top of page

Sut wyt ti, Bwci Bo? /How are you, Bwci Bo?- Joanna Davies a Steven Goldstone

*For English review, see language toggle switch*


(awgrym) oed darllen: 5+

(awgrym) oed diddordeb: 2-5

 

Wnaethoch chi fwynhau’r bwci bos tro diwethaf? Ar ôl llwyddiant Sawl Bwci bo? mae’r creaduriaid bach drygionus yn ôl i greu stŵr! Wohoo!


Mae’n siŵr fod nifer o blant a rhieni Cymru wedi dod ar draws y llyfr cyntaf, achos fe gafodd hwnnw ei gynnwys fel rhan o raglen Dechrau Da/Bookstart gan elusen BookTrust Cymru – lle’r oedd pob plentyn yng Nghymru yn cael pecyn o lyfrau am ddim cyn troi’n dri.


Wel, rŵan maen nhw’n ôl ac yr un mor fywiog a lliwgar ac erioed. Y tro hwn, nid rhifau sydd dan sylw, ond teimladau - ac mae'r rheiny’n bethau cymhleth ac amrywiol iawn dydyn!


Mae steil y llyfrau yn fodern iawn, ac mae’n amlwg fod gan y darlunydd, Steven Goldstone, dalent pan mae’n dod i ddylunio digidol. Mae’r lluniau yn drawiadol iawn, ac mae’r angenfilod bach ciwt a’u castiau dwl yn siŵr o apelio at lygaid bach. Dwi’n licio fod cyfeiriad a siâp y ffont yn cael ei amrywio o dudalen i dudalen er mwyn cadw pethau’n ddiddorol. Yn sicr mae ‘na ddigon o gyffro ar bob tudalen. Mae ‘na elfen ryngweithiol i’r llyfr hefyd, ac maen nhw wedi cynnwys ambell i weithgaredd i’w gwneud ar ddiwedd y llyfr. Handi.



Wrth i blant bach ddatblygu, mae’n rhaid iddyn nhw geisio gwneud synnwyr o’r holl deimladau gwahanol. Gallent fod yn chwerthin yn llon un funud, ond yn torri eu calon y funud nesaf. Mae dysgu rheoli emosiynau yn rhywbeth sy’n cymryd amser, ac mae llyfr fel hyn yn siŵr o fod yn ddefnyddiol gan ei fod yn trafod yr ups and downs o fywyd pob dydd a’r holl deimladau gwahanol. Un o’r negeseuon yw, mae’n iawn i deimlo sut ‘da chi’n teimlo, ac yn hollol naturiol.



O ran yr hiwmor, wel, mae unrhyw sôn am faw trwyn, a phwmps a phethau felly yn siŵr o apelio at y rhai lleiaf, hyd yn oed os ydio’n gwneud i hen bobl ddiflas fel fi rowlio eu llygaid!


Dwi’n licio’r cwpledi yma’n fawr iawn:


Weithiau mae’r bwci bos yn hapus
Weithiau maen nhw’n drist
Weithiau maen nhw’n flin fel cacwn
Weithiau’n wên o glust i glust!

Swnio fel diwrnod arferol i mi yn y gwaith!


Mae Llio a fi (Sôn am Lyfra) yn disgwyl ein plentyn cyntaf ym mis Gorffennaf, a thra oni wrthi’n gosod y bookshelf i fyny yn y llofft babi dros y penwythnos, mi oeddwn i’n meddwl: ‘mi fydd y llyfr yma’n edrych yn dda ar y silff newydd!’ a dwi’n edrych ymlaen at allu ei rannu hefo’r bychan mewn peth amser. Mae’r clawr jest yn gweiddi “darllenwch fi!”


Am fwy o stwff bwci bo-aidd, ewch i https://www.joeybananashandmade.co.uk/ am sbec.



 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £7.99

Fformat: Clawr meddal

 

BETH AM LAWRLWYTHO'R DAFLEN WEITHGAREDD GAN BOOKTRUST?


 

AM YR AWDURON:

(o wefan BookTrust)


Am Joey Bananas


Steven Goldstone

Mae Steven yn Ddylunydd ac yn Ddarlunydd. Mae e wedi dylunio nifer o wefannau ac apiau i blant, yn cynnwys gwefan ffilm 'The Muppets' i Disney a gwefannau rhaglenni plant i S4C. Fe yw darlunydd y gyfres llyfrau stori a llun, ‘Bwci Bo’ i blant bach. Cafodd ‘Sawl Bwci Bo?’, a gyhoeddwyd gan Atebol, ei ddewis gan BookTrust Cymru fel ei lyfr ‘Dechrau Da’ i blant bach yn 2022. Cyhoeddwyd y llyfr nesaf yn y gyfres, ‘Sut wyt ti, Bwci Bo?’ ar ddiwedd 2022. Mae e’n briod i Joanna ac yn byw yn Llanilltud Fawr.


Joanna Davies

Mae Joanna yn Ysgrifennwr a Chynhyrchydd Creadigol. Mae hi wedi gweithio fel Uwch Gynhyrchydd i ITV Cymru, S4C a’r BBC. Cynhyrchodd raglenni teledu a gwefannau dwyieithog i oedolion a phlant yn cynnwys Cbeebies a Bitesize. Mae Joanna wedi ysgrifennu nifer o nofelau dwyieithog. Hi yw awdur y gyfres llyfrau stori a llun, ‘Bwci Bo’ i blant bach. Cafodd ‘Sawl Bwci Bo?’, a gyhoeddwyd gan Atebol, ei ddewis gan BookTrust Cymru fel ei lyfr ‘Dechrau Da’ i blant bach yn 2022. Cyhoeddwyd y llyfr nesaf yn y gyfres, ‘Sut wyt ti, Bwci Bo?’ ar ddiwedd 2022. Mae hi’n briod i Steven ac yn byw yn Llanilltud Fawr.

 

bottom of page