top of page

Luned Bengoch - Elizabeth Watkin-Jones

*For English review, please see language toggle switch on top of page*


Oed Darllen: 10+

Oed Diddordeb: 10+

 



Fel Hogan o Forfa Nefyn dw i wastad wedi bod yn ymwybodol o’r awdures arbennig, Elizabeth Watkin-Jones.


Cyn i mi hydnoed ddarllen ei nofelau dwi’n cofio eu gweld ar y silff lyfrau yn nhŷ Nain a Taid. Lois… Esyllt… Y Dryslwyn… ond yr enwocaf oll o’r rhain ydi Luned Bengoch.


Do, mae T. Llew Jones wedi ysgrifennu am arfordir gwyllt Ceredigion, ond mae Elizabeth Watkin-Jones hefyd wedi llwyddo i blethu antur, rhamant a pherygl yn gelfydd ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Mae hyn oll wedi’i grisialu ar glawr yr argraffiad newydd gan yr artist Efa Blosse-Mason – mae’n edrych fel poster ar gyfer ffilm epig. A coeliwch chi fi, mae hon yn stori epig y bydd pobl ifanc ac oedolion yn ei mwynhau.


Rydym yn y flwyddyn 1401, ac mae’r cyfnod yn un arwyddocaol am ein bod ym mlynyddoedd cynnar gwrthryfel Owain Glyndŵr. Braf yw darllen nofel sydd ddim yn ofni dangos ei lliwiau cenedlaetholgar. Yn ogystal â’r cymeriadau yn y nofel sy’n deyrngar i Glyndŵr a’r achos i gael annibyniaeth i Gymru, ac er mai nofel hanesyddol ydi hi mae’n teimlo’n hynod amserol gan bod y ddadl dros annibyniaeth wedi dod fwyfwy i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf.


Ond beth am gymeriadau’r nofel?


Mae Luned yn ferch gref, anturus a tydi hi ddim yn gadael i’r ffaith ei bod yn ferch ei chyfyngu o gwbl, fel y byddai yn siŵr o fod wedi gwneud yn yr adeg honno. Mae’n benderfynol o ddilyn ei ffrind, Rhys ar daith i gyflwyno neges i Owain Glyndŵr yn ei wersyll ym Mhumlumon, a hynny drwy esgus bod yn fachgen. Ond ar y daith mae hi’n dwyn sylw sawl un, a fedr ei chap ddim cuddio’r cyrls fflamgoch, na’r nodweddion enwog hynny oedd gan deulu Caradog ab Merfyn Goch o Grafnant, Dyffryn Conwy. Pam bod perygl ym Mhlas Crafnant? Pwy yw Luned Bengoch?


Dyma’r trydydd tro i’r nofel gael ei hargraffu. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1946, yna fe wnaeth nai yr awdures, Hugh D. Jones ddiweddaru’r testun ar gyfer argraffiad newydd yn 1983. Gobeithio wir y bydd pobl ifanc heddiw yn parhau i ymgolli yn yr antur hwn.


Ewch gyda Luned a Rhys ar eu taith, o greigiau geirwon Nant Gwrtheyrn, i lethrau mynyddoedd Pumlumon ac i Ddyffryn Conwy.


Mae Luned Bengoch wir y gorau o’r goreuon, does dim llawer o straeon yn cael eu hadrodd fel hyn heddiw. Mae Luned Bengoch yn glasur.

 

Gwasg: Gomer@Lolfa

Cyhoeddwyd: 2021 (ond yn wreiddiol yn 1946, 1983)

Cyfres: Gorau'r Goreuon

Pris: £6.99

ISBN: 978-1-80099-135-4

 

WEDI MWYNHAU LUNED BENGOCH? BETH AM RAI O'R CLASURON ERAILL YN Y GYFRES?



bottom of page