top of page

Sara Mai a Lleidr y Neidr - Casia Wiliam

*For English review, see language toggle switch on top of page*



Oed darllen: 8+

Oed diddordeb: 7-11

Gwaith celf: Gwen Millward

 


Dwi’n siŵr fod yr awdur, Casia Wiliam, wedi teimlo ’chydig o bwysau tro ’ma wrth fynd ati i ysgrifennu dilyniant i Sw Sara Mai, yn enwedig o ystyried llwyddiant ysgubol y gwreiddiol, aeth ymlaen i ennill Gwobr Tir na n-Og 2021. Nid gwaith hawdd ydi curo hynny!


Dwi’n meddwl ei bod hi’n bendant wedi cadw’r safon, ac mi wnes i fwynhau’r ail nofel cymaint os nad mwy na’i rhagflaenydd. Mae’r cynhwysion wnaeth Sw Sara Mai mor boblogaidd i gyd yno, ond erbyn hyn, rydym yn fwy cyfarwydd â’r cymeriadau hoffus, ac fe gawn ein cyflwyno i nifer o gymeriadau newydd hefyd.


Cafodd y nofel gyntaf ei chanmol am gyflwyno prif gymeriad hil gymysg a hefyd am gynnwys peth trafodaeth am hiliaeth. Wrth gwrs, mae hyn yn beth da – mae angen i’n llenyddiaeth adlewyrchu ein cymdeithas ni heddiw. I mi, llwyddiant y ddwy nofel ydi sut mae’r pynciau hyn yn cael eu cyflwyno mor naturiol.



Yn y stori gyntaf, roedd dyfodol y sw ei hun dan fygythiad, ond y tro hwn, fel awgryma’r teitl, mae rhywun wedi dwyn neidr. Ond nid neidr gyffredin mo hon, o na, ond Peithon Albino Porffor prin. Bydd gofyn i Sara Mai droi’n dditectif er mwyn datrys y dirgelwch mawr: ‘pwy yw lleidr y neidr?’ Wrth ddechrau ei hymchwiliad, daw nifer o’i ffrindiau a’i chydweithwyr o dan amheuaeth. Ai person diarth sydd ar fai neu oes ’na ddihiryn yn cuddio reit o dan ei thrwyn hi? Dim mwy o sboilars gen i!


Dwi’n meddwl mai penderfyniad doeth oedd lleoli’r stori mewn lle mor ddiddorol â sw. Wedi’r cyfan, mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi anifeiliaid, yn dydyn? Dwi’n gwerthfawrogi’r ffeithiau am wahanol anifeiliaid sy’n cael eu sbrinclo yma ac acw. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i ’rioed wedi clywed am pademelon gynt! Mae’r anifeiliaid yn darparu cyfleoedd er mwyn cyflwyno pynciau megis colled, galar a pherthnasau mewn ffordd sensitif.


Roeddwn i’n hoffi sut mae’r awdur wedi troi pethau ar eu pen gyda’r nofel yma. Yn y nofel gyntaf, bu Sara Mai yn ddigalon gan fod rhywun wedi bod yn dweud pethau cas amdani. Y tro hwn, fe welwn nad ydi Sara Mai ei hun yn berffaith bob amser, ac mae hi’n dysgu neges bwysig am fod yn garedig a pharchu eraill, hyd yn oed os oes ganddynt ymddangosiad neu ddiddordebau gwahanol.



Mae’r iaith naturiol, hawdd i’w darllen yn golygu bod llyfrau Sara Mai yn berffaith ar gyfer plant 7–11 oed, a byddwn yn argymell y rhain fel nofelau y dylai athrawon ystyried buddsoddi ynddynt.

Adolygiad gan Morgan Dafydd

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.


 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £5.99

ISBN: 9781800991170

 

YDYCH CHI WEDI DARLLEN Y LLYFR CYNTAF YN Y GYFRES?


Llyfr y Mis i Blant: Awst 2020 ♥

♥ Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021 ♥


Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page