. Rydym yn dueddol o anghofio am luniau erbyn i ni gyrraedd y grŵp oedran 7+ ac felly rwy’n falch iawn o weld llyfr sy’n clodfori gwaith celf, gan ddangos bod llyfrau lluniau yn addas i blant hŷn yn ogystal â phlant iau. Mi fyddwch yn cael eich swyno gan waith print lino’r awdur, sy’n edrych fel tapestri hardd canoloesol, gyda phob math o gyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol.


Ceir yma stori am Pwyll Pendefig Dyfed, tywysog sy’n cael ei ddewis gan Rhiannon i fod yn ŵr iddi. Does dim ond un broblem fach, mae hi i fod i briodi rhywun arall! Tybed fydd ’na ‘happy ever after’ i’r stori hon? Annhebyg! Dyma’r Mabinogi, wedi’r cyfan. Yma, fe gewch stori llawn antur, serch, brad, trais a thipyn o ddewiniaeth ar ben hynny!


Un o fanteision unigryw'r llyfr yw’r ffaith ei fod yn cynnwys geiriau Cymraeg Mererid Hopwood gyferbyn â’r geiriau Saesneg, sy’n golygu fod apêl y llyfr yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. O gysidro natur ddwyieithog Cymru gyfoes, byddwn yn hoffi gweld mwy o lyfrau dwyieithog fel hyn ar gael.





Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: Hydref 2021

Pris: £6.99

ISBN: 9781801060820

 

AM YR AWDUR...

Dyma fo'r awdur/arlunydd, Aidan Saunders, a'i gwmni @printwagon. Ewch i'r wefan i ddysgu mwy am ei waith...





bottom of page