top of page

Rali'r Gofod 4002 - Joe Watson [addas. Huw Aaron, Elidir Jones]




Oed darllen: 7+

Oed diddordeb: 7-12

♥ Gwreiddiol Cymraeg ♥

 

Nofel Graffig.... be ’di un o’r rheiny?


Peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud wrthoch chi fod darllen comics yn beth drwg, achos nonsens llwyr ydi hynny! Coeliwch neu beidio, ond mae ’na andros o lot o oedolion yn hoffi eu darllen hefyd, felly tydyn nhw ddim o reidrwydd ‘mond yn betha’ i blant.


Nofel graffig yw hon yn ôl ei disgrifiad. Does ’na ddim llawer ohonyn nhw yn y Gymraeg eto (er y dylai fod!) ond yn syml iawn, maen nhw wedi rhoi’r gyfres, a ymddangosodd yn wreiddiol yng nghylchgrawn Mellten, at ei gilydd mewn un llyfr o ansawdd uchel iawn. Mae darllenwyr heddiw yn cael eu sbwylio o gymharu â beth oedd ar gael flynyddoedd yn ôl! Dwi’n falch iawn o roi hwn i eistedd ar fy silff lyfrau yn Sôn am Lyfra HQ.


Be di’r stori ’ta?


Fast-forward tua 2,000 o flynyddoedd i’r dyfodol. Mae ras fawr yn y gofod ar fin cychwyn, sef Cwpan Manta 4002, ac mae ’na griw go rhyfedd o raswyr o’r blaned Cymru Newydd yn barod i gystadlu am y tro cyntaf (mae hi reit braf meddwl y byddwn ni fel Cymry ‘Yma o Hyd’- hyd yn oed yn y flwyddyn 4002!).


Does gan Iola, y peilot, a’i chriw Meew, Alun, Tezu, a Branwen ond un dymuniad – i ennill rali’r gofod. Tybed a fyddan nhw’n llwyddiannus? Rhaid i mi gyfaddef, o weld eu llong ofod pren, ia, PREN, dwi’m yn rhy siŵr am hynny!


Tra mae’r cystadleuwyr amhrofiadol yn brysur yn ceisio peidio cael eu hyrddio i ganol yr haul, mae ’na gynlluniau sinistr ar waith yn y cysgodion. Pwy yw’r grŵp o ddihirod sy’n ceisio taflu llwch i lygaid pawb? Beth yw pwrpas ‘y peiriant’ a beth sydd gan meicrodon blin i wneud hefo hyn i gyd?


Wel... ddyliwn i ddarllen Rali’r Gofod 4002 neu be?


Yn sicr! Os da chi – fel fi – wrth eich bodd efo anturiaethau sci-fi, gyda digon o hiwmor, mi fydd hwn yn apelio. Mae llawer o elfennau sy’n fy atgoffa o Star Wars, Star Trek a nifer o sioeau eraill. Dyw’r ras Manta 4002 ddim yn rhy annhebyg i’r Pod Racing yn Star Wars: The Phantom Menace (film sy’n cael lot gormod o stick, gyda llaw!).


Mae safon y gwaith arlunio yn wych – yn lliwgar, llawn manylion a jest yn edrych yn hollol cŵl basically! Gan mai comic ydi o yn y bôn, mae’r gwaith darllen yn cael ei rannu’n bytiau bach, sy’n ideal os oes well gynnoch chi lai o waith darllen trwm (ond mae o i gyd yn adio i fyny yn y diwedd, felly mae darllen comic YN cyfri fel darllen go-iawn!).


Dwi’n gwbod mod i fel tôn gron yn rhygnu ’mlaen am y diffyg dewis o lyfrau i fechgyn 7-11 oed, ond mae’n wir. RHAID cael mwy o bethau sy’n apelio, felly dwi’n hapus iawn i weld y gyfres yma’n ymddangos.


 

Gwasg: Llyfrau Broga

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £6.99

ISBN: 9781914303029

 

LLYFRAU ERAILL YN Y GYFRES...


bottom of page