top of page

Gwlad yr Asyn - Wyn Mason

*For English review, see language toggle switch*



(awgrym) oed darllen: 12+

(awgrym) oed diddordeb: 14+ / OI/ oedolion

Lluniau: Efa Blosse-Mason



 

Dwi wedi cymryd oesoedd i ’sgwennu’r adolygiad yma. Yn bennaf achos doeddwn i ddim yn siŵr iawn sut i roi fy ymateb i lawr ar bapur! Y tro cyntaf i mi ei weld, roedd y clawr yn edrych yn dwyllodrus o blentynnaidd, ond mae llawer mwy i’r llyfr yma...


I fod yn onest, ar ôl ei orffen am y tro cyntaf, nes i jest eistedd yna yn meddwl ‘be ar y ddaear dw i newydd ei ddarllen?’ Mae nofelau graffig mor brin yn y Gymraeg beth bynnag, ac ella fod hyn yn rhan o'r rheswm pam nad oeddwn i’n siŵr iawn beth i’w wneud ohono. Ond wedi ei ddarllen sawl gwaith, dwi wedi newid fy meddwl yn llwyr. Dwi’n darganfod rhywbeth newydd ar bob darlleniad. Dim i fod yn cliché am y peth, ond roedd ei ddarllen yn chwa o awyr iach. Wir yr. Fel oedd yr adverts Irn Bru yn arfer dweud: “I like it. It’s different.”


Mae Ari yn asyn sydd wedi cael ei magu gan bobl, ac o ganlyniad yn byw bywyd cyfforddus mewn tŷ, gyda Mam Gu. Mae’n llawer gwell ganddi dreulio ei hamser yng nghwmni pobl, ac er bod ganddi gorff asyn, mae hi’n meddwl fel person. Ond, un diwrnod, yn hynod annisgwyl, mae bywyd moethus Ari yn cael ei droi wyneb i waered... Mae’n dipyn o sioc iddi sylwi na chae, yn hytrach na thŷ cynnes a chlud yw ei chartref newydd. A tasa hynny ddim digon drwg, mae Prost, ei pherchennog newydd yn ddyn peryglus – dim yn foi i’w groesi.


Drwy ddysgeidiaeth Cal, asyn mewn caethiwed sy’n dyheu am ei ryddid, daw Ari i ddysgu mwy am heidiau gwyllt o asynnod. Tybed fydd ei syniadau eithafol yn ddigon i danio ysbryd o wrthryfel yn yr asyn dof, neu ydi’r holl sôn am ddianc a bod yn rhydd yn rhyw lol potas maip gan hen asyn ‘twp ac anwaraidd?’



Yn ogystal â'r hiwmor, mae ’na nifer o themâu dwysach yn y stori, gan gynnwys perthynas dyn ag anifeiliaid, yn benodol ein camdriniaeth o anifeiliaid a’n ysfa reibus i ecsbloetio popeth er mwyn gwneud elw. Mae breuddwydion Cal am ryddid yn dwyn cymhariaeth â sefyllfa Cymru heddiw. Fel Ari a’i hoffter o ddynol ryw, rydym fel cenedl yn mynnu glynu’n dynn at y Deyrnas Unedig, er nad yw’n berthynas iach i ni. Oes gennym ni fymryn o ‘stockholm syndrome’ ein hunain tybed? Ydio’n fater o better the Devil you know i ni? Yn sicr mae stori Ari yn gwneud i mi feddwl am hyn yn ddyfnach. Ydan ni am fod yn ddewr a hawlio ein rhyddid?



Wedi siarad ag amryw un sydd wedi darllen y llyfr, dwi dal ddim cweit yn siŵr pwy yw’r gynulleidfa. Ond ella mai fy mhroblem i ydi hynny, mod i’n trio rhoi popeth i mewn i focsys bach taclus. Mae’n lyfr sy’n gallu cael ei fwynhau ar lefel mwy arwynebol, syml ond mae ganddo hefyd haenau gwahanol a syniadau dyfnach, athronyddol yn cuddio tu mewn iddo. Bydd yn apelio at yr arddegau, (dwi am ddweud 12+) oedolion a dysgwyr hefyd.


Dwi ar ddeall mai syniad a ddatblygodd o ddrama gafodd ei ’sgwennu ar gyfer PhD creadigol yw hwn, ac fe gafodd ei lwyfannu fel drama gan y Theatr Genedlaethol. Doeddwn i’n gwybod dim am hynny tan ar ôl i mi ei ddarllen!


Yn fy marn i, roedd yn llawn haeddu ei le ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og, achos mae’n ddewis left of field sy’n ychwanegu at amrywiaeth y Gymraeg. Yn dibynnu ar y gwerthiant, dwi’n meddwl fod lle i weld mwy o nofelau graffig tebyg, ond dwi’n dallt na fydd at ddant pawb.


Mi fydd na rai yn meddwl “be goblyn oedd hwnna?” ar ôl ei ddarllen, ond dwi’n bersonol wedi gwneud full 180 ac yn meddwl ei fod o yn genius! Mae’n werth ei brynu jest i weld arlunwaith syml ond trawiadol Efa Blosse-Mason. Yn sicr, roedd yn brofiad darllen newydd a gwahanol i mi yn y Gymraeg.




 

Am adolygiad llawer mwy cynhwysfawr ’na f’un i – darllenwch ymateb Jon Gower i’r llyfr ar Nation.Cymru




"Graphic novels in Welsh aren’t exactly two a penny – so Gwlad yr Asyn is an uncommon item. It’s even more so when you find out that it’s novel based on a play, placing its playful yet thoughtful account of the adventures of a donkey in a field of its own."
 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £12

Fformat: Clawr Caled

 

Gwrandewch ar addasiad o'r llyfr - drama radio:



 


Recent Posts

See All
bottom of page