top of page

Chwilio

294 items found for ""

  • Dreigio: Tomos a Cenhaearn - Alastair Chisholm [addas. LLŷr Titus]

    *Use language toggle switch for English Review* (awgrym) oed diddordeb: 8+ (awgrym) oed darllen: 9-11+ Lluniau: Eric Deschamp http://www.ericdeschamps.com/ Disgrifiad Gwales: Does dim dreigiau fan hyn, meddai pawb wrth Tomos. Un diwrnod, mae dieithryn yn ei wahodd i fod yn brentis glerc, ond yn fuan iawn daw Tomos i ddeall mai prentisiaeth lawer mwy cyffrous na dysgu bod yn glerc sydd o'i flaen - dysgu cadw a hyfforddi ei ddraig ei hun! Cenhaearn ydi ei henw hi, ac mewn dim o dro mae hi a Tomos yn brwydro i achub y bobl sydd agosaf atyn nhw. Y cyntaf mewn cyfres ffantasi, gyffrous newydd! Cyhoeddwr: Rily Cyhoeddwyd: Ebrill 2022 Pris: £6.99 Fformat: clawr meddal Cyfres: Dreigio

  • Mwy o Helynt - Rebecca Roberts

    *Use language toggle switch for English review* ♥Llyfr y mis i blant: Mehefin 2023♥ (awgrym) oed diddordeb: 12-15+ (awgrym) oed darllen: 12+ Genre: #ffuglen #arddegau Themâu yn y nofel hon: Trais yn y cartref / Iechyd meddwl/ Hunanddelwedd / Meithrin perthynas amhriodol (grooming) / Hunanhyder. **YN CYNNWYS IAITH GREF** Pan gafodd #helynt ei gyhoeddi nôl yn Nhachwedd 2020 (waw, mae’n teimlo fel oes yn ôl yn barod!) gweddol ddistaw oedd yr ymateb cychwynnol. Roedd Rebecca yn awdur gymharol newydd, a dwi’n meddwl mai honno oedd ei nofel gyntaf i’r arddegau. Ond, yn raddol, daeth mwy i ddarllen am helyntion Rachel Ross, ac ym mis Mai 2021, enillodd #helynt y Gwobrau Tir na n-Og yng nghategori’r uwchradd. Enillydd haeddiannol iawn os ga i ddeud! Pan mae llyfr cyntaf yn gwneud cystal â hynny, dwi’n siŵr fod ‘na dipyn o bwysau i wneud yn siŵr fod y dilyniant yn cadw’r safon. Dwi’n falch o ddweud fod Rachel Ross, neu Rachel Calvi fel y mae hi’n cael ei hadnabod bellach, yn ei hôl i greu Mwy o helynt, (see what I did there?) Mae’r awdur wedi llwyddo i gadw’r elfennau wnaeth y llyfr cyntaf mor hawdd i’w ddarllen, ond wedi adeiladu ar stori Rachel a tydi o ddim yn teimlo fel repeat o’r llyfr cyntaf. I feddwl fod Rachel fymryn yn hŷn, dydi hi fawr callach, ac mae hi’n dal i greu- a ffeindio’i hun mewn digon o helyntion, sy’n beth da i ni’r darllenwyr! Mae’n anodd ‘sgwennu adolygiadau heb sbwylio’r plot, a faswn i ddim isio gwneud hynny. Mae’r dilyniant yn cychwyn rhai misoedd ar ôl digwyddiadau cythryblus y nofel gyntaf. Gyda Jason, ei llystad, yn y carchar am beth wnaeth o i Fam Rachel, mae’r teulu bach bellach wedi gorfod gadael y Rhyl. Gadael eu bywydau a phopeth maen nhw’n ei adnabod a diflannu i rywle anhysbys i gadw low profile. Fedra i ddim dychmygu sut beth ydi hynny - gorfod gadael eich cartref, eich eiddo, eich ffrindiau... Erbyn hyn, mae Rachel wedi cychwyn yn y coleg, mae ganddi gariad ac ymddengys fod pethau’n dechrau mynd yn dda, ond does fawr o amser yn mynd heibio cyn iddi gael ei syniad annoeth cyntaf... sleifio nôl i’r Rhyl ar rescue mision i’w hen gartref. Roedd sawl tro yn ystod y nofel lle roeddwn i’n teimlo fel dweud ‘O na Rachel bach, paid â gwneud hynna...!’ Yn ogystal â rhai o’r hen gymeriadau fel Shane, Gina a Medium Jim, cawn ein cyflwyno i gymeriadau newydd. Er fod Rachel yn ferch hynod o graff, ffraeth a galluog, mae hi’n gwneud pethau gwirion weithiau. Am y rhesymau iawn, debyg, ond gwirion ‘run fath. Wrth iddi gychwyn meithrin perthynas annoeth, hefo rhywun dylai wybod yn well, mae’r alarm bells yn dechrau canu’n fuan iawn... Dduda i ddim llawer mwy ‘na hynny. Bydd rhaid i chi ddarllen dros eich hunain i weld sut fydd Rachel yn dod allan ohoni. Yn ngoleuni’r holl sylw mae ‘grooming’ wedi ei gael yn y cyfryngau yn ddiweddar, mae’r nofel yn teimlo’n amserol a pherthnasol iawn yn hynny o beth. Ond mae gen i ffydd yn Rachel. Mae hi’n gymeriad cryf. Dyna rywbeth oedd yn amlwg iawn yn y nofel gyntaf. Dwi’n meddwl mai “badass” oedd y term gorau i’w disgrifio! Tydi hi’n bendant ddim am adael i’w anabledd ei diffinio. Alllwn i ddim helpu ond meddwl ‘Go Rachel!’ wrth iddi roi Jasmine, hen ferch annymunol, yn ei lle. Biti ‘na fasen ni’n gallu potelu y fath hyder a’i werthu! Mae arddull Rebecca yn hynod o ddarllenadwy, ac yn siwtio’r arddegau cynnar i’r dim. Tydi darllen y nofel ddim yn dasg llafurus gan fod yr iaith a’r plot yn ddigon hawdd i’w ddeall. Mae dipyn o Saesneg yn cael ei ddefnyddio yn y nofel, a does gen i ddim problem â hynny, achos mae’n adlewyrchu natur a realiti ieithyddol ardal Gogledd Ddwyrain Cymru (ardal daearyddol sydd heb gael digon o sylw mewn llyfrau Cymraeg). Dwi’n digwydd gwybod fod y llyfrau helynt yn boblogaidd ymysg grwpiau eraill hefyd, ac mae gan Rebecca fan base o ddarllenwyr hŷn sydd hefyd wedi llowcio anturiaethau Rachel a’i theulu. Petai stori Rachel yn gorffen ar ôl digwyddiadau Mwy o Helynt, byddai’n ddiweddglo digon taclus ac mi faswn i reit fodlon. Wedi dweud hynny, dywedodd Rebecca yn y lansiad fod ganddi sawl stori arall ar ei chyfer. Ar ôl tro bach annisgwyl ar ddiwedd y nofel, dwi’n siŵr bod digon o sgôp am fwy o straeon Rachel Calvi, y goth o’r Rhyl... "Newydd ei llarpio mewn un eisteddiad. Nid hawdd o beth ydi sgwennu mor rhwydd â hyn. Campwaith arall gan Rebecca Elizabeth Roberts." dywed Elin Llwyd Morgan am nofel diweddaraf @BeckyERoberts Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Ebrill 2023 Pris: £8.00 Fformat: clawr meddal Cliciwch yma i weld adolygiad o'r llyfr cyntaf, #helynt PLAYLIST SPOTIFY AR GYFER MWY O HELYNT... https://open.spotify.com/playlist/2Y1URBFRAjydaTlfKSxvgn?si=e015329997724d8a&nd=1 Mae Rebecca wedi creu playlist sy'n cyd-fynd â'r nofel. Rhaid i mi gyfaddef - tydi pob cân ddim 'my cup of tea' ond dwi wedi mwynhau darganfod cwpwl o ganeuon newydd. Nes i fwynhau 'Die to Live' gan Volbeat a 'Your love is incarceration' gan Clutch!

  • Cadi a'r Môr Ladron - Bethan Gwanas

    *For English review see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 6-9+ (llyfr i blant sy'n newydd i ddarllen yn annibynnol, neu sy'n pontio rhwng llyfrau llun a llyfrau pennod) (awgrym) oed diddordeb: 5+ Genre: #môr #môrladron #ffuglen #CymraegGwreiddiol #antur Adolygiad gan Siân Vaughan, Athrawes Ymgynghorol y Gymraeg Sir Conwy Stori arall am anturiaethau Cadi a Mabon wrth iddyn nhw gael gwyliau bach ym mwthyn mam-gu yn Sir Benfro dros y Pasg. Gan fod Mam a Nain yn brysur yn yr ardd mae Cadi a Mabon yn mynd lawr at y traeth i chwarae. Wrth gloddio am drysor ar y traeth maent yn dod ar draws cist drysor ac yn cael eu cipio gan fôr leidr. Down i gwrdd â chymeriadau lliwgar awn ar fwrdd llong y Môr-leidr Byrti Biws. Eto cawn nifer o negeseuon pwysig o fewn y stori, ac nad ydy o'n iawn i ddwyn oddi ar eraill. Mae Cadi a Mabon yn cael sawl antur ar fwrdd y llong a chawn ddysgu tipyn am fywyd bob dydd mor ladron drwy lygaid criw llong Y Blodwen. Stori arall wedi ei hysgrifennu mewn iaith hawdd i blant ei darllen a' deall. Cawn gip ar dafodieithoedd y de a'r gogledd ac fel mae ambell enw gwahanol ar bethau yn dibynnu ar eich tafodiaith. Bydd plant wrth eu bodd yn trafod bywyd Môr ladron - pwnc sydd wastad yn apelio at blant o'r oedran yma. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99 Fformat: Clawr Caled Adolygiad o Golwg Dwi bob amser wedi hoffi'r llyfrau yma a chymeriad drygionus ond annwyl Cadi [...] Dydi llyfrau'r gyfres hon byth yn siomi – cyfuniad perffaith o destun a lluniau lliwgar.- Gwenan Mared, Golwg

  • Dros y môr a'r mynyddoedd - Awduron Amrywiol

    *See language toggle for English review* ♥Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2023♥ (awgrym) oed diddordeb: 8+ (awgrym) oed darllen: 11+ Genre: #chwedlau #Celtaidd #ffuglen #hanes Lluniau: Elin Manon https://www.elin-manon.com/ Disgrifiad Gwales: Merched cryf a dewr yw'r prif gymeriadau yn chwedlau'r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy'n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams. Adolygiad Francesca Sciarrillo Cariad ar yr olwg gyntaf oedd fy ymateb i'r llyfr prydferth yma: o’r clawr i'r teitl – hyd yn oed cyn i mi ei agor a darllen y storiau gwych! Ac yn syth ar ôl hynny, meddyliais am sut mi fyswn i wedi gwirioni efo llyfr fel hyn pan roeddwn i'n blentyn. Ond beth bynnag, dwi’n falch fy mod i wedi dod o hyd i lyfr mor hyfryd fel oedolyn, a dwi’n hapus iawn i wybod bod plant a phobol ifanc ar draws y wlad am fynd i ddarganfod a mwynhau’r straeon sydd yn fyw tu fewn tudalennu Dros y Môr a’r Mynyddoedd. Pymtheg stori o wledydd Celtiaid sydd ar gael yn y casgliad hwn – o Nia Ben Aur o Iwerddon i'r Frenhines Lupa o Galisia. A rhwng y geiriau crefftus sydd wedi cael eu hysgrifennu gan awduron annwyl iawn yn y byd llenyddiaeth i blant a phobol ifanc, mae gennyn ni darluniadau hyfryd dros ben gan Elin Manon. Un o’r pethau gora am y casgliad hwn – yn fy marn i beth bynnag! – yw’r ffaith bod chi’n gallu darllen un ar y tro a dychwelyd yn ôl at yr un stori, neu stori arall. Bob un yn teimlo’n ffres ac yn wahanol i'r gweddill – gan mai awduron gwahanol sydd wedi eu hysgrifennu – ac mae hynny’n ychwanegu’r mwynhad o ddarllen. Cast o gymeriadau cryf, mentrus a dewr sy’n cadw chi cwmni yn Dros y Môr a’r Mynyddoedd, fel Rhiannon o Gymru a Kowrmelyan y cawr o Gernyw. Fy hoff straeon – er fy mod i'n caru bob un – yw'r Frenhines Lupa o Galisia a Merch y Tonnau o’r Alban. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd efo’r rhan fwyaf o’r straeon yn y casgliad, ac rydw i wedi gwirioni’n dysgu mwy am chwedlau a chymeriadau sy’n gysylltiedig efo gwledydd Celtiaid. Mi fyswn i wir yn argymell y casgliad hwn i unrhyw ddarllenwr ifanc sy’n hoff o straeon llawn antur, hud a chymeriadau cofiadwy. Casgliad i'w drysori yw hwn, ac un lle mae merched arbennig iawn yn serennu. Mor hyfryd yw gweld sut mae’r darlunydd ac awduron wedi dychmygu a chreu’r cymeriadau pwysig hyn. A heb os nac oni bai, mae’r casgliad yn llwyddo i “gadw’r straeon yn fyw” i ddarllenwyr o bob oedran. Adolygiad Morgan Dafydd, Sôn am Lyfra Llyfrau i’w trysori Mae ‘na rei llyfrau jest yn sefyll allan yn y cof yn does? Ambell i lyfr ‘da chi’n eu cofio’n well nag eraill. Un o’r llyfrau felly i mi oedd ‘Heno Heno’ golygwyd gan Glenys Howells - llyfr a gefais yn anrheg pan oeddwn i’n bump oed. Saith mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, dwi’n dal i fynd yn ôl ato o dro i dro, a dwi wedi ei ddefnyddio droeon yn y dosbarth ac mae plant yn dal i fwynhau’r straeon byrion. Dwi’n dal i allu adrodd ‘Yr anghenfil ych-a-fi’ a ‘Sut gollodd y neidr ei thraed’ hyd heddiw. Wrth gwrs, roedd llyfr o’r fath yn llawer rhy anodd i mi fel darllenwr pump oed, ond, Mam fuodd yn darllen y straeon i mi gyda’r nos, cyn i mi ddysgu gwneud hynny dros fy hun. Mae ‘Dros y môr a’r mynyddoedd' yn llyfr tebyg, un sy’n arbennig o hardd, ac yn un fyddai’n gwneud anrheg lyfli i’w drysori a’i basio i lawr. Yn sicr mi faswn i wedi gwirioni ar lyfr o’r fath ar y pryd. Doedd llyfrau byth yn arfer edrych mor ddel! Mae’r gwaith celf gan Elin Manon yn arbennig – mi faswn i’n ei brynu jest am hynny mewn gwirionedd! Mae ei gwaith celf yn mynd a ni ar draws moroedd gwyllt a mynyddoedd geirwon ac yn dod a geiriau’r amrywiol awduron yn fyw. Straeon sy’n newydd ond cyfarwydd ‘run pryd Mae’n wych clywed straeon a chwedlau newydd rhyngwladol, sy’n gwbl newydd i mi, ond eto’n teimlo’n gyfarwydd ‘run pryd. Er enghraifft, mae ‘Ker Is’ yn debyg iawn i hen chwedl Cantre’r Gwaelod. Mae gormod o straeon i sôn amdanynt yn unigol, ond roedd _Rhos y Pawl a Môr-forwyn Purt le Moirrey ymysg rhai o fy ffefrynnau. Mae cymaint o amrywiaeth ymysg y chwedlau - dyna sy’n wych am y gyfrol. Mae pob stori yn wahanol, ond eto, mae un llinyn sy’n gyffredin rhyngddynt - merched cryf a dewr. Wedi dweud hynny, peidiwch am eiliad a meddwl mai llyfr i ferched yn unig yw hwn. Mae rhywbeth yma i bawb. Iaith O ran yr iaith, waeth i mi fod yn onest, mae o’n heriol. Mae rhai straeon yn llifo’n well ac yn haws i’w dilyn nac eraill. O fy mhrofiad fel athro cynradd, dim ond y darllenwyr mwyaf hyderus fydd yn gallu taclo’r testun yn llwyddiannus yn annibynnol. Fodd bynnag, cofiwch am bwysigrwydd darllen i’n plant. Yn aml iawn, mae tueddiad i beidio blaenoriaethu amser stori, gan feddwl mai rhywbeth i blant bach ydi o. Gydag oedolyn meistrolgar yn adrodd y stori, bydd modd i unrhyw un o 8+ ymlaen fwynhau’r straeon. Mae natur straeon byrion y gyfrol yn ei gwneud yn addas iawn i fynd a dod yn ôl ati fel y dymunir. Wir yr, dyma gyfrol brydferth iawn, ac er ei fod yn swnio’n ddrud am £18, mae ‘na lot o waith wedi mynd i mewn i greu’r gyfrol yma, ac mae’n un o’r llyfrau sy’n haeddu pride of place ar y silff lyfrau. Y Chwedlau: Nia Ben Aur (Iwerddon) Rhiannon a'r gosb o fod yn geffyl (Cymru) Ker Is (Llydaw) Morag Glyfar (Yr Alban) Cewri Karrek Loos yn Koos (Cernyw) Môr-forwyn Purt-le-Moirrey (Ynys Manaw) Llygad am Lygad (Iwerddon) Rhos y Pawl (Cymru) Merch y Tonnau (Yr Alban) Antur Keresen o Senar (Cernyw) Stori Gráinne (Iwerddon) Azenor ddoeth, Azenor ddel (Llydaw) Castell Penârd (Cymru) Cailleach – ceidwad y ceirw (Yr Alban) Y Frenhines Lupa (Galisia) Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Medi 2022 Pris: £18 (neu am ddim o lyfrgell) Fformat: Clawr Caled

  • Eisteddfod i'w Chofio - Gwennan Evans

    *Use language toggle switch for English review* (awgrym) oed darllen: 5-8+ (awgrym) oed diddordeb: 4+ Genre: #antur #ffermio #amaeth #ffuglen #doniol Lluniau: Lleucu Gwenllian https://www.studiolleucu.co.uk/ Dyma’r bedwaredd yng nghyfres ‘Fferm Cwm Cawdel’, ac mae’n un addas iawn i’w hadolygu ar ôl wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, achos fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, mae’r gwartheg yn mynd ar antur i’r Eisteddfod – neu yn hytrach, mae’r ‘Steddfod a’i holl ryfeddodau yn dod atyn nhw i Fferm Cwm Cawdel. Ar ôl poeni’n arw ar ôl gweld pobl bwysig yn cerdded o amgylch y fferm, roedd y gwartheg yn hynod o falch i gael gwybod cyfrinach Ffion- fod y brifwyl yn dod acw! Handi de! Dwi’n cymryd fod y gwartheg heb fod i’r ‘Steddfod o’r blaen, ac maen nhw wrth eu boddau yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lu, fel cael eu derbyn i'r orsedd, cystadlu fel pedwarawd a dawnsio o flaen llwyfan y maes. "Cyfres berffaith i'r rheiny sy'n dysgu darllen yn annibynnol." Mae llyfrau’r gyfres wedi cael eu harlunio’n lliwgar gan Lleucu Gwenllian ac mae elfen o ddoniolwch a direidi gartwnaidd i’r lluniau sy’n gweddu tôn ysgafn y llyfrau. Dwi’n siŵr fod y gyfres yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd cefn gwlad. Mae nifer o blant Cymru yn hoffi darllen am bethau cyfarwydd, ac mae gosodiad cefn gwlad/amaethyddol y straeon yn siŵr o apelio at y garfan yma. Ac os dim arall, bydd yn siŵr o gyflwyno cynulleidfaoedd sy’n dod o ardaloedd mwy trefol Cymru i agweddau o fywyd cefn gwlad – sydd wastad yn beth da. Yn achos y llyfr yma, mae modd dysgu am rai o draddodiadau’r Eisteddfod i’r rheiny sy’n anghyfarwydd â’r ŵyl. Efallai bydd yn ddigon i berswadio rhywun sydd heb fod o’r blaen i fentro yno tro nesa... Mae’r llyfrau yn llenwi bwlch pwysig yn y ddarpariaeth ar gyfer plant rhwng 5-11 oed. Mae ‘na lot o lyfrau llun (picturebooks) i blant 5-7, ond mae llawer llai ar gael i’r grwpiau oedran hŷn. Mae llyfrau Cwm Cawdel yn edrych ac yn teimlo fel ‘llyfrau go iawn’ ac felly’n addas iawn ar gyfer y darllenwyr cynnar sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Yn bersonol, dwi’n licio’r ffaith fod yr ysgrifen ar gefndir gwyn, achos mae’n llawer haws i lygaid ifanc i’w ddarllen. Mae gwartheg Cwm Cawdel yn cael eu sbwylio’n racs wrth gael mynd ar yr holl anturiaethau, ac maent wedi bod ar sawl gwyliau yn barod, gan gynnwys Aberystwyth ac Eryri. Sgwn i lle fyddan nhw’n mynd nesaf...? Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Mawrth 2023 Cyfres: Fferm Cwm Cawdel Pris: £6 Fformat: clawr meddal Mwwwww-y yn y gyfres...

  • Cadi a'r Gwrachod - Bethan Gwanas

    *See language toggle switch for English review* (awgrym) oed darllen: 6-9+ (llyfr i blant sy'n newydd i ddarllen yn annibynnol, neu sy'n pontio rhwng llyfrau llun a llyfrau pennod) (awgrym) oed diddordeb: 5+ Genre: #CalanGaeaf #ffuglen #CymraegGwreiddiol #antur Lluniau: Janet Samuel https://thebrightagency.com/uk/childrens-illustration/artists/janet-samuel Adolygiad gan Siân Vaughan, Athrawes Ymghynghorol y Gymraeg Sir Conwy Stori fendigedig i'w rhannu gyda phlant yn ystod tymor yr hydref. Mae noson Calan Gaeaf yn "amser hudol pan mae pethau rhyfedd yn digwydd” ac mae Cadi a Mabon yn llawn cyffro wrth baratoi ar ei gyfer. Dyma stori hud a lledrith modern ar ei gorau. Ar ddechrau'r stori mae Cadi a'i brawd bach Mabon yn ffraeo efo'i gilydd wrth greu pwmpenni ac afalau taffi yn y gegin. Mae'r ffraeo a'r galw enwau yn arwain at ddamwain i ffôn symudol ac mae Mabon yn troi'n llyffant! O diar. Rhaid meddwl am ffordd i gael Mabon yn fachgen yn ei ôl. Cawn gwrdd â chymeriadau unigryw llawn hiwmor yng ngwlad y gwrachod sef Doti a Moira y ddwy wrach a Carlo Cadwaladr y dewin. Drwy stori Cadi a'r gwrachod cawn negeseuon pwysig sut i oresgyn unrhyw rwystrau mewn bywyd a pha mor bwysig yw defnyddio ein talentau i helpu eraill. Mae Doti eisiau dysgu canu a Carlo eisiau rhedeg yn gyflym a drwy gymorth gan dderyn du a Sgwarnog maent yn dysgu bod rhaid cael hyder a llawer o ymarfer i lwyddo. Mae Moira eisiau dysgu bod yn wrach ac mae hi'n dysgu gan Dylluan ddoeth fod rhaid gwrando, darllen, gwneud ymarfer corff a chael llawer o gwsg er mwyn llwyddo i ddysgu. Negeseuon pwysig i unrhyw un sydd angen dysgu!! Llyfr perffaith ar gyfer plant sy'n dechrau darllen yn annibynnol a sy'n symud o lyfrau llun i lyfrau pennod. Bydd plant wrth eu bod yn clywed bod Mabon y llyffant yn gwneud sŵn fel petai chwalu gwynt ac mae ambell i beth mae'r gwarchod yn ei ddweud yn gwneud i ni chwerthin yn uchel hefyd. Mae'r stori wedi ei hysgrifennu mewn iaith naturiol sy'n llawn cymariaethau a dywediadau i gyfoethogi iaith plant. Mi fyddan nhw'n gwybod beth yw traed chwarter i dri ac yn dychmygu llais canu Doti "fel brân efo ffliw!!’ Erbyn diwedd y llyfr byddwch wedi medru trafod ambell i neges bwysig a hynny wedi chwerthin llond eich bol wrth gael eich tynnu mewn o fyd bob dydd yng nghegin tŷ i wlad hud a lledrith y gwrachod. Byddai'n wych gweld y stori hon wedi ei hanimeiddio i greu cartŵn i deledu plant. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £5.99 Fformat: Clawr Caled Adolygiad o gylchgrawn Barn Llyfr i'w ddarllen ar fwy nag un eisteddiad ydi hwn. Mae'n annog darllenwyr ifanc i fwrw ati ac ymgolli mewn stori dda dros gyfnod estynedig a derbyn bod hyn yn rhan bwysig o ddatblygiad darllenydd hyderus. Gall y plant iau, wrth gwrs, fwynhau gwrando ar oedolyn yn darllen y stori a dehongli lluniau doniol Janet Samuel o anturiaethau Cadi ar noson Calan Gaeaf o ddiogelwch cesail gynnes rhiant! - Delyth Roberts, Cylchgrawn Barn

  • Gwlad yr Asyn - Wyn Mason

    *For English review, see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 12+ (awgrym) oed diddordeb: 14+ / OI/ oedolion Genre: #doniol #nofelgraffig #CymraegGwreiddiol #ffuglen Lluniau: Efa Blosse-Mason http://www.efabmanimation.com/ Dwi wedi cymryd oesoedd i ’sgwennu’r adolygiad yma. Yn bennaf achos doeddwn i ddim yn siŵr iawn sut i roi fy ymateb i lawr ar bapur! Y tro cyntaf i mi ei weld, roedd y clawr yn edrych yn dwyllodrus o blentynnaidd, ond mae llawer mwy i’r llyfr yma... I fod yn onest, ar ôl ei orffen am y tro cyntaf, nes i jest eistedd yna yn meddwl ‘be ar y ddaear dw i newydd ei ddarllen?’ Mae nofelau graffig mor brin yn y Gymraeg beth bynnag, ac ella fod hyn yn rhan o'r rheswm pam nad oeddwn i’n siŵr iawn beth i’w wneud ohono. Ond wedi ei ddarllen sawl gwaith, dwi wedi newid fy meddwl yn llwyr. Dwi’n darganfod rhywbeth newydd ar bob darlleniad. Dim i fod yn cliché am y peth, ond roedd ei ddarllen yn chwa o awyr iach. Wir yr. Fel oedd yr adverts Irn Bru yn arfer dweud: “I like it. It’s different.” Mae Ari yn asyn sydd wedi cael ei magu gan bobl, ac o ganlyniad yn byw bywyd cyfforddus mewn tŷ, gyda Mam Gu. Mae’n llawer gwell ganddi dreulio ei hamser yng nghwmni pobl, ac er bod ganddi gorff asyn, mae hi’n meddwl fel person. Ond, un diwrnod, yn hynod annisgwyl, mae bywyd moethus Ari yn cael ei droi wyneb i waered... Mae’n dipyn o sioc iddi sylwi na chae, yn hytrach na thŷ cynnes a chlud yw ei chartref newydd. A tasa hynny ddim digon drwg, mae Prost, ei pherchennog newydd yn ddyn peryglus – dim yn foi i’w groesi. Drwy ddysgeidiaeth Cal, asyn mewn caethiwed sy’n dyheu am ei ryddid, daw Ari i ddysgu mwy am heidiau gwyllt o asynnod. Tybed fydd ei syniadau eithafol yn ddigon i danio ysbryd o wrthryfel yn yr asyn dof, neu ydi’r holl sôn am ddianc a bod yn rhydd yn rhyw lol potas maip gan hen asyn ‘twp ac anwaraidd?’ Yn ogystal â'r hiwmor, mae ’na nifer o themâu dwysach yn y stori, gan gynnwys perthynas dyn ag anifeiliaid, yn benodol ein camdriniaeth o anifeiliaid a’n ysfa reibus i ecsbloetio popeth er mwyn gwneud elw. Mae breuddwydion Cal am ryddid yn dwyn cymhariaeth â sefyllfa Cymru heddiw. Fel Ari a’i hoffter o ddynol ryw, rydym fel cenedl yn mynnu glynu’n dynn at y Deyrnas Unedig, er nad yw’n berthynas iach i ni. Oes gennym ni fymryn o ‘stockholm syndrome’ ein hunain tybed? Ydio’n fater o better the Devil you know i ni? Yn sicr mae stori Ari yn gwneud i mi feddwl am hyn yn ddyfnach. Ydan ni am fod yn ddewr a hawlio ein rhyddid? Wedi siarad ag amryw un sydd wedi darllen y llyfr, dwi dal ddim cweit yn siŵr pwy yw’r gynulleidfa. Ond ella mai fy mhroblem i ydi hynny, mod i’n trio rhoi popeth i mewn i focsys bach taclus. Mae’n lyfr sy’n gallu cael ei fwynhau ar lefel mwy arwynebol, syml ond mae ganddo hefyd haenau gwahanol a syniadau dyfnach, athronyddol yn cuddio tu mewn iddo. Bydd yn apelio at yr arddegau, (dwi am ddweud 12+) oedolion a dysgwyr hefyd. Dwi ar ddeall mai syniad a ddatblygodd o ddrama gafodd ei ’sgwennu ar gyfer PhD creadigol yw hwn, ac fe gafodd ei lwyfannu fel drama gan y Theatr Genedlaethol. Doeddwn i’n gwybod dim am hynny tan ar ôl i mi ei ddarllen! Yn fy marn i, roedd yn llawn haeddu ei le ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og, achos mae’n ddewis left of field sy’n ychwanegu at amrywiaeth y Gymraeg. Yn dibynnu ar y gwerthiant, dwi’n meddwl fod lle i weld mwy o nofelau graffig tebyg, ond dwi’n dallt na fydd at ddant pawb. Mi fydd na rai yn meddwl “be goblyn oedd hwnna?” ar ôl ei ddarllen, ond dwi’n bersonol wedi gwneud full 180 ac yn meddwl ei fod o yn genius! Mae’n werth ei brynu jest i weld arlunwaith syml ond trawiadol Efa Blosse-Mason. Yn sicr, roedd yn brofiad darllen newydd a gwahanol i mi yn y Gymraeg. Am adolygiad llawer mwy cynhwysfawr ’na f’un i – darllenwch ymateb Jon Gower i’r llyfr ar Nation.Cymru https://nation.cymru/culture/review-gwlad-yr-asyn-by-wyn-mason-and-efa-blosse-mason/ "Graphic novels in Welsh aren’t exactly two a penny – so Gwlad yr Asyn is an uncommon item. It’s even more so when you find out that it’s novel based on a play, placing its playful yet thoughtful account of the adventures of a donkey in a field of its own." Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £12 Fformat: Clawr Caled Gwrandewch ar addasiad o'r llyfr - drama radio: https://www.bbc.co.uk/programmes/m001g23r

  • Cegin Mr Henry - Lloyd Henry

    *For English review, see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 9+ (awgrym) oed diddordeb: 10-15 Genre: #ffeithiol #coginio #bwyd Ar y weekend, hefo glasiad o win yn fy llaw, dipyn o chill out music yn chwarae, a bore dydd Llun yn teimlo’n bell i ffwrdd, does dim yn well gen i ‘na threulio oriau yn y gegin yn arbrofi hefo ryseitiau ac yn edmygu fy nghwpwrdd sbeisys! (o mam bach dwi definitely wedi cyrraedd middle age!) Ond ar noson ysgol, ar ôl dod adra’n hwyr, finnau wedi anghofio defrostio’r chicken breasts a dim golwg o de - mae hi’n stori dra gwahanol. Does nunlle mwy diflas i fod 'na’r gegin wrth orfod pendroni ‘be gawn ni i de?’ a phawb yn y tŷ yn hangry! (i’r rhai sydd ddim yn gwybod ystyr ‘hangry’ = cymysgedd o ‘angry’ a ‘hungry’ - dim yn gyfuniad da o gwbl!) Ond hei lwc, fydd dim angen i mi boeni rhagor, achos mae llyfr coginio syml, down to earth Cegin Mr Henry ar gael i roi help llaw – a hwnnw’n llawn o syniadau syml (ond blasus) sy’n ideal ar gyfer chefs o bob gallu. Mae’r awdur, Lloyd Henry, yn athro technoleg bwyd yn Ysgol Gyfun Gŵyr, ac felly mae’n gwybod yn iawn sut i ddod a dŵr at ddannedd y gynulleidfa darged – bwyd blasus, iachus efo cyfarwyddiadau fool proof a chlir! Yn ôl y wasg, llyfr i’r arddegau ydi o, ond dwi’n meddwl y gall unrhyw un wneud defnydd da ohono. Un peth reit annoying am lyfrau coginio fel arfer ydi pan maen nhw’n trio gwneud ryw ryseitiau elaborate, ffansi hefo chynhwysion weird. Petha ‘da chi byth yn cadw yn y tŷ - petha ‘sa angen mynd i'w prynu’n unswydd, a phetha fydd yn ôl pob tebyg, yn diflannu nôl i'r cwpwrdd wedyn ar eu hanner, never to be seen again. Mae’r llyfr yma’n wahanol. Dwi’n falch o ddweud fod y ryseitiau, a’r cynhwysion i gyd yn rai hollol normal, yn rhad, a nifer ohonynt yn debygol iawn o fod yn llechu yn eich cypyrddau’n barod. Winner winner chicken dinner. Dwi’n meddwl, a dwi’n siŵr fasa Lloyd yn cytuno hefo fi, fod hi’n bwysig i bobl ifanc ddysgu’r sgil o goginio. Mae o’n sgil bywyd, a bydd yn enwedig o ddefnyddiol ar gyfer symud i’r Brifysgol lle bydd rhaid iddynt sortio eu bwyd eu hunain. (fedrwn ni ddim byw ar Pot Noodles a Dominos am byth!) Mae'r ffaith ‘bo chi’n gallu cookio hefyd yn ffordd dda o impressio cariadon... (Er, dwi’n meddwl nes i wneud job ‘chydig rhy dda, achos fi sydd wedi landio’r job o head chef yn tŷ ni). Cyn mynd i’r coleg, dwi’n cofio cael copi o Sam Stern’s cookbook yn anrheg gan Mam. Cyn hynny, dwi’n meddwl mai cheese on toast oedd fy limit. Erbyn hyn, dwi’n teimlo’n reit gartrefol o flaen stôf ac yn ddiweddar iawn, mi wnes i wneud cinio dydd Sul i’r teulu cyfan- a hynny heb roi’r tŷ ar dân! Happy days! Felly os ‘da chi’n nabod rhywun sydd prin yn gallu berwi wy, neu ‘da chi’n awyddus i annog rhywun i godi’r ffedog a rhoi cynnig arni, mi fasa’r llyfr yma’n gwneud anrheg berffaith, ac yn siŵr o godi eu hyder yn y gegin. Ond pa rysáit i’w goginio gyntaf? Dwi wedi mynd drwy’r drefn arferol, sef sticio post-its drwy'r llyfr yn dethol pa rai dwi am eu trio gyntaf. Mae’r cyri tatws melys a’r byns pizza yn edrych yn ffab. Does ‘na ddim llawer (a deud y gwir, fedra i ddim meddwl am un ar y foment) o lyfrau coginio Cymraeg ar gyfer pobl ifanc yn benodol, felly dwi’n falch iawn o weld hwn yn cael ei gyhoeddi. Beth sydd yn dda hefyd, yw’r defnydd o’r codau QR fel cymorth ychwanegol. Maen nhw’n addas iawn i’r rheiny, fel fi, sy’n hoffi ‘gweld’ sut i wneud pethau. ‘Da chi’n cael y gorau o ddau fyd rili! Mae llyfr cegin Mr Henry wedi hawlio ei le ar y silff ffenest, yng nghanol yr hen ffefrynnau eraill fel Pinch of Nom a Miguel Barclay’s £1 Meals. Mi glywais si ar led fod ‘na wefan ar ei ffordd, felly dwi’n siŵr bydd mwy o bigion disglair yn fanna pan ddaw. Gobeithio bydd ‘na fwy o lyfrau ar y gweill. Os ga i wneud awgrym - mi fasa un ‘prydau punt’ yn handi yn yr argyfwng costau byw sydd ohoni! Reit, dyna ddigon o fy mwydro i, dwi’n mynd nôl i'r gegin i gychwyn te! Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2022 Pris: £12.99 Fformat: Clawr caled (ac e-lyfr) GWYLIWCH MR HENRY AR PRYNHAWN DA, S4C -CHWEFROR 2023 Dyma fy ymgais i wneud y byns pizza (roedd 'na mould yn y pot pesto gwyrdd, felly dim ond rhai caws a tomato wnes i tro 'ma.) Mi fedra i gadarnhau bydd rhain ar y menu eto...

  • Sêr y Nos yn Gwenu - Casia Wiliam

    *For English review, see language toggle switch* ♥Llyfr y Mis i blant: Ebrill 2023 ♥ (awgrym) oed darllen: 15+ (awgrym) oed diddordeb: 15+ Disgrifiad Gwales: Dyma nofel gyntaf Casia Wiliam ar gyfer Oedolion Ifanc 16+ oed. Stori yw hi am Leia a Sam, stori gariad gignoeth, sydd hefyd yn stori am gymuned, am ddysgu, am fentro ac am faddeuant. Ar ôl cael eu gorfodi i fod ar wahân am sbel, gwelwn eu bywydau’n croesi eto yn y ganolfan gymunedol, lle mae'r stori'n dechrau. Ar glawr nofel gyntaf Casia Wiliam i oedolion ifanc mae dyfyniad gan Megan Angharad Hunter sy’n taro’r hoelen ar ei phen: “Cwtsh o nofel sy’n gorlifo gan hiwmor cynnes a chymeriadau byw.” Mae prif gymeriad y nofel, Leia, yn gweithio mewn canolfan gymunedol (achos Community Service), felly does dim prinder o gymeriadau credadwy o gefndiroedd ac oedrannau gwahanol, pob un yn cyfrannu i stori Leia – mae Sarah Lloyd y tiwtor celf yn dipyn o ffefryn i fi. “Pam mae hi’n gwneud Community Servie?” meddech chi. Wel, fe ddown ni i ddysgu pam yn raddol, yn ogystal â dysgu mwy am Leia a’i ffrindiau o’r ysgol gynradd tan eu presennol trwy benodau o ôl-fflachiadau crefftus. Roeddwn i eisiau i ambell gymeriad ailymddangos ym mywyd Leia, ond er na ddigwyddodd hynny does dim byd yn teimlo ar goll yn y stori. Mae ysgrifennu Casia Wiliam mor fyw yn y nofel; o fewn ychydig dudalennau ro’n i’n teimlo fy mod i’n ‘nabod Leia ac eisiau’r gorau iddi hi. Er hyn, dwi’n teimlo fel fy mod i wedi bod ar wibdaith emosiynol gyda Leia, yn teimlo popeth o falchder i rwystredigaeth, gobaith i ryddhad, tor calon i gariad, ofn i gyffro. Ym mhenodau olaf y nofel byddwch chi eisiau sgrechian ar Leia a gofyn, “BETH WYT TI’N GWNEUD?!” cyn ail-feddwl a bod eisiau rhoi cwtsh anferth a chefnogaeth iddi hi. Fe ges i fy atgoffa ’chydig bach o gyfres ddiweddar y BBC, Outlaws, gan benodau cynnar y nofel – tybed oedd Casia’n ffan o’r gyfres? Ta beth am hynny, dwi’n meddwl byddai stori Leia yn gwneud cyfres ddrama neu ffilm wych, rhywbeth twymgalon i’w wylio ar nosweithiau tywyll y gaeaf. Mae hon yn chwip o nofel, felly ewch ati i’w darllen hi, wnewch chi ddim difaru gwneud. Gawn ni fwy o lyfrau fel hyn, plîs, Casia! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: Mawrth 2023 Pris: £8.99 Fformat: Clawr meddal (ac e-lyfr) Pan o'n i'n tynnu lluniau yn y rockery, sbiwch pwy ddaeth i ddeud helo!

  • Sut wyt ti, Bwci Bo? /How are you, Bwci Bo?- Joanna Davies a Steven Goldstone

    *For English review, see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 5+ (awgrym) oed diddordeb: 2-5 Genre: #llyfrallun #odli #dwyieithog #doniol #teimladau https://www.joeybananashandmade.co.uk/ Wnaethoch chi fwynhau’r bwci bos tro diwethaf? Ar ôl llwyddiant Sawl Bwci bo? mae’r creaduriaid bach drygionus yn ôl i greu stŵr! Wohoo! Mae’n siŵr fod nifer o blant a rhieni Cymru wedi dod ar draws y llyfr cyntaf, achos fe gafodd hwnnw ei gynnwys fel rhan o raglen Dechrau Da/Bookstart gan elusen BookTrust Cymru – lle’r oedd pob plentyn yng Nghymru yn cael pecyn o lyfrau am ddim cyn troi’n dri. Wel, rŵan maen nhw’n ôl ac yr un mor fywiog a lliwgar ac erioed. Y tro hwn, nid rhifau sydd dan sylw, ond teimladau - ac mae'r rheiny’n bethau cymhleth ac amrywiol iawn dydyn! Mae steil y llyfrau yn fodern iawn, ac mae’n amlwg fod gan y darlunydd, Steven Goldstone, dalent pan mae’n dod i ddylunio digidol. Mae’r lluniau yn drawiadol iawn, ac mae’r angenfilod bach ciwt a’u castiau dwl yn siŵr o apelio at lygaid bach. Dwi’n licio fod cyfeiriad a siâp y ffont yn cael ei amrywio o dudalen i dudalen er mwyn cadw pethau’n ddiddorol. Yn sicr mae ‘na ddigon o gyffro ar bob tudalen. Mae ‘na elfen ryngweithiol i’r llyfr hefyd, ac maen nhw wedi cynnwys ambell i weithgaredd i’w gwneud ar ddiwedd y llyfr. Handi. Wrth i blant bach ddatblygu, mae’n rhaid iddyn nhw geisio gwneud synnwyr o’r holl deimladau gwahanol. Gallent fod yn chwerthin yn llon un funud, ond yn torri eu calon y funud nesaf. Mae dysgu rheoli emosiynau yn rhywbeth sy’n cymryd amser, ac mae llyfr fel hyn yn siŵr o fod yn ddefnyddiol gan ei fod yn trafod yr ups and downs o fywyd pob dydd a’r holl deimladau gwahanol. Un o’r negeseuon yw, mae’n iawn i deimlo sut ‘da chi’n teimlo, ac yn hollol naturiol. O ran yr hiwmor, wel, mae unrhyw sôn am faw trwyn, a phwmps a phethau felly yn siŵr o apelio at y rhai lleiaf, hyd yn oed os ydio’n gwneud i hen bobl ddiflas fel fi rowlio eu llygaid! Dwi’n licio’r cwpledi yma’n fawr iawn: Weithiau mae’r bwci bos yn hapus Weithiau maen nhw’n drist Weithiau maen nhw’n flin fel cacwn Weithiau’n wên o glust i glust! Swnio fel diwrnod arferol i mi yn y gwaith! Mae Llio a fi (Sôn am Lyfra) yn disgwyl ein plentyn cyntaf ym mis Gorffennaf, a thra oni wrthi’n gosod y bookshelf i fyny yn y llofft babi dros y penwythnos, mi oeddwn i’n meddwl: ‘mi fydd y llyfr yma’n edrych yn dda ar y silff newydd!’ a dwi’n edrych ymlaen at allu ei rannu hefo’r bychan mewn peth amser. Mae’r clawr jest yn gweiddi “darllenwch fi!” Am fwy o stwff bwci bo-aidd, ewch i https://www.joeybananashandmade.co.uk/ am sbec. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.99 Fformat: Clawr meddal BETH AM LAWRLWYTHO'R DAFLEN WEITHGAREDD GAN BOOKTRUST? https://cdn.booktrust.org.uk/globalassets/resources/welsh-resources/bwrt-22-23-bwci-bo-rhyme-and-activity-welsh.pdf?_gl=1*1au8070*_ga*NDgwODc0NjIxLjE2Nzk1ODYwMjE.*_ga_42ZTZWFX8W*MTY3OTU4NjAyMy4xLjEuMTY3OTU4OTg2Ny42MC4wLjA. AM YR AWDURON: (o wefan BookTrust) Am Joey Bananas Steven Goldstone Mae Steven yn Ddylunydd ac yn Ddarlunydd. Mae e wedi dylunio nifer o wefannau ac apiau i blant, yn cynnwys gwefan ffilm 'The Muppets' i Disney a gwefannau rhaglenni plant i S4C. Fe yw darlunydd y gyfres llyfrau stori a llun, ‘Bwci Bo’ i blant bach. Cafodd ‘Sawl Bwci Bo?’, a gyhoeddwyd gan Atebol, ei ddewis gan BookTrust Cymru fel ei lyfr ‘Dechrau Da’ i blant bach yn 2022. Cyhoeddwyd y llyfr nesaf yn y gyfres, ‘Sut wyt ti, Bwci Bo?’ ar ddiwedd 2022. Mae e’n briod i Joanna ac yn byw yn Llanilltud Fawr. Joanna Davies Mae Joanna yn Ysgrifennwr a Chynhyrchydd Creadigol. Mae hi wedi gweithio fel Uwch Gynhyrchydd i ITV Cymru, S4C a’r BBC. Cynhyrchodd raglenni teledu a gwefannau dwyieithog i oedolion a phlant yn cynnwys Cbeebies a Bitesize. Mae Joanna wedi ysgrifennu nifer o nofelau dwyieithog. Hi yw awdur y gyfres llyfrau stori a llun, ‘Bwci Bo’ i blant bach. Cafodd ‘Sawl Bwci Bo?’, a gyhoeddwyd gan Atebol, ei ddewis gan BookTrust Cymru fel ei lyfr ‘Dechrau Da’ i blant bach yn 2022. Cyhoeddwyd y llyfr nesaf yn y gyfres, ‘Sut wyt ti, Bwci Bo?’ ar ddiwedd 2022. Mae hi’n briod i Steven ac yn byw yn Llanilltud Fawr.

  • Powell - Manon Steffan Ros

    *For English review, see language toggle switch* (awgrym) oed diddordeb: 12+ (awgrym) oed darllen: 12+ Genre/themâu: #hanesCymru #teulu #ffuglen #empathi Sgwn i os ydi Manon Steffan Ros yn teimlo’r pressure wrth gyhoeddi llyfr newydd? Yn enwedig pan ’da chi wedi gosod y bar mor uchel â Llyfr Glas Nebo. Mi fasa unrhyw un yn cael dipyn o job curo llwyddiant y nofel honno! Gyda 5 gwobr Tir na n-Og dan ei belt yn barod, mae hi wedi profi ei hun sawl tro fel un o’n hawduron mwyaf poblogaidd. Er fod nifer yn cysidro Llyfr Glas Nebo fel magnum opus yr awdur, rhaid i mi ddweud mod i wedi mwynhau Llechi a Powell mwy (controversial, right?). Weithiau, mae’n cymryd wythnosau i mi ddarllen fy ffordd drwy nofel, ond yn achos Powell - mater o ddyddiau. Mae Elis Powell, bachgen pymtheg oed, wastad wedi bod yn falch iawn o’i gyndaid a’i stori, ac yn fwy na bodlon rhannu’r un enw ag o. Caiff ei atgoffa’n feunyddiol o gyfraniad ei hen hen (hen?) daid i’r dref - fo sefydlodd yr ysbyty a’r ysgol leol. Er bod y stori’n cychwyn yn Nhrefair, Cymru, yn yr Unol Daleithiau y mae’r rhan helaeth o’r llyfr wedi ei leoli. A dweud y gwir, roedd yn chwa o awyr iach darllen stori oedd wedi ei gosod yn bennaf yn rhywle heb law am Gymru am unwaith. Prif linyn y stori yw taith Elis a’i Daid i’r UDA i ddarganfod mwy am fywyd y gŵr arbennig sydd wedi bod yn bresenoldeb cyson yn eu bywydau ar hyd eu hoes. Er i’r siwrne unwaith-mewn-bywyd ddechrau’n addawol, cawn yr argraff yn fuan iawn fod pethau ar fin mynd o chwith... “Doedd dim syniad gan yr un ohonom fod pethau ar fin dechrau suro.” Dwi’n reit sicr y baswn i’n gallu adnabod gwaith Manon Steffan hefo fy llygaid wedi gau erbyn hyn gan ei fod yn unigryw. Y berthynas rhwng ei chymeriadau yw’r prif ffocws ganddi bob amser, ac mae hi’n aml yn sylwi ar y pethau bach mae pobl yn eu gwneud neu’n ddweud, ac y tynnu sylw atynt, boed hynny’n gwpwl yn ffraeo yn gyhoeddus yn y maes awyr neu’n bobl sy’n rhoi back-handed compliments i chi. (Da chi’n gwybod - y rheiny sy’n smalio bod yn genuine, ond ’da chi’n gwybod nad ydyn nhw go iawn.) Tra mae’r ddau ar eu hantur fawr yn dysgu mwy am fywyd yr Elis Powell gwreiddiol, mae ’na ffeithiau newydd yn dod i’r amlwg, sy’n eu bwrw oddi ar eu hechel yn llwyr. Wna i ddim dweud dim mwy ’na hynny, ond un peth sy’n sicr, fyddan nhw ddim yn gallu meddwl am Elis Powell yn yr un ffordd eto. Roedd yr enw da yn golygu popeth i’r ddau - yn enwedig i taid, a rŵan, mae fel petai’r carped wedi cael ei dynnu o dan eu traed. Nid dyma’r tro cyntaf i MSR ymdrin â phwnc caethwasiaeth. Yn 2018, mi fuodd hi’n rhan o brosiect yng Nghastell Penrhyn, lle gwnaeth hi lunio ‘12 stori’ yn trafod hanes y castell a’r diwydiant caethwasiaeth yn Jamaica. Efallai bod hynny wedi ei sbarduno i sgwennu mwy a thaflu goleuni pellach ar y pwnc, sydd heb gael hanner digon o sylw tan yn gymharol ddiweddar yn Gymraeg. Dim ond yn y blynyddoedd diwethaf, yn sgil y symudiad #BlackLivesMatter yr ydan ni wedi bod yn barod i gydnabod a derbyn rhan Cymru yn y diwydiant creulon ac anfoesol. Mae’n bwysig nad ydan ni’n anwybyddu’r gorffennol. Ond yn yr un modd, fedrwn ni ddim ei newid o chwaith. Rhaid ei wynebu a dysgu ohono os ydan ni am allu symud ymlaen. O ran hanes y caethweision yn y stori, gwybodaeth gefndirol a gawn ni’n unig - digon i fodloni gofynion y stori, ond fawr arall. Mae’n bosib y bysa rhai wedi hoffi gweld mwy o gig ar yr asgwrn fan hyn. Dw i’n credu y bysa ambell i dudalen yng nghefn y llyfr (yn debyg i lyfrau hanes Gwasg Carreg Gwalch) wedi bod yn syniad da er mwyn rhoi mwy o gyd-destun. Wedi dweud hynny, dwi’n meddwl mai dewis bwriadol gan yr awdur ydi peidio â dweud gormod am fywyd a phrofiadau’r caethweision, ac mi fedra i ddallt hynny’n iawn. Mae Manon wedi siarad eisoes am y pwnc o cultural appropriation yn y podcast ‘Colli’r Plot’ ac mae’n werth gwrando ar y drafodaeth ddifyr yma. Dwi dal ddim yn siŵr be di’r ateb cywir, chwaith. Mae’r nofel yn codi cwestiynau pwysig, ac yn gwneud i chi feddwl ond tydi o byth yn teimlo fel pregeth. Mae’n bosib y bydd hi’n gwneud i chi deimlo braidd yn anghyffyrddus ar brydia. Dyma bwnc trafod cymhleth iawn, ond mae o angen ei drafod, ac felly dwi’n ddiolchgar am nofel fel hyn. Yn debyg i’r Elis Powell dychmygol, mae cerfluniau o unigolion dadleuol fel Henry Morton Stanley, Thomas Picton, Cecil Rhodes a’u tebyg yn dal i’w gweld yn ein cymunedau. Gan na fedrwn ni newid hanes, yr unig beth y gallwn ni ei wneud ydi sicrhau bod pawb yn gwybod y ffeithiau i gyd, a derbyn bod rhai o’r unigolion yma wedi cyfrannu at ein cymunedau, ond fod llawer o’u cyfoeth wedi dod o ecsbloetio pobl eraill. Yn hytrach na dweud wrthym sut a beth i’w feddwl, mae MSR yn troi atom ni fel darllenwyr ac yn gofyn cwestiwn digon teg: unwaith yr ydych chi’n dod i wybod (a chydnabod) y ffeithiau i gyd, be ydach CHI am ei wneud nesaf efo’r wybodaeth? Dyna beth sy’n bwysig. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: Hydref 2022 Pris: £8.99 Fformat: Clawr meddal DARLLEN PELLACH: Adroddiad Llywodraeth Cymru https://www.gov.wales/over-200-welsh-statues-streets-and-buildings-connected-slave-trade-listed-nationwide-audit

  • Deg ar y Bws / Ten on the Bus - Huw Aaron a Hanna Harris

    * For English review, see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 4+ (awgrym) oed diddordeb: 0-4 Genre: #blynyddoeddcynnar #cyfri #rhifau Lluniau: Hanna Harris Dyma lyfr lliwgar a syml sy’n dysgu’r plant lleiaf sut i gyfri. Fel ‘da chi’n gweld, mae’r lluniau yn fodern ac yn glir. Hyd yma, dwi’n reit impressed hefo’r llyfrau mae Gwasg y Broga yn cyhoeddi. Tydyn nhw heb fod o gwmpas yn hir iawn, ond mae’r safon yn uchel iawn. Cymerwch y cyfle i ddysgu sut i gyfri wrth i’r bws lenwi, gyda’r teithwyr ymuno ar y daith fesul un. Wrth i’r bws fynd yn brysurach, mae ‘na dipyn o hiwmor pan mae’r gyrrwr yn colli ei dymer, ac mae pawb yn gorfod gadael ar frys! Dwi wedi rhoi’r llyfr yn anrheg i fy nghyfnither sy’n ddwy oed. A hithau’n byw yn Lloegr, dwi’n gobeithio bydd o’n help iddyn nhw gyflwyno ‘chydig o Gymraeg iddi. Mae’r llyfr yn ddwyieithog hefyd felly grêt os ydych chi’n rhiant sydd yn dysgu Cymraeg. Gwasg: Broga Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.99 Fformat: Clawr meddal

bottom of page