*See language toggle switch for English review*
(awgrym) oed darllen: 6-9+
(llyfr i blant sy'n newydd i ddarllen yn annibynnol,
neu sy'n pontio rhwng llyfrau llun a llyfrau pennod)
(awgrym) oed diddordeb: 5+
Lluniau: Janet Samuel
Adolygiad gan Siân Vaughan, Athrawes Ymghynghorol y Gymraeg Sir Conwy
Stori fendigedig i'w rhannu gyda phlant yn ystod tymor yr hydref. Mae noson Calan Gaeaf yn "amser hudol pan mae pethau rhyfedd yn digwydd” ac mae Cadi a Mabon yn llawn cyffro wrth baratoi ar ei gyfer.
Dyma stori hud a lledrith modern ar ei gorau. Ar ddechrau'r stori mae Cadi a'i brawd bach Mabon yn ffraeo efo'i gilydd wrth greu pwmpenni ac afalau taffi yn y gegin. Mae'r ffraeo a'r galw enwau yn arwain at ddamwain i ffôn symudol ac mae Mabon yn troi'n llyffant! O diar.
Rhaid meddwl am ffordd i gael Mabon yn fachgen yn ei ôl. Cawn gwrdd â chymeriadau unigryw llawn hiwmor yng ngwlad y gwrachod sef Doti a Moira y ddwy wrach a Carlo Cadwaladr y dewin. Drwy stori Cadi a'r gwrachod cawn negeseuon pwysig sut i oresgyn unrhyw rwystrau mewn bywyd a pha mor bwysig yw defnyddio ein talentau i helpu eraill.
Mae Doti eisiau dysgu canu a Carlo eisiau rhedeg yn gyflym a drwy gymorth gan dderyn du a Sgwarnog maent yn dysgu bod rhaid cael hyder a llawer o ymarfer i lwyddo. Mae Moira eisiau dysgu bod yn wrach ac mae hi'n dysgu gan Dylluan ddoeth fod rhaid gwrando, darllen, gwneud ymarfer corff a chael llawer o gwsg er mwyn llwyddo i ddysgu. Negeseuon pwysig i unrhyw un sydd angen dysgu!!
Llyfr perffaith ar gyfer plant sy'n dechrau darllen yn annibynnol a sy'n symud o lyfrau llun i lyfrau pennod.
Bydd plant wrth eu bod yn clywed bod Mabon y llyffant yn gwneud sŵn fel petai chwalu gwynt ac mae ambell i beth mae'r gwarchod yn ei ddweud yn gwneud i ni chwerthin yn uchel hefyd.
Mae'r stori wedi ei hysgrifennu mewn iaith naturiol sy'n llawn cymariaethau a dywediadau i gyfoethogi iaith plant. Mi fyddan nhw'n gwybod beth yw traed chwarter i dri ac yn dychmygu llais canu Doti "fel brân efo ffliw!!’
Erbyn diwedd y llyfr byddwch wedi medru trafod ambell i neges bwysig a hynny wedi chwerthin llond eich bol wrth gael eich tynnu mewn o fyd bob dydd yng nghegin tŷ i wlad hud a lledrith y gwrachod.
Byddai'n wych gweld y stori hon wedi ei hanimeiddio i greu cartŵn i deledu plant.
Gwasg: Y Lolfa
Cyhoeddwyd: 2021
Pris: £5.99
Fformat: Clawr Caled
Adolygiad o gylchgrawn Barn
Llyfr i'w ddarllen ar fwy nag un eisteddiad ydi hwn. Mae'n annog darllenwyr ifanc i fwrw ati ac ymgolli mewn stori dda dros gyfnod estynedig a derbyn bod hyn yn rhan bwysig o ddatblygiad darllenydd hyderus. Gall y plant iau, wrth gwrs, fwynhau gwrando ar oedolyn yn darllen y stori a dehongli lluniau doniol Janet Samuel o anturiaethau Cadi ar noson Calan Gaeaf o ddiogelwch cesail gynnes rhiant!
- Delyth Roberts, Cylchgrawn Barn
Comments