top of page
Writer's picturesônamlyfra

Fi a Joe Allen - Manon Steffan Ros

Updated: Sep 16, 2021

*Scroll down for English & comments*


Stori am berthynas tad a mab, a phêl-droed hefyd!

A Father and son's relationship, with football too!


♥♥Enillydd Gwobr Tir na n-Og Award Winner 2019♥♥



Addas ar gyfer: CA3+

Suitable: KS3+

 

Adolygiad gan Morgan Jones

Mae haf 2016 yn dal yn fyw yn y cof i gefnogwyr pêl-droed Cymru, ac mae Fi a

Joe Allen yn cynnig cyfle i ail-fyw cyffro’r cyfnod hwnnw wrth i ni ddilyn Marc Huws, bachgen o Fangor, ar ei antur anfarwol yn Ffrainc. Ond mae’n gymaint mwy na stori bêl-droed. Mae’n stori am berthynas bachgen ifanc â’i fam a’i dad sydd wedi gwahanu – am fam sydd yn gwneud popeth posib dros ei mab dan amgylchiadau anodd, gan fynd dros ben llestri ar brydiau, ac am dad ‘prysur’ nad yw’n dangos llawer o ddiddordeb ym mywyd Marc, nes i’r crysau cochion eu harwain i Baris. Mae Manon Steffan Ros wedi defnyddio un o benodau mwyaf gorfoleddus chwaraeon yng Nghymru i blethu’r elfennau yma at ei gilydd yn deimladwy iawn, gan roi cipolwg sensitif i ni ar deimladau bachgen y gall llawer iawn o ieuenctid Cymru uniaethu â nhw o ganlyniad i dor priodas. Dyma gyfrol ysgafn-ddwys afaelgar sydd yn llwyddo i’n tywys drwy iwfforia a thristwch a phryder. Byddai pobl ifanc yn cael blas mawr arni heb os, boed nhw’n ddilynwyr pêl-droed neu beidio, ond mae hi hefyd yn foeswers i unrhyw riant fyddai’n ei darllen – mae’n fyfyrdod cynnil ar riantu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n dangos bod bywyd yn gyffredinol yn debyg iawn i ddilyn tîm pêl-droed – mae’r llon a’r lleddf yn anochel.


Does dim yn gymhleth am yr iaith na’r arddull. Mae’r Gymraeg yn naturiol a sgyrsiol braf. Iaith Marc ei hun ydi hon, iaith y teras o’r gic gyntaf i’r chwiban olaf. Cefais bleser cynnes o’i darllen, a gwefr o ailddathlu goliau Bale, Vokes, Taylor a Robson Kanu, heb sôn am gyfarfod â Joe Allen ei hun! I’r genhedlaeth iau mae’n taro cefn y rhwyd, ac i rai ychydig hŷn fel fi mae’n ail blentyndod rhwng dau glawr.


Nofel arall gan yr awdures boblogaidd, gyda phêl-droed yn ganolog iddi, gan anelu at fechgyn, yn bennaf. Mae’r gyfrol wedi’i hanelu at ddarllenwyr da diwedd CA2 a Bl. 7-9. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.


 

Review by Morgan Jones


The summer of 2016 is still alive and kicking in the memory of Welsh football fans, and Fi a Joe Allen offers an opportunity to re-live the excitement of that time as we follow Marc Huws, a Bangor lad, on his unforgettable adventure in France.


But it's so much more than a football story. It is a story of a young boy's relationship with his separated mother and father – about a mother who is doing everything possible for her son in difficult circumstances, going over the top at times, and about a 'busy' father who does not show much interest in his son’s life, until the red shirts lead them to Paris.



Manon Steffan Ros has used one of the most triumphant episodes in Welsh sporting history to weave in these very poignant messages, giving us a sensitive insight into a boy's feelings that a great deal of Welsh youth can relate to as a result of failed marriage. This is a light-hearted yet provocative novel that manages to guide us through the euphoria, sadness and anxiety.


Without a doubt, young people would really like this book, whether they are football fans or not, but it is also a moral lesson to any parent who reads it –a subtle reflection of parenting in the twenty-first century. It shows that life in general is very similar to following a football team – the highs and lows are inevitable.


There is nothing complex about the language or style. The Welsh language is both natural and conversational. This is written in the language of Mark himself – using the talk of the terraces from the first to the last whistle. It was a pleasure to read, and gave me a chance to re-live the thrill of celebrating the exploits of Bale, Vokes, Taylor and Robson Kanu, not to mention meeting Joe Allen himself! For the younger generation it hits the back of the net, and for some older readers like me it is a second childhood between two covers.


Another novel by the popular author, with football at its heart, aimed mainly at boys. The volume is aimed at good readers towards the upper KS2 range and Yrs. 7-9.

A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

196 views0 comments

Recent Posts

See All

Comentarios

Obtuvo 0 de 5 estrellas.
Aún no hay calificaciones

Agrega una calificación
bottom of page